Neidio i'r prif gynnwy

Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2022

Camau i’w cymryd: Ymatebion erbyn 15 Chwefror 2023

Trosolwg

Pwrpas yr ymgynghoriad hwn sy'n ymwneud â Chymru yn unig yw gofyn am eich barn ar y cod ymarfer ("y cod") ac a yw'n rhoi digon o ganllawiau ymarferol ar sut i fodloni'r gofynion gwahanu a nodir yn Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 (fel y'u diwygiwyd, gan gynnwys fel y'u diwygir gan y Rheoliadau Gwastraff (Diwygio) (Cymru) 2023 arfaethedig).

Cyhoeddir y cod o dan adran 45AB o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 mewn perthynas â'r chasglu gwastraff ar wahân o dan adran 45AA o'r Ddeddf honno.

Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn llywio'r gwaith o ddrafftio'r cod a Rheoliadau Gwastraff (Diwygio) (Cymru) 2023 arfaethedig yn derfynol.

Mae'r cod wedi'i ddrafftio yn barod ar gyfer cychwyn adran 45AA, a gwneud rheoliadau o dan y pŵer hwn.

Sut i ymateb

A fyddech cystal â chwblhau'r holiadur ar ddiwedd y ddogfen. Gellir cyflwyno ymatebion drwy e-bost neu drwy'r post i'r cyfeiriadau isod erbyn 15 Chwefror 2023.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Gweler yr ymgynghoriad cysylltiedig ar y cynigion sy'n ymwneud â Gorfodi a Sancsiynau'r rheoliadau a fydd yn cau ar 15 Chwefror 2023.

Gweler y ddolen i ymgynghoriad cysylltiedig a ddaeth i ben ar 13 Rhagfyr 2019: Cynyddu ailgylchu gan fusnesau

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth:

E-bost: YmgyngoriadauDiwygiadauAilgylchu@llyw.cymru

Post:

Is-adran Effeithlonrwydd Adnoddau a'r Economi Gylchol
Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron
Caerdydd
CF10 3NQ.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr
  • annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

e-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu
0303 123 1113

Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Beth yw diben yr ymgynghoriad hwn?

Diben yr ymgynghoriad hwn yw gofyn am eich barn ar y cod ymarfer drafft ("y cod") a'r canllawiau ymarferol y mae'n eu darparu ar sut i fodloni'r gofynion gwahanu yng Nghymru ar gyfer deunyddiau gwastraff ailgylchadwy o eiddo annomestig.

Mae hefyd yn ceisio barn ar y bwriad i gyflwyno'n raddol ffrydiau gwastraff penodol mewn blynyddoedd i ddod.

Cyhoeddir y cod o dan adran 45AB o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 mewn perthynas â chasglu gwastraff ar wahân o dan adran 45AA o'r Ddeddf honno.

Cefndir

Crynodeb o ofynion rheoliadau ailgylchu ar gyfer busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector

Bydd darpariaethau yn Rhan 4 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, pan fyddant yn cychwyn, yn diwygio Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 er mwyn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau – y cyfeirir atynt gyda'i gilydd fel rheoliadau ailgylchu ar gyfer busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector – a'r diben yw cynyddu ailgylchu o eiddo annomestig yng Nghymru.

Mae tair cyfres o reoliadau arfaethedig a fydd yn nodi:

1) Y gofynion gwahanu (pwnc y cod)(“y rheoliadau gwahanu”), yn benodol i:

  • Ei gwneud yn ofynnol i ddeiliaid eiddo annomestig (gan gynnwys busnesau, elusennau a chyrff y sector cyhoeddus) roi deunyddiau ailgylchadwy penodedig allan i'w casglu wedi'u gwahanu oddi wrth ei gilydd ac wedi'u gwahanu oddi wrth wastraff gweddilliol;
  • Ei gwneud yn ofynnol i'r rheini sy'n casglu'r deunyddiau ailgylchadwy penodedig eu casglu ar wahân i'r deunyddiau ailgylchadwy eraill;
  • Ei gwneud yn ofynnol i'r deunyddiau ailgylchadwy a gesglir ar wahân gael eu cadw ar wahân heb eu cymysgu;
  • Sicrhau bod sancsiynau sifil ar gael ar gyfer troseddau sy'n gysylltiedig â'r gofynion uchod.

