Cyngor os ydych yn llu sy'n byw yng Nghymru ac yn noddi person neu deulu o Wcráin.
Cynnwys
Mae'r canllawiau hyn i letywyr a noddwyr yng Nghymru. Er bod egwyddorion y cynllun noddi Cartrefi i Wcráin yr un peth ledled y DU, mae gwahaniaethau o ran rhai gwasanaethau cyhoeddus. Am y rheswm hwn, os ydych yn lletya neu’n noddi unigolyn neu deulu o Wcráin, dylech gyfeirio at y canllawiau yn y ddogfen hon.
Gair o ddiolch a diben y canllaw
Cymru yw'r ‘Genedl Noddfa’ gyntaf yn y byd. Wrth i bobl o Wcráin gyrraedd Cymru, rydym am wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cefnogi er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cael noddfa, a'u bod yn gallu cael hyd i wasanaethau cyhoeddus i'w helpu.
Nid oes llawer o bethau mewn bywyd sy'n fwy anodd na gorfod ffoi o'ch gwlad a dechrau bywyd newydd. Wrth gefnogi rhywun sydd wedi gorfod symud o'i gartref, mae'n debygol iawn y bydd angen i chi, a'r unigolyn neu'r teulu rydych yn eu lletya, ddysgu llawer mewn amser byr. Mae'r canllaw hwn yn cynnwys cyngor ymarferol a dolenni defnyddiol ar y ffordd orau o gefnogi'r unigolyn neu'r teulu rydych yn ei noddi.
Rydym yn gobeithio y bydd y canllaw hwn yn adnodd cyfeirio defnyddiol, ond gwyddom hefyd nad yw bywyd bob amser yn syml. Felly os byddwch yn cael problemau o ran eich trefniant lletya yn ystod y misoedd nesaf, dylech gysylltu ar unwaith â'ch awdurdod lleol a wnaiff geisio rhoi cymorth ichi. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu Housing Justice Cymru i ddarparu hyfforddiant, cynor a chefnogaeth i letywyr yng Nghymru. Gallwch hefyd e-bostio Housing Justice Cymru yn UkraineHostSupport@housingjustice.org.uk neu ffoniwch eu rhif ffôn 01654 550 550, i gael cyngor a chefnogaeth ynghylch cwestiynau o bob math am eich profiad lletya. Mae Llywodraeth Cymru yn cyllido Housing Justice Cymru i ddarparu hyfforddiant, cyngor a chefnogaeth i letywyr yng Nghymru.
Drwy agor eich cartref a chynnig eich amser a'ch haelioni, byddwch yn rhoi’r gwerthoedd sydd mor bwysig inni ar waith, ac yn cymryd eich lle mewn traddodiad hir a helaeth yng Nghymru o estyn trugaredd i'r bobl hynny sydd ei angen fwyaf. Gobeithio y byddwch yn gweld y profiad hwn yn werth chweil.
Cyflwyniad
Mae'r cynllun hwn yn dibynnu ar ewyllys da aruthrol pobl Cymru. Trwy benderfynu bod yn noddwr neu’n lletywr, rydych yn rhan annatod o ymgyrch genedlaethol a ysgogir gan dosturi. Mae Llywodraeth Cymru, elusennau, grwpiau ffydd, busnesau, awdurdodau lleol a chymunedau yn cydweithio i sicrhau bod y cynllun yn llwyddo, ac i roi cyfle go iawn i bobl sy'n ffoi rhag rhyfel adeiladu bywyd newydd yng Nghymru.
O dan Cartrefi i Wcráin, gall pobl sy’n byw yng Nghymru noddi Wcreiniaid yn uniongyrchol i ddod i Gymru. Mae noddi yn golygu cefnogi cais am fisa ac ymrwymo i ddarparu llety am o leiaf chwe mis. Lletya yw’r broses o ddarparu llety i Wcreiniaid (yn eich cartref eich hun fel rheol). Fel arfer bydd noddwyr yn darparu’r llety cychwynnol i Wcreiniaid o dan gynllun Cartrefi i Wcráin, ond efallai y byddwch chi wedyn yn lletya’r Wcreiniaid mewn ail lety neu leoliad dilynol. Mae’r canllawiau hyn ar gyfer noddwyr a lletywyr.
Os ydych yn ystyried bod yn noddwr ac am gael gwybod mwy, neu os ydych yn aros i’ch gwestai/gwesteion gyrraedd, bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i ddeall yn well y rôl y gallwch ei chwarae. Rydym yn eich annog i fynd i un o’n sesiynau ‘Cyflwyniad i Gynnal Ffoaduriaid’, sy’n cael eu trefnu gan Housing Justice Cymru.
Darllenwch fwy am y cartrefi i Wcráin: gwasanaeth cymorth cynnal.
Diolch ichi am benderfynu bod yn noddwr neu’n lletywr
Diolch am wirfoddoli i gefnogi rhai o'r nifer mawr o bobl o Wcráin y mae angen rhywle diogel arnynt i aros. Mae penderfynu bod yn noddwr neu’n lletywr yn ymrwymiad mawr. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o'r nifer enfawr o bobl o Gymru sydd wedi camu ymlaen i gynnig help.
Trosolwg o’r cynllun a’i ddiben
Bydd y pecyn canllaw hwn yn nodi rhagor o fanylion am y cynllun Cartrefi i Wcráin a'ch rôl fel noddwr neu letywr. Caiff y canllawiau eu diweddaru'n rheolaidd ar wefan Llywodraeth Cymru LLYW.CYMRU, felly dylech edrych ar y gwefannau hynny yn rheolaidd i gael y cyngor a'r cymorth diweddaraf.
Mae gwefan Noddfa Llywodraeth Cymru yn cynnwys gwybodaeth am hawliau pobl sy'n dod o Wcráin. Mae’n bwysig eich bod yn tynnu sylw’r sawl rydych yn eu lletya at y wefan hon i’w helpu i ymgartrefu yng Nghymru. Gallai’r wefan hon fod o ddefnydd i chi hefyd wrth ichi ateb cwestiynau’r unigolion neu’r teulu rydych yn eu lletya am Gymru.
Sut mae'r cynllun noddi'n gweithio?
Mae Llywodraeth y DU wedi creu dau gynllun fisa newydd i bobl o Wcráin: y Cynllun Teuluoedd o Wcráin a'r Cynllun Cartrefi i Wcráin. Mae'r canllawiau hyn ar gyfer noddwyr o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin, sef y llwybr a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU i bobl sy'n ffoi o Wcráin nad oes ganddynt unrhyw deulu yn y DU.
Lluniodd Llywodraeth y DU y cynllun er mwyn rhoi cyfle i bobl gynnig llety am o leiaf chwe mis, ac i baru'r cynigion hynny â phobl o Wcráin sydd am ddod i'r DU. Rhaid i'r noddwr a'r unigolyn o Wcráin gysylltu â'i gilydd y tu allan i'r system, a bydd yr ymgeisydd o Wcráin yn enwi ei noddwr yn y DU yn ystod y broses gais.
Mae Llywodraeth y DU wedi comisiynu sefydliad o'r enw RESET i helpu pobl o Wcráin a darpar noddwyr nad oeddent mewn cysylltiad yn flaenorol i gysylltu â'i gilydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan RESET.
Rydym yn eich annog i ddefnyddio gwasanaethau paru sefydledig fel RESET yn hytrach na mynd ati’n anffurfiol drwy’r cyfryngau cymdeithasol, a fydd yn sicrhau eich bod yn deall yn llawn eich cyfrifoldebau fel noddwr ac a fydd yn paru pobl mewn ffordd fwy addas.
Fel rhan o’r cynllun Cartrefi i Wcráin, mae Cymru wedi dod yn Uwch-noddwr sy’n cynnig llwybr noddfa arall yma yng Nghymru. Rydym wedi darparu cefnogaeth a gofal i Wcreiniaid mewn llety cychwynnol ledled Cymru, sydd wedi caniatáu i ymgeiswyr deithio heb fod wedi’u paru â lletywr. Ar 10 Mehefin 2022 cafodd y llwybr Uwch-noddwr ei atal dros dro ar gyfer ceisiadau newydd er mwyn cael amser i wneud trefniadau ar gyfer y cam nesaf o ran llety. Bydd pob cais a wnaed cyn 10 Mehefin 2022 yn cael ei brosesu o hyd fel y gall y rhai sydd eisoes wedi cael fisa deithio a chael eu cefnogi fel a drefnwyd yn wreiddiol. Mae hyn yn golygu y gallech chi helpu teuluoedd sy’n fod i gyrraedd drwy’r llwybr hwnnw drwy gynnig llety, neu gallech chwarae rhan bwysig drwy helpu gwestai i symud ymlaen o lety cychwynnol.
Nid yw lletya unigolion yn gysyniad newydd yn y DU, ond mae cynllun torfol fel Cartrefi i Wcráin yn ddigynsail. Mae NACCOM (rhwydwaith dim llety) wedi darparu cyngor a chymorth i bobl sy’n lletya ffoaduriaid a cheiswyr lloches ers blynyddoedd lawer. Maent wedi creu pecynnau i helpu noddwyr i ystyried p’un a yw lletya yn addas iddyn nhw. Mae RESET hefyd wedi creu pecyn ar gyfer noddwyr.
Cyn gynted ag y byddwch wedi gwneud cysylltiad ag unigolyn penodol rydych am ei noddi, dylech fod yn barod i gwblhau cais am fisa gyda'r person hwnnw. Gall unigolion o unrhyw statws ac unrhyw genedligrwydd fod yn noddwyr yn y DU, ond mae angen iddynt fod â chaniatâd i aros yn y wlad am o leiaf chwe mis. Mae'n bwysig iawn bod noddwyr yn siŵr eu bod mewn sefyllfa i allu cynnig cartref sefydlog am y chwe mis nesaf.
