Neidio i'r prif gynnwy

Bydd canolfan fusnes o Wrecsam fydd yn cefnogi oddeutu 100 o fusnesau newydd arloesol dros y ddwy flynedd nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Caiff Canolfan Entrepreneuriaeth Busnes Cymru ei sefydlu i roi'r cymorth cyflawn y mae entrepreneuriaid Gogledd Cymru ei angen i helpu eu mentrau i ddatblygu. 
Cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates heddiw ei fod wedi clustnodi £1m i sefydlu canolfan fusnes newydd yn Wrecsam i helpu i greu 100 o fusnesau newydd a chreu 260 o swyddi newydd dros y ddwy flynedd nesaf. 
Bydd y Ganolfan, sy'n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru, hefyd yn cydweithio'n agos â Chanolfan Arloesi Menter Cymru i roi pecyn o gymorth pwrpasol i gwmnïau newydd a'r cyfle gorau un o sicrhau bod eu busnesau yn llwyddo. Bydd y ganolfan fusnes newydd yn agor yng nghanol tref Wrecsam yn fuan. Ond wrth i'r gwaith o gaffael a pharatoi'r ganolfan newydd ddod i ben, mae'r ymdrechion i recriwtio'r entrepreneuriaid newydd wedi hen ddechrau. Meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 
"Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r fenter ragorol hon yn Wrecsam. Bydd yn rhan bwysig o'n rhaglen o gefnogi busnesau ledled Cymru a rhoi i gwmnïau newydd ac entrepreneuriaid y lle a'r cymorth y maent ei angen i ddatblygu eu syniadau. 
"Mae arloesi ac entrepreneuriaeth yn sbardun hanfodol i'r economi ac fe wyddom o lwyddiant unedau hybu eraill y bydd y dull hwn o gydweithio yn dod â nifer o fanteision i ardal Wrecsam yn ehangach. A bydd adeilad newydd y ganolfan hefyd yn rhoi canolbwynt gwirioneddol i'r adfywio parhaus o ganol tref Wrecsam."Mae'r gwaith bellach yn mynd rhagddo i recriwtio entrepreneuriaid newydd y Ganolfan, gyda'r gweithdy nesaf yn Wrecsam ar 12 Gorffennaf. Hoffwn annog cwmnïau newydd lleol sy'n ceisio datblygu eu busnesau i ddod i wybod mwy am yr help trawsnewidiol posibl hwn sy'n cael ei gynnig."
Cynhelir y gweithdy nesaf ar gyfer entrepreneuriaid yn Undegun, 9-11 Regent St, Wrecsam ddydd Mercher 12 Gorffennaf.  Bydd  yn rhoi cyfle i fusnesau newydd lleol weld cynlluniau manylach ar gyfer y ganolfan a dysgu mwy am y cymorth sy'n cael ei gynnig. I ddod i wybod mwy, ffoniwch Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 0300603000 rhwng 8.30am a 5.30pm (dydd Llun i Gwener) neu gysylltu â ni drwy ein gwefan ar www.businesswales.gov.wales.