Neidio i'r prif gynnwy

Rydyn ni'n cynnig y dylid ei gwneud yn orfodol, o 6 Ebrill 2024, i bob gweithle ddidoli eu gwastraff ar gyfer ailgylchu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheoliadau newydd a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle ddidoli deunyddiau ailgylchadwy, yn yr un modd ag y mae'r rhan fwyaf o gartrefi yn gwneud nawr. Bydd hyn yn gwella maint ac ansawdd y gwastraff rydyn ni'n ei gasglu.

Ar bwy mae'r newidiadau yn effeithio

Bydd y gofynion cyfreithiol i ddidoli gwastraff yn effeithio ar y canlynol:

  1. Pob gweithle (busnesau, sefydliadau sector cyhoeddus a thrydydd sector) 
  2. y rhai sy'n casglu'r gwastraff, neu'n trefnu i'r gwastraff gael ei gasglu
  3. y rhai sy'n casglu, derbyn, cadw, trin neu gludo gwastraff – bydd rhaid iddyn nhw gadw'r gwastraff ar wahân i fathau eraill o wastraff neu sylweddau

Pa wastraff mae angen ei ddidoli cyn ei gasglu

Bydd angen didoli’r deunyddiau canlynol cyn iddyn nhw gael eu casglu, a’u casglu ar wahân: 

  1. bwyd ar gyfer eiddo sy'n cynhyrchu 5kg a mwy o wastraff bwyd yr wythnos
  2. papur a chardfwrdd
  3. gwydr
  4. metel, plastig, a chartonau a phecynnu cyfansawdd ffeibr-plastig eraill o gyfansoddiad tebyg
  5. cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) heb ei werthu 
  6. tecstilau heb eu gwerthu

Bydd y canlynol hefyd yn cael eu gwahardd:

  • Taflu gwastraff bwyd i garthffosydd
  • Anfon rhai mathau o wastraff a gesglir ar wahân a phob math o wastraff pren i safleoedd llosgi a safleoedd tirlenwi

Sut gallwch chi baratoi

Os ydych chi’n weithle:

  1. Edrychwch ar y gwastraff rydych yn ei gynhyrchu a dewiswch y gwasanaeth cywir gan eich contractwr gwastraff. 
  2. Ystyriwch a oes angen prynu biniau newydd, neu fwy o finiau. 
  3. Meddyliwch am sut i hyfforddi eich staff ac egluro’r newidiadau wrth ymwelwyr neu’r rhai sy’n defnyddio’ch eiddo. 

Os ydych yn gasglwr gwastraff:

  1. Dechreuwch gyfathrebu gyda’ch cwsmeriaid am y newidiadau arfaethedig.
  2. Ystyriwch yr angen i gaffael mwy o finiau neu brynu biniau newydd. 
  3. Meddyliwch am sut i hyfforddi eich staff i baratoi cwsmeriaid ar gyfer y newidiadau. 

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rheoleiddio'r gofynion ar gyfer didoli gwastraff a'r gwaharddiad ar anfon gwastraff i safleoedd llosgi a safleoedd tirlenwi. Bydd Awdurdodau Lleol yn rheoleiddio'r gwaharddiad ar daflu gwastraff bwyd i garthffosydd o safleoedd annomestig. 

Bydd yn dod yn gyfraith o 6 Ebrill 2024 ymlaen, yn amodol ar ewyllys y Senedd, ac os na fyddwch yn cydymffurfio gallech wynebu dirwy. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdodau Lleol yn helpu gweithleoedd i gydymffurfio a rheoli gwastraff yn y ffordd gywir.

Pam rydyn ni'n cyflwyno'r newidiadau hyn

Nid yn unig mae'r newidiadau hyn yn canolbwyntio ar wella maint ac ansawdd yr hyn sy'n cael ei ailgylchu, ond maen nhw hefyd yn hanfodol er mwyn cyflawni ymrwymiad Cymru i sicrhau dim gwastraff a lleihau ein hallyriadau carbon erbyn 2050. 

Y nod yw ailddefnyddio deunyddiau cynifer o weithiau ag y bo modd – rhywbeth a fydd yn darparu manteision economaidd sylweddol. Gyda chost deunyddiau’n codi, bydd cadw deunyddiau o ansawdd uchel mewn modd mwy effeithiol, fel y gallan nhw fynd yn ôl i'r economi a chefnogi ein cadwyni cyflenwi, yn sicrhau arbedion. Er enghraifft, drwy osgoi treth dirlenwi a chreu cyfleoedd ar gyfer swyddi. 

Mae'r Rheoliadau'n gweithredu nifer o gamau i gynyddu ansawdd a lefel yr ailgylchu sydd wedi'u cynnwys yn Strategaeth Economi Gylchol Llywodraeth Cymru, 'Mwy Nag Ailgylchu, Strategaeth i wneud economi gylchol Cymru yn realiti'.

Ymgynghoriadau

Fe wnaethon ni gynnal dau ymgynghoriad:

Mae'r ymgynghoriadau hyn yn dilyn dau ymgynghoriad blaenorol ar y polisi hwn yn 2013 – 2014 a 2019.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y newidiadau arfaethedig i sut mae gweithleoedd yn didoli eu deunyddiau gwastraff i'w hailgylchu ac yn rheoli eu casgliadau, cysylltwch â ni:

E-bost:  AilgylchuYnYGweithle@llyw.cymru 

Drwy'r post:

Yr Is-adran Effeithlonrwydd Adnoddau ac Economi Gylchol
Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron
Caerdydd,
CF10 3NQ.