Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau i awdurdodau lleol ar y cyllid sydd ar gael i gefnogi'r cynllun Cartrefi i Wcráin.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Mae sawl ffrwd ariannu wahanol y gall awdurdodau lleol eu defnyddio yn 2024 i 2025 i gefnogi pobl o Wcráin a ddaw i Gymru o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin. Mae’r cynllun Cartrefi i Wcráin yn cynnwys y rhai sy’n cael eu lleoli’n uniongyrchol gyda phobl sy’n cynnig llety, neu'r rhai a ddaw drwy'r cynllun "uwch-noddwr”:

  • tariff cyffredinol fesul person
  • plant dan oed ar eu pen eu hunain
  • taliad diolch misol i’r rhai sy’n rhoi llety
  • llety croeso

Mae Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol Cenedl Noddfa wedi’i sefydlu drwy Gyngor Blaenau Gwent ac mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. 

Nid oes unrhyw arian ychwanegol wedi’i ddarparu gan Lywodraeth y DU na Llywodraeth Cymru ar gyfer byrddau iechyd. 

Caiff y canllawiau hyn eu diweddaru o bryd i'w gilydd pan fydd materion yn cael eu nodi neu os bydd amgylchiadau'n newid.

Arian tariff cyffredinol

Mae’r cynllun Cartrefi i Wcráin yn darparu tariff fesul person ar gyfer awdurdodau lleol i gefnogi awdurdodau lleol i ddarparu cymorth cofleidiol i unigolion a theuluoedd er mwyn iddynt allu ailgydio yn eu bywydau ac integreiddio yn eu cymunedau.  

Mae’r llywodraeth yn darparu cyllid i gynghorau ar gyfradd o £5,900 ar gyfer gwesteion a gyrhaeddodd ar ôl 1 Ionawr 2023 (£10,500 y person ar gyfer gwesteion a gyrhaeddodd cyn 1 Ionawr 2023) o dan Gynllun Cartrefi i Wcráin. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, mae’r tariff yn cael ei gyfrifo ar gyfradd fesul person, ond ni ddylid ei gymhwyso'n benodol i unigolyn a gall y cyllid gael ei gydgrynhoi a'i ddefnyddio i ddarparu gweithgareddau i bob Wcreiniad o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin yn yr awdurdod hwnnw. Efallai y bydd gwasanaethau cymorth yn cael eu sefydlu a'u defnyddio gan Wcreiniaid o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin a'r cynllun Teuluoedd o Wcráin er mwyn elwa ar arbedion maint.  

Mae'r taliad tariff yn cael ei dalu gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol bob chwarter mewn ôl-daliadau ar ôl cael a phrosesu hawliad dilys. Bydd y tariff yn daliad pro rata y mis ar gyfradd o £475 y mis ar gyfer y rhai sy’n cyrraedd ar ôl 1 Ionawr 2023 (£5,900, llai taliad argyfwng o £200, wedi rhannu gyda deuddeg) tra bo'r awdurdod lleol yn cefnogi unigolyn sy’n cael llety neu sydd mewn llety rhent. O dan y trefniant llety cychwynnol, tra oedd yr unigolyn mewn llety cychwynnol brys, roedd yr elfen tariff yn cael ei chadw gan Lywodraeth Cymru ac roedd y cymorth yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol drwy gyllid cofleidiol ar wahân. Daeth y cyllid cofleidiol ar wahân i ben pan gaewyd yr ystâd lety gychwynnol yn llwyr ym mis Gorffennaf 2024. O dan y trefniant llety croeso diwygiedig i’r rheini sy’n cyrraedd, rhoddir y tariff llawn i awdurdodau lleol. 

