Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Ar 22 Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn cyflwyno cynllun fisa a fyddai’n caniatáu i blant, nad ydynt yn teithio nac yn ymuno gyda’u rhiant (rhieni) na’u gwarcheidwad cyfreithiol, ddod i’r DU. Gallent fod yn teithio neu’n ymuno â pherthynas sy’n oedolyn, neu gallent fod yn teithio ar eu pen eu hunain, ac yn ymuno â noddwr.

Cynllun fisa ar saib dro dro

Ar 15 Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ym mhedair cenedl y DU mewn perthynas â phrosesu ceisiadau am fisâu o dan gynllun Catrefi i Wcráin a wnaed pan nad oedd llwybr fisa ar gyfer plant ar eu pen eu hunain neu blant a oedd yn dymuno teithio gyda pherthynas sy’n oedolyn nad yw'n riant nac yn warcheidwad cyfreithiol. Mae’r canllawiau a’r wybodaeth ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, ac sy’n berthnasol i’r llwybr fisa hwn, yn cynnwys canllawiau ar gyfer rhieni a gwarcheidwaid cyfreithiol, ffurflen caniatáu addasrwydd y trefniadau noddi, a chanllawiau ar gyfer noddwyr. Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhannu canllawiau atodol i ategu’r canllawiau hyn a oedd yn tynnu sylw at feysydd sy’n benodol i Gymru, nad oedd wedi’u cynnwys yng nghanllawiau Llywodraeth y DU. E-bostiwch Wcrain.Diogelu@llyw.cymru i gael copi o’r canllawiau hynny.

Proses 1

Mae'r broses o ran y cynllun fisa hwn sy'n ymwneud â rolau Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, wedi'i nodi isod.

Ar ôl i’r ffurflenni gael eu cwblhau a’u derbyn, sef ffurflenni caniatâd rhieni wedi’u notareiddio gan awdurdod yn Wcráin a ffurflenni caniatâd Llywodraeth y DU ar gyfer addasrwydd y trefniadau noddi, bydd Llywodraeth Cymru yn eu rhannu â’r awdurdodau lleol perthnasol drwy system ddiogel Objective Connect. Bydd yr awdurdodau lleol yn defnyddio’r wybodaeth honno er mwyn gallu dechrau’r gwiriadau lleol, fel yr amlinellir yn y canllawiau.

Mae newid pwysig yn y broses hon sy’n wahanol i’r broses sydd wedi bod ar waith ers mis Awst 2022. Cam 8 yw’r newid hwnnw: rhaid i awdurdodau lleol anfon e-bost i flwch negeseuon Wcrain.Diogelu@llyw.cymru Llywodraeth Cymru yn unig. Bydd y broses hon ar waith tan 31 Mawrth 2023. Bydd y canllawiau diwygiedig sy'n ymwneud â'r cam hwn o'r broses yn dilyn ym mis Ebrill.