2) Gwaharddiadau llosgi a thirlenwi, yn benodol i:

  • Wahardd deunyddiau ailgylchadwy penodedig a gesglir ar wahân rhag cael eu llosgi na’u hanfon i safleoedd tirlenwi;
  • Gwahardd pob gwastraff pren o eiddo annomestig a domestig rhag cael ei anfon i safleoedd tirlenwi;
  • Sicrhau bod sancsiynau sifil ar gael ar gyfer troseddau sy'n gysylltiedig â'r gofynion uchod.

3) Gwaharddiad ar daflu gwastraff bwyd i garthffosydd, yn benodol i:

  • Cychwyn gwaharddiad ar waredu gwastraff bwyd o eiddo annomestig i garthffosydd;
  • Sicrhau bod sancsiynau sifil ar gael ar gyfer troseddau sy'n gysylltiedig â'r gofynion uchod.

Deunyddiau ailgylchadwy i’w cynnwys yn y gofynion gwahanu
Y deunyddiau ailgylchadwy penodedig i'w cyflwyno ar wahân i'w casglu, i’w casglu ar wahân, ac i’w cadw ar wahân ar ôl eu casglu, yr ymgynghorwyd arnynt fel yr opsiwn polisi a ffafriwyd yn 2019 oedd:

  • gwydr;
  • papur a cherdyn;
  • metel a phlastig;
  • gwastraff bwyd o safleoedd sy'n cynhyrchu 5kg a mwy o wastraff bwyd yr wythnos;
  • cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE);
  • tecstilau.

Cynigion diwygiedig ar y bwriad i gyflwyno’n raddol y gofynion sy’n gysylltiedig â gwahanu sWEEE a thecstilau

Mae pryderon wedi’u codi am ddichonoldeb ac effeithiolrwydd cynnwys gofyniad yn y rheoliadau ar gyfer cyflwyno a chasglu sWEEE a thecstilau ar wahân cyn gynted ag y daw’r rheoliadau i rym.

Y rheswm am hyn yw nad oes fawr o gasglu ar sWEEE na thecstilau oddi ar ochr y ffordd eto. O ran sWEEE, mae perygl hefyd i gasglu nwyddau electronig bach annomestig o ansawdd gwael dyfu’n arfer ar draul sicrhau cyfraddau ailddefnyddio a thrwsio uwch.

O ran tecstilau, mae’r farchnad ailbrosesu yn y DU yn dal i fod yn gymharol anaeddfed gyda dibyniaeth drom ar allforio, llosgi a thirlenwi. Mae diffyg capasiti felly i ailbrosesu tecstilau’n effeithiol yn y DU, sy’n golygu y gallai gofyniad i wahanu tecstilau gwastraff o bob eiddo annomestig o’r diwrnod cyntaf y daw’r rheoliadau i rym arwain at allforio mwy o decstilau neu gynnydd posibl mewn troseddau gwastraff.

Fel ymateb i hyn, bwriedir cyflwyno’r gofynion i wahanu a chasglu ar gyfer sWEEE a thecstilau o eiddo annomestig yn raddol - hyd at ddwy flynedd ar gyfer sWEEE a hyd at dair blynedd ar gyfer tecstilau ar ôl y dyddiad dod i rym. Bydd hynny’n caniatáu i wasanaethau casglu, ailddefnyddio, trwsio ac ailgylchu gwastraff ddod yn barod ac alinio â’r newidiadau y bwriedir eu gwneud i’r rheoliadau.

Noder, bydd sWEEE heb ei werthu a thecstilau heb eu gwerthu yn cael eu heithrio o’r cynigion hyn: bydd gofyn cyflwyno’r eitemau hyn a’u casglu ar wahân ar gyfer eu hailgylchu o’r diwrnod cyntaf y daw‘r rheoliadau i rym.

Y bwriad yw y bydd y gwaharddiadau arfaethedig ar anfon sWEEE a gesglir ar wahân o bob safle i gael ei losgi neu i safle tirlenwi yn dechrau fel y cynlluniwyd yn wreiddiol pan ddaw'r rheoliadau i rym. Er nad ydym yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol i eiddo annomestig wahanu sWEEE i ddechrau, bydd achosion lle caiff y deunydd hwn ei gasglu ar wahân drwy ffyrdd eraill (e.e. canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref). Bydd y gwaharddiad arfaethedig felly yn sicrhau, lle mae sWEEE yn cael ei gasglu ar wahân, y bydd yn mynd i safle ailgylchu yn y man lleiaf, yn hytrach nag i gael ei losgi neu i safle tirlenwi.

