Heddiw, mae Cymru yn nodi 10 mlynedd ers y newid radical i'r deddfau rhoi organau, gan ddod y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno cydsyniad tybiedig i helpu i achub bywydau cannoedd o bobl sydd angen trawsblaniad organau.
Mae'r system yng Nghymru'n cymryd yn ganiataol bod person yn dymuno rhoi ei organau ar ôl ei farwolaeth oni bai ei fod wedi gwrthod yn benodol trwy optio allan yn ystod ei oes.
Bydd teuluoedd yn rhan o'r drafodaeth am roi organau bob amser ac maent yn fwy tebygol o'i gefnogi os ydyn nhw'n gwybod mai dyna'r hyn yr oedd eu hanwylyd ei eisiau.
Ers i'r ddeddfwriaeth ddod i rym ar 1 Rhagfyr 2015, mae mwy na 2,000 o organau wedi'u rhoi yng Nghymru.
Mae hyn yn cynnwys 640 o organau ar ôl cydsyniad tybiedig gan 198 o roddwyr marw, gyda 550 o'r rhain wedi eu trawsblannu.
Mae'r ddeddfwriaeth arloesol wedi llwyddo i gynyddu nifer y darpar roddwyr organau ac ers ei sefydlu mae gweddill y DU wedi dilyn esiampl Cymru trwy newid y gyfraith i gyflwyno cydsyniad tybiedig.
Dywedodd y Prif Swyddog Meddygol, yr Athro Isabel Oliver:
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cydsyniad tybiedig. Mae'r ddeddfwriaeth bwysig hon wedi achub neu newid cannoedd o fywydau.
Ond nid yw newid y gyfraith yn unig yn ddigon ac er mwyn achub mwy o fywydau, mae'n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn cofrestru ein penderfyniad ynghylch rhoi organau – optio i mewn neu allan.
Gallwch wneud hyn naill ai trwy Ap GIG Cymru neu ar-lein ac mae’n syniad da hefyd i siarad â'n hanwyliaid am ein penderfyniad.
Mae hyn yn rhoi sicrwydd i deuluoedd ynglŷn â’ch penderfyniad ac yn helpu ein clinigwyr i achub mwy o fywydau.
Diolch yn fawr iawn i bawb sydd eisoes wedi cofrestru eu penderfyniad. Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl bobl wych sydd wedi rhoi organau i helpu eraill
Doedd Peter Sturgess ddim wedi meddwl am y broses o roi organau nes y bu ei wraig, Ronnie, farw yn Ysbyty Athrofaol y Faenor. Cefnogodd Peter benderfyniad Ronnie i roi ei horganau trwy gydsyniad tybiedig, dywedodd:
Mae gwybod bod organau Ronnie wedi rhoi'r cyfle i eraill wella eu bywydau yn rhoi cysur enfawr i mi.
Mae ei iau a'i dwy aren bellach wedi'u rhoi i dri dyn dros 60 oed, felly, i mi, mae yna ddarn bach ohoni allan yna o hyd.
Dywedodd Anthony Clarkson, Cyfarwyddwr Rhoi Organau a Thrawsblannu ar gyfer Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG:
Cydsyniad tybiedig bellach yw'r system ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan ac mae wedi darparu organau ychwanegol ar gyfer trawsblaniad bob blwyddyn.
Fodd bynnag, nid yw'r ddeddfwriaeth yn ateb syml i gau'r bwlch rhwng rhoi a thrawsblannu - mae'n ddarn pwysig o'r jig-so i wella cyfraddau rhoi organau, trawsblannu, a chydsynio.
Byddwn yn annog pawb yng Nghymru sy'n cefnogi rhoi organau i gofrestru eu penderfyniad a'i gwneud yn glir mai dyma'r hyn rydych chi ei eisiau pe bai'r gwaethaf yn digwydd.
Dim ond dau funud y mae'n ei gymryd i gofrestru, ond gallai achub bywydau pobl sydd wirioneddol angen trawsblaniad.
Gall pobl gofrestru eu penderfyniad ynghylch rhoi organau ar Ap GIG Cymru neu ar www.organdonation.nhs.uk
