Neidio i'r prif gynnwy

Mae canolfannau sy'n cynnig cymorth cyfannol i bobl y mae angen iddynt hunanynysu ac i'r rhai sy'n cael eu taro waethaf gan y pandemig yn cael eu cyflwyno mewn cynllun peilot ar draws pum ardal yng Ngogledd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Canolfannau Cymorth COVID yn cynnig cymorth ar unwaith gyda phrofion llif unffordd a chymorth i hunanynysu os oes angen.  Maent hefyd yn cynnig cymorth tymor hwy i bobl a allai fod yn ei chael hi'n anodd prynu bwyd neu dalu rhent, i gael mynediad at wasanaethau, rheoli dyled neu’n cael trafferthion o ran talu biliau cyfleustodau. 

Mae'r cynllun peilot yn rhan o raglen Profi, Olrhain, Diogelu Cymru, sy'n cynnig ‘Diogelu’ estynedig a thymor hwy mewn cymunedau difreintiedig yng Ngogledd Cymru.  Mae'n dwyn ynghyd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Awdurdodau Lleol, y sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol i gefnogi cymunedau mewn amrywiaeth o ardaloedd.

Mae'r dull aml-bartner hwn yn golygu y gellir cynnig cymorth ychwanegol yn ôl y galw, hyd yn oed os yw pobl yn cael canlyniad negatif am COVID-19 ac nad yw'n ofynnol iddynt hunanynysu. Er enghraifft, gallai’r cymorth gynnwys cyfeirio at fudd-daliadau, darparu gwybodaeth am fanciau bwyd a gwasanaethau bwyd cost isel, a rhoi cyngor ar gyllidebu.

Lansiwyd y ganolfan beilot gyntaf yng Nghaergybi ym mis Mai, a gwelwyd 59 o bobl yn ystod y 9 diwrnod cyntaf.  Cyngor ar Bopeth Ynys Môn yw'r sefydliad arweiniol, gyda mewnbwn gan amrywiaeth o bartneriaid i ddarparu cymorth ychwanegol o ran darparu bwyd, sgiliau digidol a mynediad at gymorth iechyd meddwl. 

Mae'r cynllun hefyd bellach ar waith ym Mangor a Dinbych, a disgwylir i ganolfannau agor ym Mhlas Madoc (ger Wrecsam) a Sir y Fflint yn ddiweddarach y mis hwn.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Rwy'n falch o weld bod y cynllun peilot hwn ar waith yng Ngogledd Cymru a'i fod eisoes yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol. 

“Mae'n hanfodol bod pobl yn hunanynysu os ydyn nhw'n cael canlyniad positif am COVID-19 er mwyn atal y feirws rhag lledaenu yn ein cymunedau.  Mae Profi, Olrhain, Diogelu wedi bod yn hynod effeithiol o ran cefnogi pobl sydd wedi cael canlyniad positif a'u cysylltiadau i ynysu a darparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn mentrau fel hyn i gefnogi pobl i hunanynysu pan fo angen.

“Mae'r cynllun peilot hwn hefyd yn dangos manteision ffordd o weithio mewn partneriaeth sy'n cyrraedd y rhai sy'n aml yn anodd eu cyrraedd. Mae’n agor amrywiaeth o wasanaethau iddynt i leddfu pryderon a straen mewn rhannau eraill o'u bywydau, gan ddarparu cymorth y mae mawr ei angen i bobl ar adeg eithriadol o anodd.”e at an extremely difficult time.”