Gellir defnyddio'r cyllid hwn i gefnogi'r canlynol: (nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ac mae’r mathau o wasanaethau yn dibynnu ar yr angen ac ar asesiad awdurdod lleol): 

  • cynnal gwiriadau llety cymesur i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer nifer a phroffil y bobl sy’n bwriadu byw ynddo, bod mynediad at gyfleusterau digonol, ac nad oes peryglon diogelwch difrifol
  • hwyluso ceisiadau DBS manylach ar gyfer noddwyr a holl aelodau aelwydydd y noddwyr sy’n 16+ oed, gan gynnwys gwirio hunaniaeth. Mae gofyn i gynghorau dalu cost gwiriadau DBS o dariff blwyddyn 1
  • cynnal ymweliadau lles, asesiadau gofal a chymorth, a gwiriadau diogelu
  • integreiddio mewn cymunedau: bydd awdurdodau Lleol a'u partneriaid yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o integreiddio teuluoedd o Wcráin yn eu cymunedau lleol. Gallai integreiddio gynnwys cymorth gwaith achos i oresgyn rhwystrau neu fynd i’r afael â phryderon, darpariaeth Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), mynediad at wasanaethau cyfieithu ar y pryd, datblygu digwyddiadau cymunedol, defnyddio hyrwyddwyr cymunedol yn y sector gwirfoddol neu’r sector ffydd a helpu i gyfeirio pobl at gymorth perthnasol
  • atgyfeiriadau i wasanaethau arbenigol: pan fo angen neu'n ddoeth gwneud hynny, dylai cynghorau hwyluso atgyfeiriadau at wasanaethau iechyd cyhoeddus arbenigol, ee gwasanaethau iechyd meddwl, gofal cymdeithasol i oedolion a gwasanaethau plant
  • gwaith a budd-daliadau: dylai cynghorau helpu gwesteion i gael gafael ar gymorth i hawlio budd-daliadau ac i chwilio am swydd
  • taliadau brys cychwynnol: gofynnir i'r awdurdod lleol lle lleolir y llety ddarparu taliad dros dro o £200 i bob gwestai. Mae'r taliad o £200 yn rhan o'r tariff o £5,900 ac nid oes angen i’r gwestai ei ad-dalu. Bydd gan awdurdodau lleol hefyd ddisgresiwn o fewn y tariff i roi rhagor o arian neu gefnogaeth i westeion gyda thaliadau ychwanegol neu rai dros dro a fydd yn dod o'u dyraniad misol o gyllid tariff. Mae'r £200 yn daladwy i'r Wcreiniad ac nid i'w noddwr
  • llety: cymorth i'r rhai sy'n symud i'r sector rhentu preifat gyda, er enghraifft, bondiau, rhent ymlaen llaw a sicrwydd rhent. Cyfrifoldeb yr awdurdod derbyn yw hyn pan fo unigolion yn symud rhwng awdurdodau
  • ail-baru: helpu i ddod o hyd i lety arall pan fo trefniadau noddi yn methu
  • plant cymwys dan oed: cefnogaeth i blant  dan 18 oed nad ydynt yn teithio gyda’u rhieni neu eu gwarcheidwad cyfreithiol neu’n ymuno â nhw yn y DU, gan gynnwys ymweld â’r plant o fewn 24 awr i’r adeg y byddant yn cyrraedd i benderfynu ynghylch trefniadau byw addas ar eu cyfer a’u lles
  • cadw cofnodion cywir ar nifer y gwesteion a’r aelwydydd lletya/noddi yn eu hardal, gwiriadau llety a DBS ac ati, gan ddefnyddio Cenedl Noddfa: Platfform Data Wcráin 

Pan fo unigolion yn symud yn ffurfiol rhwng ardaloedd awdurdodau lleol (gan gynnwys o lety croeso) i ardaloedd awdurdodau lleol gwahanol yng Nghymru, bydd y tariff yn cael ei dalu ar sail pro rata i'r awdurdod lletya newydd. Bydd cymodi yn digwydd ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol. Mae hawlio ar sail pro rata 12 mis yn golygu nad oes angen trosglwyddo arian rhwng awdurdodau. Mae hefyd yn golygu, pan fo unigolyn yn symud o Gymru i Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn ystod y flwyddyn gyntaf, bydd cyllid yn cael ei ddal gan Lywodraeth Cymru at ddibenion cysoni.  

