Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

1. Mae'r rhai sy'n gweithio ym myd addysg a gwaith ieuenctid yn chwarae rhan greiddiol yn y broses o helpu plant a phobl ifanc i fod yn ddiogel, dysgu a ffynnu yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio atgyfnerthu proffesiynoldeb y gweithlu hollbwysig hwn mewn ffordd gadarnhaol. Gwnaethom gynnal ymgynghoriad ym mis Mawrth 2022 ar ein cynigion i fynd i'r afael â rhai anghysondebau yn y gofynion cofrestru presennol ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru.

2. Mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar i bawb a roddodd o'u hamser i roi adborth ar ein cynigion. Mae'r ail ymgynghoriad hwn yn gofyn am safbwyntiau penodol ar yr offeryn statudol drafft newydd, gan gynnwys y strwythur ffioedd a chymhorthdal arfaethedig newydd. Ein bwriad yw cyflwyno'r ddeddfwriaeth newydd hon yn ystod gwanwyn 2023.

3. Rydym wedi cymryd gofal i ddadansoddi'r effeithiau posibl ar y gweithlu addysg a gwaith ieuenctid yng Nghymru i sicrhau tegwch, ni waeth ble y maent yn gweithio. Fe'ch gwahoddir i roi sylwadau ar gadernid a chywirdeb ein dadansoddiad drwy'r ymgynghoriad hwn.

4. Mae'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad yn eich galluogi i roi eich barn a'ch safbwyntiau. Mae croeso ichi wneud sylwadau ar bob un o'n cynigion neu rai ohonynt.

Sut mae'r trefniadau cofrestru'n gweithio ar hyn o bryd?

5. Mae cofrestriad yn rhoi trwydded i weithio mewn proffesiwn penodol. Mae'r amrywiaeth o broffesiynau rheoleiddiedig yn y DU yn helaeth ac yn tyfu. Ymhlith yr enghreifftiau mae'r proffesiwn cyfreithiol, y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, cyfrifyddiaeth, peirianneg a phensaernïaeth.

6. Mae'r trefniadau cofrestru'n golygu y gall y cyhoedd fod yn hyderus bod y bobl sy'n gweithio mewn proffesiwn penodol yn meddu ar gymwysterau addas, eu bod yn diweddaru eu gwybodaeth a'u sgiliau'n gyson, a bod eu hymddygiad a'u cymhwysedd o safon briodol.

7. Fel rheoleiddiwr statudol annibynnol, rôl Cyngor y Gweithlu Addysg (y Cyngor) yw amddiffyn y cyhoedd. Mae'n gwneud hynny drwy gadw cofrestr o ymarferwyr addysg (y Gofrestr). Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i bobl sy'n perthyn i'r categorïau canlynol gofrestru ar hyn o bryd:

  • Athrawon ysgol cymwysedig a gweithwyr cymorth dysgu sy'n darparu gwasanaethau penodedig mewn ysgolion a gynhelir
  • Athrawon sy'n darparu addysg mewn sefydliadau addysg bellach
  • Gweithwyr cymorth dysgu sy'n darparu gwasanaethau penodedig mewn sefydliadau addysg bellach
  • Ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith sy'n darparu gwasanaethau ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith ar gyfer neu ar ran corff dysgu seiliedig ar waith
  • Gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig sy'n darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar ran corff perthnasol (awdurdod lleol, corff llywodraethu ysgol, sefydliad addysg bellach, neu gorff gwirfoddol)

8. Mae'r gofrestr ar gael i'r cyhoedd ar wefan y Cyngor. Ar hyn o bryd, mae gan y Cyngor tua 85,000 o gofrestreion.

9. Fel sy'n wir am bob proffesiwn arall a reoleiddir, gall unigolion sydd wedi'u cofrestru â'r Cyngor ddangos eu bod yn rhan o broffesiwn sy'n uchel ei statws a'i barch, gyda gofynion mynediad penodol a disgwyliadau o ran ymddygiad a chymhwysedd. 