Mae’r cynllun noddi yn berthnasol i holl aelodau teulu uniongyrchol gwladolion Wcráin, ac nid oes terfyn ar faint o bobl sy'n gallu manteisio arno.
Ar hyn o bryd, ni ellir noddi na lletya plant ar eu pen eu hunain drwy’r cynllun hwn, a dim ond fel rhan o uned deuluol y dylent fod yn teithio.
Rhaid i ymgeiswyr fodloni rhai gwiriadau diogelwch sylfaenol cyn ymadael. Byddant yn cael fisa cychwynnol sy'n rhoi caniatâd iddynt fyw a gweithio yn y DU am chwe mis. Efallai y bydd angen iddynt roi manylion biometrig yn un o'r canolfannau fisa yn y DU. Ar ôl i ymgeiswyr wneud hyn, caiff eu fisa ei estyn i dair blynedd.
Pa wiriadau y mae angen eu gwneud?
I gael eich cadarnhau fel noddwr, rhaid ichi fod dros 18 oed a rhaid ichi fod yn byw yn y DU; gyda chaniatâd i fod yn y DU am o leiaf 6 mis. Gallwch fod o unrhyw genedl. Bydd angen ichi brofi pwy ydych gan ddefnyddio dogfen hunaniaeth gydnabyddedig. Hefyd, rhaid bod gennych ystafell sbâr neu lety preswyl hunangynhwysol nad yw’n cael ei ddefnyddio. Rhaid i’r llety fod ar gael am o leiaf chwe mis, rhaid iddo fod yn addas i fyw ynddo, ac yn addas ar gyfer y nifer o bobl a gaiff eu lletya yno.
Er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni’r gofynion i gael eich cymeradwyo fel noddwr, bydd y Swyddfa Gartref yn gwneud archwiliad o gofnodion Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu ac archwiliad o’r Mynegai Rhybuddion yn eich cylch. Gwneir gwiriadau diogelwch hefyd ynghylch pob oedolyn 18 oed a throsodd a fydd yn byw yn yr un aelwyd â’r unigolyn neu’r teulu a fydd yn cyrraedd o Wcráin. Bydd y Swyddfa Gartref yn gwneud y gwiriadau hyn wrth ystyried y cais am fisa. Os, o ganlyniad i hyn, bydd y Swyddfa Gartref o’r farn nad ydych yn noddwr addas, mae’n bosibl y caiff y cais am fisa ei wrthod. Mae’n debygol y cynigir cyfle i’r Wcreiniaid ddod o hyd i ddarpar noddwr arall o dan yr amgylchiadau hyn. Ymhlith y rhesymau pam y gallech beidio â bodloni’r gofynion i gael eich cymeradwyo fel noddwr mae: darparu gwybodaeth ffug neu anghywir; euogfarnau troseddol; troseddau mewnfudo; neu weithgarwch anghyfreithlon arall.
Fel y prif noddwr, bydd angen ichi ofyn am gydsyniad pob oedolyn yn y cartref cyn ychwanegu ei fanylion at y ffurflen gais ar gyfer y gwiriadau hyn.
Ar ôl i’r cais gael ei gyflwyno, bydd eich awdurdod lleol yn sicrhau bod gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cael eu gwneud yn eich cylch chi a phob oedolyn sy’n byw gyda chi, a bod eich eiddo yn cael ei archwilio. Bydd yr awdurdod lleol yn ceisio gwneud y gwiriadau hyn cyn i’ch unigolyn neu eich teulu gyrraedd, ond mae’n bosibl y cânt eu gwneud ychydig ar ôl iddynt gyrraedd.
Dylai’r penderfyniad i letya unigolyn neu deulu gynnwys pawb yn eich cartref. Dylid ystyried safbwyntiau, dymuniadau a theimladau plant hefyd.
Gofalwyr maeth sy’n ystyried noddi
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynllun fisâu ar gyfer plant o Wcráin a allai fod ar eu pen eu hunain yn llwyr, i ddod i Gymru. Dylai unrhyw aelwydydd sydd eisoes yn maethu plant ac sy’n dymuno noddi plant drwy’r cynllun hwn siarad yn uniongyrchol gyda gwasanaeth maethu neu fabwysiadu eu hawdurdod lleol yn y man cyntaf a gydag awdurdod neu awdurdodau lleol unrhyw blant sydd eisoes yn byw dan eu gofal. Rhaid dilyn rheoliadau, canllawiau a safonau maethu mewn perthynas â phob aelwyd faethu sydd eisoes yn gofalu am blentyn neu berson ifanc, gan gynnwys y gwiriadau a'r tystlythyrau angenrheidiol ar gyfer oedolion.
Yng Nghymru ar hyn o bryd mae prinder parhaus o rieni maeth i ofalu am blant agored i niwed o Gymru a phlant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches o rannau eraill o’r byd. Dylai gofalwyr maeth sydd â’r capasiti i gefnogi plant ychwanegol gysylltu â’u gwasanaeth maethu i benderfynu a allant gynnig cefnogaeth i’r plant hyn.
Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Os byddwch yn lletya unigolyn yn eich cartref eich hun, bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal gwiriadau sylfaenol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd o leiaf ar bob oedolyn sy'n byw yn eich cartref. Dylech ystyried unrhyw blant sydd wedi tyfu’n oedolion a fydd efallai yn dychwelyd i’r cartref am gyfnodau, er enghraifft plant sy’n dychwelyd o’r brifysgol neu o weithio dramor, gan y gallai fod angen trefnu gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd arnyn nhw hefyd.
Mewn achosion lle bydd plant a / neu oedolion sy'n agored i niwed ymhlith y bobl sy'n cyrraedd, bydd yn ofynnol cynnal gwiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar bob oedolyn yng nghartref y noddwr yn brydlon, sy’n archwilio rhestri gwahardd.
Dylech roi gwybod i'r Awdurdod Lleol os bydd oedolyn newydd yn symud i fyw gyda chi pan fydd y bobl rydych yn eu lletya yn aros gyda chi er mwyn cynnal gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd arno yntau hefyd.
Taliadau diolch
Bydd angen ichi fod yn siŵr eich bod mewn sefyllfa sy'n ddiogel yn ariannol er mwyn cynnig cartref sefydlog i rywun sydd ei angen. Yn dibynnu ar wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd uchod a chadarnhad gan yr awdurdod lleol fod y llety sy'n cael ei gynnig yn addas, cewch ddewis cael taliad misol o £350, mewn ôl-daliadau, am gyhyd ag y bo'r unigolyn neu’r teulu o Wcráin yn aros gyda chi (hyd at eu 12 mis cyntaf yn y DU).
Diben y taliad o £350 yw eich helpu i dalu’r costau sy’n gysylltiedig â’r cymorth rydych yn ei roi. Taliad i ddweud diolch ydyw. Nid yw’n gyfystyr â rhent nac unrhyw fath o daliad cytundebol arall. Ni chewch godi rhent ar yr unigolion neu'r teuluoedd y byddwch yn eu lletya. Gallai codi rhent droi trefniant lletya yn denantiaeth, gan roi hawliau i’r unigolion neu’r teulu rydych yn eu lletya.
Byddwch yn gymwys i gael y taliad misol cyntaf ar ôl i'r awdurdod lleol gynnal ymweliad er mwyn cadarnhau safon y llety. Dim ond un taliad y gall unrhyw gyfeiriad preswyl ei hawlio, ac yng Nghymru, byddwch yn cael y taliad hwn drwy eich awdurdod lleol. Mae’n bosibl y bydd yn cymryd peth amser i brosesu’r taliadau, ond cânt eu hôl-ddyddio.
I noddwyr sy'n cael budd-daliadau, mae Llywodraeth y DU yn sicrhau na fydd y ‘taliadau diolch’ hyn yn effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau, ac ni chodir trethi arnynt. Ni fydd ‘taliadau diolch’ yn effeithio ar yr ostyngiad i'r dreth gyngor i bobl sy'n byw ar eu pen eu hun. Os bydd yr unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya yn symud allan o'ch cartref am unrhyw reswm, mae'n rhaid ichi roi gwybod i'ch awdurdod lleol cyn gynted â phosibl. Bydd angen ichi hefyd roi gwybod iddo nad ydych yn gymwys mwyach am y taliadau misol.
Os ydych yn darparu ail leoliad neu leoliad dilynol, mae’n bosibl y bydd yn dal i fod hawl gennych i ‘daliadau diolch’ os nad yw’r Wcreiniad wedi bod yn y DU am 12 mis eto, ac os byddwch yn pasio’r gwiriadau y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu cynnal.
Taliadau interim eich gwesteion
Bydd y rheini sy’n cyrraedd Cymru drwy gynllun Cartrefi i Wcráin yn gymwys am daliad interim o £200 at gostau byw cyn y byddant yn gallu cael Credyd Cynhwysol neu swydd. Gweinyddir hyn gan gyngor lleol ardal llety’r noddwr. Ni fydd angen ad-dalu’r £200. Arian yr unigolyn o Wcráin yw hwn ac ni ddylai’r noddwr neu’r lletywr ofyn amdano. Bydd disgresiwn gan awdurdodau lleol hefyd i roi cymorth pellach i unigolion sy’n cyrraedd o Wcráin drwy daliadau ychwanegol.
Sut y dylwn i groesawu pobl o Wcráin?