Er enghraifft os bydd unigolyn yn cyrraedd ym mis Ebrill 2024, yn aros mewn llety croeso ym Mhowys am ddeufis, yn symud at rywun sy’n cynnig llety yng Nghaerdydd am chwe mis ac yna’n symud i lety rhent yng Nghaerffili, bydd yr arian fel a ganlyn: 

  • Llywodraeth y DU yn talu £5,900 i Lywodraeth Cymru
  • Powys yn gwneud taliad o £200 ac yn ei hawlio gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â deufis o daliadau tariff (£950)
  • ALl Caerdydd yn hawlio chwe mis o daliadau tariff (£2,850)
  • ALl Caerffili yn hawlio pedwar mis o daliadau tariff (£1,900)

Efallai na fydd y costau’n gyfartal ar draws y flwyddyn, ond bydd yr effaith yn wahanol yn dibynnu ar symudiadau’r unigolyn yn ystod y flwyddyn. Felly mae sail pro rata sefydlog wedi cael ei chymhwyso.

Costau ychwanegol

Rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol ddefnyddio'r tariffau ariannu i dalu'r holl gostau cysylltiedig (ar gyfer darparu gwasanaethau a gweinyddu taliadau).  

Rydym yn barod i ystyried achosion lle bydd angen cyllid pellach ac rydym yn barod i roi ystyriaeth gychwynnol i geisiadau am gostau o'r fath dim ond ar sail eithriadol, ond byddwn yn monitro goblygiadau’r costau hyn yn ofalus. Byddai hyn yn cynnwys hawlio £9,000 am bob aelwyd ddigartref sy’n dod i sylw unrhyw awdurdod lleol o fewn 6 mis i gyrraedd drwy lwybr uwch-noddwr Llywodraeth Cymru. 

Rhaid cael cytundeb i'r costau hyn ymlaen llaw ac eithrio mewn achosion o frys eithafol. Ni ellir sicrhau y cytunir iddynt ar ôl i’r awdurdod fynd i’r costau hyn.

Plant cymwys dan oed (plant nad ydynt yn teithio gyda’u rhieni neu eu gwarcheidwad cyfreithiol neu’n ymuno â nhw)

  • I blant cymwys dan oed, y tariff yw £10,500 ar gyfer pob unigolyn y flwyddyn gyntaf, a £6,100 yr ail a’r drydedd flwyddyn.
  • Gellir rhoi taliad "diolch" misol i noddwyr plant cymwys dan oed tra bydd caniatâd fisa i’r plentyn o dan Cartrefi i Wcráin (hyd at 3 blynedd). Ers 1 Hydref 2024, nid yw aelodau agos o deuluoedd plant cymwys dan oed yn gymwys i ddechrau hawlio taliadau diolch.
  • Os bydd trefniadau noddi plentyn cymwys dan oed yn dod i ben, a’r plentyn yn cael ei osod yng ngofal yr awdurdod lleol, darperir cyllid ar gyfradd o £64,150 y flwyddyn am bob plentyn dan oed tra bydd yn aros o dan fisa Cartrefi i Wcráin, pro rata, ar gyfradd wythnosol. Caiff ei dalu drwy Lywodraeth Cymru pan fydd Llywodraeth y DU yn rhoi ei chytundeb drwy’r ffurflen hawlio.
  • Pan fydd y plentyn yn gadael gofal, darperir cyllid ar gyfradd o £16,850 y flwyddyn, a hynny am bob plentyn sy’n gadael. Caiff ei dalu drwy Lywodraeth Cymru. 

Os nodir bod aelod agos o’r teulu eisoes yn lletya plentyn dan oed sydd ar ei ben ei hun yn y DU, ni ddylid ei drin fel noddwr/lletywr. Nid yw, felly, yn gymwys i hawlio taliadau diolch, ac nid yw’r awdurdod lleol yn gymwys i hawlio tariff plant cymwys dan oed.

Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin

Bydd cynllun Estyn Caniatâd Wcráin ar agor i geisiadau o 09:00 GMT ar 4 Chwefror 2025.