10. Mae hyn yn golygu y gall y cyhoedd fod yn hyderus y gall y rhai sydd ar y Gofrestr ddangos bod ganddynt y sgiliau, yr wybodaeth a'r cymeriad i gyflawni'r dyletswyddau sy'n rhan o'u proffesiwn yn ddiogel ac yn effeithiol. Mae Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol y Cyngor yn nodi'r egwyddorion allweddol y gall y cyhoedd eu disgwyl.

11. Yn ogystal â manteision proffesiynoldeb ac ymddiriedaeth y cyhoedd, gall y rhai sydd wedi'u cofrestru â'r Cyngor fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd datblygu proffesiynol a chymorth. Ar hyn o bryd, mae hyn yn cynnwys mynediad at hyfforddiant a swyddi drwy Addysgwyr Cymru, mynediad at ddigwyddiadau, canllawiau arferion da a llyfrau a chyfnodolion ymchwil ar-lein, yn ogystal â'r Pasbort Dysgu Proffesiynol sy'n helpu cofrestreion i gofnodi, rhannu a chynllunio eu gwaith dysgu a myfyrio arno. Drwy'r cylchlythyrau a'r diweddariadau rheolaidd, gallant hefyd ddylanwadu ar bolisi drwy ymateb i ymgyngoriadau ac arolygon ac ymuno â gweithgorau.

12. Mae'n rhaid i'r Cyngor gynnal ymchwiliad os honnir bod person cofrestredig yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymwysedd proffesiynol difrifol, neu os caiff ei euogfarnu o drosedd berthnasol. Gall ymchwiliad arwain at orchymyn disgyblu a all, yn yr achosion mwyaf difrifol, arwain at ddileu enw'r person o'r gofrestr.

13. Y cyflogwr neu'r asiantaeth, yn ogystal â'r ymarferwyr eu hunain, sy'n gyfrifol am sicrhau mai dim ond ymarferwyr cofrestredig a gyflogir i wneud y gwaith sy'n benodol i'w categori cofrestru.

Beth rydym am ei newid?

14. Amlinellodd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym yn gynharach yn 2022 y bylchau yn y gofynion cofrestru presennol. Mae'r bylchau hyn yn golygu bod lefel y trefniadau rheoleiddio proffesiynol yn amrywio ar draws y gweithlu addysg, hyd yn oed pan fo unigolion yn cyflawni rolau tebyg iawn. Er enghraifft, mae'n rhaid i athro sy'n gweithio mewn ysgol a gynhelir gofrestru â'r Cyngor, ond nid oes rhaid i athro sy'n gwneud yn union yr un gwaith i bob pwrpas mewn ysgol annibynnol wneud hynny.

15. Ein nodau, wrth wneud y newidiadau hyn, yw:

  • atgyfnerthu'r mesurau diogelu sydd ar waith i amddiffyn dysgwyr a staff
  • sicrhau cydraddoldeb i'r rhai sy'n gweithio mewn rolau tebyg
  • sicrhau lefel o broffesiynoldeb ym mhob rhan o'r sector addysg
  • pennu ymddygiadau disgwyliedig ar gyfer y sectorau
  • sicrhau y gall staff ym mhob rhan o'r sector addysg fanteisio ar amrywiaeth o adnoddau datblygu a hyfforddiant a ddarperir drwy'r Cyngor
  • rhoi llwybr i unigolion neu sefydliadau godi pryderon a sicrhau yr ymchwilir i'r pryderon hynny'n annibynnol

16. Dangosodd y crynodeb o'r ymatebion, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2022, gefnogaeth gyffredinol i'r cynigion i greu categorïau ychwanegol neu ddiwygio'r categorïau cofrestru presennol. O ganlyniad, mae categorïau newydd ar gyfer athrawon a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion annibynnol wedi'u cynnwys yn y Gorchymyn drafft.