Llety addas
Y peth pwysicaf yw eich bod yn gallu darparu llety sefydlog ac addas am o leiaf chwe mis. Gall hyn fod yn unrhyw beth o ystafell wag i gartref gwag, cyn belled ag y bo'n ddiogel ac yn rhydd o beryglon iechyd. Rydym yn gofyn am noddwyr neu letywyr a all gynnig o leiaf ystafell wag, i sicrhau diogelwch a phreifatrwydd eu gwesteion. Ni fyddai’n briodol cynnig gwely mewn ardal a rennir. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran o'r canllaw sy'n trafod llety ac yn Atodiad A.
Rhoi cymorth
Ar ben cynnig llety, mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud er mwyn helpu'r unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya i ymgartrefu.
Casglu o'r maes awyr/porthladd
Er nad oes rhaid ichi wneud hyn, gallwch drefnu i gasglu'r unigolyn rydych yn ei letya o'r maes awyr neu'r porthladd pan fydd yn cyrraedd y DU. Os nad oes modd ichi wneud hyn, dylech roi gwybod iddo am y ffordd orau o gyrraedd eich cartref o'r pwynt lle mae'n cyrraedd y DU. Mae gan unigolion sy’n cyrraedd o Wcráin hawl i gael un tocyn unffordd am ddim ar y rheilffordd genedlaethol, rheilffordd ysgafn, bws a choets i'w gyrchfan derfynol. At hynny, mae Trafnidiaeth Cymru wedi sefydlu cynllun chwe mis i roi cyfle i bobl o Wcráin (a ffoaduriaid eraill) deithio am ddim ar bob gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru ar ôl dangos eu pasbort neu ddogfen arall sy’n nodi eu statws fel mewnfudwr i gasglwyr tocynnau a staff gorsafoedd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn gweithio gyda chwmnïau bysys i ddatblygu cynllun teithio rhad ac am ddim or enw ‘Tocyn Croeso’. Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn a rhestr o gwmnïau bysys sy’n ei weithredu ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Trafnidiaeth a dod o hyd i’w ffordd o gwmpas
Mae'n annhebygol y bydd yr unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya yn gyfarwydd â’ch ardal leol, nac yn gwybod sut i ddod o hyd i'w ffordd o gwmpas yn hawdd. Byddai'n ddefnyddiol iawn pe byddech yn gallu rhoi cyngor arferol ar faterion megis teithio i'ch cartref, ble mae'r siopau lleol, a ble i ddal y bws neu'r trên. Fel noddwr, nid oes disgwyl ichi ddarparu trafnidiaeth i'r bobl rydych yn eu noddi pan fyddant yn aros gyda chi.
Cofrestru gyda meddyg teulu
Hyd yn oed os nad yw’r unigolyn yn sâl, mae cofrestru gyda meddyg teulu lleol cyn gynted â phosibl yn rhan hollbwysig o helpu rhywun i ymgartrefu yn y DU. Rydym yn eich cynghori i helpu’r unigolion neu’r teulu rydych yn eu letya i wneud hyn. Mae rhagor o wybodaeth am y mater hwn ar gael yn: Mynediad at wasanaethau cyhoeddus.
Cofrestru gyda deintydd
Yn ogystal â chofrestru gyda meddyg teulu, dylai'r unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya gofrestru gyda deintydd.
Rydym yn cydnabod na fydd gan rai deintyddfeydd gapasiti ar gyfer cleifion o dan y GIG efallai.
Ymhlith yr opsiynau mae:
- cysylltu â rhai deintyddfeydd lleol sydd o dan y GIG a’u holi
- cysylltu â'ch bwrdd iechyd lleol drwy eu llinell gymorth (GIG 111 Cymru - Gwasanaethau yn agos atoch chi: Deintydd), gan fod ganddynt restr o ddeintyddfeydd neu
- os yw’n argyfwng, cysylltu â Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647
Agor cyfrif banc
Mae'n bwysig bod pobl o Wcráin sy'n ceisio noddfa yn agor cyfrif banc cyn gynted â phosibl. Byddai'n ddefnyddiol rhoi gwybod iddynt fod amrywiaeth o fanciau y gellir dewis ohonynt, gan gynnwys rhai sy'n darparu gwasanaethau ar-lein yn unig. Er mwyn agor cyfrif banc, fel rheol bydd angen i unigolyn ddangos dogfen i brofi pwy ydyw megis pasbort neu drwydded yrru neu gerdyn adnabod cydnabyddedig, yn ogystal â phrawf o'i gyfeiriad. Mae rhagor o wybodaeth am sut i agor cyfrif banc ar gael ar wefan Noddfa.
Helpu'r bobl hynny sy'n gymwys i gael cymorth ariannol i gael gafael arno
Os yw'r unigolyn neu aelodau’r teulu rydych yn eu lletya yn ddigon hen i weithio, bydd modd iddynt wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Yn ystod y broses gais, dylid gofyn am ragdaliadau os bydd angen arian arnynt cyn pen 5 wythnos. Bydd llawer o’r unigolion sy’n cyrraedd yn gymwys am hyn, ond bydd yn rhaid gwneud cais penodol am ragdaliadau. Bydd gan bobl o Wcráin sydd o oedran pensiwn yr hawl i gael Credyd Pensiwn y Wladwriaeth a Budd-dal Tai, ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf cymhwystra.
Gall Cyngor ar Bopeth Cymru roi cyngor ar fudd-daliadau. I gael rhagor o wybodaeth, neu ffoniwch: 0800 702 2020. Gallwch ffonio rhwng 9am a 5pm ddydd Llun i ddydd Gwener.
Cefnogi o ran mynediad at addysg
Mae gan bob plentyn a pherson ifanc sy'n cyrraedd o dan y cynlluniau i helpu pobl Wcráin yr hawl i gael mynediad at addysg a gofal plant tra byddant yn y DU.
Bydd mynediad at addysg yn allweddol i blant, o ran sicrhau bod y cyfnod o amharu ar eu haddysg mor fyr â phosibl, ond i sicrhau hefyd eu bod yn teimlo bod croeso iddynt ac yn dechrau ymgartrefu yn eu cymunedau newydd. Gallech helpu'r teulu sy’n aros gyda chi, drwy gael gwybodaeth am ysgolion lleol a'r broses dderbyn o wefan eich awdurdod lleol.
Pan fydd eich gwestai/gwesteion o Wcráin wedi cael cynnig lle mewn ysgol, dylent ymateb i’w hawdurdod lleol a dweud p’un a ydynt am dderbyn y cynnig. Os bydd eich gwestai/gwesteion wedi penderfynu gwneud eu trefniadau addysgol eu hunain, h.y. darparu addysg yn y cartref, rhaid iddynt roi gwybod i’r awdurdod lleol, er mwyn gallu rhoi cyngor, cefnogaeth a chanllawiau pellach i’r teulu lle bo angen.
Sgrinio TB a mynediad at addysg
Haint yw twbercwlosis (a elwir weithiau'n TB) sy'n gallu lledaenu wrth i unigolyn sydd wedi’i heintio beswch neu disian. Mae'n effeithio ar yr ysgyfaint ac weithiau gall fod yn ddifrifol iawn os na chaiff ei drin yn gywir.
Cynigir cyfle i bob unigolyn 11 oed a throsodd gael eu sgrinio am TB.
Mae profion sgrinio a thriniaeth TB yn rhad ac am ddim.
Gall pob plentyn (hyd at 18 oed) heb unrhyw symptomau amlwg o TB gweithredol fynychu lleoliad addysg ar unwaith, a byddant yn cael cynnig pelydr-x o’r frest cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Pe bai unigolyn yn arddangos symptomau o TB gweithredol dylent gysylltu â'u meddyg teulu i gael archwiliadau. Ni ddylent fynd i leoliad addysg nes bod yr archwiliadau hynny wedi’u cyflawni, neu eu bod wedi cael triniaeth, ac nad ydynt bellach yn heintus.
Mae symptomau TB gweithredol yn cynnwys:
- peswch parhaus sy'n para am fwy na thair wythnos ac sydd fel arfer yn creu fflem, a all fod yn waedlyd
- colli pwysau
- chwysu yn ystod y nos
- tymheredd uchel (twymyn)
- blinder
- colli archwaeth
- chwyddo yn y gwddf
Dod o hyd i swydd
Mae gan bobl o Wcráin sy'n ceisio noddfa yr hawl i weithio ar unwaith ar ôl iddynt gael fisa i aros yn y DU o Wcráin. Os byddant am gymryd camau ynghylch hyn yn fuan, gallwch eu cyfeirio at y cymorth cyflogaeth sydd ar gael gan Cymru'n Gweithio, a fydd yn eu helpu drwy roi cyngor, arweiniad a mynediad at hyfforddiant am ddim er mwyn eu helpu i ddechrau gweithio, ar adeg sy'n iawn iddynt. Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy wefan Noddfa Cymru a Cymru'n Gweithio.
Ni chewch godi rhent ar Wcreiniaid sy’n cyrraedd o dan gynllun Cartrefi i Wcráin. Rydym yn cydnabod bod rhai noddwyr hefyd yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, ond ni chewch ei gwneud yn ofynnol i Wcreiniaid ymgymryd â chyflogaeth na pharhau â’u cyflogaeth er mwyn cael aros yn eu llety. Ni cheir disgwyl llafur am ddim nac am gyflog gostyngol ganddynt, gan gynnwys gwasanaethau domestig a gwaith amaethyddol tymhorol, yn gyfnewid am lety a/neu fwyd.
Cymorth iaith
Yr ieithoedd amlycaf yn Wcráin yw Wcreineg a Rwsieg. Ni ddylech ddisgwyl i'ch gwesteion allu siarad neu ddarllen Saesneg. Gallai gwasanaethau cyfieithu ar-lein am ddim fod yn ddefnyddiol wrth gyfathrebu yn y dyddiau cynnar; fodd bynnag, dylai defnyddwyr nodi nad yw'r rhain bob amser yn gywir.