Y bwriad hefyd yw y bydd y gwaharddiad arfaethedig ar decstilau a gesglir ar wahân o bob safle yn mynd i safleoedd tirlenwi yn dechrau fel y cynlluniwyd yn wreiddiol, h.y. pan ddaw'r rheoliadau i rym. Fodd bynnag, oherwydd anaeddfedrwydd cymharol marchnad ail-brosesu tecstilau'r DU a’r ffaith nad yw llawer o decstilau yn ailgylchu’n dda, nid ydym yn bwriadu bwrw ymlaen o’r cychwyn cyntaf â'r gwaharddiad arfaethedig ar decstilau a gesglir ar wahân yn mynd i gael eu llosgi. Er nad ydym yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol i eiddo annomestig wahanu tecstilau i ddechrau, bydd achosion lle caiff y gwastraff hwn ei gasglu ar wahân drwy ffyrdd eraill (e.e. banciau tecstilau, canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref). Bydd y gwaharddiad arfaethedig felly yn sicrhau bod tecstilau a gesglir ar wahân na ellir eu hailddefnyddio na’u hailgylchu yn mynd i gael eu llosgi yn y man lleiaf, yn hytrach nag i safleoedd tirlenwi, gan leihau'r un pryd y risg o gynyddu troseddau gwastraff a/neu allforion tecstilau o ansawdd isel sy’n achosi problemau amgylcheddol mewn mannau eraill yn y byd.

Y cynnig yw y bydd sWEEE heb ei werthu a gesglir ar wahân a thecstilau sydd heu gwerthu a gesglir ar wahân yn cael eu gwahardd rhag mynd i gael eu llosgi neu i safle dirlenwi ar unwaith pan ddaw'r rheoliadau i rym. Bydd hyn yn atal manwerthwyr rhag anfon sWEEE heb ei werthu a thecstilau heb eu gwerthu i gael eu llosgi neu i safle tirlenwi a’u bod yn mynd i gael eu hailgylchu yn y man lleiaf.

Crynodeb o’r cynigion ynghylch deunyddiau ailgylchadwy penodedig a gesglir ar wahân

Casgliad ar wahân o 1 Hydref 2023^*

Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach heb eu gwerthu (sWEEE)

Tecstilau heb eu gwerthu


Gwaharddiad ar losgi o 1 Hydref 2023**

Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach heb eu gwerthu (sWEEE)

Tecstilau heb eu gwerthu

Pob cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) arall


Gwaharddiad ar anfon i Safleoedd Tirlenwi o 1 Hydref 2023

Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach heb eu gwerthu (sWEEE)

Tecstiliau heb eu gwerthu

Pob cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) arall

Unrhyw decstilau eraill


^ bwriad polisi i gynnwys pob cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach arall (sWEEE) o fewn 2 flynedd

* bwriad polisi i gynnwys pob tecstil arall o fewn 3 blynedd
** bwriad polisi i gynnwys pob tecstil arall yn y dyfodol


Eglurhad ynghylch y cynllun arfaethedig i drin cartonau

Yn dilyn yr ymgynghoriad blaenorol, mae gwaith ymgysylltu ar y dosbarthiad arfaethedig gyda’r diwydiant cartonau, casglwyr gwastraff ac ailbroseswyr a WRAP wedi nodi mai casglu cartonau a phecynnu tebyg yn y llif metel a phlastig sydd orau – dyma'r ateb gorau ar gyfer gwahanu cartonau wedyn ar gyfer eu hailbrosesu. Rydym yn cynnig felly bod cartonau (a phecynnu tebyg) yn cael eu rhoi yn y llif deunyddiau metel a phlastig.

Felly, o dan y cynigion presennol, dyma'r deunyddiau gwastraff ailgylchadwy penodedig i'w cyflwyno ar wahân i'w casglu, eu casglu ar wahân, a'u cadw ar wahân ar ôl cael eu casglu pan ddaw'r rheoliadau i rym:

i) gwydr;
ii) papur a cherdyn;
iii) mhetalau a phlastig, a chartonau a phecynnu cyfansawdd ffeibr-plastig eraill o gyfansoddiad tebyg.
iv) bwyd a gynhyrchir gan safleoedd sy'n cynhyrchu 5kg a mwy o wastraff bwyd yr wythnos;
v) cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff (WEEE) bach heb ei werthu; a
vi) thecstilau heb eu gwerthu.

