Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Trosolwg

Er mwyn deall maint y gwelliant sydd ei angen, mae angen i ni asesu capasiti’r rhwydweithiau draenio a charthffosiaeth yn yr hir dymor.  

Mae Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr wedi'i ddatblygu er mwyn gwneud hyn, a bydd cwmnïau dŵr yn ymgynghori arno gyda chwsmeriaid, rhanddeiliaid, rheoleiddwyr ac awdurdodau lleol.

Bydd y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr yn gynhwysfawr, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn dryloyw wrth asesu, cyn belled ag y bo modd, y capasiti presennol a'r camau gweithredu sydd eu hangen mewn cyfnodau 5 mlynedd, 10 mlynedd a 25 mlynedd, gan ystyried risgiau a materion megis newid yn yr hinsawdd.  Bydd yn cyd-fynd, cyn belled ag y bo modd, â chynlluniau a pholisïau strategol eraill.  Bydd yn anelu at ddarparu rhwydweithiau draenio a charthffosiaeth gwydn sy'n ateb y galw gweithredol yn ogystal â phwysau eraill ac sy'n lleihau methiannau'r system.

Wrth ddatblygu'r cynllun, ystyrir effaith systemau draenio ar yr amgylchedd yn uniongyrchol ac yn ehangach gan gynnwys cynefinoedd, ac wrth i ni ddatblygu atebion byddwn yn ystyried cynnydd a gwelliannau amgylcheddol net.

Bydd y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr yn gydweithredol ac  yn cydnabod pwysigrwydd sectorau'n cydweithio i ymateb i risgiau i ansawdd dŵr a gwasanaeth cwsmeriaid nawr ac i’r dyfodol yn ogystal â'r angen i ddarparu atebion effeithiol, gan nodi sut y byddant yn gwneud hyn, a sut  y mae rhanddeiliaid wedi ymgysylltu ac ymateb iddynt.  Bydd y cynllun yn gwella canlyniadau i gwsmeriaid ac yn codi ymwybyddiaeth o'r atebion angenrheidiol i ddiogelu'r amgylchedd, yn ogystal â dealltwriaeth y bydd y camau gweithredu yn cynnig gwerth am arian a buddion i’r gymdeithas gyfan.

Dylai'r cynllun ddangos arweiniad gan ystyried capasiti gweithredol pob sefydliad i ddatblygu a chyflawni'r cynllun a bod yn ymwybodol o gysylltiadau â fframweithiau cynllunio strategol eraill.  Yn olaf, caiff y cynllun ei ddatblygu yn unol â'r ymddygiadau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a bydd yn egluro sut y bydd yn cyfrannu at y canlyniadau llesiant. Bydd Cynlluniau Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr hefyd yn helpu cwmnïau dŵr a'u rhanddeiliaid i gyflawni eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Gan ddibynnu ar yr ymateb i’r ymgynghoriad, canlyniad y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr fydd creu cynllun a fydd yn rhoi gorlifoedd storm yn yr ardaloedd a wasanaethir gan Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy ar drywydd gwell dealltwriaeth o’u heffaith, gyda’r nod o ddileu niwed ecolegol i’r amgylchedd.

Bydd y canlyniadau tymor byr yn canolbwyntio ar wella dealltwriaeth, dulliau cefnogi penderfyniadau a datblygu llwybr addasol i ddangos sut y gallai’r cynllun newid dros amser - mewn ymateb i heriau twf, newid yn yr hinsawdd, ehangu trefol a newidiadau mewn rheoleiddio.  Yn ddibynnol ar ymatebion rhanddeiliaid a chwsmeriaid i’r ymgynghoriad, bydd y cynllun yn cynnwys cynigion buddsoddi ar gyfer lleihau gollyngiadau o orlifoedd storm yn AMP8, pennu'r amserlenni ar gyfer sicrhau lleihad yng ngollyngiadau’r gorlifoedd storm, ynghyd â lleihau'r perygl o lifogydd, a nodi ardaloedd lle mae Awdurdodau Rheoli Risg yn hanfodol i gyflawni'r canlyniadau hyn.