Os yw'r gwestai'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, efallai y bydd angen cyfieithwyr. Wrth ddefnyddio gwasanaethau Iechyd, mae dyletswydd ar ddarparwyr y GIG i ddarparu gwasanaeth cyfieithu. Fel rheol, gall yr Adran Gwaith a Phensiynau ddod o hyd i wasanaethau cyfieithu hefyd pan ofynnir amdanynt. Yn anffodus, ni fydd gan bob gwasanaeth ddarpariaeth gyfieithu, ond mae bob amser yn werth gofyn.
Gyrru yng Nghymru
Os oes gan eich gwestai drwydded yrru lawn wedi’i dyroddi yn Wcráin, gallant ddefnyddio’r drwydded hon i yrru cerbydau bach (fel beiciau modur, ceir, a cherbydau hyd at 3500kg neu gyda hyd at 8 sedd i deithwyr) am hyd at flwyddyn yn y DU. Rhaid i’r drwydded gwmpasu’r cerbyd sy’n cael ei yrru a rhaid iddi fod yn ddilys o hyd. Gall hyn barhau am 12 mis. Gall y gwestai wedyn newid i drwydded y DU hyd at 5 mlynedd ar ôl dechrau preswylio heb orfod pasio prawf gyrru newydd. Gall eich gwestai gael rhagor o wybodaeth am yrru yng Nghymru yma: Sanctuary. Gallwch helpu i gefnogi eich gwestai i ddeall pwysigrwydd sicrhau treth ac yswiriant ar gyfer eu cerbydau, ynghyd ag MOT cyfredol.
Llety
Ni chewch godi rhent ar yr unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya o dan y cynllun. Mae pob math o lety'n wahanol, ond mae'n rhaid sicrhau bod eich llety yn rhydd o beryglon difrifol i iechyd a diogelwch. Rydym wedi nodi rhai canllawiau penodol yn Atodiad A. Gan eich bod yn cynnig eich cartref, neu'n cynnig rhannu eich cartref â phobl sydd newydd gyrraedd y wlad, dylech roi dodrefn ac eitemau angenrheidiol sylfaenol iddynt megis dillad gwely a thyweli.
Mae agor eich cartref yn rhywbeth hynod hael i’w wneud, ond mae rhannu eich ardal fyw yn gallu dod â’i heriau. Yn aml, mae cael trafodaeth agored am eich disgwyliadau cyn i’ch gwestai gyrraedd, neu’n fuan wedyn, yn gallu osgoi tensiynau posibl. Dyma rai pethau y byddwch am eu hystyried efallai a chytuno arnynt gyda’ch gwestai:
- os a lle caiff ysmygu neu yfed alcohol
- amser rhesymol pan ddylai’r tŷ fod yn dawelach
- sut mae’ch gwestai i drin eich eiddo neu’r rhan o’r eiddo lle mae’n byw;
- ardaloedd cyffredin a rennir
- pwy fydd yn gyfrifol am dalu’r biliau (gweler Cyfraniadau rhesymol tuag at gostau byw)
- dod â’r trefniant lletya i ben gan y naill neu’r llall
- y ffiniau sy’n hanfodol i’r naill a’r llall
Os yw o gymorth, efallai y byddwch am ddefnyddio cytundeb eithriedig enghreifftiol. Ni fydd y cytundeb enghreifftiol yn gwneud y trefniant hwn yn denantiaeth, ar yr amod nad ydych yn codi rhent.
Mae dau fath o gytundeb enghreifftiol y gellid eu defnyddio; Cytundeb Trwydded Eithriedig neu Gytundeb Tenantiaeth Eithriedig. Nid oes unrhyw ofyniad i ddefnyddio y naill fath o gytundeb na’r llall fel rhan o’r cynllun noddi, ond gallai’r rhain helpu i sicrhau bod pob parti yn deall beth yw telerau eu trefniant. Mae’n bosibl y bydd rhai benthycwyr morgeisi yn gofyn ichi ddefnyddio cytundeb trwydded.
Os yw eich gwesteion yn rhannu llety â chi, er enghraifft yn defnyddio ystafelloedd gwely i westeion ac yn rhannu cegin â chi, y Cytundeb Trwydded Eithriedig sydd fwyaf addas (sydd ar gael yn yr iaith Wcreineg ac Rwseg).
Os yw eich gwesteion yn byw mewn llety hunangynhwysol (fel llety gwyliau) yna y Cytundeb Tenantiaeth Eithriedig sydd fwyaf addas (sydd ar gael yn yr iaith Wcreineg ac Rwseg).
Bydd rhywun o’r awdurdod lleol yn ymweld â chi o leiaf unwaith, yn fuan ar ôl i unigolyn gyrraedd, er mwyn cadarnhau bod y llety yn addas, bod yr unigolyn yn iach, ac nad oes unrhyw bryderon difrifol o ran diogelwch neu les. Mae’n bosibl y trefnir ymweliadau ychwanegol. Mae rhagor o wybodaeth am rôl awdurdodau lleol i’w gweld yma: Cartrefi i Wcráin: canllawiau i awdurdodau lleol.
Yswiriant, morgeisi, landlordiaid a lesddeiliaid
Bydd angen ichi siarad â'ch landlord, eich rhydd-ddeiliad neu'ch darparwr morgais i weld a oes ganddynt unrhyw bolisïau sy'n effeithio ar y trefniadau lletya. Mae'n bwysig iawn eich bod yn meddwl drwy unrhyw oblygiadau posibl ar gyfer eich tenantiaeth, eich morgais, eich les a'ch yswiriant cyn i'r unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya gyrraedd y DU.
Mae cwmnïau yswiriant wedi cytuno nad oes angen i berchnogion cartrefi sy'n rhoi llety i bobl o Wcráin yn eu cartrefi gysylltu â'u cwmni yswiriant, ar y sail bod yr unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya yn ‘westeion nad ydynt yn talu’. Gweler datganiad Cymdeithas Yswirwyr Prydain am ragor o fanylion. Mewn sefyllfaoedd eraill, gan gynnwys pan fydd y noddwr yn landlord neu'n denant, bydd angen ichi gysylltu â'ch cwmni yswiriant.
Mae rhoddwyr benthyciadau wedi ymrwymo i sicrhau bod modd i gymaint o fenthycwyr â phosibl gymryd rhan yn y cynllun. Os oes morgais gennych ar yr eiddo, bydd angen ichi gysylltu â'ch darparwr morgais. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda'r sector darparwyr morgeisi i safoni a symleiddio'r broses hon cyn belled â phosibl.
Os ydych yn ystyried gwneud cais i fod yn noddwr, dylech edrych ar wefannau eich darparwr morgais a'ch cwmni yswiriant. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael arnynt cyn gynted â phosibl.
Os ydych yn rhentu eich cartref, dylech ofyn am ganiatâd eich landlord er mwyn rhoi llety i unigolyn neu deulu o Wcráin cyn ichi baru â nhw neu wneud cais ar gyfer y cynllun. Mae'n bosibl na fydd modd i'ch landlord roi caniatâd heb gael cytundeb ymlaen llaw gan y preswylwyr eraill. Os ydych yn lesddeiliad sydd am roi llety i unigolyn neu deulu o Wcráin, bydd angen ichi edrych ar delerau ac amodau eich les i weld a oes caniatâd ichi gael lletywyr neu is-denantiaid. Os nad ydych yn siŵr am y caniatadau y mae'n ofynnol ichi eu cael yn ôl eich les, gallwch gael cyngor am ddim gan y Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau (LEASE). Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan, drwy apwyntiad dros y ffôn ag un o gynghorwyr LEASE (020 7832 2500), neu drwy e-bost (info@lease-advice.org). Mae Llywodraeth Cymru yn annog landlordiaid a phreswylwyr eraill i beidio â gwrthod cydsynio heb reswm. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn annog landlordiaid i hepgor unrhyw ffioedd caniatâd yn yr achosion penodol hyn.
Cyfraniadau rhesymol tuag at gostau byw
Mae’n bwysig bod lletywyr a gwesteion yn cael sgyrsiau agored, rheolaidd ynghylch talu am gostau byw gwahanol, megis bwyd, cludiant a biliau’r cartref. Bydd hyn yn sicrhau bod pawb yn gwybod beth sy’n ddisgwyliedig ganddynt o’r dechrau, a fydd gobeithio yn helpu i osgoi unrhyw anawsterau posibl yn ystod y trefniant.
Nid oes disgwyl i noddwyr dalu costau bwyd eu gwesteion, er y bydd rhai am helpu ar y dechrau efallai, yn enwedig pan fyddant newydd gyrraedd, ee efallai y bydd rhai noddwyr am wneud prydau i’w gwesteion tra byddant yn ymgartrefu yn y dechrau’n deg.
Mae gan bob unigolyn a ddaw i’r DU drwy gynllun Cartrefi i Wcráin hawl i weithio a gwneud cais am gredyd cynhwysol/budd-daliadau. Gall noddwyr a lletywyr ofyn i’w gwesteion am gyfraniad rhesymol a chymesur (yn ôl eu defnydd) am ddŵr, nwy neu drydan a ddefnyddiwyd neu a ddarparwyd i’r llety neu i unrhyw gyfleusterau a rennir. Efallai na fydd rhai lletywyr am ofyn am gyfraniad o gwbl, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau ariannol.
