Neidio i'r prif gynnwy

Rhagymadrodd

Diben y nodiadau hyn yw helpu awdurdodau i gyfrifo ffurflen NDR1 sy’n nodi eu cyfraniad ardrethu annomestig dros dro ar gyfer 2024 to 2025.

Mae’r cyfeiriadau a wneir at “y Ddeddf” yn y nodiadau hyn yn cyfeirio at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, fel y’i diwygiwyd. O dan baragraff 5(2) o Atodlen 8 i’r Ddeddf, mae’n ofynnol i awdurdodau gyfrifo swm eu cyfraniad ardrethu annomestig dros dro ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol, erbyn yr adeg a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru. Ar gyfer 2024 to 2025, mae’n rhaid cyfrifo swm y cyfrifiad dros dro a hysbysu Gweinidogion Cymru o’r swm hwn erbyn 23 Chwefror 2024.

Mae’r cyfeiriadau a wneir at “y Rheoliadau” yn y nodiadau hyn yn cyfeirio at Reoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (OS 1992/3238), fel y’u diwygiwyd yn ddiweddarach.

Mae paragraff 5(3) o Atodlen 8 i Ddeddf 1988 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud eu cyfrifiad eu hunain o’r swm dros dro os na fydd yr awdurdod yn eu hysbysu o’r swm erbyn y dyddiad a nodwyd neu os cred Gweinidogion Cymru nad yw’r swm a hysbyswyd wedi’i gyfrifo yn unol â’r Rheoliadau. Os bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfrifiad o’r fath, mae’n rhaid iddynt hysbysu’r awdurdod o’u rhesymau dros wneud hynny a’r swm a gyfrifwyd. Er mwyn i Weinidogion Cymru allu penderfynu pa un a ddylent weithredu’r pŵer hwn neu beidio, mae’n ofynnol i’r awdurdodau, o dan adran 139A o’r Ddeddf, ddarparu gwybodaeth sy’n berthnasol i gyfrifo’r swm dros dro, mewn modd ac ar ffurf a nodir gan Weinidogion Cymru. Y ffurflen honno yw’r NDR1.

At ddibenion cyfrifo’r swm dros dro, noda’r Rheoliadau y tybir y bydd y canlynol yn ddim:

  • symiau sy’n daladwy ar gyfer blwyddyn ariannol flaenorol na roddwyd ystyriaeth iddynt mewn cyfrifon alldro blwyddyn ariannol flaenorol
  • symiau’r rhyddhad caledi a fydd yn cael eu rhoi yn ystod 2024 to 2025 o dan adran 49 o’r Ddeddf
  • symiau’r llog sy’n daladwy gan yr awdurdod yn ystod 2024 to 2025 (rhoddir ystyriaeth i’r rhain yn y ffactor hydwythedd)

Yn ogystal, rhagdybir y bydd y canlynol yn ddim:

  • symiau sydd wedi, neu a fydd yn cael eu gohirio yn ystod 2024 to 2025, o ganlyniad i gytundebau a wnaethpwyd â threthdalwyr o dan reoliad 5 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) (Diwygio a Darpariaethau Amrywiol) 1991 (OS 1991/141)
  • addasiadau ar gyfer symiau a gynhwyswyd ar gam mewn cyfrifon alldro blynyddoedd blaenorol

Gwybodaeth ragarweiniol

Yn llinell 1, nodwch nifer yr hereditamentau a ddangoswyd yn y rhestr ardrethu annomestig lleol ar gyfer ardal yr awdurdod ar 31 Rhagfyr 2023.

Yn llinell 2, nodwch y gwerth ardrethol cyfanredol yn y rhestr ar gyfer ardal yr awdurdod ar 31 Rhagfyr 2023.

Arenillion ardrethu gros a gyfrifwyd 

Mae Llinell 3 yn faes a gyfrifir. Yr arenillion ardrethu gros yw hyn a gaiff ei gyfrifo trwy luosi’r swm a nodwyd ar linell 2 â’r lluosydd ardrethu annomestig arfaethedig ar gyfer 2024 ro 2025 o 0.562. Ni ddylid rhoi ystyriaeth i unrhyw ostyngiad mewn arenillion a ddaw yn sgil unrhyw ryddhad ar y llinell hon oherwydd ymdrinnir â’r rhain mewn llinellau dilynol.

Rhyddhadau

Dylid dangos amcangyfrifon gorau’r awdurdod o arenillion a gollwyd fel rhai cadarnhaol.