Ein hymrwymiadau

Mae'r camau sy'n cael eu cymryd o fewn y ffrwd waith hon yn cyd-fynd â Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru  2021-26 a’r nodau'r canlynol:

  • Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth i ni wneud y cynnydd mwyaf posibl tuag at ddatgarboneiddio.
  • Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt.
  • Ymgorffori ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn.
  • Dechrau dynodi dyfroedd mewndirol Cymru ar gyfer hamdden, gan gryfhau'r gwaith o fonitro ansawdd dŵr.
Sefydliad Arweiniol    Gweithred    Pam?     Erbyn Pryd
Dŵr Cymru and Hafren Dyfrdwy    Ymgynghori ar y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr drafft, paratoi cynllun drafft diwygiedig a datganiad o ymateb i'r ymgynghoriad     Casglu barn cwsmeriaid a rhanddeiliaid ar y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr drafft ac adlewyrchu'r rhain yn y cynllun drafft terfynol.   Disgwylir i'r cynllun drafft diwygiedig gael ei gyhoeddi erbyn ddiwedd Rhagfyr 2022
Llywodraeth Cymru   Rhoi cyfarwyddyd i gwmnïau dŵr gyhoeddi eu Cynlluniau Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr   Cadarnhau bod y cynlluniau wedi'u mabwysiadu'n ffurfiol ac y dylai cwmnïau dŵr ddechrau adrodd ar gynnydd.   Gwanwyn 2023
Dŵr Cymru and Hafren Dyfrdwy   Dechrau ar ail gylch y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr        Dechrau'r broses o ddiweddaru'r Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr ac ehangu ei gwmpas a'i gywirdeb.  Bydd hyn yn caniatáu i gwmnïau dŵr wella eu dealltwriaeth o effeithiau gorlifoedd storm ar yr amgylchedd a'u galluogi i ddatblygu cynlluniau buddsoddi ar raddfa ehangach i'w cynnwys yn AMP9 a thu hwnt.  Nod hyn fydd dileu niwed ecolegol o ganlyniad i orlifoedd storm cyn gynted â phosibl a sicrhau bod y gwelliannau hynny’n gallu gwrthsefyll pwysau megis newid yn yr hinsawdd. Gwanwyn 2023 gyda'r bwriad o gyhoeddi'r ail gynllun drafft yn 2027
Dŵr Cymru and Hafren Dyfrdwy     Ymgorffori gwelliannau i orlifoedd storm a nodwyd yn y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr yn gynlluniau busnes drafft PR24 ar gyfer buddsoddi yn AMP8     Darparu cyllid buddsoddi i wneud gwelliannau i orlifoedd storm yng nghynlluniau busnes AMP8.   Medi 2023
Dŵr Cymru and Hafren Dyfrdwy     Cyfathrebu ynglŷn â’r Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr     Darparu cyfres o negeseuon clir am y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr (beth yw’r cynllun a beth yw ei fwriad) i’r ffrwd gwaith Cyfathrebu.  Esbonio cysylltiad a rôl y broses gynllunio busnes, blaenoriaethu buddsoddiad a’r effaith bosibl ar fforddiadwyedd i gwsmeriaid.   Cyd-fynd â'r amserlenni ymgynghori a chyhoeddi.
Llywodraeth Cymru     Datblygu canllawiau rheoleiddio ar gyfer y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr     I ddatblygu'r gofynion deddfwriaethol ar gyfer y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr gan gynnwys dyletswyddau Cwmnïau Dŵr, Rheoleiddwyr ac Awdurdodau Lleol er mwyn gwneud y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr yn ofyniad statudol i gwmnïau dŵr.   Gwanwyn 2023
Llywodraeth Cymru   Adolygiad rheoli draenio      Er mwyn gallu adolygu'r angen am strwythur rheoli newydd ar gyfer carthffosiaeth a draenio yng Nghymru a darparu cynigion a fydd yn hwyluso buddsoddiad cyd-gysylltiedig rhwng gweithredwyr draenio a charthffosiaeth yng Nghymru.  Bydd hyn yn cynnwys yr angen i gwmnïau dŵr, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdodau Lleol rannu gwybodaeth am asedau a datblygu eu meysydd o ddiddordeb cyffredin.  O Wanwyn 2023 ymlaen
Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdodau Lleol   Ymgysylltu â'r Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr       Mae CNC ac Awdurdodau Lleol yn ymwneud â’r Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr o safbwynt gweithredwyr draenio a rheoleiddwyr fel bod cynlluniau cydweithredol yn cael eu datblygu i ddiogelu ansawdd dŵr afonydd ar yr un pryd â lleihau'r perygl o lifogydd  O gyhoeddi'r Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr drafft ar gyfer ymgynghori
Dŵr Cymru and Hafren Dyfrdwy   Mabwysiadu arfer gorau     Er mwyn nodi mesurau arfer da yn Lloegr a'r Alban y gellir eu mabwysiadu yng Nghymru a chynllunio i'w cyflwyno drwy gydol ail gylch y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr. Gwanwyn 2023 ymlaen
Dŵr Cymru and Hafren Dyfrdwy     Prosiect tystiolaeth gorlifoedd storm    Er mwyn cefnogi'r nodau ar gyfer Prosiect Tystiolaeth Gorlifoedd Storm Cymru a darparu'r wybodaeth ofynnol os mae’r wybodaeth ar gael.     I'w gadarnhau