  1. Cais a wneir gan blentyn/rhiant i’r system ymgeisio am fisa dan Gynllun Cartrefi i Wcráin. Bydd yr ymgeisydd eisoes wedi cael noddwr.
  2. Cais ar saib ers i lwybr fisa ar gyfer plant cymwys dan oed gael ei gyflwyno ym mis Gorffennaf 2022. Mae’r cais am fisa ar saib hyd nes bod camau 3 i 8 yn cael eu cwblhau.
  3. Ymgyrch bostio gan Lywodraeth y DU at ymgeiswyr (plant/eu rhieni) y mae eu cais ar saib a ydych chi'n dymuno i'ch cais fynd rhagddo? Os 'ydw', mae'r rhiant(rhieni) a'r noddwyr yn llenwi ffurflen caniatâd Llywodraeth y DU ar gyfer addasrwydd y trefniadau noddi  a ffurflen caniatâd rhieni wedi'i notareiddio gan awdurdod yn Wcráin, a'u dychwelyd i Lywodraeth y DU.
  4. Mae Llywodraeth y DU yn cynnal gwiriadau diogelwch ar y noddwr, ar aelodau o aelwyd y noddwr sydd dros 16 oed ac ar unrhyw ymwelwyr tebygol â'r aelwyd sydd dros 16 oed.
  5. Mae ffurflenni caniatâd a anfonwyd gan Lywodraeth y DU drwy Ffowndri API yn mynd i dîm data Llywodraeth Cymru.
  6. Mae ffurflenni caniatâd a anfonwyd gan dîm data Llywodraeth Cymru drwy Objective Connect yn mynd i awdurdodau lleol yr ardaloedd y mae'r noddwyr yn byw ynddynt.
  7. Mae'r awdurdodau lleol yn cynnal gwiriadau diogelu, gan gynnwys gwiriadau manylach y DBS ac archwiliadau o eiddo, yn unol â Chanllawiau Llywodraeth y DU a chanllawiau atodol Llywodraeth Cymru (e-bostiwch Wcrain.Diogelu@llyw.cymru i gael copi) ac yn asesu ffurflenni caniatâd.
  8. Yn sgil gwirio ac asesu ffurflenni caniatâd, mae'r awdurdodau lleol yn e-bostio Llywodraeth Cymru drwy Wcrain.Diogelu@llyw.cymru i grynhoi canlyniad y gwiriadau a nodi'r penderfyniad ynghylch a ddylid rhoi fisa i blentyn cymwys dan oed ai peidio. Dylai pennawd yr e-bost ddarllen fel a ganlyn 'GWFxxxxxxxxx Llywodraeth Cymru Canlyniadau Gwiriadau gan Awdurdod Lleol, Dyddiad xx/xx/xxxx' neu 'UANxxxx-xxxx-xxxx-xxxx Llywodraeth Cymru Canlyniadau Gwiriadau gan Awdurdod Lleol,  Dyddiad xx/xx/xxxx.’Dylai’r e-bost gael ei osod fel a ganlyn: Gwiriad addasrwydd llety pasio/methu/ Gwiriad addasrwydd diogelu pasio/methu/ Gwiriad manylach y DBS wedi cwblhau ac wedi pasio/yn mynd rhagddo/ Ffurflen cydsyniad rhieni wedi’i ardystio yn Wcráin wedi ei ddarparu/heb ei ddarparu/ Ffurflen cydsyniad trefniadau nawdd Llywodraeth y DU wedi ei ddarparu/heb ei ddarparu.
  9. Mae Llywodraeth y DU yn rhoi fisa/llythyr sy'n caniatáu i blentyn/plentyn a’r berthynas(au) sy'n oedolyn (oedolion) deithio.
  10. Mae'r awdurdodau lleol yn diweddaru Platfform Data Wcráin Llywodraeth Cymru er mwyn iddo dynodi bod y plentyn/plentyn a'r berthynas(au) sy'n oedolyn (oedolion) wedi manteisio ar fisa i blentyn cymwys dan oed.
  11. Mae'r rhiant a'r noddwr yn cydweithio â'r awdurdod lleol mewn perthynas â’r: cynllun teithio diogel ar gyfer y plentyn/plentyn a'r berthynas(au) sy'n oedolyn (oedolion).
  12. Mae'r awdurdodau lleol yn cynnal ymweliad yn syth ar ôl i'r plentyn/plant gyrraedd, ac archwiliadau sicrwydd cyson yn unol â threfniadau maethu preifat Cymru.
  13. Os na all y noddwr barhau, neu os yw’n amharod i barhau i gynnig llety i’r plentyn, rhaid i'r noddwr hysbysu'r awdurdod lleol a gweithio ar y cyd â’r awdurdod lleol i sicrhau trefniadau noddi/lletya amgen, neu, os bydd angen, rhaid i'r awdurdod lleol weithredu ei ddyletswyddau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.

Bydd ceisiadau a wnaed am Gynllun Uwch-noddwyr Cymru yn destun asesiad unigol, fesul achos.   

Cynllun ‘llif’ ceisiadau newydd

Ar 28 Gorffennaf 2022, cafodd y cynllun fisa ei ymestyn i wahodd ceisiadau newydd trwy gynllun noddwyr unigol Cartrefi i Wcráin. Bydd y broses ar gyfer ceisiadau ‘llif’ newydd yn wahanol i'r cynllun fisa sydd ar saib dros dro, gan ei fod yn ei gwneud yn ofynnol i'r darpar noddwr gael gwiriadau diogelu ac archwiliadau o’r eiddo yn gyntaf, cyn y gall plentyn cymwys ddechrau ei gais am fisa. Mae'r canllawiau a gyhoeddwyd ar 15 Gorffennaf wedi’u diwygio i adlewyrchu'r newid hwn. Mae canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol; canllawiau i ymgeiswyr a rhieni; canllawiau i noddwyr; a chanllawiau i weithwyr achosion.

Mae'r canllawiau atodol hyn yn nodi cyfres o ddisgwyliadau sy’n benodol i Gymru yn ychwanegol at brif ganllawiau Llywodraeth y DU. Dylid ei ddarllen ar y cyd â'r fersiwn ddiweddaraf o ganllawiau Cartrefi i Wcrain Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol a noddwyr, a'r fersiynau diweddaraf o ganllawiau Cartrefi i Wcráin ar wefan Llywodraeth y DU. 