  • Bydd ceisiadau i Estyn Caniatâd Wcráin (ECW) yn rhad ac am ddim.
  • Efallai y bydd gwladolyn o Wcráin, neu aelod o deulu gwladolyn o Wcráin, sy’n byw yn y DU ac sydd eisoes â chaniatâd i un o gynlluniau Wcráin, yn gymwys i wneud cais am gynllun Estyn Caniatâd Wcráin i barhau i fyw yn y DU am hyd at 18 mis arall.
  • Bydd angen i unigolion cymwys wneud cais ar-lein. Os yw’r cais yn llwyddiannus, bydd yr unigolyn o Wcráin yn cael parhau i fyw, gweithio ac astudio yn y DU a hawlio arian cyhoeddus.
  • Mae rhagor o fanylion am bwy sy’n gymwys ac am y prosesau cais ar gael yn Applying to the Ukraine Permission Extension scheme

Bydd noddwyr y rhai a oedd â fisâu Cartrefi i Wcráin yn flaenorol yn gymwys am daliadau diolch o £350 y mis am y 18 mis pan fydd gan eu gwesteion fisa Estyn Caniatâd Wcráin.

Taliadau ‘diolch’ misol i’r rhai sy’n rhoi llety

Bydd awdurdodau lleol hefyd yn gweinyddu'r taliadau 'diolch' i letywyr Cartrefi i Wcráin (boed hynny'n uniongyrchol drwy'r cynllun noddi neu drwy gynllun uwch-noddwr Cymru ac maent nawr mewn trefniadau lletya). Mae Llywodraeth y DU yn talu'r cyfraddau canlynol: 

  • Tan 1 Ebrill 2025, mae noddwyr yn gymwys i gael taliadau diolch o £350 fesul aelwyd gan Lywodraeth y DU yn ystod 12 mis cyntaf gwestai yn y DU. Mae hyn yn cynyddu i £500 y mis pan fydd y gwestai wedi bod yn y DU am 12 mis.
  • Ar ôl 1 Ebrill 2025, bydd pob lletywr cymwys yn cael £350 y mis fesul aelwyd, pa mor hir bynnag y mae gwestai wedi bod yn y DU. Bydd taliadau diolch ar gael i letywyr sydd â gwesteion o dan gynllun Estyn Caniatâd Wcráin. Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau, os bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu estyn ymhellach fisa Estyn Caniatâd Wcráin, na fydd yn gallu gwneud taliadau diolch pellach.

Mae'r cyfraddau ariannu hyn yn seiliedig ar nifer y misoedd y mae'r person / teulu Wcreinaidd wedi bod yn y DU, nid ar nifer y misoedd y mae lletywr wedi'u cynnal ar eu cyfer. Daw’r arian hwn yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU i’r rhai sy’n noddi Wcreiniaid yn uniongyrchol neu drwy lwybr uwch-noddwr Llywodraeth Cymru. 

Mae canllawiau Llywodraeth y DU yn cadarnhau mai dim ond ar ôl i’r holl wiriadau diogelu ac eiddo gael eu cwblhau y caiff y taliadau eu gwneud, ac mai ôl-daliadau fyddant. 

Os bydd gwesteion yn symud allan cyn diwedd y cyfnod noddi, mae’r noddwr yn gymwys i hawlio’r taliad misol os yw’r gwestai wedi byw yn ei lety am o leiaf hanner y mis pan fydd yn gadael.  

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cytuno i ddarparu taliadau diolch i’r rhai sy’n cynnig llety ac yn noddi pobl o Wcráin a gyrhaeddodd yn wreiddiol drwy’r cynllun Teuluoedd o Wcráin ond y mae eu trefniadau gwreiddiol wedi chwalu ac maent wedi cael eu rhoi gyda theulu sy’n cynnig llety ond nad ydynt yn perthyn iddynt. Mae hyn er mwyn sicrhau nad yw’r rhai sy’n cyrraedd o dan y Cynllun Teuluoedd o Wcráin yn cael eu gadael heb gyfleoedd i gael llety. 

