Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant wedi lansio rhaglen fuddsoddi newydd ar gyfer adfywio sydd wedi'i dargedu sy'n werth £100 miliwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd awdurdodau lleol, ynghyd â sefydliadau partner, yn gallu gwneud cais am fuddsoddiad cyfalaf ar gyfer prosiectau sy'n hyrwyddo adfywio economaidd gyda'r nod o sicrhau datblygu cynaliadwy ehangach lle mae gweithgareddau'n canolbwyntio ar yr unigolion a'r ardaloedd y mae ei angen fwyaf arnynt.

Dywedodd Carl Sargeant fod gan y rhaglen ran hanfodol i'w chwarae wrth sicrhau ffyniant a chreu cymunedau cryf ym mhob rhan o Gymru, yn hytrach na dim ond yr ardaloedd hynny sy'n cynnig yr elw masnachol gorau.

I lansio'r rhaglen, aeth yr Ysgrifennydd Cabinet i Bontypridd i ymweld â chynllun sydd wedi cael cyllid ar gyfer adfywio yn ddiweddar.

Dywedodd Carl Sargeant:

"Mae heriau penodol i'w goresgyn wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a datblygu cymunedau cynaliadwy sydd wedi'u cysylltu'n dda mewn ardaloedd sydd dan anfantais yn economaidd neu o dan gysgod diwydiannau trwm y gorffennol. Ry'n ni hefyd yn cydnabod bod ardaloedd gwledig yn wynebu heriau gwahanol.

"Dylai awdurdodau lleol a phartneriaethau rhanbarthol ddefnyddio'r cyllid hwn i ategu buddsoddiadau eraill ry'n ni'n eu gwneud i wella ffyniant, fel y gwaith sy'n cael ei wneud fel rhan o'r Bargeinion Dinesig, buddsoddi yn y Metro, cynigion Tasglu'r Cymoedd, a'r paratoadau ar gyfer Wylfa Newydd.

"Dw i hefyd yn awyddus i'r buddsoddi cyfalaf hwn gefnogi'r rhaglenni eraill sydd ar waith i adeiladu cymunedau cryfach, gan gynnwys ein rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau."

Dywedodd Carl Sargeant y byddai adnoddau'n cael eu rhoi tuag at nifer cyfyngedig o gynigion ar gyfer buddsoddiadau sydd â sail economaidd gref ac amlwg ar gyfer adfywio. Bydd y rhaglen adfywio newydd yn gallu buddsoddi mewn prosiectau o fis Ebrill 2018 ymlaen.

Bydd Panel Buddsoddi Cenedlaethol mewn Gwaith Adfywio hefyd yn cael ei sefydlu a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y buddsoddiad sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio mor effeithiol â phosib ledled Cymru.