Cynllun uwch-noddwyr

Mae Cynllun uwch-noddwyr Cymru ar gau ar gyfer ceisiadau newydd trwy’r llwybr fisa hwn.

Y Ffowndri

Mae system ddata'r Ffowndri i'w defnyddio gan awdurdodau lleol Cymru at ddibenion prosesu'r cynllun ceisiadau newydd yn unig. Mae’r Ffowndri yn system ryngweithiol o fwriad, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol hysbysu Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) pan fydd gwiriadau boddhaol wedi'u cwblhau, er mwyn i blentyn/plentyn a pherthynas(au) sy’n oedolyn (oedolion) gael eu fisa ar gyfer plant cymwys dan oed a chaniatâd i deithio.

Rydym yn gweithio i ddarparu rhaglen dreigl o hyfforddiant ar y defnydd o'r Ffowndri. Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i'r hyfforddiant hwnnw, anfonwch e-bost i Wcrain.Diogelu@llyw.cymru. Gellir gweld tudalen lanio'r Ffowndri drwy dudalen hafan Cartrefi i Wcráin: Homes for Ukraine Homepage.

Mae cofrestru fel defnyddiwr newydd yn cael ei gwblhau drwy: Register as a New User Homes for Ukraine Service Desk Service project.

Ceir canllawiau ar ofyn am fynediad a mynediad at ddata (sy'n golygu gwahanol gamau a phrosesau) drwy: Homes for Ukraine How to Access Data.

Mae gweinyddwyr Llywodraeth y DU hefyd ar gael i gynorthwyo ag ymholiadau sy'n ymwneud â chael mynediad at y Ffowndri: rcorry.ctr@palantir.com a Nicholas.Ditchburn@levellingup.gov.uk

Rydym yn cadw rhestr o gysylltiadau ar gyfer y cynllun i Blant Cymwys Dan Oed. Os ydych yn dymuno cael eich ychwanegu ati, e-bostiwch Wcrain.Diogelu@llyw.cymru.

Gwybodaeth benodol i Gymru

Fel y nodwyd, mae canllawiau Llywodraeth y DU at ei gilydd yn berthnasol i Gymru, er eu bod wedi'u drafftio ar gyfer awdurdodau lleol yn Lloegr. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau mewn perthynas â deddfwriaeth, a gwiriadau a phrosesau sy'n wahanol yng Nghymru. Amlinellir rhai o'r gwahaniaethau hynny isod, a bydd rhywfaint o’r wybodaeth hon yn ddefnyddiol mewn trafodaethau â’r rheini sy’n manteisio ar y cynllun fisa. 

Deddfwriaeth a chanllawiau:

Mae Children and Families Across Borders (CFAB) yn cynnig cyngor i awdurdodau lleol Cymru ar achosion lle mae plant a theuluoedd yn croesi ffiniau o dan Gonfensiwn yr Hag 1996. Mae CFAB yn croesawu galwadau i’w llinell gyngor mewn perthynas ag unrhyw ymholiad sy’n ymwneud â’r cynllun ar gyfer plant cymwys dan oed.

Mae CFAB hefyd wedi cytuno’n garedig i gefnogi’r cynllun yng Nghymru fel a ganlyn:

  • Gwiriadau adnabod ar blant o Wcráin ac aelodau o'r teulu, drwy ei swyddogaeth fel Awdurdod Canolog.
  • Gwirio dogfennau sy'n manylu ar bwy sydd â chyfrifoldeb rhieni dros y plant, drwy ei swyddogaeth fel Awdurdod Canolog.
  • Cymorth i noddwyr y DU, cyn i blentyn/plant o Wcráin gyrraedd a chael lleoliad, mewn perthynas â deall y trawma y gallent fod wedi'i brofi, hanfodion diwylliant Wcreinaidd, a sut i adnabod a chefnogi plant sydd angen cymorth meddyliol, emosiynol neu seicolegol.
  • Cymorth cofleidiol dros y ffôn i noddwyr a'r unigolion sy'n aros gyda nhw.
  • Dod o hyd i aelodau o'r teulu dramor a chymorth ar gyfer trefnu cadw mewn cysylltiad â’r teulu dramor.

Cymeradwyo noddwyr yng Nghymru

Yn ogystal â chanllawiau Llywodraeth y DU ar gymeradwyo noddwyr, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol Cymru gwblhau gwiriadau manylach y DBS ar bob aelod dros 16 oed ar yr aelwyd sy’n noddi ni waeth a yw'r sawl sy’n croesawu unigolyn yn berthynas neu’n berson hysbys arall. Mae hyn yn unol â gofynion Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018 a'r bwriad yw darparu lefel ychwanegol o ddiogelu i'r broses gymeradwyo.

