Neidio i'r prif gynnwy

Gyda chymorth y Gwasanaeth Ynni, mae Capel y Drindod ym Mlaenau Gwent wedi'i drawsnewid yn ganolfan gymunedol fodern, wedi'i datgarboneiddio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb

Wedi'i adeiladu'n wreiddiol ym 1877 a'i drawsnewid at ddefnydd manwerthu dros ugain mlynedd yn ôl, cafodd Capel y Drindod ym Mlaenau Gwent ei drawsnewid yn Llyfrgell a Chanolfan Addysg Oedolion fodern, wedi'i datgarboneiddio. Cwblhawyd y gwaith o ôl-osod y system wresogi rhwng Ionawr a Medi 2024, ac ailagor y safle i'r cyhoedd ym mis Hydref 2024 o dan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin.

Ein cefnogaeth

Cymorth â cheisiadau cyllid, canllawiau technegol ar systemau gwresogi carbon isel, a chydlynu gyda thimau'r cyngor a'r ymddiriedolaeth hamdden.

Datrysiad technoleg

  • 4 pwmp gwres ffynhonnell aer (cyfanswm allbwn o 34 kW).
  • System wresogi gwlyb o dan y llawr.
  • Gwresogyddion dŵr yn y man defnyddio trydan.
  • Inswleiddio thermol ar waliau solet.
  • Uwchraddio cysylltiad trydanol â'r Grid Cenedlaethol.

Buddsoddiad

  • £206,778 gan Grant Gwres Carbon Isel yr Awdurdod Lleol (90% o gostau'r prosiect), gyda chyllid ychwanegol gan Gronfa Trawsnewid Diwylliannol Llywodraeth Cymru, Cronfa Ffyniant a Rennir y DU, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Effaith

  • Amcangyfrifir bod 1,790 tCO₂e wedi'i arbed ar adeg ei weithredu.
  • Yn cefnogi dull datgarboneiddio adeilad cyfan, gan alluogi uwchraddio cynhyrchu a storio ynni yn y dyfodol.

Mae'r targedau amgylcheddol ar gyfer Capel y Drindod yn cyd-fynd yn agos iawn â'r Ymddiriedolaeth. Dechreuodd hyn fel prosiect i wneud y peth iawn. Mae pawb eisiau lleihau eu defnydd o ynni. Dros y blynyddoedd, a gyda'r argyfwng ynni, mae hyn wedi esblygu i wneud ein hadeiladau'n fwy cynaliadwy a chost-effeithiol. Mae manteision i bawb.

Phill Sykes, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin.

Trinity Chapel, Blaenau Gwent