Cynigion diwygiedig ynghylch y bwriad i gyflwyno’n raddol y gofyniad i ysbytai gyflwyno deunyddiau ailgylchadwy penodedig i'w casglu

Mewn ymateb i ymgysylltiad â'r GIG yn dilyn yr ymgynghoriad blaenorol, cynigir y bydd gan ysbytai ddwy flynedd ychwanegol i gydymffurfio ar ôl dyddiad dod i rym y rheoliadau i adlewyrchu'r cymhlethdod ychwanegol o ddod â'r rheoliadau i rym mewn wardiau a theatrau llawfeddygaeth. Bydd y gwaharddiad ar anfon gwastraff bwyd i garthffosydd yn berthnasol i ysbytai o ddiwrnod cyntaf y rheoliadau'n dod i rym.

Nid yw'r cynigion hyn yn ganolbwynt i'r ymgynghoriad hwn ond fe'u darperir at ddibenion gwybodaeth. Os oes gennych chi farn ar y cynllun arfaethedig i gyflwyno'n raddol y llifoedd gwastraff sWEEE a thecstilau, a/neu'r cynllun arfaethedig i drin cartonau, mae'r 'Ymgynghoriad ar Gasglu Deunyddiau Gwastraff Ar Wahân i'w Hailgylchu – Cod Ymarfer Cymru' yn cynnwys cwestiynau sy'n ymwneud â hyn.

Dyddiad dod i rym

Ein bwriad yw i'r rheoliadau ddod i rym ar 1 Hydref 2023. Gall y dyddiad hwn newid yn dibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad a phrosesau hysbysu a deddfwriaethol gofynnol.

Nod y rheoliadau arfaethedig

Nod y rheoliadau yw gwella lefel ac ansawdd yr ailgylchu o eiddo annomestig yng Nghymru ac, wrth wneud hynny, gefnogi ymrwymiadau Cymru i gyrraedd y nod o gael dim gwastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi erbyn 2025, a Chymru ddiwastraff ac allyriadau carbon sero net erbyn 2050. Bydd hyn yn cefnogi cynnydd Cymru tuag at economi gylchol, lle mae adnoddau'n cael eu defnyddio cyn hired â phosibl, lle mae gwastraff yn cael ei osgoi, a lle caiff cynnyrch a deunyddiau eu hadfer a'u hadfywio ar ddiwedd eu hoes. O'r herwydd, mae'r diwygiadau hyn yn dod â manteision i'r economi a'r amgylchedd drwy'r ffyrdd canlynol:

  • Cynyddu lefel yr ailgylchu o eiddo annomestig: amcangyfrifir y bydd hyn yn arwain at 3.8 miliwn tunnell ychwanegol o ddeunydd wedi'i ailgylchu dros gyfnod o 10 mlynedd[1];
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr: amcangyfrifir gostyngiad mewn allyriadau o 3.2 miliwn tunnell sy’n cyfateb i CO2 dros 10 mlynedd[2];
  • Creu arbedion cyffredinol i economi Cymru: modelwyd i fod yn £452.5 miliwn NPV dros 10 mlynedd[3];
  • Creu cyfleoedd ar gyfer swyddi yn y sector rheoli gwastraff;
  • Rhoi mwy o sicrwydd o gyflenwad adnoddau i'n sector gweithgynhyrchu;
  • Cyflymu'r cynnydd tuag at economi gylchol i Gymru drwy gael busnesau gweithgynhyrchu o Gymru i ddefnyddio'r deunydd sy'n cael ei ailgylchu yng Nghymru;
  • Lleihau llygredd.