Asesu addasrwydd y trefniadau noddi

Mae adran asesu addasrwydd y trefniadau noddi yn nghanllawiau Llywodraeth y DU yn rhoi’r cyd-destun i rai o'r cymhlethdodau sydd i'w hystyried cyn y gall awdurdodau lleol benderfynu cefnogi’r nawdd neu roi feto arno. Dylai’r asesiadau ar addasrwydd gael eu cynnal gan weithwyr cymdeithasol cofrestredig.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Chodau, Rheoliadau a chanllawiau cysylltiedig, yn tynnu sylw at bwysigrwydd creu a chynnal cofnodion, gan gynnwys cynlluniau'n ymwneud â phlant. Er bod y rheoliadau maethu preifat yn darparu'r sail ddeddfwriaethol fwyaf priodol ar gyfer nawdd o dan y cynllun hwn, gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r fframweithiau fel y nodir yn Rhannau 3, 4 a 6 o Ddeddf 2014 ar gyfer pob cais ar y sail bod plant sydd wedi'u dadleoli o Wcráin ac sy’n teithio heb riant neu warcheidwad cyfreithiol yn agored i niwed. Felly, dylid eu hystyried fel plant sydd ag anghenion gofal a chymorth neu blant ag anghenion cymorth.

Mewn perthynas â'r gofyniad o ran 'noddwr hysbys' a gallu awdurdodau lleol i arfer disgresiwn mewn 'amgylchiadau eithriadol', rydym yn argymell bod gweithwyr cymdeithasol yn ystyried lleoliad cartref y plentyn. Er bod Wcráin fel cenedl mewn rhyfel, mae rhai rhanbarthau yn cael eu taro'n gyson neu'n rheolaidd ac yn fwy cyffredinol mewn perygl. Ar adeg ysgrifennu'r nodyn hwn, y dwyrain (o Kharkiv, Luhansk, Donetsk a Dnipro yn y gogledd-ddwyrain a’r dwyrain) ac yna tua'r gorllewin ar draws y de (o Mariupol, i Zaporizhzhia, Mykolaiv, Kherson ac Odesa) yw'r ardaloedd lle mae pobl mewn mwy o berygl bywyd. Mae'r brifddinas, Kyiv, hefyd yn destun cyrchoedd bomio rheolaidd.

Elfen bwysig o'r asesiad o addasrwydd y trefniadau noddi yw gwneud trefniadau i'r plentyn/plentyn a pherthynas(au) sy'n oedolyn (oedolion) gael taith ddiogel. Mae templed ar gyfer cynllun teithio diogel ar gael, a'i fwriad yw rhoi sicrwydd i'r noddwr, i’r awdurdodau lleol ac i'r plentyn sy'n teithio.

Mae taith ddiogel plant yn gwbl ddibynnol arnynt yn cael eu cyfarfod ar unwaith a'u cefnogi i gyrraedd eu cyrchfan gan eu noddwr; a chynrychiolydd o’r awdurdod lleol, os ystyrir bod hynny’n briodol. Dylai'r noddwr gadarnhau bod y plentyn neu’r berson ifanc wedi cyrraedd yn ddiogel cyn gynted ag y bo'n ymarferol i wneud hynny, ac o leiaf o fewn 24 awr. Pan fydd hyn yn digwydd y tu allan i oriau busnes neu dros benwythnos, dylai’r awdurdod lleol ddilyn gweithdrefnau sydd eisoes yn bodoli, er enghraifft drwy sicrhau bod gan y noddwr y manylion cyswllt ar gyfer y gwasanaeth cymdeithasol i blant ar ddyletswydd neu’r gwasanaeth y tu allan i oriau.

Dylai cynrychiolwyr o’r awdurdod lleol ymweld â'r plentyn a'i noddwr yn y cartref o fewn 24 awr neu cyn gynted â phosibl os bydd y plentyn yn cyrraedd dros y penwythnos.

Cymorth ar ôl cyrraedd a gwiriadau cyson

Mae plant sy'n teithio drwy'r llwybr hwn yn debygol o fod wedi profi trawma o ganlyniad iddynt fod wedi’u gwahanu oddi wrth eu rhiant neu eu gwarcheidwad cyfreithiol, ac o ganlyniad i sgil-effaith byw mewn amgylchedd dan straen rhyfel. Mae eu hanghenion a'u hanesion unigol hefyd wedi dylanwadu ar eu datblygiad. Bydd gallu noddwyr i ddiwallu anghenion eu gwestai ifanc yn dod yn gliriach ar ôl iddynt gyrraedd, ac yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, o ran a ydynt wedi cyrraedd yng nghwmni perthynas sy’n oedolyn ai peidio. Mae hyn yn golygu y bydd angen gwahanol fathau a lefelau o gymorth, arweiniad a chyngor ar bob trefniant.