17. Yn ein hymgynghoriad cyntaf, nodwyd ei bod yn ofynnol i benaethiaid ysgolion a gynhelir gofrestru â'r Cyngor hyd yn oed os nad oes ganddynt unrhyw ymrwymiadau addysgu yn yr ysgol. Fodd bynnag, yn ystod ein gwaith, rydym wedi cael gwybod nad yw'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid ysgolion a gynhelir gofrestru os nad ydynt yn cyflawni'r gwaith penodedig a gyflawnir gan athro. Fodd bynnag, gallant gofrestru os ydynt yn dymuno cyflawni'r gwaith penodedig ac, yn ymarferol, ar hyn o bryd, mae holl benaethiaid ysgolion a gynhelir yn cofrestru yn y categori athro neu athrawes ysgol. 

18. Mae angen inni sicrhau bod yr holl fesurau diogelu ar waith, nawr ac yn y dyfodol. Felly, mae'r Gorchymyn drafft yn diweddaru'r categori athro neu athrawes ysgol i gynnwys penaethiaid nad ydynt yn cyflawni rolau addysgu. Mae'r Gorchymyn drafft hefyd yn cynnwys penaethiaid nad ydynt yn cyflawni rolau addysgu mewn ysgolion annibynnol.

19. Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad hefyd yn gymorth i ddod o hyd i ffordd o ddiweddaru'r rhestr o gymwysterau gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid. Gwnaethant gadarnhau hefyd na ddylem ei gwneud yn ofynnol i wirfoddolwyr gofrestru. Ni fydd yn ofynnol i weithwyr ieuenctid cyflogedig heb gymhwyso na gweithwyr cymorth ieuenctid heb gymhwyso gofrestru, a byddwn yn ymgysylltu eto â rhanddeiliaid i ddatblygu diffiniad clir o waith ieuenctid.

Athrawon mewn ysgolion annibynnol

20. Ychwanegwyd categori newydd at y Gorchymyn drafft sy'n ei gwneud yn ofynnol i bersonau gofrestru o dan y categori athro neu athrawes mewn ysgol annibynnol os ydynt yn darparu unrhyw un o'r “gwasanaethau athro neu athrawes mewn ysgol annibynnol” canlynol mewn neu ar ran ysgol annibynnol yng Nghymru:

  • cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau ar gyfer disgyblion
  • cyflwyno gwersi i ddisgyblion
  • asesu datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion
  • adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion
  • cyflawni'r uwch-rôl arwain o ran rheoli'r ysgol

21. Disgwylir i'r categori hwn gynnwys staff sy'n cyflawni unrhyw un o'r rolau canlynol (nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr):

  • staff addysgu llawn amser
  • staff addysgu rhan amser
  • staff cyflenwi, a drefnir drwy asiantaeth neu fel arall
  • staff addysgu peripatetig, er enghraifft, athrawon cerdd a chwaraeon
  • staff addysgu ymgynghorol sy'n treulio cyfran o'u hamser yn addysgu, gan gynnwys cyswllt uniongyrchol heb oruchwyliaeth â disgyblion
  • tiwtoriaid yn y cartref a gyflogir gan ysgol annibynnol i addysgu dysgwyr na allant fynychu'r ysgol yn rheolaidd
  • unrhyw aelodau eraill o staff a all fod yn cyflawni mwy nag un rôl mewn ysgol, y mae un o'r rolau hynny yn cynnwys addysgu, er enghraifft rhiant tŷ, cynghorydd gyrfaoedd, tiwtoriaid

22. Os na fydd ysgol yn siŵr pa aelodau o staff y bydd yn ofynnol iddynt gofrestru, bydd y Cyngor yn gweithio gyda hi i roi cadarnhad.

Gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion annibynnol

23. Mae'r Gorchymyn drafft yn cynnwys categori newydd arall sy'n ei gwneud yn ofynnol i weithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion annibynnol gofrestru. Bydd yn ofynnol iddynt gofrestru os ydynt yn helpu i ddarparu “gwasanaethau athro neu athrawes mewn ysgol annibynnol” (paragraff 20 uchod) mewn neu ar ran ysgol annibynnol yng Nghymru. 