Er mwyn cynnal adnoddau o werth uchel ac osgoi halogi, mae'n bwysig bod deunyddiau ailgylchadwy yn cael eu cadw ar wahân i fathau eraill o wastraff yn y tarddle. Mae hyn yn cefnogi'r galw yn y farchnad am ddeunyddiau wedi’u hailgylchu, neu ddeunyddiau eildro, o ansawdd uchel a gwerth uchel, sydd yn ei dro yn gweithredu fel ysgogiad pellach i gyfraddau ailgylchu. Mae deunyddiau eildro o ansawdd uwch yn fwy tebygol hefyd o gael eu defnyddio mewn gweithrediadau gweithgynhyrchu na deunyddiau eildro o ansawdd is. Mae cynhyrchu deunydd eildro o safon uchel yng Nghymru hefyd yn lleihau'r tebygolrwydd o ddeunyddiau'n cael eu hanfon dramor i gael eu trin. Mae ailgylchu ac adfer deunyddiau o ansawdd uchel hefyd yn helpu i fynd i'r afael ag effeithiau amgylcheddol y galw byd-eang am adnoddau. Drwy ddefnyddio adnoddau'n fwy effeithlon drwy atal gwastraff a chyfraddau ailddefnyddio ac ailgylchu uchel, mae diogelwch deunyddiau hefyd yn cael ei wella ac mae dibyniaeth ar adnoddau sylfaenol (boed o'r tu mewn neu'r tu allan i'r DU) yn cael ei lleihau.

Mae cryn gynnydd wedi'i wneud o ran ailgylchu yng Nghymru, yn enwedig o gartrefi. Fodd bynnag, mewn eiddo annomestig, fel busnesau ac yn y sector cyhoeddus, mae swm sylweddol o ddeunyddiau ailgylchadwy yn parhau i gael eu taflu fel rhan o'r llif gwastraff gweddilliol neu'n cael eu cymysgu â mathau eraill o wastraff ailgylchadwy. Mae hyn yn lleihau faint o ddeunydd eildro y gellir ei gynhyrchu ac yn lleihau ei werth, ac yn atal ei ddefnydd fel ffynhonnell o ansawdd uchel o ddeunydd mewnbwn i ddiwydiant.

1 Effaith Reoleiddiol Opsiynau i Gynyddu Cyfraddau Ailgylchu Busnesau yng Nghymru (llyw.cymru)
2 Effaith Reoleiddiol Opsiynau i Gynyddu Cyfraddau Ailgylchu Busnesau yng Nghymru (llyw.cymru)
3 Effaith Reoleiddiol Opsiynau i Gynyddu Cyfraddau Ailgylchu Busnesau yng Nghymru (llyw.cymru)

Ymgynghoriadau cysylltiedig blaenorol

Mae dau ymgynghoriad blaenorol wedi'u cynnal ar y diwygiadau hyn. Yn gyntaf, fel rhan o'r ymgynghoriad ar Fil yr Amgylchedd a gynhaliwyd rhwng 23 Hydref 2013 a 15 Ionawr 2014, gan arwain at Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Yna wedi hynny gyda'r ymgynghoriad ar yr opsiwn polisi a ffefrir rhwng 23 Medi a 13 Rhagfyr 2019.

Mae'r crynodeb o'r ymatebion i ymgynghoriad 2019 bellach ar gael

Ymgynghoriadau cysylltiedig presennol

Rydym hefyd yn ymgynghori ar gynigion ynghylch y cynigion ar gyfer gorfodi rheoliadau ailgylchu ar gyfer busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru sy'n gysylltiedig â'r rheoliadau hyn.

Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw 15 Chwefror 2023.

Cwestiynau ymgynghori

Rhan I: Y cod ymarfer

Cymhwyso'r cod

Mae'r cod yn nodi canllawiau ymarferol ar sut i fodloni gofynion gwahanu'r rheoliadau gwahanu. Mae angen gwahanu deunyddiau gwastraff ailgylchadwy penodedig i'w casglu mewn ffrydiau penodedig, eu casglu ar wahân, a'u cadw ar wahân ar ôl eu casglu.

Mae'r cod yn berthnasol i'r canlynol:

i) meddianwyr eiddo annomestig (gan gynnwys busnesau, y sector cyhoeddus ac elusennau) i gyflwyno deunyddiau gwastraff ailgylchadwy penodedig i'w casglu mewn ffrydiau gwastraff ailgylchadwy ar wahân;
ii) y rhai sy'n casglu, neu'n trefnu i gasglu, gwastraff i’w gasglu, neu’n trefnu i gasglu, y ffrydiau gwastraff ailgylchadwy wedi’u gwahanu ar wahân; a
iii) y rhai sy'n casglu, derbyn, cadw, trin neu gludo gwastraff i beidio â chymysgu'r ffrydiau gwastraff ailgylchadwy a gesglir ar wahân gydag unrhyw ffrwd wastraff ailgylchadwy arall neu gyda mathau eraill o wastraff neu sylweddau neu eitemau eraill.