Mae gan blant hawl statudol i gael eiriolaeth drwy Ddeddf 2014. Gellir cynnig eiriolaeth 'cynnig gweithredol' i blant nad ydynt yn derbyn gofal, ond a all fod ag anghenion gofal a chymorth (Deddf 2014, Rhannau 3 a 4) yn unol â Fframwaith Safonau a Chanlyniadau Cenedlaethol yr Eiriolaeth Proffesiynol Annibynol ar gyfer Gwasanaethau Eirioli i Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru. Nid oes gan blant yng Nghymru system ar gyfer Gwarcheidiaeth ar hyn o bryd. Felly, os yw'r plentyn i gael yr un hawliau o dan CCUHP â phlant eraill yng Nghymru, mae’n hanfodol bod gweithwyr cymdeithasol yn gwneud atgyfeiriadau at wasanaethau eirioli ac, os bydd angen, fod yr eiriolwr yn defnyddio gwasanaethau cyfieithu ar y pryd.

Penderfyniad i roi plentyn dan ofal awdurdod lleol

Pan fydd awdurdod lleol o'r farn ei bod er budd gorau'r plentyn i ddiogelu eu lles a darparu llety i'r plentyn, mae hyn yn debygol o fod o dan adran 76(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Pan fydd unrhyw blentyn sy'n cyrraedd Cymru o dan y llwybr fisa hwn yn derbyn gofal, rhaid i’r awdurdod lleol wneud hysbysiad uniongyrchol i Lysgenhadaeth Wcráin trwy consul_gb@mfa.gov.ua. Dylid anfon copi o’r hysbysiad hefyd i Lywodraeth Cymru drwy Wcrain.Diogelu@llyw.cymru

Pan fydd awdurdod lleol wedi penderfynu bod angen i blentyn dderbyn gofal, mae Llywodraeth y DU yn darparu cyllid i gefnogi'r lleoliadau hynny ac i gefnogi’r plant hynny sy’n gadael gofal.

Rydym hefyd wedi sicrhau cytundeb gan Lywodraeth y DU y gellir talu'r swm sy'n ymwneud â phlant sy'n cael eu rhoi mewn gofal oherwydd bod y trefniadau noddi’n dod i ben os bydd asesiad gwaith cymdeithasol yn ystyried bod rhoi’r plentyn mewn gofal er ei fudd gorau.

Proses 2

Mae'r broses hon o'r cynllun fisa, sy’n ymwneud â rolau Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, wedi'i nodi isod:

