Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, unwaith eto, pwysleisiodd yr Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, Carl Sargeant, ei ymrwymiad i fynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, a Thrais Rhywiol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn 2012, cyflwynodd Mr Sargeant y Papur Gwyn a arweiniodd at basio’r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, yn y Cynulliad yn 2015. 

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd: “Dw i’n teimlo ei bod hi’n fraint cael mynd i’r afael ag agenda mor bwysig â’r ymgyrch i ddod â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol i ben. Dyma ymgyrch dw i wedi ei chefnogi ers amser maith, a dw i’n edrych ymlaen at y cyfle i weithio gyda’r Cynghorydd Cenedlaethol, Rhian Bowen-Davies a sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector i ymgodymu â’r mater hwn.   

“Nod y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yw gwella’r trefniadau a’r gwasanaethau ar gyfer atal y math hwn o drais, gan amddiffyn a chefnogi’r rheini y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol wedi effeithio ar eu bywydau.

“Rydyn ni eisoes, mewn cyfnod byr, wedi mynd rhywfaint o’r ffordd i weithredu mesurau ar gyfer atal Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, a Thrais Rhywiol, ac amddiffyn a chefnogi’r dioddefwyr. 

“Ond er ein bod wedi cymryd camau sylweddol, mae yna lawer o feysydd o hyd lle mae angen bwrw ymlaen â’r gwaith hwn, a hynny cyn gynted â phosibl.  I ddechrau, bydda’ i’n ymgynghori ynghylch Strategaeth Genedlaethol newydd a’r mesurau cynnydd a pherfformiad cysylltiedig. Fe gaiff y Strategaeth ei defnyddio i lunio fframwaith ar gyfer darparu gwasanaethau rhanbarthol sy’n seiliedig ar anghenion. Rydyn ni’n disgwyl i’r awdurdodau lleol a’u partneriaid ein helpu i greu cymdeithas lle mae pawb yn gallu byw heb ofn.

“Mae hwn yn fater sy’n agos at fy nghalon, a dw i wedi ymrwymo i barhau â’r gwaith rhagorol sydd eisoes wedi ei wneud i roi’r Ddeddf hon ar waith.

“Hoffwn ddiolch i’r sefydliadau perthnasol am eu parodrwydd i weithio ar draws sectorau, gan gydweithredu i sicrhau bod Cymru’n wlad fwy diogel i fyw ynddi.”