Cwestiwn 1: Nodwch pa sector rydych chi'n ei gynrychioli:

i) Busnes
ii) Sefydliad trydydd sector
iii) Sefydliad sector cyhoeddus
iv) Gwasanaeth casglu gwastraff Awdurdod Lleol
v) Cwmni rheoli gwastraff (e.e., casglwr gwastraff preifat, triniwr gwastraff, neu ailbroseswr, gweithredwyr cyfleusterau llosgi a chyd-losgi, gweithredwr cyfleusterau tirlenwi)
vi) Dim un o'r uchod (nodwch)

Gofynion gwahanu

O dan y rheoliadau gwahanu arfaethedig, mae gan feddianwyr eiddo annomestig, gan gynnwys busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, ddyletswydd pan fyddant yn cyflwyno gwastraff i'w gasglu i sicrhau bod rhai deunyddiau gwastraff ailgylchadwy yn cael eu cyflwyno ar wahân mewn ffrydiau gwastraff ailgylchadwy ar wahân penodedig.

Bydd angen casglu'r deunyddiau gwastraff canlynol ar wahân, a'u cadw ar wahân ar ôl eu casglu, mewn chwe ffrwd wastraff ar wahân:

i) gwastraff bwyd a gynhyrchir gan eiddo sy'n cynhyrchu 5kg a mwy o wastraff bwyd yr wythnos;
ii) papur a cherdyn;
iii) gwydr;
iv) metel, plastig a chartonau a phecynnau cyfansawdd ffeibr-plastig eraill o gyfansoddiad tebyg;
v) cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff (WEEE) bach heb ei werthu; a
vi) tecstilau heb eu gwerthu.

Cwestiwn 2: Pa mor ddefnyddiol yw'r cod wrth esbonio'r gofynion gwahanu?

i) Defnyddiol iawn
ii) Yn ddefnyddiol ar y cyfan
iii) Rhai adrannau'n ddefnyddiol/eraill ddim mor ddefnyddiol
iv) Ddim yn ddefnyddiol iawn
v) Ddim yn ddefnyddiol o gwbl

Os ydych chi wedi ateb iii-v, esboniwch pam a beth fyddai'n helpu i wella hyn.

A oes gorfodaeth arnaf i gydymffurfio â'r gofynion gwahanu?

Mae'r cod yn darparu enghreifftiau o'r mathau o eiddo annomestig sydd wedi’u cynnwys yn y gofynion gwahanu. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw eiddo ac eithrio eiddo domestig a charafán y mae rhywun yn byw ynddi fel cartref.

Cwestiwn 3: Ydych chi'n deall pa fathau o eiddo sydd wedi’u cynnwys o dan y rheoliadau gwahanu arfaethedig?

i) Ydw
ii) Nac ydw
iii) Dim barn

Os ydych chi wedi ateb 'Nac ydw', esboniwch.

Cwestiwn 4: Ydych chi'n deall yr esboniad o 'meddiannydd', y mae gofyn iddo gydymffurfio â'r gofynion gwahanu?

i) Ydw
ii) Nac ydw
iii) Dim barn

Os ydych chi wedi ateb 'Nac ydw', esboniwch.

Cwestiwn 5: Mae rhai eithriadau i'r gofynion gwahanu sy'n cael eu hesbonio yn y cod, er enghraifft am resymau diogelwch cenedlaethol, gwastraff peryglus neu glinigol neu i ddiogelu cyfrinachedd neu ddata personol. Ydych chi'n ymwybodol o unrhyw feysydd eraill y dylid eu heithrio o'r gofynion gwahanu?

i) Ydw
ii) Nac ydw
iii) Ddim yn gwybod

Os ydych chi wedi ateb 'Ydw', esboniwch beth yw'r rhain a pham y dylent gael eu heithrio.

Deddfwriaeth atodol

Mae'r gofynion gwahanu yn gweithredu ochr yn ochr â gofynion cyfreithiol eraill, gan gynnwys, er enghraifft, gofynion y ddyletswydd gofal ar gyfer gwastraff. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un sy'n cynhyrchu neu'n trin gwastraff ei gadw'n ddiogel, sicrhau ei fod yn cael ei drin yn gyfrifol a dim ond yn cael ei roi i fusnesau a awdurdodwyd i'w gymryd.