  1. Mae noddwr yn llenwi ffurflen gais ar-lein i ddangos ei fod am roi llety i blentyn/plentyn a pherthynas(au) sy'n oedolyn (oedolion).
  2. Mae’r rhiant (rhieni) a’r noddwr yn llenwi ffurflen caniatâd rhieni/noddwyr Llywodraeth y DU ar gyfer addasrwydd y trefniadau noddi a ffurflen caniatâd rhieni wedi’i notareiddio gan awdurdod yn Wcráin, a’u dychwelyd i Lywodraeth y DU i’w lanlwytho i’r Ffowndri.
  3. Mae'r awdurdodau lleol yn cynnal gwiriadau diogelu, gan gynnwys gwiriadau manylach y DBS ac archwiliadau o eiddo, ac yn asesu ffurflenni caniatâd ar y Ffowndri. Os cânt eu cymeradwyo, mae'r awdurdod lleol yn diweddaru'r Ffowndri ac yn darparu 'Cod Ardystio Noddwr' (CERT) i'r noddwr. Os cânt eu gwrthod, mae'r awdurdod lleol yn diweddaru'r Ffowndri, ac mae Llywodraeth y DU yn hysbysu'r noddwr am y penderfyniad a'r rheswm.
  4. Ar yr un pryd â cham 3: mae Llywodraeth y DU yn cynnal gwiriadau diogelu ar y noddwr, aelodau ar aelwyd y noddwr sydd dros 16 oed ac unrhyw ymwelwyr tebygol â’r aelwyd sydd dros 16 oed. Os cânt eu cymeradwyo, mae Llywodraeth y DU yn diweddaru’r Ffowndri. Os cânt eu gwrthod, mae Llywodraeth y DU y diweddaru’r Ffowndri ac yn hysbysu’r noddwr am y penderfyniad a’r rheswm.
  5. Mae’r plentyn / plentyn a’r berthynas(au) sy’n oedolyn (oedolion) yn defnyddio’r CERT i gwblhau’r broses i wneud cais am fisa ar gyfer plentyn cymwys dan oed.
  6. Mae Llywodraeth y DU yn rhoi fisa/llythyr sy’n caniatáu i’r plentyn/plentyn a’r berthynas(au) sy’n oedolyn (oedolion) deithio.
  7. Mae'r rhiant a'r noddwr yn cydweithio â'r awdurdod lleol mewn perthynas â’r: cynllun teithio diogel ar gyfer y plentyn/plentyn a'r berthynas(au) sy'n oedolyn (oedolion).
  8. Ar ôl i’r wybodaeth gael ei phrosesu drwy’r Ffowndri, Mae'r awdurdodau lleol yn diweddaru Platfform Data Wcráin Llywodraeth Cymru er mwyn iddo nodi bod y plentyn/plentyn a'r berthynas(au) sy'n oedolyn (oedolion) wedi manteisio ar fisa i blentyn cymwys dan oed.
  9. Mae'r awdurdodau lleol yn cynnal ymweliad yn syth ar ôl i'r plentyn/plant gyrraedd, ac archwiliadau sicrwydd cyson yn unol â threfniadau maethu preifat Cymru.
  10. Os na all y noddwr barhau, neu os yw’n amharod i barhau, i gynnig llety i’r plentyn, rhaid i'r noddwr hysbysu'r awdurdod lleol a gweithio ar y cyd â’r awdurdod lleol i sicrhau trefniadau noddi/lletya amgen, neu, os bydd angen, rhaid i'r awdurdod lleol weithredu ei ddyletswyddau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Os bydd y dyletswyddau hynny’n cael eu gweithredu, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i Lysgenhadaeth Wcráin drwy consul_gb@mfa.gov.ua ac anfon copi o’r ohebiaeth honno i Wcrain.Diogelu@llyw.cymru

Cyllid

Telir tariff misol o £10,500 i awdurdodau lleol sydd â noddwyr sy’n rhoi llety i blant cymwys dan oed, a bydd hwnnw'n parhau i gael ei dalu tan 2023 i 2024. Yn ogystal, mae Llywodraeth y DU wedi cynyddu ei daliad diolch misol i noddwyr sy’n rhoi llety i blant cymwys dan oed. Ym mlwyddyn gyntaf arhosiad y plentyn, bydd y noddwr yn gymwys i gael taliad diolch o £350 y mis. Yn ail flwyddyn arhosiad y plentyn bydd y swm hwnnw'n codi i £500 y mis. Mae lefel y taliad diolch yn nhrydedd flwyddyn arhosiad y plentyn yn cael ei adolygu a chaiff ei gadarnhau yn ddiweddarach.

Mae disgwyl i noddwyr roi llety i blant am dair blynedd gyfan y cyfnod y caniateir i'r plant aros yn y DU (neu hyd nes eu bod yn troi'n 18 oed ac wedi bod yn y DU am o leiaf 6 mis - yn unol â chynllun ehangach Cartrefi i Wcráin). Mae gan noddwyr sy'n rhoi llety i blant yr hawl i daliadau diolch am y tair blynedd gyfan, neu tan i'r plentyn droi'n 18 oed (ac felly nid yw'n cael ei ystyried yn 'blentyn cymwys dan oed' mwyach) ac mae'r noddwr wedi cynnig llety i'r plentyn am 24 mis.   

Ceir rhagor o wybodaeth am gymorth ariannol yma.

Cyngor a chymorth ychwanegol

Gallai’r dolenni canlynol fod yn ddefnyddiol i’r awdurdodau lleol:

Canllawiau ynghylch plant yng Nghymru sydd y tu allan i’r cynllun ar gyfer plant cymwys dan oed