Wrth ystyried faint fyddai’n rhesymol ac yn gymesur i westai ei gyfrannu, rydym yn cynghori’n gryf y dylid nid dim ond cytuno â’r gwestai ynghylch y mater, ond y dylid hefyd ystyried ei amgylchiadau unigol. Mae yna senarios gwahanol o bob math a allai effeithio ar eich gwestai, megis oedi yn ei daliadau credyd cynhwysol/budd-daliadau neu ei fod yn cefnogi aelodau o’i deulu sy’n dibynnu arno yn Wcráin. Ni fydd gwesteion a gaiff eu lletya yn gymwys am elfen budd-dâl tai Credyd Cynhwysol, ond byddant yn gymwys am y lwfans safonol, y mae disgwyl iddo dalu am fwyd a chostau hanfodol. Os ydych yn lletya teulu mawr, cofiwch y gallai’r Cap ar Fudd-daliadau fod yn berthnasol i’r teulu.
Yn achos gwesteion sy’n cael gwaith, ni ddylid cymryd yn ganiataol eu bod felly yn gallu talu cyfraniadau uwch gan y gallent fod ar yr isafswm cyflog neu ar gontract dim oriau, neu mewn galwedigaeth ansicr. Dyma pam ei bod yn bwysig cael sgyrsiau agored, rheolaidd. Byddant yn sicrhau bod ffactorau o bob math yn cael eu hystyried.
Er y caiff noddwyr neu letywyr ofyn am gyfraniad tuag at filiau’r cartref, nid oes rheidrwydd ar westeion i roi arian o ran amodau eu fisa. Ni ddylid gofyn byth i westeion dalu unrhyw rent. Mae hefyd yn bwysig peidio â gofyn i westeion wneud cyfraniadau ariannol afrealistig.
Gall trafod arian fod yn rhywbeth sy’n gwneud ichi deimlo’n anghyfforddus, ac mae’n bwnc anodd i’w godi. Mae croeso ichi siarad â Chydlynydd Cymorth Lletywyr yn Housing Justice Cymru i drafod sut i fynd ati i ddechrau sgwrs am gyfraniadau ariannol gyda’ch gwestai.
Ar ôl cyrraedd, darperir taliad interim o £200 i bob gwestai i’w helpu gyda chostau cynhaliaeth y maen nhw’n eu hwynebu ar unwaith. Bwriad y taliad interim yw helpu’r newydd-ddyfodiaid hyd nes i’w cais am Gredyd Cynhwysol gael ei brosesu. Rydym yn cynghori gwesteion i ofyn am Ragdaliadau wrth wneud cais am Gredyd Cynhwysol i sicrhau nad ydynt yn gorfod aros hyd at 5 wythnos am gymorth ychwanegol. Caiff y Taliad Interim ei weinyddu gan yr Awdurdod Lleol, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer eitemau hanfodol y bydd llawer wedi cyrraedd hebyddynt.
Ni fydd lletya unigolyn yn golygu unrhyw gostau ychwanegol ichi o ran treth gyngor.
Dod i arfer â bywyd yng Nghymru
Gallwch gefnogi'r unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya a'i helpu i ddod i arfer â bywyd yng Nghymru. Y peth cyntaf i'w wneud fydd sicrhau bod pawb yn gysurus yn y llety sydd ganddynt, a bod ganddynt yr eitemau sylfaenol sydd eu hangen. Dylai fod digon o fwyd ac eitemau hanfodol megis pethau ymolchi ganddynt, ac mae'n syniad da sicrhau bod ffôn symudol ganddynt, a ffordd o ddefnyddio'r we er mwyn cadw mewn cysylltiad â'u teulu a'u ffrindiau.
Dylech helpu eich gwestai i ymgyfarwyddo â gwefan Noddfa Llywodraeth Cymru, a all helpu Wcreiniaid gyda chwestiynau o bob math a fydd ganddynt efallai am fywyd yng Nghymru, fel ymholiadau ynghylch trwydded yrru neu wybodaeth am addysg neu gyflogaeth, a llawer mwy o wybodaeth yn seiliedig ar gwestiynau yr ydym wedi gweld eu bod yn bwysig i’n gwesteion o Wcráin. Bydd y wefan hefyd yn helpu eich gwestai i oresgyn rhwystrau wrth geisio cael cymorth.
Gall Gwasanaeth Noddfa Llywodraeth Cymru (a gaiff ei weithredu ar ein rhan gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru) ddarparu cyngor a gwasanaeth eirioli i newydd-ddyfodiaid o Wcráin. Mae hyn yn cynnwys fforwm cymorth rhithiol i’w helpu i gysylltu â’i gilydd a thrafod cyfleoedd a heriau cyffredin yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cynnwys cyngor cyfreithiol ar fewnfudo gan Asylum Justice, lle bo angen.
Gall gwesteion o Wcráin gael gafael ar y gwasanaeth drwy ffonio 0808 196 7273 neu drwy e-bostio ukraine@services.wrc.wales.
Ymddygiad
Rydych eisoes wedi gwneud rhywbeth gwych drwy benderfynu bod yn noddwr neu’n lletywr. Rydych yn cefnogi unigolyn neu deulu sy'n ffoi rhag rhyfel a allai fod yn profi gofid mawr ac yn agored i niwed. Pan fydd y bobl hyn yn cyrraedd Cymru, gwyddom y byddwch yn estyn croeso cynnes iddynt ynghyd â'ch haelioni, eich dealltwriaeth a'ch cefnogaeth. Mae amrywiaeth o wasanaethau ar gael i’ch helpu chi a'r unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya, gan gynnwys y rheini a restrir isod.
Drwy siarad yn agored gyda’ch gwestai am ffiniau a disgwyliadau eich gilydd o’r dechrau’n deg, gallwch gefnogi eich gilydd i wneud y trefniant lletya yn llwyddiant. Bydd cael ambell sgwrs ynghylch y sefyllfa o help i’r naill a’r llall, ac yn rhoi cyfle i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau cyn gynted â phosibl.
Mynediad at wasanaethau cyhoeddus
Fel y soniwyd eisoes, byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallech helpu'r unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya i gysylltu â meddyg teulu lleol a chofrestru gydag ef. Gallech helpu'r unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya i gysylltu â phractis a gofyn am gael eu cynnwys ar eu rhestr gleifion. Fel arall, bydd gan eich bwrdd iechyd lleol restr o'r holl feddygfeydd yn eich ardal ac maent i’w gweld yma: Ymddiriedolaethau a byrddau iechyd GIG Cymru.
Mae gan unrhyw un yng Nghymru yr hawl i gofrestru a chael triniaeth gan feddyg teulu. Nid oes angen cyfeiriad sefydlog na manylion i brofi pwy ydych chi. Os oes angen cyfieithydd, efallai y byddai'n werth esbonio hynny i'r feddygfa ymlaen llaw. Mae gan bawb yr hawl i ofyn am gyfieithydd a chael cyfieithydd am ddim gan ddarparwyr gofal iechyd. Os oes unrhyw broblemau, gallwch ffonio 111 yng Nghymru (yn rhad ac am ddim) neu 0845 46 47.
Yn ogystal, bydd gan y rhai sy'n ceisio noddfa o Wcráin hawl hefyd i gael mynediad at ysbytai a gwasanaethau mamolaeth, yn ogystal â phresgripsiynau, a’r cyfan yn rhad ac am ddim.
Iechyd Mamolaeth ac Atgenhedlol
Os yw'r unigolyn rydych yn ei letya yn feichiog, rhowch help llaw iddynt i roi gwybod i feddygfa a chofrestru yno cyn gynted â phosibl i sicrhau eu bod yn cael cymorth yn ystod eu beichiogrwydd.
Iechyd Meddwl
Bydd gwasanaethau iechyd meddwl prif-ffrwd ar gael i unrhyw un sy'n cyrraedd Cymru o Wcráin. Mae cofrestru gyda meddyg teulu yn hanfodol. Disgwylir i’r broses sgrinio iechyd gychwynnol gan feddygon teulu / practis gofal sylfaenol i'r rhai sy'n cyrraedd o Wcráin gynnwys asesiad ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl. Darperir unrhyw driniaeth angenrheidiol fel ar gyfer unrhyw glaf arall naill ai gan y tîm gofal sylfaenol, neu drwy gyfeirio’r claf at Wasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol, y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol neu Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS).
Gallwch chi neu'r unigolyn rydych yn ei letya gysylltu â llinell gymorth iechyd meddwl CALL ar 0800 132 737 neu drwy anfon neges destun i 81066. Mae’r llinell gymorth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn. Gall roi cymorth a gwybodaeth am iechyd meddwl i bobl yng Nghymru, a gall pobl sy'n ceisio noddfa o Wcráin ofyn am gael siarad â rhywun yn eu hiaith eu hunain. Bydd y llinell gymorth hefyd yn gallu eich cyfeirio chi neu'r unigolyn rydych yn ei noddi at gymorth sydd ar gael yn lleol.
Mae Hyb Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod wedi datblygu adnoddau a thaflenni sy'n esbonio effeithiau dod i gysylltiad â digwyddiadau gofidus ac maent wedi'u cyfieithu i lawer o ieithoedd.
Mae’r adnoddau yn cynnwys:
- Taflen ar Gymorth Iechyd a Lles i Bobl sydd wedi’u Dadleoli
- Taflen ar Gymorth i Bobl sydd wedi Profi Digwyddiadau Gofidus
- Animeiddiad Navigating the Storm
Mae Hyb Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod hefyd wedi cyhoeddi canllawiau defnyddiol ar gyfer noddwyr a lletywyr – sef Cymorth i Bobl sydd wedi’u Dadleoli yng Nghymru mewn Llety Preifat. Mae’r ddogfen yn cynnwys dolenni defnyddiol at nifer o wahanol adnoddau.
Mae taflen benodol hefyd wedi'i pharatoi gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion ar ymdopi ar ôl digwyddiad trawmatig, sy'n cynnwys gwybodaeth i unrhyw un sydd wedi profi digwyddiad trawmatig, neu sy'n nabod rhywun sydd wedi profi digwyddiad o’r fath: Ymdopi ar ôl digwyddiad trawmatig (rcpsych.ac.uk).