24. Disgwylir i'r categori hwn gynnwys staff sy'n cyflawni unrhyw un o'r rolau canlynol (nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr): 

  • cynorthwyydd addysgu
  • cynorthwyydd dosbarth
  • cynorthwyydd cymorth dysgu
  • cynorthwyydd addysgu lefel uwch
  • cynorthwyydd anghenion arbennig/ychwanegol
  • cynorthwyydd cymorth dwyieithog
  • cynorthwyydd bugeiliol/lles
  • cynorthwyydd cymorth
  • tiwtoriaid (preswyl a dibreswyl)
  • cynorthwywyr blynyddoedd cynnar
  • hyfforddwyr
  • goruchwylydd cyflenwi
  • technegwyr
  • anogwyr dysgu

25. Os na fydd ysgol yn siŵr pa aelodau o staff y bydd yn ofynnol iddynt gofrestru, bydd y Cyngor yn gweithio gyda hi i roi cadarnhad.

Penaethiaid mewn ysgolion a gynhelir

26. Ar hyn o bryd, mae'n ofynnol i benaethiaid ysgolion a gynhelir gofrestru os ydynt yn perthyn i'r categori ‘athro neu athrawes ysgol’, h.y., maent yn athrawon cymwysedig ac yn cyflawni'r gwaith penodedig. Fodd bynnag, os nad yw penaethiaid yn cyflawni'r gwaith penodedig ar gyfer athrawon ysgol, nid yw'n ofynnol iddynt gofrestru â'r Cyngor.

27. Yn ymarferol, gwyddom fod pob pennaeth yn cofrestru o fewn y categori athro neu athrawes ysgol. Fodd bynnag, mae risg i'r dyfodol os nad yw'r gofyniad i gofrestru yn cynnwys pob un ohonynt. Felly, rydym yn cynnig y dylid manteisio ar y cyfle hwn i ddiwygio'r categori athro neu athrawes ysgol fel ei bod yn ofynnol i bob pennaeth nad yw'n cyflawni rôl addysgu gofrestru. Bydd hyn yn cynnwys pennaeth sy'n gyfrifol am arwain y dysgu yn yr ysgol, er enghraifft pennaeth gweithredol, pennaeth clwstwr o ysgolion neu berchennog.

Gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid

28. Ehangwyd y gofynion cofrestru i gynnwys gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig a gaiff eu cyflogi i ddarparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer cyflogwr perthnasol. Mae cyflogwr perthnasol yn golygu person sy'n cyflogi neu'n defnyddio personau mewn ffordd arall i ddarparu gwasanaethau datblygu ieuenctid yng Nghymru. Mae hyn yn golygu na fyddai trefniadau cofrestru gweithwyr cymorth ieuenctid a gweithwyr ieuenctid yn cael eu cyfyngu mwyach i'r cyrff perthnasol a restrir yng Ngorchymyn 2016. Mae'r diwygiadau hefyd yn galluogi'r rhai sy'n gweithio tuag at gymhwyster o'r fath i gofrestru dros dro ac maent yn ei gwneud yn ofynnol i'r rhai sy'n gymwys i gofrestru dros dro ac sy'n darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer neu ar ran cyflogwr perthnasol gofrestru dros dro (oni bai eu bod yn darparu'r gwasanaethau fel gwirfoddolwyr).

29. Yn yr ymgynghoriad cyntaf, gwnaethom gynnig y dylai fod yn ofynnol i unigolion a gyflogir i ddarparu gwasanaethau gwaith ieuenctid ond nad oes ganddynt gymhwyster gweithiwr ieuenctid neu weithiwr cymorth ieuenctid cydnabyddedig gofrestru. Gallai hyn gynnwys pobl sydd wedi gweithio mewn lleoliad ers peth amser ac sydd wedi gweithio eu ffordd i fyny i'w swydd bresennol, ond nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau penodol ym maes gwaith ieuenctid.

30. Fodd bynnag, ar ôl dadansoddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad diwethaf ac ystyried y mater yn fanylach, mae'n glir y byddai angen gwneud mwy o waith polisi i ddatblygu diffiniad o waith ieuenctid er mwyn cofrestru'r rhai nad oes ganddynt gymhwyster cydnabyddedig ym maes gwaith ieuenctid.

