Neidio i'r prif gynnwy

Ers cyflwyno'r cynllun Cymorth i Brynu yng Nghymru yn 2014 prynwyd cyfanswm o 4,949 o eiddo drwy ddefnyddio benthyciad rhannu ecwiti o dan gynllun Cymorth i Brynu-Cymru Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd y rhan fwyaf o'r cartrefi a brynwyd drwy'r cynllun Cymorth i Brynu ar gyfer pobl oedd yn prynu tai am y tro cyntaf, sef 75 y cant o'r holl dai a brynwyd.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, wedi croesawu'r ffigurau gan ddweud mai  prif nod rhaglen uchelgeisiol Llywodraeth Cymru yw darparu tai fforddiadwy, diogel a chynnes mewn cymunedau cynaliadwy i bobl. 

Dywedodd Carl Sargeant:

"Mae'n dda gen i glywed bod buddsoddiad Cymorth i Brynu-Cymru wedi rhoi'r cymorth sydd ei angen ar nifer o bobl sy'n prynu tai am y tro cyntaf i gael eu troed ar yr ysgol.

"Mae'r cynllun hefyd wedi helpu i roi'r momentwm angenrheidiol i'r farchnad dai yng Nghymru ac wedi creu swyddi gwerthfawr.

"Y llynedd, cyhoeddwyd gennym y byddem yn buddsoddi hyd at £290 miliwn yn ail ran y cynllun i gefnogi adeiladu dros 6000 o gartrefi. Bydd hyn yn rhan o'n  targed o ddarparu 20,000 o dai ychwanegol yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Mae hyn yn adlewyrchu llwyddiant y cynllun drwy gynnig ffordd i bobl brynu tai fforddiadwy, yn arbennig pobl sy'n prynu am y tro cyntaf. Mae wedi bod yn allweddol yn magu hyder o fewn y sector tai ac mae hefyd wedi cefnogi'r gwaith o ddatblygu tai preifat."