Rydym yn ceisio barn ynghylch a yw'r cod ymarfer yn rhoi digon o ganllawiau o ran sut i fodloni'r gofynion gwahanu ar gyfer y rheoliadau ailgylchu annomestig arfaethedig.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn cyflwyno rheoliadau newydd y disgwylir iddynt ddod i rym ar 1 Hydref 2023 ac sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob safle annomestig (gan gynnwys busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector) wahanu deunyddiau allweddol y gellir eu hailgylchu yn y ffordd y mae mwyafrif deiliaid tai Cymru eisoes yn gwneud.
Diben yr ymgynghoriad hwn sy'n ymwneud â Chymru yn unig yw gofyn am eich barn ar y cod ymarfer (“y cod”) ac a yw'n rhoi digon o ganllawiau ymarferol ar sut i fodloni'r gofynion gwahanu a nodir yn Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 (fel y'u diwygiwyd, gan gynnwys fel y'u diwygir gan y Rheoliadau Gwastraff (Diwygio) (Cymru) 2023 arfaethedig).
Gweler yr ymgynghoriad gweithredol cysylltiedig a ganlyn ar gynigion ar gyfer gorfodi rheoliadau ailgylchu busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru sy'n gysylltiedig â'r rheoliadau hyn.
Gweler ymgynghoriad cysylltiedig: Cynyddu ailgylchu gan fusnesau
Dogfennau ymgynghori

Casglu Deunyddiau Gwastraff Ar Wahân i'w Hailgylchu – Cod Ymarfer Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 577 KB
Help a chymorth
Am fwy o wybodaeth amdano’r ymgynghoriad hwn, e-bostiwch YmgyngoriadauDiwygiadauAilgylchu@llyw.cymru
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 15 Chwefror 2023, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
E-bost
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelyd i: YmgyngoriadauDiwygiadauAilgylchu@llyw.cymru
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelyd i:
Is-adran Effeithlonrwydd Adnoddau a'r Economi Gylchol
Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron
Caerdydd
CF10 3NQ.