31. Mae'n hollbwysig ein bod yn cael y diffiniad yn gywir er mwyn osgoi unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Byddwn yn ymgynghori eto â rhanddeiliaid ar y mater, ar wahân i'r ymgynghoriad hwn. Byddwn yn gwneud hyn yng nghyd-destun gwaith polisi ehangach ynghylch cynnig y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro i atgyfnerthu'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid. Felly, nid yw'r Gorchymyn drafft yn cyflwyno gofynion cofrestru ar gyfer gweithwyr ieuenctid cyflogedig heb gymhwyso na gweithwyr cymorth ieuenctid heb gymhwyso ar hyn o bryd. Yn y cyfamser, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i nodi ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o arferion diogelu da yn y sector ac ystyried cyfleoedd i uwchsgilio'r gweithlu yn hyn o beth.

32. Er mwyn sicrhau cymesuredd, o ran unigolion sy'n gweithio tuag at gymhwyster gwaith ieuenctid cydnabyddedig, mae'r Gorchymyn drafft yn cyfyngu'r gofyniad i gofrestru i'r rhai sy'n gweithio tuag at gymhwyster ac sy'n cael eu cyflogi i gyflawni gwaith ieuenctid. Y rheswm am hyn yw ei bod yn bosibl bod y rhai sy'n cael eu cyflogi i gyflawni gwaith ieuenctid hefyd yn dod i gysylltiad yn amlach â phobl ifanc. Fodd bynnag, mae'r Gorchymyn drafft yn galluogi unigolion eraill, nad ydynt yn cael eu cyflogi i gyflawni gwaith ieuenctid ond sy'n gweithio tuag at statws gweithiwr ieuenctid neu weithiwr cymorth ieuenctid cymwysedig, i gofrestru'n wirfoddol. Dylai hyn sicrhau bod y garfan honno yn cael mynediad mwy cyfartal i'r cymorth a'r cyfleoedd datblygu proffesiynol a gynigir gan y Cyngor.

Cymwysterau gwaith ieuenctid

33. Yn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yng ngwanwyn 2022, gwnaethom gynnig y dylid dileu'r rhestr o gymwysterau gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016 a'i chadw mewn man arall. Mae'r rhestr yn nodi'r cymwysterau gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid a gymeradwyir gan y Cyd-bwyllgor Negodi ar gyfer Gweithwyr Ieuenctid a Chymunedol. Felly, mae'n diffinio'r hyn a olygir gan weithiwr ieuenctid cymwysedig neu weithiwr cymorth ieuenctid cymwysedig. Ein bwriad oedd y byddai modd diweddaru'r rhestr yn gyflymach. Roedd yr ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad yn cefnogi'r cynnig hwn ar y cyfan.

34. Fodd bynnag, ar ôl ystyried y cynnig hwn yn fanwl, daethpwyd i'r casgliad nad yw paragraff 2 o Atodlen 2 i Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 yn caniatáu i Weinidogion Cymru newid ble y caiff y rhestr ei chadw. 

35. Rydym yn awyddus o hyd i sicrhau bod y rhestr mor gyfredol â phosibl ac rydym wedi ystyried ffyrdd eraill o gyflawni'r nod hwn gyda'r Cyngor a rhanddeiliaid allweddol eraill. Yn sgil hyn, mae'r Gorchymyn drafft yn gosod dyletswyddau ar y Cyngor i baratoi a chadw rhestr o gymwysterau a rhoi gwybod i Weinidogion Cymru bobblwyddyn am unrhyw newidiadau y mae angen eu gwneud i'r rhestr yn y Gorchymyn, yn ei farn ef.

36. Credwn y bydd hyn yn cynnig ffordd strwythuredig o ddiweddaru'r rhestr o gymwysterau gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid yn y Gorchymyn. Bydd hefyd yn helpu Llywodraeth Cymru i nodi effaith y newidiadau i'r rhestr a ddelir gan y Cyngor, fel y gellir gwneud penderfyniadau ynghylch yr hyn sydd angen ei wneud. Dylai hyn sicrhau bod y rhestr yn cael ei diweddaru pan fo angen, fel y gall unigolion sydd â chymwysterau cymeradwy perthnasol gofrestru cyn gynted â phosibl.