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol mewn perthynas â phlant sy’n cael eu gadael gyda noddwyr pan fydd rhiant(rhieni) yn dychwelyd i Wcráin; plant a gyrhaeddodd cyn i’r llwybr fisa ar gyfer plant cymwys dan oed gael ei gyflwyno; a phlant a oedd wedi gwneud cais gyda’u rhiant (rhieni) neu berthynas(au) sy’n oedolyn (oedolion) i ddod i'r DU, ond wedyn a deithiodd a chyrraedd ar eu pennau eu hunain. Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol yng Nghymru hefyd. Tynnir eich sylw hefyd at ganllawiau newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer rhieni a pherthnasau sy'n oedolion ac i noddwyr mewn perthynas ag awdurdodau lleol sy'n gofyn am hysbysiad gan rieni a pherthnasau sy'n oedolion o unrhyw fwriad i adael y plant y byddent yn teithio i Gymru gyda nhw, gyda noddwyr. Hefyd, i noddwyr roi gwybod i'r awdurdod lleol os yw plentyn wedi cael ei adael gyda nhw. Rhaid i awdurdodau lleol hysbysu’r rhieni a’r perthynasau am y risgiau a goblygiadau hynny, yn enwedig mewn perthynas â’r dyletswyddau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.

Proses 3

Mae'r broses hon, sy'n ymwneud â rolau Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, wedi'u nodi isod. Fel gyda'r cynllun 'llif' ar gyfer ceisiadau newydd, mae angen i awdurdodau lleol ddefnyddio'r Ffowndri (a chopi hefyd i Lywodraeth Cymru) o dan yr amgylchiadau hyn:

  1. Mae'r awdurdod lleol yn hysbysu Llywodraeth y DU drwy arwydd ailddosbarthu ar y Ffowndri ac yn hysbysu Llywodraeth Cymru drwy e-bostio Wcrain.Diogelu@llyw.cymru am blentyn a adawyd gyda noddwr.
  2. Mae’r awdurdodau lleol yn dilyn Canllawiau Llywodraeth y DU gan gynnwys llenwi ffurflen caniatâd Llywodraeth y DU ar addasrwydd y trefniadau noddi, cynnal gwiriadau diogelu sy’n cynnwys gwiriadau manylach y DBS ac archwiliadau o eiddo, a chael sicrwydd bod y noddwr yn deall ei rôl/ei ddyletswyddau gwahanol ac uwch mewn perthynas â gofalu am blentyn ar ei ben ei hunan.
  3. Nid oes angen caniatâd rhieni sydd wedi'i notareiddio gan awdurdod yn Wcráin, ond dylai pob ymdrech gael ei wneud gan yr awdurdod lleol i gysylltu â'r rhiant(rhieni). Os na ellir cysylltu a'r rhiant (rhieni), dylai'r awdurdod lleol gysylltu â consul_gb@mfa.gov.ua i gael cymorth.
  4. Mae’r awdurdodau lleol yn cynnal archwiliadau sicrwydd rheolaidd yn unol â threfniadau maethu preifat yn Nghymru.
  5. Os na all y noddwr barhau, neu os yw’n amharod i barhau, i gynnig llety i’r plentyn, rhaid i'r noddwr hysbysu'r awdurdod lleol a gweithio ar y cyd â’r awdurdod lleol i sicrhau trefniadau noddi/lletya amgen, neu, os bydd angen, rhaid i'r awdurdod lleol weithredu ei ddyletswyddau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Os bydd y dyletswyddau hynny’n cael eu gweithredu, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i Lysgenhadaeth Wcráin drwy consul_gb@mfa.gov.ua ac anfon copi o’r ohebiaeth honno i Wcrain.Diogelu@llyw.cymru

Bwriedir i Blatfform Data Wcráin Llywodraeth Cymru gael ei ddiweddaru i gynnwys arwydd y gall awdurdodau lleol eu defnyddio i adnabod unigolyn fel plentyn ar ei ben ei hunan ym mhob un o'r Prosesau hyn. Byddwn yn eich hysbysu pan fydd yr arwydd hwnnw ar-lein, a byddwn yn diweddaru siartiau llif y prosesau hyn yn sgil hynny.

Plant yn symud i ardal awdurdod lleol gwahanol

Pan fydd plentyn cymwys dan oed neu blentyn yng Nghymru y tu allan i'r cynllun ar gyfer Plant Cymwys Dan Oed yn symud i ardal awdurdod lleol gwahanol, mae angen diweddaru system y Ffowndri

Cwestiynau Cyffredin

Mae awdurdodau lleol wedi cysylltu â ni am arweiniad mewn perthynas â'r senarios gweithredol canlynol:

Senario: Buddiolwyr Cynllun Noddwyr Unigol Cartrefi i Wcráin

Mae rhiant neu berthynas sy'n oedolyn yn gadael plentyn gyda noddwr am gyfnod byr gyda chaniatâd y noddwr. Yna mae'r rhiant neu'r berthynas sy'n oedolyn yn dod yn ôl am gyfnod byr cyn dychwelyd i Wcráin, ac yn gofyn i'r noddwr ofalu am y plentyn am gyfnod amhenodol. A ydy statws fisa'r plentyn sy'n aros yn newid?

