Neidio i'r prif gynnwy

Rydyn ni'n cynnig y dylid ei gwneud yn orfodol, o 6 Ebrill 2024, i fusnesau a sefydliadau sector cyhoeddus a thrydydd sector ddidoli eu gwastraff ar gyfer ailgylchu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheoliadau newydd a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob busnes a sefydliad sector cyhoeddus a thrydydd sector yng Nghymru ddidoli deunyddiau ailgylchadwy, yn yr un modd ag y mae'r rhan fwyaf o gartrefi yn gwneud nawr. Bydd hyn yn gwella maint ac ansawdd y gwastraff rydyn ni'n ei gasglu.

Ymgynghoriadau

Cynhaliwyd dau ymgynghoriad:

Bu'r ymgynghoriadau hyn yn dilyn dau ymgynghoriad blaenorol ar y polisi hwn yn 2013 – 2014 a 2019.

Ar bwy mae'r newidiadau arfaethedig yn effeithio

Bydd y gofynion cyfreithiol i ddidoli gwastraff yn effeithio ar y canlynol:

  1. Safleoedd busnesau a sefydliadau sector cyhoeddus a thrydydd sector (a elwir yn eiddo annomestig) – bydd rhaid iddyn nhw ddidoli eu gwastraff cyn iddo gael ei gasglu
  2. y rhai sy'n casglu'r gwastraff, neu'n trefnu i'r gwastraff gael ei gasglu
  3. y rhai sy'n casglu, derbyn, cadw, trin neu gludo gwastraff – bydd rhaid iddyn nhw gadw'r gwastraff ar wahân i fathau eraill o wastraff neu sylweddau

Pa wastraff mae angen ei ddidoli cyn ei gasglu

O 6 Ebrill 2024 cynigir bod y deunyddiau canlynol yn cael eu didoli cyn iddyn nhw gael eu casglu, ac yn cael eu casglu ar wahân:

  1. bwyd a gynhyrchir gan eiddo sy'n cynhyrchu 5kg a mwy o wastraff bwyd yr wythnos
  2. papur a chardfwrdd
  3. gwydr
  4. metel, plastig, a chartonau a phecynnu cyfansawdd ffeibr-plastig eraill o gyfansoddiad tebyg
  5. cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) heb ei werthu)
  6. tecstilau heb eu gwerthu

Bydd y canlynol hefyd yn cael eu gwahardd:

  • Taflu gwastraff bwyd i garthffosydd
  • Gwastraff a gesglir ar wahân yn mynd i losgi planhigion a thirlenwi a gwahardd yr holl wastraff pren yn mynd i safleoedd tirlenwi

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rheoleiddio'r gofynion ar gyfer didoli gwastraff a'r gwaharddiad ar anfon gwastraff i safleoedd llosgi a safleoedd tirlenwi. Bydd Awdurdodau Lleol yn rheoleiddio'r gwaharddiad ar daflu gwastraff bwyd i garthffosydd o safleoedd annomestig.

Pam rydyn ni'n cyflwyno'r newidiadau hyn

Nid yn unig mae'r newidiadau hyn yn canolbwyntio ar wella maint ac ansawdd yr hyn sy'n cael ei ailgylchu, ond maen nhw hefyd yn hanfodol er mwyn cyflawni ymrwymiad Cymru i sicrhau dim gwastraff a lleihau ein hallyriadau carbon erbyn 2050.

Y nod yw ailddefnyddio deunyddiau cynifer o weithiau ag y bo modd – rhywbeth a fydd yn darparu manteision economaidd sylweddol. Gyda chost deunyddiau’n codi, bydd cadw deunyddiau o ansawdd uchel mewn modd mwy effeithiol, fel y gallan nhw fynd yn ôl i'r economi a chefnogi ein cadwyni cyflenwi, yn sicrhau arbedion – er enghraifft drwy osgoi treth dirlenwi a chreu cyfleoedd ar gyfer swyddi.

Mae'r Rheoliadau'n gweithredu nifer o gamau i gynyddu ansawdd a lefel yr ailgylchu sydd wedi'u cynnwys yn Strategaeth Economi Gylchol Llywodraeth Cymru, 'Mwy Nag Ailgylchu, Strategaeth i wneud economi gylchol Cymru yn realiti'

Cymorth ar gyfer busnesau

Gallwch wylio'r fideo hon lle mae arbenigwyr yn egluro beth bydd y newidiadau'n ei olygu ar gyfer busnesau a sut y gallan nhw baratoi.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y ffordd mae busnesau a sefydliadau sector cyhoeddus a thrydydd sector yn didoli eu deunyddiau gwastraff i'w hailgylchu ac yn rheoli eu casgliadau, cysylltu â ni:

E-bost:  YmgyngoriadauDiwygiadauAilgylchu@llyw.cymru 

Drwy'r post:

Yr Is-adran Effeithlonrwydd Adnoddau ac Economi Gylchol
Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron
Caerdydd,
CF10 3NQ.