Am ragor o wybodaeth, ewch i:
Cyfeirir at y daflen a ddatblygwyd gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion mewn crynodeb o adnoddau defnyddiol a gyhoeddwyd gan Straen Trawmatig Cymru: Useful Resources for Refugee and Asylum Seekers - All Wales Traumatic Stress Quality Improvement In.
Mae gwefan Noddfa hefyd yn cynnwys gwybodaeth am iechyd a lles i bobl sy’n cyrraedd o Wcráin.
Mae byrddau iechyd ledled Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar sut i fynd ati i gael cymorth iechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19. Mae gwybodaeth a manylion cyswllt ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael yn lleol i'w gweld yn Atodiad B.
Mae nifer o elusennau lleol a chenedlaethol yn darparu gwasanaethau cymorth rheng flaen i bobl sy'n ceisio noddfa, ac yn aml mae yna gapasiti i ddarparu cymorth mewn sawl iaith. Rhestrir rhai o'r gwasanaethau hyn yn Atodiad C.
Mae gan Galw Iechyd Cymru wasanaeth cyfieithu sy'n helpu pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg i gael cymorth yn eu dewis iaith. Mae rhagor o wybodaeth am yr help y gall Galw Iechyd Cymru ei roi i'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg i'w gweld ar wefan Noddfa Cymru.
Efallai y byddai'n werth sicrhau’r unigolyn neu'r bobl sy'n aros gyda chi na fydd eu hanghenion iechyd yn effeithio ar eu statws mewnfudo nac yn effeithio ar y gwasanaethau iechyd a fydd ar gael iddynt. Mae cyfieithiad ar gael ar wefan Noddfa Cymru i'ch helpu gyda hyn.
Adnodd defnyddiol arall yw Dewis Cymru, sef cronfa ddata ar-lein o wasanaethau iechyd a lles ledled Cymru. Gallwch chwilio'r gronfa ddata hon am sefydliadau cymunedol a all gynnig cymorth i ffoaduriaid.
Cymorth gyda phrofedigaeth
Mae Cruse Bereavement Support wedi cyhoeddi gwybodaeth mewn Wcreineg ynghylch deall a delio â galar. Mae'r erthyglau ar gael ar gyfer eich gwestai a gellir eu lawrlwytho neu eu hargraffu. Mae’r erthyglau yn cynnwys cyfarwyddiadau fesul cam ar sut i ffonio llinell gymorth Cruse a chael help drwy gyfieithydd ar y pryd.
Mae ganddynt hefyd erthygl ar eu gwefan ynghylch colledion trawmatig yn ystod anghydfod a rhyfel. Er nad yw’r erthygl hon wedi’i chyfieithu, gallai wir eich helpu chi fel noddwr neu letywr i ddeall profiadau eich gwestai.
Gwasanaethau mewn argyfwng
Gall hefyd fod yn ddefnyddiol rhoi gwybod i'r unigolyn rydych yn ei letya sut i gael gofal iechyd brys. Rhowch wybod iddynt beth yw diben y gwasanaeth 999 a rôl adrannau achosion brys (Damweiniau ac Achosion Brys) os ydyn nhw neu aelod o'r teulu yn cael damwain neu salwch difrifol sydyn. Am gyngor neu gymorth meddygol brys nad yw'n bygwth bywyd, dylid ffonio GIG 111.
Diogelu
Mae diogelu yn golygu cadw plant ac oedolion yn ddiogel rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol a'r Heddlu sy'n bennaf gyfrifol am ymateb pan fydd unrhyw un yn pryderu eu bod nhw neu rywun arall mewn perygl o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod. Fodd bynnag, mae angen i rywun roi gwybod iddynt am bryder cyn y gallant helpu.
Efallai y byddwch yn gweld neu'n clywed rhywbeth sy'n gwneud ichi boeni bod yr unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya mewn perygl o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod. Mae sawl ffurf i gam-drin – er enghraifft, corfforol, emosiynol, rhywiol ac ariannol. Efallai eich bod yn pryderu am y ffordd y maent yn trin eu plant neu eu perthnasau, neu'r ffordd y mae rhywun arall yn eu trin nhw.
Efallai y byddwch hefyd yn gweld neu'n clywed rhywbeth sy'n gwneud ichi boeni bod eich plant chi, eich perthnasau chi neu rywun arall mewn perygl oherwydd ymddygiad yr unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya.
Efallai y gwnaiff yr unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya o Wcráin hefyd yn gofyn am eich help i roi gwybod am bryder o’r fath.
Gofyn am help yw'r peth iawn i'w wneud. P'un a ydych yn poeni am blentyn neu oedolyn o Wcráin, neu amdanoch chi eich hun, eich teulu neu rywun yn y gymuned.
Mae'n bwysig rhannu'r pryderon hyn cyn gynted ag y gallwch. Os ydych yn poeni bod rhywun mewn perygl uniongyrchol o niwed, er enghraifft os bydd plentyn neu oedolyn o Wcráin yn mynd ar goll, yna dylech ffonio'r Heddlu ar 999.
Bydd eich awdurdod lleol yn rhoi gwybodaeth ichi am sut i gysylltu â'ch gwasanaethau cymdeithasol lleol os ydych yn poeni y gallai rhywun fod mewn perygl o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ar wefan eich awdurdod lleol drwy chwilio am enw eich awdurdod lleol ac yna mynd i’r adran iawn ynghylch rhoi gwybod am blentyn mewn perygl neu roi gwybod am oedolyn mewn perygl.
Mae hyfforddiant ar-lein ar gael sy'n rhad ac am ddim, a gall hwnnw eich helpu i ddeall mwy am ddiogelu. Rydym yn eich annog i dreulio amser yn edrych ar yr hyfforddiant hwn. Ewch i wefan Learning@Wales.
Cyfryngau cymdeithasol: pethau i’w gwneud a phethau i’w hosgoi
Mae pawb yn defnyddio'r rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol i gadw mewn cysylltiad ac yn gwneud mwy fyth o hynny pan fydd teuluoedd yn cael eu gwahanu. Diben y cyngor hwn yw eich helpu chi fel noddwr i ddiogelu preifatrwydd ac urddas y person neu'r bobl o Wcráin yr ydych yn rhoi llety iddynt. Weithiau bydd pobl lai gonest yn cymryd mantais o fwriadau da pobl. Dylech ofyn i chi eich hun a fyddech am i rywun rannu delweddau a gwybodaeth amdanoch chi neu'ch teulu/plant ar rwydwaith cyhoeddus, gyda neu heb ganiatâd. Cofiwch nad yw plant yn gallu rhoi 'caniatâd ar sail gwybodaeth’.
Fel noddwr neu letywr, mae amrywiaeth o bethau syml y gallwch eu gwneud i helpu i ddiogelu preifatrwydd:
Pethau i’w gwneud
Gwnewch yn siŵr bod pawb yn eich cartref sy'n defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol yn ymwybodol o'u gosodiadau diogelwch a sut i'w newid.
Byddwch yn ymwybodol bod enwau defnyddwyr, lluniau proffil a bywgraffiadau cyfryngau cymdeithasol bob amser yn gyhoeddus, hyd yn oed ar gyfrifon preifat.
Byddwch yn ofalus iawn am geisiadau ffrindiau gan bobl nad ydych chi'n eu hadnabod.
Gwnewch yn siŵr fod y person neu'r bobl yr ydych chi'n rhoi llety iddynt wedi lawrlwytho'r 'botwm panig' ar Facebook.
Pethau i’w hosgoi
Cyhoeddi ffotograffau o'r bobl rydych chi'n rhoi llety iddynt ar rwydweithiau cyhoeddus.
Cyhoeddi unrhyw wybodaeth ynghylch lle mae'r bobl rydych chi'n rhoi llety iddynt yn byw.
Cyhoeddi unrhyw wybodaeth ynghylch lle fydd y bobl rydych chi'n rhoi llety iddynt ar adeg benodol.
Tybio bod pobl yn dweud y gwir am bwy ydyn nhw.
Os ydych chi'n noddi pobl o Wcráin gan gynnwys plentyn neu blant, mae'r adnoddau hyn ar gyfer oedolion a phlant yn ddefnyddiol: Plant a phobl ifanc - Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU a Rhieni a Gofalwyr - Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU.
Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a cham-drin rhywiol
Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) yn cwmpasu amrywiaeth o weithredoedd camdriniol a thrais sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod, sy'n gallu cynnwys cam-drin domestig (corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol a rheolaeth drwy orfodaeth), trais rhywiol a threisio, cam-drin ar sail anrhydedd gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod a lladd ar sail anrhydedd, yn ogystal ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus.
Er bod y term VAWDASV yn cydnabod bod y mwyafrif llethol o ddioddefwyr yn fenywod, gall cam-drin domestig, trais rhywiol ac aflonyddu gwmpasu pob dioddefwr waeth beth fo'i rywedd.
Yng Nghymru, nod Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yw gwella mesurau atal VAWDASV a gwella mesurau amddiffyn a'r cymorth a roddir i ddioddefwyr a goroeswyr.
Bydd angen i noddwyr a lletywyr fod yn ymwybodol y gallai pobl o Wcráin sy'n dod i'r DU fod wedi profi VAWDASV yn eu mamwlad, fel rhan o'u taith i'r DU neu ar ôl iddynt gyrraedd y DU.
Gall noddwyr a lletywyr ymgyfarwyddo â gwybodaeth am adnabod VAWDASV a'r gwasanaethau cymorth perthnasol drwy gwblhau modiwl eDdysgu Llywodraeth Cymru. Mae ar gael yn ddwyieithog a dylai gymryd tua 45 munud.