Rhyddhad gorfodol

Elusennau

Yn llinell 4, nodwch ganlyniad cymhwyso rhyddhad ardrethi gorfodol o 80% ar gyfer eiddo a feddiannir gan elusennau yn yr awdurdod, yn rhinwedd gostyngiadau o dan baragraff 2(1)(b) a (2)(a) o Atodlen 4ZA (rhyddhad ardrethi elusennol elusennau) i'r Ddeddf. Mae’n rhaid i’r awdurdod ragdybio y bydd eiddo a feddiannir gan elusennau ar 31 Rhagfyr 2023 yn parhau i gael ei feddiannu yn y modd hwn trwy gydol 2024 to 2025.

Clybiau chwaraeon amatur cymunedol cofrestredig

Mae gostyngiadau o dan baragraff 2(1)(b) a (2)(b) o Atodlen 4ZA (rhyddhad ardrethi elusennol - clybiau chwaraeon amatur cymunedol) yn darparu ar gyfer rhyddhad ardrethi gorfodol i glybiau chwaraeon amatur cymunedol cofrestredig. Yn llinell 5, nodwch amcangyfrif gorau’r awdurdod o’r gostyngiad yn yr arenillion yn 2024 to 2025 o ganlyniad i gymhwyso rhyddhad ardrethi gorfodol o 80% ar gyfer eiddo a feddiannir gan glybiau chwaraeon amatur cymunedol cofrestredig yn yr awdurdod. Mae’n rhaid i’r awdurdod dybio y bydd eiddo a feddiannir gan glybiau chwaraeon amatur cymunedol cofrestredig ar 31 Rhagfyr 2023 yn parhau i gael ei feddiannu felly trwy gydol 2024 to 2025.

Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach

Yn llinell 6.4, nodwch amcangyfrif gorau’r awdurdod o’r gostyngiad yn yr arenillion yn 2024 to 2025 o ganlyniad i gymhwyso’r rhyddhad hwn mewn perthynas â busnesau bach, heb gynnwys swyddfeydd post a lleoliadau gofal plant. Dylid nodi’r gostyngiad yn yr arenillion o ran swyddfeydd post yn llinell 6.2 a lleoliadau gofal plant yn llinell 6.3. 2017 Rhif 1229 (Cy. 293)

Eiddo a feddiannir yn rhannol

Yn llinell 7, nodwch amcangyfrif gorau’r awdurdod o’r gostyngiad yn yr arenillion yn 2024 to 2025 o ganlyniad i ddosrannu gwerth ardrethol hereditament rhwng y rhan ohono a feddiannir a’r rhan honno sydd heb ei meddiannu o dan adran 44A (heridamentau a feddiannir yn rhannol) o’r Ddeddf. Os bydd dosraniad o’r fath yn gymwys ar 31 Rhagfyr 2023, mae’n rhaid i’r awdurdod dybio y bydd y dosraniad yn parhau trwy gydol 2024 to 2025.

Eiddo gwag

Yn llinell 8, nodwch amcangyfrif gorau’r awdurdod o’r gostyngiad yn yr arenillion yn 2024 to 2025 o ganlyniad i eiddo heb ei feddiannu. Yr un yw’r ardreth ar gyfer eiddo heb ei feddiannu ag ar gyfer eiddo a feddiannir yn rhinwedd adran 45 o’r Ddeddf oni bai bod yr eiddo wedi’i eithrio o ardrethi eiddo gwag yn rhinwedd Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 2008 (OS 2008/2449 (Cy.217)). Os nad oedd yr eiddo wedi’i feddiannu ar 31 Rhagfyr 2023, mae’n rhaid i’r awdurdod dybio y bydd yn parhau i fod heb ei feddiannu trwy gydol 2024 to 2025.

Rhyddhad trosiannol

Yn llinell 8.5, nodwch amcangyfrif gorau’r awdurdod o’r gostyngiad yn yr arenillion yn 2024 to 2025 o ganlyniad i gymhwyso’r rhyddhad trosiannol yn dilyn yr ailbrisiad yn 2023. 2022 Rhif 1350 (Cy. 272)

Rhyddhad rhwydweithiau gwresogi

Yn linell 8.8, nodwch amcangyfrif gorau'r awdurdod o’r gostyngiad yn yr arenillion yn 2024 to 2025 o ganlyniad i gymhwyso'r rhyddhad hwn mewn perthynas â rhwydweithiau gwres carbon isel. 2024 Rhif 38 (Cy. 13)

