Cefin Campbell AS Aelod dynodedig: y Cytundeb Cydweithio

Cefin Campbell yw aelod dynodedig Plaid Cymru.
Aelodau dynodedig yw'r Aelodau hynny o Grŵp Senedd Plaid Cymru a benodir gan Arweinydd Plaid Cymru ac y darperir eu henwau i'r Prif Weinidog.
Ar lefel wleidyddol, bydd Gweinidogion Cymru ac aelodau dynodedig Plaid Cymru yn cytuno ar faterion o fewn cwmpas y Cytundeb, gan gydnabod mai Gweinidogion Cymru fydd yn parhau i fod yn gyfrifol am y penderfyniadau hynny yn ffurfiol ac yn gyfreithiol.