Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r fenter ar y cyd sydd yn adeiladu ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd wedi cyrraedd carreg filltir fawr, wrth i’r gwaith dur gael ei godi ar ddec y ddwy draphont sy’n rhan allweddol o’r cynllun.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae tîm y safle o Balfour Beatty a Jones Bros wedi parhau drwy gyfnod COVID-19 gyda mesurau rheoli llym wedi’u sefydlu i warchod y gweithlu. 

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £135m yn y cynllun sydd yn un o’r prosiectau seilwaith mwyaf sy’n digwydd ar hyn o bryd yng Ngogledd Cymru.   Bydd y ffordd osgoi 9.8km yn rhedeg o gylchfan y Goat ar gyffordd yr A499/A487 i gylchfan Plas Menai ger Llanwnda, Dinas, Bontnewydd a Chaernarfon.

Bydd y cynllun yn sicrhau amseroedd teithio gwell, llai o dagfeydd ac yn gwella ansawdd yr aer ar ffyrdd lleol, gan arwain at fwy o gyfleoedd ar gyfer teithio llesol. 

Fel rhan o’r prosiect mawr hwn mae dwy draphont yn cael eu hadeiladu, gydag un yn mynd ar draws yr Afon Gwyrfai i’r gorllewin o Bontnewydd a’r llall yn croesi’r Afon Seiont.  Dros yr ychydig wythnosau nesaf mae trawstiau dur wedi’u danfon i’r safle ac mae deciau’r traphynt bellach yn cael eu hadeiladu. 

Bydd traphont yr Afon Gwyrfai 6m uwchben y gorlifdir ac yn 260m o hyd tra y bydd traphont yr Afon Seiont yn rhedeg 21m uwchben yr afon ac yn 148m o hyd. 

Mae’r pontydd hyn i gael eu cwblhau ym mis Awst 2021. 

Daw adeiladu’r ffordd osgoi â manteision economaidd i’r ardal hefyd gyda 93 y cant o’r gweithlu o Ogledd Cymru.  Mae cyflenwyr lleol wedi elwa o’r contract ac wedi derbyn 85 y cant o’r archebion deunyddiau.  Hefyd, mae 32 o raddedigion, interniaid a phrentisiaid wedi eu cyflogi ar y prosiect, gan fagu profiad gwerthfawr. 

Meddai’r Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Dwi’n falch o weld y datblygiadau ar ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd, sy’n brosiect mawr yng Ngogledd-orllewin Cymru.  Pan fydd wedi’i gwblhau, bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r gymuned leol, gan ddileu tagfeydd a gwella ansawdd yr aer.    

“Mae’r tîm adeiladu bellach yn symud ymlaen i un o gerrig milltir mwyaf y prosiect wrth i’r adeiladu ddechrau ar ddeciau y ddwy draphont.  Dwi’n edrych ymlaen at glywed mwy am y cynnydd ar hyn sydd yn un o’r prosiectau seilwaith mwyaf y rhanbarth. 

“Mae’n rhaid inni gofio hefyd mai nid dim ond y traphynt fydd yn gwneud gwahaniaeth.  Trwy gydol y cyfnod adeiladu mae manteision i’r gymuned leol drwy’r gadwyn cyflenwi a chyfleoedd ar gyfer gwaith a hyfforddiant.” 

Meddai Jon Muff, arweinydd strwythurau y fenter ar y cyd:

“Rydyn ni wedi gwneud cynnydd rhagorol eleni ac wedi adeiladu’r sylfeini a’r pileri ar gyfer adeiladu’r ddwy bont yma, ac mae bellach yn wych gweld y trawstiau yn cael eu codi i’w lle yn ôl y rhaglen.  Mae dau o graeniau codi arbenigol, un ohonynt yn gallu codi 500 tunnell, yn cael eu defnyddio i wneud y gwaith codi trawstiau cymhleth hwn. 

“Mae dod â’r offer a’r deunydd arbenigol hwn i’r safle wedi golygu cludo nifer o lwythi anghyffredin ar ffyrdd lleol, felly hoffem ddiolch i’r gymuned a’r cymudwyr am eu hamynedd. 

“Bydd manteision gwirioneddol hirdymor i fusensau lleol o’r prosiect hwn hefyd, yn ychwanegol i’r buddsoddiad rydyn ni wedi bod yn rhan ohono, sy’n rhywbeth rydyn ni’n falch iawn ohono.”