Mae rhagor o wybodaeth am VAWDASV hefyd ar gael yma Llinell gymorth Byw Heb Ofn.
Mae nifer o wasanaethau cymorth ar gael i'r rhai sy'n profi VAWDASV neu i bobl sy'n pryderu am eraill.
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Mae ein llinell gymorth Byw Heb Ofn yn wasanaeth 24/7, sydd ar gael am ddim i bawb sydd wedi dioddef a goroesi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r rhai sy'n agos atynt, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr. Gellir cysylltu â Byw Heb Ofn drwy'r ffyrdd canlynol;
Ffôn: 0808 80 10 800
Testun: 0786 007 7333
E-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru
Llinell gymorth Dyn Cymru: sefydliad sy'n helpu dynion sydd wedi dioddef cam-drin domestig. Ffoniwch 0808 801 0321 neu e-bostiwch support@dynwales.org (cymorth i ddioddefwyr gwrywaidd).
Cymorth i Ferched Cymru: sefydliad sy’n cefnogi menywod yr effeithir arnynt gan gam-drin domestig.
BAWSO: sefydliad arbenigol sy'n cefnogi cymunedau ethnig lleiafrifol.
Meic: llinell gymorth ddwyieithog, ddienw a chyfrinachol sydd ar gael am ddim i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru ac sy'n darparu gwybodaeth, cyngor defnyddiol a chymorth. Mae Meic ar agor rhwng 8am a chanol nos, 7 diwrnod yr wythnos, dros y ffôn, drwy negeseuon testun a negeseua gwib.
Ffôn: 0808 80 23456
Testun: 54001
Trefniadau ar gyfer ymateb pan fydd pryderon y gallai pobl o Wcráin fod ar goll ar ôl iddynt gyrraedd y DU
Bydd achosion pan na fydd pobl o Wcráin yn cyrraedd eu cyrchfan fwriadedig. Mae'r cyngor hwn yn nodi beth i'w wneud o dan yr amgylchiadau hyn. Mae hyn yn cynnwys camau a allai ei gwneud yn ofynnol i chi roi gwybod i’r heddlu bod y person/pobl yn berson/pobl goll.
Y diffiniad ar gyfer person coll yw:
Ystyrir bod unrhyw un na ellir nodi ei leoliad ar goll, nes ei fod wedi'i leoli, a'i les wedi’i gadarnhau neu fel arall.
Beth i'w wneud os nad yw'r bobl rydych yn eu noddi yn cyrraedd eich cyfeiriad yn ôl y disgwyl
Os bydd y bobl o Wcráin rydych yn eu noddi yn teithio i'ch cyfeiriad hebddoch chi ac nid ydynt yn cyrraedd yn ôl y disgwyl, dylech geisio cysylltu â nhw i gael gwybod a oes esboniad am yr oedi a phryd y gallwch ddisgwyl iddynt gyrraedd.
Dylech roi’r un ymdrech wrth geisio dod o hyd iddynt ag y byddwch yn ei wneud pe byddech yn ceisio dod o hyd i aelod o'ch teulu.
Os na allwch gysylltu â nhw, dylech ffonio'r heddlu ar 101 a rhoi gwybod iddynt eu bod ar goll. Bydd yr heddlu angen rhywfaint o wybodaeth gennych. Bydd angen iddynt wybod lleoliad hysbys diwethaf y bobl rydych yn rhoi gwybod iddynt eu bod ar goll gan gynnwys unrhyw wybodaeth sydd gennych am eu henwau, eu hoedrannau, eu rhyw a sut maen nhw’n edrych.
Os cewch unrhyw wybodaeth newydd am y bobl o Wcráin neu os ydyn nhw’n cysylltu â chi ac rydych eisoes wedi rhoi gwybod i'r heddlu eu bod ar goll, dylech gysylltu â'r heddlu eto i roi’r wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted â phosibl.
Os cewch unrhyw wybodaeth sy'n awgrymu bod unrhyw un mewn perygl o niwed, rhaid i chi ffonio'r heddlu ar 999 ar unwaith.
Dylech hysbysu'ch awdurdod lleol eich bod wedi rhoi gwybod bod rhywun ar goll.
Trefniadau ar gyfer pan fydd pobl yn dymuno gadael eich cartref am gyfnod cyn dychwelyd
Os yw eich gwestai/gwesteion yn mynd i ffwrdd o’ch cartref am gyfnod, gofynnwch iddynt adael ichi wybod pryd maent yn bwriadu dychwelyd, ac anfon neges atoch os ydynt yn meddwl y byddant yn hwyrach na hynny yn dychwelyd.
Os na fydd eich gwestai/gwesteion yn dychwelyd pan fyddwch yn eu disgwyl, dylech geisio cysylltu â nhw i ddarganfod a yw eu cynlluniau wedi newid, a oes rheswm eu bod yn hwyrach na’r disgwyl a phryd maent yn disgwyl dychwelyd.
Os na fydd eich gwestai/gwesteion yn dychwelyd pan fyddwch yn eu disgwyl ac na allwch gysylltu â nhw ar ôl ceisio gwneud hynny sawl gwaith, dylech ffonio’r heddlu ar 101 i ddweud eu bod ar goll. Mewn ymateb i’ch galwad, bydd yr heddlu yn penderfynu beth i’w wneud fesul achos.
Caethwasiaeth fodern
Gall caethwasiaeth fodern effeithio ar bobl o bob oed, rhyw a hil ac mae'n cynnwys amrywiol fathau o gamfanteisio. Atgyfeiriwyd 479 o achosion o gaethwasiaeth fodern yng Nghymru yn 2021. Roedd dros hanner y rhai a atgyfeiriwyd yn blant, ac roedd tua hanner ohonynt yn dod o'r tu allan i'r DU, o wledydd fel Albania, Sudan, ac Eritrea.
Mae pedwar prif fath o gaethwasiaeth fodern:
- camfanteisio ar lafur
- camfanteisio troseddol
- camfanteisio rhywiol
- chaethwasanaeth domestig
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am wahanol fathau o gaethwasiaeth fodern yma.
Mae llawer o wahanol arwyddion o gaethwasiaeth fodern. Os oes gennych bryderon y gallai rhywun fod yn cael ei ecsbloetio, neu fod rhywun wedi dioddef yn y gorffennol, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i gael cymorth yma.
Gall noddwyr gael rhagor o wybodaeth am ddiogelu drwy ddarllen y canllawiau hyn: Cartrefi i Wcráin: canllawiau ar ddiogelu a chaethwasiaeth fodern.
Cymorth gan eich awdurdod lleol
Mae eich awdurdod lleol yn gyfrifol am gymorth fel:
- cofrestru plant gydag ysgolion lleol
- rhoi cyngor ar wasanaethau cymorth i deuluoedd, megis cymorth gyda chostau gofal plant
- sicrhau mynediad at ddosbarthiadau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill
- gweithio gyda byrddau iechyd lleol i’w cyfeirio at lwybrau cyngor ac atgyfeirio at wasanaethau iechyd cyhoeddus arbenigol fel y bo'n briodol, er enghraifft ar gyfer brechiadau neu sgrinio TB. Dylid darparu cyngor ar wasanaethau cymorth pellach megis sefydlogi cychwynnol, cwnsela a chymorth iechyd meddwl, gofal cymdeithasol i oedolion, a gwasanaethau plant yn ôl yr angen
- cefnogi mynediad at apwyntiadau lleol gyda’r Ganolfan Byd Gwaith ar gyfer asesiadau budd-daliadau, gan gynnwys ar gyfer taliadau brys tra bo unrhyw fudd-daliadau'n cael eu trefnu
- gweinyddu £200 o daliadau cymorth dros dro i’r rhai sydd newydd gyrraedd
- gweinyddu £350 o daliadau misol i’r noddwyr
- helpu i ddod o hyd i opsiynau llety tymor hirach
- darparu cyngor a chymorth ar faterion diogelwch
- darparu cyngor gwaith achos yn ôl y gofyn
Dylech hefyd geisio helpu i gyfeirio’r unigolyn neu’r teulu rydych yn ei letya i wasanaethau cyhoeddus fel ysgolion a chanolfannau gwaith. Mae canllawiau ychwanegol ar sut i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus ar gael ar wefan noddfa Llywodraeth Cymru sydd ar gael yn yr iaith Wcreineg ac sy'n darparu gwybodaeth am hawliau, gwasanaethau, addysg a diwylliant yng Nghymru Noddfa | Wcráin.
Cymorth gan y sector gwirfoddol
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi contract i Housing Justice Cymru i ddarparu cymorth i letywyr Cartrefi i Wcráin. Gallant ymateb i’ch cwestiynau neu eich cyfeirio at rywun arall all eu hateb.
Darllenwch fwy am y cartrefi i Wcráin: gwasanaeth cymorth cynnal.
Gall y sector gwirfoddol ddarparu ystod o gymorth ar gyfer yr unigolyn neu’r teulu rydych yn ei letya. Mae infoengine yn gyfeiriadur o wasanaethau’r trydydd sector yng Nghymru a ddarperir gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru (Cynghorau Gwirfoddol Sirol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru). Mae hwn yn blatfform rhad ac am ddim sy’n cynnig gwybodaeth am amrywiaeth eang o wasanaethau gwirfoddol a chymunedol sy’n gallu rhoi help a chefnogaeth. Darperir rhywfaint o’r gefnogaeth hon mewn partneriaeth â’r awdurdodau lleol, byrddau iechyd a phartneriaid eraill.
Yn ogystal, mae eich Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol yn ffynhonnell wybodaeth a chanllawiau am wasanaethau’r sector gwirfoddol sydd ar gael yn lleol. Efallai y byddwch am rannu’r dolenni hyn gyda’r unigolyn neu’r teulu rydych yn ei letya.