Felly, rhaid i ffurflenni data nodi'r achosion hyn ar wahân ar ffurflen hawlio cyllid Llywodraeth Cymru ac ni ddylid eu cynnwys yn y data er mwyn lywio'r hawliad i Lywodraeth y DU am y taliadau diolch. Os bydd awdurdod yn canfod ei fod wedi hawlio mewn camgymeriad naill ai gan Lywodraeth y DU neu gan Lywodraeth Cymru, dylid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru fel bod modd gwneud addasiadau pan fo'n briodol. Gweler casgliad data 6 isod.  

Yn unol â chanllawiau'r DU bydd amgylchiadau lle mae pobl o Wcráin (na ddaethant drwy'r cynllun Teuluoedd o Wcráin) yn cael eu hail-baru â rhywun arall sy’n cynnig llety. Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd y taliad ar gael i'r taliad eilaidd (neu drydyddol etc.). Er enghraifft, efallai y bydd y noddwr cyntaf yn cael 2 fis o daliadau nes i'r trefniant chwalu, a’r ail noddwr yn cael 14 mis o daliadau os yw'r ail leoliad yn para cyhyd.

Taliadau ychwanegol Llywodraeth Cymru i letywyr

Rydym wedi cytuno ar godiad i’r taliad "diolch" i bawb sy’n lletya gwestai yn ystod eu blwyddyn gyntaf ar ôl cyrraedd y DU, a hynny o £350 i £500 y mis. Bydd hyn yn cael ei dalu drwy'r ffurflenni hawlio cyllid chwarterol gan Lywodraeth Cymru, yn hytrach nag yn uniongyrchol o Lywodraeth y DU i awdurdodau lleol. Mae hyn yn weithredol o 1 Ebrill 2023 i 30 Mawrth 2026. 

Bydd awdurdodau lleol yn talu swm ychwanegol o £150 a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn uniongyrchol i letywyr yn ogystal â'r taliad diolch o £350 gan Lywodraeth y DU (cyfanswm o £500).  

Os yw awdurdod lleol wedi gwneud penderfyniad i gynyddu taliadau diolch, cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw ariannu unrhyw swm ychwanegol o'u cyllideb. 

I letywyr ymateb, bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y lletywr yn cael taliad diolch am y 75 diwrnod llawn o letya ymateb. Mae hyn yn gyfystyr â £500 y mis pro rata am y 75 diwrnod. Os, ar ddiwedd arhosiad y gwestai, nad yw’r taliad cyfan wedi’i dalu am y cyfnod 75 diwrnod, am fod diwrnod cyrraedd a gadael y gwestai yn golygu nad oedd y lletywr yn gymwys i gael taliad diolch safonol Llywodraeth y DU, bydd Llywodraeth Cymru yn talu’r gwahaniaeth.

Dosbarthu cyfran Cymru o’r gronfa atal digartrefedd gwerth £120 miliwn

Cafodd Cymru gyfran o £2.59 miliwn o’r Gronfa Atal Digartrefedd yn 2024 i 2025 i helpu cynghorau i fynd i’r afael â phwysau digartrefedd a chefnogi Wcreiniaid i gael llety sefydlog. Mae’r cyllid hwn wedi’i ddyrannu i awdurdodau lleol gan ddefnyddio’r fformwla a’r pwysoli canlynol: 

  • nifer cyfartalog yr unigolion digartref mewn llety dros dro dros gyfnod o 3 mis fel cyfran o’r nifer cenedlaethol, wedi’i gyfrifo fel canran
  • nifer yr Wcreiniaid sy’n byw ym mhob ardal fel cyfran o’r nifer cenedlaethol, wedi’i gyfrifo fel canran
  • nifer y ceiswyr lloches a letywyd fel cyfran o’r nifer cenedlaethol, wedi’i gyfrifo fel canran

Er bod disgwyl i’r cyllid hwn helpu awdurdodau lleol i gefnogi Wcreiniaid i gael llety sefydlog a lleihau’r risg o ddigartrefedd, nid yw’r cyllid wedi’i glustnodi i’r diben hwn, ac mae gan awdurdodau lleol y disgresiwn llawn i gefnogi grwpiau eraill sydd angen llety.

