Neidio i'r prif gynnwy

Yn ôl yr wybodaeth a gyhoeddwyd heddiw am gategoreiddio ysgolion eleni, mae perfformiad ysgolion wedi gwella.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion ei chyflwyno yn 2014, ac mae'n gosod ysgolion mewn un o bedwar categori lliw i ddangos lefel y cymorth sydd ei angen - gwyrdd, melyn, oren a choch.

Mae canlyniadau eleni yn dangos bod mwy o ysgolion yn y categorïau gwyrdd a melyn na'r llynedd. Dim ond pedwar diwrnod o gymorth sydd ei angen ar ysgolion gwyrdd ac mae ysgolion melyn yn cael hyd at 10 diwrnod o gymorth.

Y llynedd, newidiwyd ychydig ar y ffactorau sy'n penderfynu ar gategori ysgol. Bellach mae'r asesiad categoreiddio'n ystyried gwybodaeth sy'n llawer ehangach, gan gynnwys lles ac ansawdd y dysgu a'r addysgu, yn hytrach nac edrych dim ond ar feysydd fel perfformiad, megis canlyniadau TGAU.

Diben cynnwys amrywiaeth ehangach, fwy soffistigedig o ffactorau yw deall y math o gymorth sydd ei angen ar ysgol a rhoi darlun gwell i rieni o sut mae ysgol yn perfformio.

I grynhoi:

  • mae 88.4 y cant o ysgolion cynradd a 69.4 y cant o ysgolion uwchradd yn y categorïau gwyrdd a melyn bellach. Mae'r cynnydd hwn ers y llynedd yn parhau'r duedd a welwyd ers 2015.
  • bu cynnydd yn nifer yr ysgolion sydd yn y categori gwyrdd, sef y categori o ysgolion y mae angen y gefnogaeth leiaf arnynt, a hynny o 6.2 pwynt canran, i 41.6 y cant.
  • mae cyfran yr ysgolion coch, sef y rheini sydd wedi'u nodi'n ysgolion y mae angen y gefnogaeth fwyaf arnynt, wedi aros fwy neu lai yr un fath a'r llynedd (gostyngiad bychan o 0.1 y cant) yn y sector cynradd. Yn y sector uwchradd, mae hyn wedi gostwng o 1.8 pwynt canran.
  • mae 52.5 y cant o ysgolion arbennig wedi'u categoreiddio'n ysgolion gwyrdd, sef y categori o ysgolion y mae angen y gefnogaeth leiaf arnynt. Nid oes un ysgol arbennig yn y categori coch, sef y rheini y mae angen y gefnogaeth fwyaf arnynt.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams:

"Rwy'n falch iawn bod mwy fyth o’n hysgolion cynradd bellach yn y categori gwyrdd a melyn, gan barhau'r duedd rydyn ni wedi bod yn ei gweld dros y blynyddoedd diwethaf.

"Mae rôl allweddol gan yr ysgolion hyn wrth helpu ysgolion eraill i wella drwy rannu eu harbenigedd, eu sgiliau a'u harferion da. 

“Mae'r system wedi datblygu'n un fwy soffistigedig dros y blynyddoedd. Mae bellach yn caniatáu ystyriaeth o lawer mwy o ffactorau sy'n ymwneud â gallu ysgol i wella. Mae hyn wedi arwain at raglen ymyrraeth a chymorth sydd wedi ei theilwra ac sy'n diwallu anghenion pob disgybl.”