Cwestiwn 6: Ydy cynnwys gwybodaeth am ddeddfwriaeth atodol arall sy'n gweithredu ochr yn ochr â'r rheoliadau (e.e., dyletswydd gofal) yn ddefnyddiol?

i) Defnyddiol iawn
ii) Yn ddefnyddiol ar y cyfan
iii) Dim barn
iv) Ddim yn ddefnyddiol

Oes unrhyw beth arall yr hoffech chi ei weld yn cael ei gynnwys?

Geirfa

Mae'r eirfa'n rhoi esboniad o dermau a ddefnyddir yn y cod i helpu i gynorthwyo gyda dealltwriaeth ac eglurder, er enghraifft ailgylchu 'dolen gaeedig' ac ailgylchu 'dolen agored’.

Cwestiwn 7: Ydych chi'n fodlon gyda'r diffiniadau a roddir yn yr eirfa?

i) Ydw
ii) Nac ydw
iii) Dim barn

Os ydych chi wedi ateb 'Nac ydw', nodwch sut y gellid gwella'r diffiniadau.

Atodiad 1-6: Rhestr o is-ffracsiynau gwastraff

Yn dilyn yr ymgynghoriad yn 2019, nododd yr ymatebwyr eu bod am i'r gofynion gwahanu roi manylion ar is-ffracsiynau deunyddiau gwastraff y dylid eu cynnwys ym mhob ffrwd wastraff ailgylchadwy. Ar gyfer pob eiddo annomestig, mae'r is-ffracsiynau y dylid eu rhoi mewn cynwysyddion ar wahân ar gyfer papur/cerdyn, metel/plastig/carton, gwydr, bwyd, a thecstilau heb eu gwerthu a WEEE bach heb ei werthu yn cael eu cynnwys yn y rheoliadau gwahanu arfaethedig ac maent wedi'u hamlinellu yn Atodiad 1-6 y cod, yn y drefn honno.

Cwestiwn 8: Ydych chi'n fodlon gyda'r esboniad o is-ffracsiynau y dylid eu rhoi mewn ffrydiau ar wahân?

i) Bodlon iawn
ii) Gweddol fodlon
iii) Ddim yn fodlon nac yn anfodlon
iv) Ddim yn fodlon

Os ydych chi wedi ateb 'iii' neu 'iv' esboniwch pam a beth y gellid ei wneud i wneud yr adran hon yn fwy eglur.

 

Rhan II: Newidiadau Polisi Arfaethedig

Cynigion diwygiedig ar y bwriad i gyflwyno’n raddol y gofynion sy’n ymwneud â sWEEE a thecstilau

Mae pryderon wedi'u codi am ddichonoldeb ac effeithiolrwydd cynnwys gofyniad yn y rheoliadau ar gyfer cyflwyno a chasglu sWEEE a thecstilau ar wahân cyn gynted ag y daw’r rheoliadau i rym. Mewn ymateb, cynigir y bydd y gofynion gwahanu a chasglu ar gyfer sWEEE a thecstilau o eiddo annomestig yn cael eu cyflwyno'n raddol hyd at ddwy flynedd yn achos sWEEE a hyd at dair blynedd yn achos tecstilau, yn dilyn y dyddiad dod i rym. Bydd hyn yn eithrio sWEEE heb ei werthu a thecstilau heb eu gwerthu, lle cynigir y bydd angen cyflwyno a chasglu eitemau o'r fath ar wahân i'w hailgylchu o'r dechrau.

Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff bach (“sWEEE”)

Cwestiwn 9: Rydym yn cynnig eithrio'r rhan fwyaf o sWEEE (ar wahân i sWEEE heb ei werthu) i ddechrau o'r gofynion gwahanu ond yn bwriadu eu cynnwys hyd at ddwy flynedd ar ôl i'r rheoliadau ddod i rym. Ydych chi’n cytuno â’r dull gweithredu hwn?

i) Ydw
ii) Nac ydw
Os ydych chi wedi ateb 'Nac ydw', pa ddull gweithredu arall yr hoffech chi ei weld a pham?