Ymateb

Cyfrifoldeb rhieni/perthynasau sy'n oedolion a noddwyr yw hysbysu'r awdurdod lleol am y sefyllfa a cheisio cymorth.

Nid yw statws y fisa yn newid i blentyn sydd wedi dod i'r DU drwy gynllun Cartrefi i Wcráin. Mae'r plentyn yn aros ar yr un fisa ac yn dal i gael caniatâd i aros am dair blynedd. Mae angen i awdurdodau lleol ailddosbarthu'r achos ar Blatfform Data Wcráin Llywodraeth Cymru er mwyn dynodi bod y plentyn yn blentyn dan oed ar ei ben ei hunan. Disgwylir i awdurdodau lleol hefyd gynnal gwiriadau diogelu yn ôl-weithredol.

Senario: Buddiolwyr Cynllun Uwch-noddwyr Cartrefi i Wcráin

Oherwydd pryderon diogelu, ni all rhiant/perthynas sy'n oedolyn ofalu am eu plentyn(plant) mwyach, neu oherwydd absenoldebau aml a/neu hir, mae plentyn yn cael ei adael ar ei ben ei hunan mewn Canolfan Groeso/Llety Cychwynnol. Ni all y plentyn aros ar ei ben ei hunan mewn Canolfan Groeso/Llety Cychwynnol ond mae angen rhoi llety iddo. A ydy statws fisa'r plentyn yn newid?

Ymateb

Rhaid i staff y Ganolfan Groeso/Llety Cychwynnol gael gwybod am y sefyllfa gan y rhiant. Yn y lle cyntaf, dylai'r staff weithio gyda'r awdurdod lleol, y rhiant/y berthynas sy'n oedolyn a'r plentyn i ddod o hyd i drefniadau noddi eraill drwy drefniadau lletya Llywodraeth Cymru. Os na ellir paru noddwr yn y modd hwnnw, bydd angen i staff weithio gyda'r awdurdod lleol i weithredu'r trefniadau priodol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a dod o hyd i ofal a chymorth addas (maethu neu lety â chymorth, yn dibynnu ar yr hyn sydd er budd gorau'r plentyn).

Nid yw statws y fisa yn newid i blentyn sydd wedi dod i'r DU drwy gynllun Cartrefi i Wcráin. Mae'r plentyn yn aros ar yr un fisa ac yn dal i gael caniatâd i aros am dair blynedd. Mae angen i awdurdodau lleol ailddosbarthu'r achos ar Blatfform Data Wcráin Llywodraeth Cymru er mwyn dynodi bod y plentyn yn blentyn dan oed ar ei ben ei hunan. Disgwylir i awdurdodau lleol hefyd gynnal gwiriadau diogelu yn ôl-weithredol.

Senario: Buddiolwyr Cynllun Noddwyr Unigol Cartrefi i Wcráin a buddiolwyr Cynllun Uwch-noddwyr Cartrefi i Wcráin

Mae perthynas sy'n oedolyn ac sy'n byw yng Nghymru yn dymuno i blentyn sy'n perthyn iddo ymuno â nhw yng Nghymru. Mae'r plentyn hwnnw yn byw naill ai yn Wcráin neu mewn gwlad Ewropeaidd arall lle mae fisas wedi cael eu hepgor.

Ymateb

Os nad yw'r plentyn yn teithio gyda rhiant neu warcheidwad cyfreithiol neu'n ymuno â'r naill neu'r llall yn y DU, yna byddai angen i’r plentyn wneud cais am fisa ar gyfer plant cymwys dan oed, a darparu'r dogfennau perthnasol sy'n dangos cydsyniad rhiant (rhieni).

Os yw'r berthynas sy'n oedolyn yn y DU y mae'r plentyn yn dod i aros gydag ef/hi hefyd yn warcheidwad cyfreithiol i'r plentyn (a byddai gorchymyn llys yn cadarnhau hynny), yna gallant wneud cais am fisa dan gynllun Cartrefi i Wcráin.

Os yw'r berthynas sy'n oedolyn yn y DU yn bodloni'r meini prawf mewnfudo/caniatâd i aros perthnasol (e.e. mae gan yr unigolyn Statws Preswylwyr Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ac nad yw dan gynllun fisa Cartrefi i Wcráin), efallai y bydd y plentyn yn gallu teithio drwy’r Cynllun Teuluoedd o Wcráin.

Gallwch gysylltu â Wcrain.Diogelu@llyw.cymru os hoffech gael cyngor pellach ar unrhyw senarios eraill.