Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £600 miliwn yn ei chynllun Cymorth i Brynu - Cymru, gan gefnogi miloedd o bobl ledled y wlad i wireddu eu breuddwyd o fod yn berchen tŷ.
Mae Cymorth i Brynu - Cymru yn un o gonglfeini strategaeth dai Llywodraeth Cymru ac mae'n helpu pobl na fyddent fel arall gallu fforddio cartref. Ers ei lansio, mae'r cynllun wedi helpu dros 15,000 o bobl i brynu eu cartref eu hunain, gydag 85% yn brynwyr tro cyntaf, ers mis Ebrill 2022.
Mae'r cynllun yn darparu benthyciadau rhannu ecwiti (sy'n ddi-log ar gyfer y 5 mlynedd gyntaf) i helpu pobl i brynu eiddo newydd.
Ym mis Rhagfyr 2024, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, y byddai'r cynllun yn cael ei ymestyn tan o leiaf fis Medi 2026, gan sicrhau bod y cymorth hanfodol hwn yn parhau i fod ar gael i bobl yng Nghymru.
Ar ymweliad diweddar â datblygiad The Parish gan gwmni Persimmon yng Nghreigiau, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet â James Rolfe, prynwr tro cyntaf sydd wedi prynu fflat ar y datblygiad gyda chymorth y cynllun Cymorth i Brynu - Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
I gymaint o bobl, gall bod yn berchen ar gartref deimlo fel breuddwyd bell. Rydym yn deall pa mor ddigalon y gall hynny fod, a dyna pam rydym wedi buddsoddi dros £600 miliwn yn ein cynllun Cymorth i Brynu - Cymru i helpu i wireddu'r freuddwyd honno.
Mae'r cymorth hwn eisoes wedi helpu dros 15,000 o bobl fel Mr Rolfe a thrwy ymestyn y cynllun rydym yn sicrhau y bydd miloedd yn rhagor o bobl yn cael yr un cyfle.
Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod Cymorth i Brynu - Cymru yn parhau i newid bywydau.
Dywedodd Lee Hawker, Rheolwr Gyfarwyddwr Persimmon Homes ar gyfer Dwyrain Cymru:
Roeddem yn falch iawn o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i ddatblygiad The Parish yng Nghreigiau i weld yr effaith wirioneddol y mae Cymorth i Brynu - Cymru yn ei chael ar bobl leol. Yn y datblygiad hwn yn unig, mae dros chwarter y cartrefi wedi'u prynu drwy'r cynllun – gan helpu pobl ifanc a theuluoedd o'r ardal i gymryd eu cam cyntaf tuag at fod yn berchen tŷ.
Fel adeiladwr tai mwyaf y genedl, sy'n gyfrifol am ddarparu tua chwarter yr holl gartrefi Cymorth i Brynu yng Nghymru hyd yn hyn, mae Persimmon yn falch o chwarae rôl flaenllaw wrth ddarparu cartrefi o ansawdd uchel, y mawr eu hangen ledled y wlad.
Mae cynlluniau fel Cymorth i Brynu - Cymru yn hanfodol er mwyn galluogi pobl leol i aros yn agos at eu teuluoedd, gwaith ac ysgolion, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi perchentyaeth ledled Cymru yn y blynyddoedd i ddod.”