Tecstilau

Cwestiwn 10: Rydym yn cynnig eithrio'r rhan fwyaf o decstilau (ar wahân i decstilau heb eu gwerthu) o’r gofynion gwahanu yn y lle cyntaf, ond rydym yn bwriadu eu cynnwys hyd at dair blynedd ar ôl i’r rheoliadau ddod i rym. O ganlyniad, rydym yn cynnig hefyd peidio â bwrw ymlaen â’r gwaharddiad arfaethedig ar anfon tecstilau a gasglwyd ar wahân (ar wahân i decstilau heb eu gwerthu) i gael eu llosgi yn y lle cyntaf, ond yn bwriadu gwneud hynny o fewn yr un amserlen. Ydych chi’n cytuno â hyn?

i) Ydw
ii) Nac ydw

Os ydych chi wedi ateb 'Nac ydw', pa ddull gweithredu arall yr hoffech chi ei weld a pham?

Is-ffracsiwn Cartonau

Mae trafodaethau gyda chynrychiolwyr o'r diwydiant cartonau, casglwyr gwastraff ac ailbroseswyr a WRAP wedi nodi mai casglu cartonau yn y ffrwd fetel a phlastig sydd orau – dyma'r ateb gorau ar gyfer gwahanu cartonau wedyn ar gyfer eu hailbrosesu. Ar hyn o bryd, mae capasiti yn y farchnad i fynd â’r holl gartonau o aelwydydd a’r holl gartonau masnachol sy’n codi yng Nghymru.

Cwestiwn 11: Ein bwriad yw cynnwys cartonau yn y ffrwd metel a phlastig. Ydych chi'n cytuno mai dyma'r ffrwd orau i osod cartonau ynddi?

i) Ydw
ii) Nac ydw
iii) Ddim yn gwybod

Os ydych chi wedi ateb 'Nac ydw neu 'Ddim yn gwybod', esboniwch pam.


Cwestiwn 12: A ddylai'r ffrwd ddeunyddiau hon (h.y., metel/plastig/cartonau) hefyd gynnwys pecynnu cyfansawdd ffeibr-plastig eraill o gyfansoddiad tebyg i gartonau’? Bwriad y geiriad hwn yw cwmpasu deunyddiau fel cynwysyddion papur caled (er enghraifft, pecynnu a ddefnyddir ar gyfer creision) a chwpanau a ddefnyddir ar gyfer diodydd poeth?

i) Dylai
ii) Na ddylai
iii) Ddim yn gwybod

Os ydych chi wedi ateb 'Na ddylai' neu 'Ddim yn gwybod' eglurwch eich rhesymau. Oes unrhyw beth arall ddylai gael ei gynnwys?

Cyflwyno'n raddol ar gyfer ysbytai

Rydym yn bwriadu i ysbytai fod yn ddarostyngedig i'r gofynion gwahanu ddwy flynedd wedi i'r rheoliadau ddod i rym, sy'n golygu y bydd yn rhaid i ysbytai gydymffurfio â'r gofynion gwahanu o 1 Hydref 2025. Bwriad y broses hon o gyflwyno'n raddol yw adlewyrchu'r pwysau y mae ysbytai wedi'i wynebu yn ystod y pandemig diweddar.

Cwestiwn 13: Ydych chi'n cytuno â’r dull gweithredu hwn ar gyfer ysbytai?

i) Ydw
ii) Nac ydw
iii) Ddim yn siŵr

Os ydych chi wedi ateb 'ii' neu 'iii', esboniwch eich rhesymau.

Casgliadau

Cwestiwn 14: Os oes gennych chi unrhyw sylwadau mewn perthynas â'r cod neu'r rheoliadau arfaethedig nad ydynt yn cael sylw uniongyrchol yn y cwestiynau uchod, amlinellwch y rhain yn y ffurflen ymateb isod.

Y camau nesaf

Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn ystyried ymatebion ac yn rhoi ystyriaeth iddynt wrth wneud yr Offerynnau Statudol (y ddeddfwriaeth). Unwaith y bydd yr holl ymatebion wedi eu hystyried, bydd Ymateb y Llywodraeth yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan. Ein bwriad yw gosod deddfwriaeth gerbron y Senedd er mwyn dod â'r rheoliadau i rym ar 1 Hydref 2023.

Gall y dyddiad hwn newid yn dibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad a’r prosesau hysbysu a deddfwriaethol gofynnol.