Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi rhoi statws enw bwyd gwarchodedig i Gaws Traddodiadol Caerffili sy’n golygu ei fod bellach yn mwynhau’r un statws â Champagne, Ham Parma a Pheis Porc Melton Mowbray.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O heddiw ymlaen, bydd Caws Caerffili yn cael ei warchod gan statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) Ewrop, sy'n un o dri dynodiad arbennig Enwau Bwyd Gwarchodedig (PFN) Ewrop. 

O dan gynllun enwau bwyd gwarchodedig yr Undeb Ewropeaidd, mae rhai bwyd a diod yn cael eu gwarchod yn gyfreithiol ar draws Ewrop rhag cael eu copïo a'u camddefnyddio, a rhag twyll. Caws Caerffili yw'r cyntaf yng Nghymru i gael y statws hwn ac mae'n ymuno â theulu o 15 o gynhyrchion PFN Cymreig.

Cyflwynwyd y cais am statws PGI i'r Comisiwn Ewropeaidd ar ran cynhyrchwyr y caws yng Nghymru, a arweiniwyd gan Carwyn Adams o Caws Cenarth. 

Caws Caerffili yw unig gaws brodorol Cymru. Cynhyrchodd Gwynfor a Thelma Adams o Caws Cenarth y caws am y tro cyntaf ym 1987 pan ddechreuont wneud caws o ganlyniad uniongyrchol i'r cwotâu llaeth. Heddiw, 30 mlynedd yn ddiweddarach, mae eu rysáit gwreiddiol yn dal i gael ei ddefnyddio i gynhyrchu Caws Caerffili ac mae’r caws hwn wedi'i enwi ar ôl Thelma, sef Caws Gwreiddiol Thelma.

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig:

"Roeddwn wrth fy modd o ymweld â Caws Cenarth yn ddiweddar ac ar ôl blasu eu Caws Caerffili Traddodiadol, gallaf gadarnhau bod hwn yn gynnyrch sy'n haeddu cydnabyddiaeth. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu Caws Cenarth, ar ran pawb sy'n cynhyrchu Caws Caerffili, gyda'r cais hwn.

"Rydym yn falch bod gennym bymtheg o gynhyrchion bwyd a diod bellach sydd wedi cael statws PFN. Mae hyn yn tystio i ansawdd uchel a natur unigryw ein cynnyrch."

Dywedodd Carwyn Adams o Caws Cenarth:

"Rydym yn dilyn y rysáit yn ofalus iawn. Mae hynny'n cynnwys torri'r ceulion yn ofalus a mowldio'r caws yn unigol â llaw. Rydym wrth ein bodd bod enw'r caws bellach yn cael ei warchod. Mae hyn yn gwarantu ei ansawdd a'i ddilysrwydd, ac yn profi bod y caws wedi’i gynhyrchu gan bobl fedrus sy'n frwd dros gynhyrchu caws."

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth ariannol i bob cynhyrchydd yng Nghymru sydd am gael statws PFN. Y Gwasanaeth Datblygu a Chynghori Amaethyddol sy'n gyfrifol am roi'r cymorth hwn ar hyn o bryd.