37. Amlinellodd yr ymgynghoriad yng ngwanwyn 2022 nad yw'r Dystysgrif Lefel 2 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid, sydd wedi'i chynnwys yng Ngorchymyn 2016, yn rhoi statws cymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid llawn. Wrth drafod â'n rhanddeiliaid ac ystyried ymhellach y ffordd orau o fynd i'r afael â hyn, nodwyd nad yw'r Dyfarniad Lefel 2 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (sydd hefyd wedi'i gynnwys yng Ngorchymyn 2016) yn rhoi statws gweithiwr cymorth ieuenctid cymwysedig ychwaith.

38. Er mwyn atgyfnerthu ymdrechion i broffesiynoli'r gweithlu gwaith ieuenctid, rydym wedi penderfynu dileu'r cymwysterau Lefel 2 o Orchymyn 2016. Gwyddom fod cynnwys y cymwysterau Lefel 2 yng Ngorchymyn 2016 wedi achosi rhywfaint o ddryswch ynghylch statws yr unigolion sydd wedi ennill y cymwysterau hyn. Er mwyn rhoi eglurder a sicrhau uniondeb y rhestr, mae'r Gorchymyn drafft diwygiedig yn dileu'r cymwysterau Lefel 2 hyn.

39. Gwyddom fod nifer o bobl yn meddu ar y cymwysterau Lefel 2 hyn, ac y bydd hyn yn effeithio ar eu cymhwysedd i gofrestru. O'r unigolion hynny, gall rhai fod yn gweithio tuag at gymhwyster Lefel 3 neu uwch a byddai'n ofynnol iddynt gofrestru dros dro o dan y cynigion newydd, ac ni fydd y rhai nad ydynt yn gweithio tuag at gymwysterau o'r fath yn gallu cofrestru. Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnig i ddileu cymwysterau Lefel 2 o'r gorchymyn, gall y rhai sydd eisoes wedi cofrestru ac sy'n meddu ar gymhwyster Lefel 2 barhau i gofrestru yn y categori gweithiwr cymorth ieuenctid am ddwy flynedd o'r dyddiad y daw'r gorchymyn i rym (oni bai eu bod yn cofrestru ar gwrs a fyddai'n golygu bod yn rhaid iddynt gofrestru dros dro).

40. Byddai hyn yn rhoi amser i unrhyw un nad yw'n gweithio tuag at gymhwyster lefel uwch ar hyn o bryd ystyried ei opsiynau a chofrestru ar gwrs sy'n ei wneud yn gymwys i gofrestru dros dro (os yw'n dymuno gwneud hynny). Byddai'r cynnig hwn hefyd yn osgoi unrhyw fwlch yn y trefniadau cofrestru ar gyfer yr unigolion hyn. Yn ogystal, byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod unigolion yn ymwybodol o'r llwybrau sydd ar gael tuag at statws cymwysedig ac yn eu hannog i gyrraedd y pwynt hwnnw.

41. Ymhlith y newidiadau eraill i'r Gorchymyn drafft, rydym wedi ychwanegu cymwysterau cyfatebol hanesyddol cymeradwy. Mae hyn yn golygu y bydd unigolion sy'n meddu ar gymwysterau o'r fath yn gymwys i gofrestru. Yn ogystal, mae rhai cymwysterau yn aros i gael eu cymeradwyo ar hyn o bryd. Ar ôl i'r prosesau perthnasol gael eu cwblhau, caiff y rhain eu hychwanegu at y rhestr yn y Gorchymyn terfynol.

Staff sy'n gweithio ym maes addysg ôl–16

42. Mae'r Gorchymyn drafft yn cynnwys dau gategori newydd i'w gwneud yn ofynnol i bobl gofrestru os ydynt yn gweithio mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol. Bydd un categori yn cynnwys penaethiaid ac athrawon. Bydd yr ail gategori yn cynnwys gweithwyr cymorth dysgu.

