Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Siemens Healthineers yn lansio canolfan ragoriaeth ar gyfer gofal iechyd yn Llanberis, gan ddod â buddsoddiad mewn ymchwil a datblygiad gwerth miliynau o bunnoedd a sicrhau swyddi hirdymor, ansawdd uchel gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Bydd Siemens Healthineers yn lansio canolfan ragoriaeth newydd ar gyfer technoleg gofal iechyd yn Llanberis, gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
  • Bydd y ganolfan ragoriaeth yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygu a gweithgynhyrchu.
  • Bydd y cyfleuster newydd yn helpu i gyfuno gwaith Siemens Healthineers o gynhyrchu ei dechnoleg dadansoddi gwaed, IMMULITE®, yn Llanberis.
  • Bydd y buddsoddiad yn diogelu 400 o swyddi ac yn creu bron 100 swydd o ansawdd uchel, gyda chyflog cyfartalog gryn dipyn yn uwch na’r cyfartalog ar gyfer yr ardal.
  • Mae'r cyhoeddiad yn dod wrth i Siemens Healthineers ddathlu 30 mlynedd yn Llanberis.

Bydd Siemens Healthineers yn cyfuno ei weithrediadau byd-eang yn cynhyrchu ei dechnoleg dadansoddi gwaed, IMMULITE®, a ddefnyddir yn fyd-eang i roi diagnosis o gyflyrau meddygol, yn ei safle yng Ngwynedd.

Bydd y buddsoddiad hwn yn trawsnewid y safle yn gyfleuster ymchwil a datblygu ar gyfer diagnosteg, gan alluogi datblygu cynhyrchion diagnostig manwl gwell i'w defnyddio i optimeiddio gofal iechyd cleifion.

Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru, a bydd Siemens Healthineers yn Llanberis yn diogelu cannoedd o swyddi o ansawdd uchel, gan gynnwys creu bron 100 swydd newydd, gyda'r cyflog cyfartalog gryn dipyn yn uwch na'r cyfartalog ar gyfer yr ardal. 

Yn bwysicach, bydd y prosiect yn sicrhau y bydd y safle yn parhau i fod yn hyfyw y tu hwnt i 2030. Mae'r rhan fwyaf o gyflogeion yn byw o fewn deg milltir i'r safle yn Llanberis.

Mae cyflogeion presennol yn cynnwys prentisiaid a gynigiwyd swyddi llawnamser iddynt, ac mae nifer o gyflogeion wedi'u cofrestru gyda'r brifysgol ar hyn o bryd.

Bydd y cyfleuster ymchwil a datblygiad hwn hefyd yn atgyfnerthu partneriaethau â sefydliadau addysg uwch Cymru, sef Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd – sefydliadau o'r radd flaenaf.

Mae Siemens Healthineers wedi bod yn bresennol yn Llanberis ers 1992 ac yn berchen ar y safle 36 erw. Bydd y buddsoddiad hwn yn gwneud yn siŵr y bydd y cwmni yn gyflogwr mawr yn yr ardal am flynyddoedd lawer.

Mae’r buddsoddiad hwn i sefydlu canolfan ragoriaeth ar gyfer ymchwil a datblygiad a gweithgynhyrchu yn y gwyddorau iechyd yn alinio â'r Rhaglen Lywodraethu, sydd am adeiladu economi yn seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol. Bydd yn creu swyddi newydd, yn ogystal â chefnogi datblygu sgiliau a darparu cyfleoedd hyfforddi newydd.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Rwyf wrth fy modd cyhoeddi'r buddsoddiad sylweddol hwn, gyda Siemens Healthineers, mewn canolfan ragoriaeth newydd ar gyfer ymchwil a datblygu yng Nghymru.

"Diolch i gymorth gan Lywodraeth Cymru, rydyn ni wedi diogelu ac wedi creu cannoedd o swyddi newydd o ansawdd uchel yng Ngwynedd.

"Mae Siemens Healthineers yn Llanberis yn gyflogwr strategol bwysig ar gyfer y gogledd cyfan, ac mae'r buddsoddiad hwn yn dangos yr hyder enfawr yn economi Cymru.

"Mae'r contract economaidd rydyn ni wedi ei lofnodi gyda Siemens Healthineers yn diogelu'r cyfleuster ar gyfer y dyfodol, yn sefydlu cyfleuster arloesol ar gyfer ymchwil a datblygu, yn addo gwaith teg ac amgylchedd gweithio cynhwysol am ddegawdau lawer."

Dywedodd Is-lywydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Siemens Healthineers yn Llanberis, yr Athro Fraser Logue:

"Mae labordai a chlinigau mewn dros 50 gwlad o amgylch y byd yn dibynnu ar yr adweithredyddion IMMULITE rydyn ni'n eu cynhyrchu yn Llanberis, gan gynnwys dros 100 o gyflyrau iechyd a 570 o brofion alergedd. Mae'r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn dangos pa mor hanfodol yw'r gwaith mae ein gweithlu presennol o 470 yn ei wneud, a bydd yn ein galluogi i fwrw ymlaen â'n cynlluniau i fuddsoddi yn y safle.

"Bydd bron 100 o swyddi ar gyfer gweithwyr medrus iawn yn cael eu creu, wrth inni wireddu ein huchelgais cyffredin i drawsnewid Siemens Healthineers yn Llanberis yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer gweithgynhyrchu ac ymchwil a datblygu ym maes diagnosteg labordy.