Rhyddhad gwelliannau

Yn llinell 8.9, nodwch amcangyfrif gorau'r awdurdod o’r gostyngiad yn yr arenillion yn 2024 to 2025 o ganlyniad i gymhwyso'r rhyddhad hwn mewn perthynas â gwelliannau eiddo cymwys. 2023 Rhif 1354 (Cy. 244). Ar gyfer 2024 to 2025 bydd gwerth unrhyw ryddhad a roddir yn cael ei gasglu ar alldro yng ngham NDR3 yn unig. Ar gyfer 2025 to 2026 ymlaen, gofynnir i awdurdodau hefyd ddarparu amcangyfrif o'r rhyddhad sydd i'w roi drwy'r NDR1 ar gyfer y flwyddyn.

Arenillion gros 

Mae Llinell 9 yn faes a gyfrifir. Cyfrifir y swm hwn trwy dynnu’r swm a nodwyd yn llinell 3 o’r symiau a nodwyd yn llinellau 4, 5, 6.9, 7, 8, 8.5 ac 8.8.

Swm gros 

Mae Llinell 10 yn faes a gyfrifir. Hwn yw’r swm a bennir trwy luosi’r swm yn llinell 9 (arenillion gros) ag 1.002. Mae’r swm o 1.002 wedi’i ragnodi gan y Rheoliadau ac mae’n ystyried amcangyfrif Gweinidog Cymru o’r effaith ar arenillion ad-daliadau disgwyliedig, o ran blynyddoedd blaenorol, a ddaw yn sgil gostyngiadau mewn gwerth ardrethol o ganlyniad i apeliadau llwyddiannus ac o daliadau llog sy’n codi o’r ad-daliadau hynny.

Rhyddhad yn ôl disgresiwn

Elusennau

Yn llinell 11, nodwch 25% o gyfanswm symiau unrhyw ryddhad y mae’r awdurdod yn disgwyl ei roi ar gyfer 2024 to 2025 (wedi ystyried y trefniadau trosiannol lle y bo’n gymwys) yn rhinwedd ei bwerau o dan adran 47(5B)(a) (elusennau) o’r Ddeddf, h.y. y rhyddhad ychwanegol i sefydliadau elusennol sy’n cael rhyddhad ardrethu gorfodol. Ni ddylai’r amcangyfrif ystyried rhyddhad sydd yn ymwneud â’r flwyddyn ariannol 2024 to 2025, er y disgwylir i’r penderfyniad i roi rhyddhad yn ôl disgresiwn gael ei wneud yn ystod 2023 to 2024; bydd symiau o’r fath yn cael eu hystyried yn y ffurflen NDR3 ar gyfer y flwyddyn ariannol honno. Pan na fydd unrhyw benderfyniad wedi’i wneud ynghylch a ddylai rhyddhad o’r fath barhau ar gyfer hereditament y mae’r rhyddhad wedi’i ganiatáu ar ei gyfer yn 2023 to 2024, dylid tybio y bydd y rhyddhad yn parhau yn ystod 2024 to 2025.

Clybiau chwaraeon amatur cymunedol cofrestredig

Yn llinell 12, nodwch 25% o gyfanswm symiau unrhyw ryddhad y mae’r awdurdod yn disgwyl ei roi ar gyfer 2024to 2025 yn rhinwedd ei bwerau gostyngiadau o dan adran 47(5B)(b) (gostyngiad ardrethi elusennol clybiau chwaraeon amatur cymunedol) o’r Ddeddf, h.y. rhyddhad ychwanegol ar gyfer clybiau chwaraeon amatur cymunedol cofrestredig sy’n cael rhyddhad ardrethi gorfodol. Ni ddylai’r amcangyfrif ystyried rhyddhad sydd yn ymwneud â’r flwyddyn ariannol 2024 to 2025, er y disgwylir i’r penderfyniad i roi rhyddhad yn ôl disgresiwn gael ei wneud yn ystod 2023 to 2024; bydd symiau o’r fath yn cael eu hystyried yn y ffurflen NDR3 ar gyfer 2023 to 2024. Pan na fydd unrhyw benderfyniad wedi’i wneud ynghylch a ddylai rhyddhad o’r fath barhau ar gyfer hereditament y mae’r rhyddhad wedi’i ganiatáu ar ei gyfer yn 2023 to 2024, dylid tybio y bydd y rhyddhad yn parhau yn ystod 2024 to 2025.