Beth sy'n digwydd ar ddiwedd y cyfnod noddi?
Mae noddwyr a lletywyr yn ymrwymo i letya pobl o Wcráin am o leiaf chwe mis, ond gallwch ddewis parhau y tu hwnt i'r chwe mis cychwynnol os ydych chi a'r unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya yn dymuno parhau â’r trefniant. Rydym yn annog lletywyr a gwesteion i gael sgyrsiau agored ynghylch ymestyn y trefniant y tu hwnt i chwe mis. Lle bo modd, rydym am gefnogi lleoliadau hirach, gan fod pwysau mawr ar y system dai ar hyn o bryd.
Fel y soniwyd eisoes, mae'r 'taliadau diolch' yn dod i ben 12 mis ar ôl i’r unigolion dan sylw gyrraedd y DU. Bydd pobl o Wcráin yn gallu byw a gweithio yng Nghymru am hyd at dair blynedd a chael budd-daliadau, gofal iechyd, cyflogaeth a chymorth arall.
Os nad ydych am barhau (neu’n methu parhau) â'r trefniant y tu hwnt i chwe mis, dylech roi gwybod i'r unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya mewn da bryd fel y gallant wneud trefniadau eraill. Dylai lletywyr wneud hyn o leiaf ddeufis cyn diwedd y chwe mis.
Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i gefnogi pobl ddigartref a gallant helpu i chwilio am lety arall ar gyfer pobl o Wcráin y mae disgwyl iddynt ddod yn ddigartref o fewn 56 o ddiwrnodau.
Mae arian cyhoeddus ar gael i bobl o Wcráin a byddant yn gallu rhentu eiddo fel unrhyw un arall. Os bydd angen, gallant hawlio elfen dai y Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai os ydynt dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae gan Rhentu Doeth Cymru wybodaeth ddefnyddiol am rentu eiddo sydd ar gael yma: Tenantiaid.
Beth os bydd y trefniant noddi yn chwalu?
Os bydd angen ichi ddod â'r trefniant noddi i ben yn gynnar am unrhyw reswm, dylai noddwyr roi gwybod i'r bobl o Wcráin sy’n cael llety ganddynt a’r awdurdod lleol cyn gynted â phosibl (gan roi deufis o rybudd yn ddelfrydol).
Rhagor o gymorth
- Mae gwefan Cartrefi i Wcráin yn cynnig gwybodaeth am y cynllun.
- Mae gwefan Noddfa | Wcráin yn cynnig gwybodaeth ategol ac mae ar gael yn yr iaith Wcreineg.
- Bydd eich awdurdod lleol yn darparu gwybodaeth am y cymorth y maent yn ei ddarparu yn eich ardal. Mae canllawiau ar sut i gefnogi'r unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya hefyd wedi'u rhoi i'ch awdurdod lleol.
- Mae llinell gymorth wedi ei lansio i roi cyngor a chanllawiau i bobl sy'n dod i Gymru o Wcráin ac i bobl sy'n gweithredu fel noddwyr. I bobl yn y DU, y rhif yw: Rhadffôn 0808 175 1508; i bobl y tu allan i'r DU, y rhif yw: +44 (0)20 4542 5671. Mae'r llinell gymorth ar gael rhwng 08:00 a 00:00 o’r gloch, 7 diwrnod yr wythnos.
Atodiad A: canllawiau ynghylch eich llety
Mae pob math o lety’n wahanol, ac er nad oes disgwyliadau penodol, mae’n rhaid sicrhau bod eich llety yn rhydd o beryglon difrifol i iechyd a diogelwch. Dylech ofalu bod eich cartref yn ddiogel i’r unigolyn neu’r teulu o Wcráin ac mewn cyflwr addas. Dylech ystyried hefyd sawl unigolyn y gallwch ei dderbyn, gan sicrhau bod digon o le i bawb. Ni ddylai dau unigolyn rannu ystafell oni bai eu bod: yn oedolion sy’n cyd-fyw â’i gilydd fel partneriaid; yn rhiant a phlentyn; yn ddau frawd neu’n ddwy chwaer os ydynt dros 10 oed; yn frodyr neu’n chwiorydd o’r naill ryw neu’r llall os ydynt dan 10 oed. Ni ddylid rhoi unigolion nad oeddent yn nabod ei gilydd o’r blaen yn yr un ystafell.
Rydym hefyd yn gofyn ichi sicrhau:
- bod y llety yn cael ei gadw’n lân ac mewn cyflwr rhesymol
- bod lle digonol mewn cegin ac ystafell ymolchi
- bod dŵr yfed ar gael
- bod synhwyrydd mwg sy’n gweithio ar bob un o loriau’r eiddo, a mesurau diogelwch tân eraill addas, er enghraifft, drysau tân neu lwybrau dianc fel y bo’n briodol – mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: making your home safe from fire
- bod synhwyrydd carbon monocsid sy’n gweithio mewn unrhyw ystafell sy’n cynnwys dyfais llosgi tanwydd solet (er enghraifft, tân glo, stof llosgi coed)
- bod digon o wres i gadw’r eiddo ar dymheredd cyfforddus
- bod y dyfeisiau nwy, y ffitiadau a’r ffliwiau yn ddiogel a bod gwiriad diogelwch nwy wedi ei wneud o fewn y flwyddyn ddiwethaf (rhagor o wybodaeth)
- bod y trydan yn gweithio ac yn ddiogel – gall trydanwr cymwys helpu os ydych yn ansicr
- nad oes lleithder na llwydni yn y llety o gwbl, fwy neu lai
- bod y drysau a’r ffenestri ar y llawr mynediad yn cloi’n iawn
- ei bod yn hawdd ac yn ddiogel symud o gwmpas yn y llety, heb risiau rhy serth a allai achosi niwed
Atodiad B: cymorth Iechyd meddwl
Bwrdd Iechyd | Dolenni i’w Gwefannau |
---|---|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Hyb Iechyd Meddwl – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru) |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan | Cymorth Iechyd Meddwl yng Ngwent yn ystod pandemig COVID-19: atebodd eich cwestiynau |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda | Cymorth iechyd meddwl yn ystod COVID-19 |
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys | Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn ystod COVID-19: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru) |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro | Cymorth Iechyd Meddwl |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe | Cymorth iechyd meddwl yn ystod COVID |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg | Cymorth Iechyd Meddwl yng Nghymru Yn ystod Pandemig COVID-19: Atebion eich cwestiynau |
Atodiad C: gwasanaethau cymorth i bobl sy'n ceisio noddfa
Gwasanaeth |
Gwefan/Manylion Cyswllt |
---|---|
Llinell Gyngor Iechyd Meddwl CALL |
Llinell Gymorth Iechyd Meddwl CALL i Gymru: Gwasanaeth Gwrando a Chymorth Cyfrinachol |
Cyngor Ffoaduriaid Cymru |
|
Oasis (Caerdydd) |
|
Diverse Cymru |
|
Y Sanctuary (Casnewydd) |
|
Alltudion ar Waith (Cymru) |
Alltudion ar Waith - Cefnogi Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches yng Nghymru ers 2001 |
Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (Cymru) |
Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru: Cefnogi pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig sy'n byw yng Nghymru |
Y Groes Goch Brydeinig (Cymru) |
|
Canolfan y Drindod (Caerdydd) |
|
Gwasanaethau Gofal Cymunedol a Lles (Caerdydd) |
|
Llinell Gymorth y DU ar gyfer Cymru Cenedl Noddfa
|
Mae llinell gymorth wedi ei lansio i roi cyngor a chanllawiau i bobl sy'n dod i Gymru o Wcráin ac i bobl sy'n gweithredu fel noddwyr. I bobl yn y DU, y rhif yw: Rhadffôn 0808 175 1508, i bobl y tu allan i'r DU, y rhif yw: +44 (0)20 4542 5671. Mae’r llinell gymorth ar gael 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos. |
Atodiad D: cofrestru genedigaethau, marwolaethau a phriodasau Wcreiniaid
UK Visas and Immigration (UKVI) should be contacted in the event a guest dies. The UKVI should also be contacted when a baby is born under the visa extension scheme. The contact is: Daniel.Lill@homeoffice.gov.uk, UKVI.
Dylid cysylltu â Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) pe byddai gwestai yn marw. Dylid hefyd gysylltu ag UKVI pan fo babi yn cael ei eni o dan y cynllun estyn fisa. Y manylion cyswllt yw: Daniel Lill, UKVI.
Dylid hefyd gysylltu â Swyddfa Is-gennad Wcráin yn achos genedigaethau, priodasau a marwolaethau. Mae manylion cyswllt isod, neu efallai y bydd y gwestai am fynd yn syth i’r wefan sydd hefyd yn rhestru tariffau a gwasanaethau consylaidd: Головна | Посольство України у Сполученому Королівстві Великої Британії та Північної Ірландії (mfa.gov.ua) Mae ar gael mewn Wcreineg ac yn Saesneg.
Llysgenhadaeth Wcráin yn Llundain, y Deyrnas Unedig
Cyfeiriad:
60 Holland Park
London W11 3SJY
Deyrnas Unedig
Rhif ffôn: (+44) 20 7727 6312
Ffacs: (+44) 20 7792 1708
Ebost:
ukrembassyuk@gmail.com
emb_gb@mfa.gov.ua
media.ukrembassyuk@gmail.com
Gwasanaethau consylaidd: consul_gb@mfa.gov.ua
Cyfryngau cymdeithasol:
Oriau agor y swyddfa
Llun-Gwener: 9am i 6pm
Pennaeth y genhadaeth: Mr Vadym Prystaiko, Llysgennad