43. Pan wnaethom lunio ein cynigion gwreiddiol yn gynharach eleni, gwnaethom gynnwys trefniadau cofrestru gorfodol ar gyfer:

  • y rhai sydd ond yn cyflwyno cyrsiau addysg uwch mewn sefydliadau addysg bellach
  • penaethiaid ac uwch-arweinwyr (gan gynnwys Prif Swyddogion Gweithredol) nad ydynt yn cyflawni rolau addysgu mewn sefydliadau ôl-16 a sefydliadau dysgu seiliedig ar waith
  • ymarferwyr sy'n cyflwyno darpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned ar gyfer neu ar ran awdurdod lleol
  • darparwyr dysgu seiliedig ar waith a ariennir yn gyhoeddus ond na chânt eu hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglenni prentisiaeth

44. Fodd bynnag, ar ôl ystyried y mater ymhellach, teimlwn nad yw'n ymarferol bwrw ymlaen â'r opsiynau hyn ar hyn o bryd. Rhaid i ni wneud mwy o waith i ddiweddaru'r categorïau ac ni allwn wneud hyn o fewn amserlen y Gorchymyn drafft hwn. Yn ogystal, nid oes modd cadarnhau pwy yw'r darparwyr dysgu seiliedig ar waith na sut y cânt eu hariannu'n gyhoeddus, gan nad yw'r wybodaeth hon yn cael ei chadw mewn man canolog. Efallai y byddwn yn ystyried y maes hwn yn fanylach yn y dyfodol os bydd y sefyllfa'n newid.

Gwirfoddolwyr

45. Roedd mwyafrif yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cytuno y byddai'n afresymol neu'n amhriodol ei gwneud yn ofynnol i wirfoddolwyr yn y sector addysg gofrestru â'r Cyngor. Pe byddem yn ei gwneud yn ofynnol i wirfoddolwyr gofrestru â'r Cyngor, byddem yn eu rhoi mewn sefyllfa wahanol i wirfoddolwyr ym mhob sector arall. Byddai hyn yn ei gwneud yn anodd denu cymorth byrdymor ac anffurfiol. Felly, nid yw'r Gorchymyn drafft yn cynnwys gofyniad i wirfoddolwyr gofrestru â'r Cyngor.

Ffioedd a chymorthdaliadau

46. Mae'n rhaid i bawb sy'n cofrestru â'r Cyngor dalu ffi flynyddol. Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017 yn pennu ffi o £46 i bob cofrestrai. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymhorthdal ar gyfer y ffi i'r rhai sy'n cofrestru drwy daliad yn uniongyrchol i'r Cyngor. Mae'r cymhorthdal hwn yn golygu mai'r ffi i gofrestreion yw £45 neu £15 yn dibynnu ar y categori cofrestru. Ceir rhagor o wybodaeth am y ffioedd presennol ar wefan y Cyngor.

47. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai aelodau o'r gweithlu addysg yn y sector a gynhelir a'r sector annibynnol gael eu trin yr un peth. Mae hyn yn golygu cynnig y cymhorthdal i athrawon a gweithwyr cymorth yn y ddau sector yn yr un ffordd.

48. Felly, rydym yn cynnig y dylid cadw'r ffi flynyddol o £46 i bob cofrestrai, gan gynnwys y categorïau newydd a nodir yn ein deddfwriaeth drafft. Rydym am glywed eich barn ar y fframwaith ffioedd a chymorthdaliadau. Mae Tabl 1 yn nodi'r fframwaith presennol a'r fframwaith arfaethedig ar gyfer y categorïau newydd.

Tabl 1: fframwaith ffioedd a chymorthdaliadau presennol ac arfaethedig

Categori cofrestru presennol Ffi gofrestru flynyddol Ffi gofrestru yn cynnwys cymhorthdal*
Athro neu athrawes ysgol £46 £45

Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol

£46 £15
Athro neu athrawes addysg bellach £46 £45
Gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach £46 £15
Gweithiwr ieuenctid £46 £45
Gweithiwr cymorth ieuenctid £46 £15
Ymarferydd dysgu seiliedig ar waith £46 £45
Categori cofrestru newydd neu ddiwygiedig Ffi gofrestru flynyddol Ffi gofrestru yn cynnwys cymhorthdal
Athro neu athrawes mewn ysgol annibynnol £46 £45
IGweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol £46 £15
Athro neu athrawes mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol £46 £45
Gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol £46 £15
Gweithiwr ieuenctid dros dro £46 £45
Gweithiwr cymorth ieuenctid dros dro £46 £15