Cyrff nad ydynt yn gwneud elw

Yn llinell 13, nodwch 90% o gyfanswm unrhyw ryddhad y mae’r awdurdod yn disgwyl ei roi i sefydliadau nad ydynt yn gwneud elw ar gyfer 2024 to 2025 yn rhinwedd ei bwerau o dan adran 47 (cyrff nad ydynt yn gwneud elw) o’r Ddeddf. Ni ddylai’r amcangyfrif ystyried rhyddhad sydd yn ymwneud â’r flwyddyn ariannol 2023 to 2024, er y disgwylir i’r penderfyniad i roi rhyddhad yn ôl disgresiwn gael ei wneud yn ystod 2023 to 2024; bydd symiau o’r fath yn cael eu hystyried yn y ffurflen NDR3 ar gyfer 2023 to 2024. Pan na fydd unrhyw benderfyniad wedi’i wneud ynghylch a ddylai rhyddhad o’r fath barhau ar gyfer hereditament y mae’r rhyddhad wedi’i ganiatáu ar ei gyfer yn 2023 to 2024, dylid tybio y bydd y rhyddhad yn parhau yn ystod 2024 to 2025.

Arenillion ardrethu net 

Mae llinell 15 yn faes a gyfrifir. Cyfrifir y swm hwn trwy dynnu’r symiau a nodwyd yn llinellau 11, 12 a 13 o linell 10 (y swm gros).

Colledion wrth gasglu

Os bydd yr awdurdod wedi gwneud trefniadau priodol i sicrhau bod ardrethi annomestig yn cael eu casglu mewn modd darbodus, effeithlon ac effeithiol, gellir caniatáu dyledion gwael ac amheus dan baragraff 6 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau. Y ganran briodol a ganiateir ar gyfer 2024 to 2025 yw 1.0%. Cyfrifir llinell 16 fel y swm a gyfrifir trwy gymhwyso’r ganran hon i’r swm a nodwyd yn llinell 15 (yr arenillion ardrethi net).

Costau casglu

Llinell 17 yw cyfanswm y lwfans a ragnodir gan Atodlen 1 o’r Rheoliadau, a gellir cyfrifo hyn trwy adio’r symiau canlynol:

  • nifer yr hereditamentau (llinell 1) wedi’u lluosi â £39.50
  • gwerth ardrethol cyfanredol ar y rhestr ardrethu annomestig leol ar gyfer yr awdurdod ar 31 Rhagfyr 2023 (llinell 2) wedi'i luosi â 0.00087

Cyfrifiad dros dro o’r cyfraniad i’r gronfa 

Llinell 18 yw’r swm a gyfrifir trwy dynnu’r symiau a nodwyd yn llinellau 16 a 17 o’r swm a nodwyd yn llinell 15 (yr arenillion net).

Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach

Yn llinell 23, nodwch nifer yr hereditamentau nad ydynt yn gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach oherwydd y cyfyngiad amlfeddiannaeth.

Yn llinell 24, nodwch amcangyfrif gorau’r awdurdod o’r cynnydd yn yr arenillion yn 2024 to 2025 o ganlyniad i’r cyfyngiad amlfeddiannaeth, h.y. swm y Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach a fyddai, fel arall, wedi cael ei ddyfarnu.

Ardystio

Mae’n rhaid i’r hyn a nodwyd yn llinellau 4 i 8.9 a 11 i 13 gael eu hardystio gan Brif Swyddog Cyllid yr awdurdod fel y rhai gorau y gellid eu cynhyrchu ar sail yr wybodaeth a oedd ar gael ar y pryd. Mae’n rhaid i’r Prif Swyddog Cyllid hefyd ardystio bod yr hyn a nodwyd yn llinellau 1 a 2 yn cynrychioli nifer yr hereditamentau a’r gwerth ardrethol cyfanredol a nodwyd yn y rhestr ardrethu annomestig lleol drafft ar gyfer yr awdurdod fel ag yr oedd ar 31 Rhagfyr 2023, hyd eithaf ei wybodaeth a’i gred.

Mae’n rhaid i’r Prif Swyddog Cyllid ardystio ymhellach ei fod yn fodlon bod yr awdurdod wedi gwneud trefniadau priodol ar gyfer sicrhau economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran casglu ardrethi annomestig er mwyn iddo allu hawlio’r colledion yn y lwfans casglu dan baragraff 6 o Atodlen 1 y Rheoliadau.

Ar ôl i’r ffurflen gael ei hardystio, mae’n rhaid ei dychwelyd erbyn 23 Chwefror 2024 yn unol â’r cyfarwyddiadau a roddwyd.