Casglu data

Mae Llywodraeth y DU yn gofyn am ffurflenni data bob chwarter. 

Mae'r ffurflenni hyn yn cynnwys nifer y rhai sy'n cyrraedd a dadansoddiad o oedrannau er mwyn llywio'r gwaith o drosglwyddo’r cyllid angenrheidiol i Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn cynnwys nifer y taliadau diolch a dalwyd o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin am y chwarter. Bydd yr olaf yn cael ei dalu'n uniongyrchol i awdurdodau lleol. 

Bydd Cenedl Noddfa: Platfform Data Wcráin yn cipio data megis cadarnhau bod eiddo ar gael, cynnal y gwiriadau ar eiddo a chwblhau’r gwiriadau sylfaenol a manylach y Gwasanaethau Datgelu a Gwahardd. Efallai y bydd angen inni gasglu data ychwanegol at ddibenion ariannu, ond dim ond yr hyn sy’n angenrheidiol a byddwn yn adolygu hyn yn rheolaidd.

Trefniadau cyllido ar gyfer arian a ddaw gan Lywodraeth Cymru

Bydd un trefniant ariannu ar gyfer yr holl wasanaethau sy'n cael eu darparu ar gyfer yr ymateb i’r argyfwng yn Wcráin. Bydd hyn yn cynnwys y prif dariff, llety cychwynnol, pobl ifanc dan oed wrth eu hunain ac unrhyw gyllid ychwanegol sydd wedi'i gymeradwyo i’w dalu. Bydd hyn drwy hawliad chwarterol mewn ôl-daliadau gan ddefnyddio taenlen hawlio. Bydd pob chwarter ariannu fel a ganlyn: 

  • Ebrill 2025 i Mehefin 2025
  • Gorffennaf 2025 i Medi 2025
  • Hydref 2025 i Rhagfyr 2025
  • Ionawr 2026 i Mawrth 2026

Gan y gall pobl o Wcráin o dan y cynlluniau hyn symud rhwng ardaloedd awdurdodau lleol, rydym yn casglu rhifau misol trwy ffurflen hawlio cyllid Llywodraeth Cymru a byddwn yn parhau i ddyrannu cyllid yn unol â hynny. Mae hyn yn golygu nad oes disgwyl i'r awdurdodau reoli'r llif hwn o arian rhyngddyn nhw'u hunain. Bydd hyn hefyd yn helpu i gysoni taliadau gyda Llywodraeth y DU i adlewyrchu'r bobl sy'n symud ar draws gwahanol rannau o'r DU. 

Bydd y categorïau a ganlyn yn cael eu hariannu drwy'r ffurflen hawlio ar gyfer y rhai o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin (noddwyr unigol Cartrefi i Wcráin neu rai drwy’r llwybr uwch-noddwr): 

  • taliad cychwynnol brys o £200
  • tariff integreiddio awdurdod lleol: yn seiliedig ar le mae Wcreiniaid yn byw, ar gyfradd o £475 fesul mis calendr.
  • taliad o £350 y mis i’r bobl sy’n rhoi llety: sail eithriadol i'r rhai sy'n gadael y cynllun Teuluoedd o Wcráin ac yn symud at rywun sy’n cynnig llety
  • plant dan oed ar eu pen eu hunain: os mewn gofal ar gyfradd pro rata wythnosol yn seiliedig ar £64,150 ar gyfer 12 mis cyntaf y plant hynny mewn gofal, os yn gadael gofal ar gyfradd sefydlog o £16,850
  • llety croeso: yn seiliedig ar gostau gwirioneddol a dalwyd gan awdurdodau lleol (Mae'r rhan fwyaf o'r trefniadau'n uniongyrchol â Llywodraeth Cymru)
  • costau ychwanegol: fel y cytunwyd arnynt gyda Llywodraeth Cymru ymlaen llaw ac eithrio mewn achosion eithriadol

Rydym yn rhagweld y bydd unrhyw ffrydiau cyllido eraill gan Lywodraeth Cymru yn cael eu darparu o fewn y trefniant hwn os yw'n briodol gwneud hynny.