*mae rhai cyflogwyr yn talu ffioedd eu cyflogeion neu'n rhoi cymhorthdal ychwanegol tuag at eu ffioedd.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

49. Diolch am roi o'ch amser i ddarllen y ddogfen hon a'r Gorchymyn drafft cysylltiedig. Mae croeso ichi wneud unrhyw sylw ag y dymunwch. Fodd bynnag, byddem yn croesawu'n benodol sylwadau ar un neu fwy o'r cwestiynau yn y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad. Os hoffech ychwanegu mwy, defnyddiwch y lle sydd ar gael yn y ffurflen.

Cwestiwn 1

A ydych chi’n cytuno bod y Gorchymyn drafft yn adlewyrchu'r categorïau cofrestru ychwanegol arfaethedig ar gyfer ysgolion annibynnol yn gywir?

Cwestiwn 2

A ydych chi’n cytuno bod y Gorchymyn drafft yn cadarnhau'r gofyniad i bob pennaeth mewn ysgolion a gynhelir gofrestru?

Cwestiwn 3

A ydych chi’n cytuno bod y Gorchymyn drafft yn adlewyrchu'r diwygiadau arfaethedig ar gyfer y sector gwaith ieuenctid yn gywir?

Cwestiwn 4

A ydych chi’n cytuno bod y diwygiadau a wnaed i Atodlenni 1 a 2 i Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016 yn cyflwyno rhestr gywir o gymwysterau gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid (gan gynnwys cymwysterau cyfatebol ledled y DU a chymwysterau hanesyddol perthnasol)?

Cwestiwn 5

A ydych chi’n cytuno bod y Gorchymyn drafft yn adlewyrchu'r categorïau cofrestru newydd arfaethedig ar gyfer Sefydliadau Ôl-16 Arbennig Annibynnol yn gywir?

Cwestiwn 6

A ydych chi’n cytuno â'r strwythur ffioedd a chymhorthdal arfaethedig ar gyfer y categorïau cofrestru newydd arfaethedig?

Cwestiwn 7

A ydych chi’n cytuno â'n dadansoddiad o effeithiau posibl y categorïau cofrestru newydd arfaethedig?

Cwestiwn 8

A ydych chi’n meddwl bod unrhyw newidiadau eraill i'r ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â chofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg y dylid eu hystyried?

Cwestiwn 9

Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai ein cynigion yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Pa effeithiau y byddent yn eu cael, yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu'r effeithiau cadarnhaol a lliniaru'r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 10

Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut rydych chi’n credu y gallai'r cynigion gael eu llunio neu eu haddasu er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac o ran sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac atal unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac o ran sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

50. Defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad i ymateb i'r cwestiynau uchod.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd rheolydd data unrhyw ddata personol rydych yn eu darparu fel rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad. Bydd Gweinidogion Cymru yn dibynnu ar y pwerau statudol sydd ganddynt i brosesu'r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau hyddysg ar y ffordd y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â hwy neu drefnu ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Os bydd Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â gwaith dadansoddi pellach o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, gellir comisiynu trydydd parti achrededig i gynnal y gwaith hwn (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract yr ymgymerir ag unrhyw waith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi'i gynnal yn gywir, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, nodwch hynny wrth i chi ddychwelyd eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu dileu cyn cyhoeddi. Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, yna caiff yr adroddiadau hyn a gyhoeddir eu cadw am gyfnod amhenodol. Fel arall, bydd unrhyw ddata a ddelir gan Lywodraeth Cymru amdanoch yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a ddelir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu prosesu data neu gyfyngu ar brosesu data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i ofyn i'ch data gael eu 'dileu' (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gludadwyedd data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac at ba ddiben, neu os hoffech arfer eich hawl o dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Mae manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: Information Commissioner's Office

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig