Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r cynllun cenedlaethol cyntaf o'i fath yn y DU, a fydd yn amddiffyn awdurdodau lleol Cymru a'r holl wasanaethau tân ac achub yng Nghymru rhag ymosodiadau seiber, wedi lansio heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

O dan arweiniad Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, bydd CymruSOC (Canolfan Gweithrediadau Diogelwch) yn helpu i sicrhau y gall sefydliadau allweddol barhau i gynnig gwasanaethau critigol heb unrhyw darfu oherwydd ymosodiadau seibr.

Bydd y gwasanaeth SOC, a fydd yn cael ei reoli gan gwmni o Gaerdydd, Socura, yn diogelu data mwyafrif poblogaeth Cymru, yn ogystal â 60,000 o weithwyr ar draws y sector cyhoeddus.

Dywedodd Vaughan Gething, y Prif Weinidog:

Mae'r heriau y mae pobl ledled Cymru wedi'u hwynebu yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd y pandemig wedi dangos pwysigrwydd technoleg ddigidol yn ein bywydau. Mae wedi dod yn ganolog i'r ffordd rydym yn dysgu, yn gweithio, yn cyrchu gwasanaethau cyhoeddus ac yn gwneud busnes. Fodd bynnag, mae ein dibyniaeth ar dechnoleg ddigidol hefyd wedi arwain at gynnydd amlwg yn y risg o ymosodiadau seiber sy’n dod yn fwyfwy cyffredin a soffistigedig.

Mae CymruSOC yn ateb cyntaf o'i fath gyda phartneriaeth gymdeithasol wrth ei wraidd - gan sicrhau ein bod yn defnyddio dull 'amddiffyn fel un'. Mae'n rhan hanfodol o'n Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru, sydd - flwyddyn ers ei lansio - yn gwneud cynnydd da o ran diogelu gwasanaethau cyhoeddus a chryfhau seibergadernid a pharodrwydd.

Bydd tîm SOC Socura yn monitro am fygythiadau posibl fel gwe-rwydo a meddalwedd wystlo o'r Ganolfan SOC o bell, a fydd yn gweithredu 24 awr y dydd.

Ar y cyd â'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, bydd CymruSOC hefyd yn rhannu gwybodaeth am fygythiadau cudd-wybodaeth i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r risgiau sy'n dod i'r amlwg.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Socura, Andy Kays:

Mae'r CymruSOC yn fenter wych, ac mae'n anrhydedd i ni chwarae rhan yn y broses o gadw Cymru'n ddiogel.

Trwy rannu SOC, a dealltwriaeth o fygythiadau, ar draws holl awdurdodau lleol Cymru, bydd gan hyd yn oed y dref leiaf yng Nghymru arbenigedd ac amddiffynfeydd sefydliad modern mawr erbyn hyn.

Mae pobl yn dibynnu ar eu cyngor lleol ar bob cam o'u bywydau. Dyma lle maent yn cofrestru genedigaethau, yn gwneud cais am ysgolion, tai a thrwyddedau phriodas, sy'n eu gwneud yn darged amlwg ar gyfer grwpiau seiberdroseddu a ysgogir yn ariannol, yn ogystal ag actorion ar ran cenedl wladwriaeth sy'n ceisio tarfu ar seilwaith critigol.

#Ein gwaith ni yw sicrhau nad yw'r gwasanaethau hanfodol hyn yn cael eu heffeithio gan ymdrechion seiberdroseddwyr i ddwyn data ac achosi aflonyddwch.

Meddai'r Cynghorydd Geraint Thomas, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful:

Mae'r cydweithio agos rhwng ein Cyngor a Llywodraeth Cymru wedi bod yn ffactor allweddol yn llwyddiant y prosiect hwn.

Mae dull Merthyr Tudful o ymdrin â seiberddiogelwch bob amser wedi bod yn arloesol felly rwy'n falch iawn ein bod ni, fel yr awdurdod contractio, yn parhau i arwain y gwaith hwn ar ran y cyrff sy'n aelodau o CymruSOC, a chyrff eraill yn sector cyhoeddus Cymru sy'n dymuno defnyddio CymruSOC wrth symud ymlaen.

Mae'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i boblogaeth Cymru, os ydyn nhw'n defnyddio eu hawdurdod lleol ar gyfer unrhyw fath o wasanaeth, y bydd CymruSOC yn darparu cymorth ac amddiffyniad ychwanegol i wella'r rheolaethau seiberddiogelwch presennol.