Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cymorth ariannol ar unwaith yn cael ei ddarparu i bobl y mae eu cartrefi wedi dioddef llifogydd yn ystod Storm Bert.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu awdurdodau lleol i ddarparu grantiau o £1000 i aelwydydd heb yswiriant, neu £500 i aelwydydd yr effeithir arnynt sydd â sicrwydd yswiriant presennol.  

Cadarnhawyd y newyddion yn y Senedd heddiw gan y Prif Weinidog Eluned Morgan a'r Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies ar ôl dyddiau o ymweliadau â chymunedau a effeithiwyd arnynt gan Storm Bert ledled Cymru.

Wrth annerch ASau yn y Senedd, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies: 

"Y peth cyntaf rydw i am ei wneud heddiw yw estyn fy nghydymdeimlad i'r bobl yr effeithiodd Storm Bert ar eu cartrefi a'u busnesau dros y penwythnos.

"Mae effeithiau llifogydd yn ddinistriol, a gwn y bydd pobl ledled Cymru yn teimlo'n ofidus ac yn bryderus drostynt eu hunain, eu hanwyliaid yr effeithir arnynt, a'u bywoliaeth.

"Mae Storm Bert wedi ein hwynebu unwaith eto gyda'r realiti o beth fydd digwyddiadau tywydd eithafol amlach yn ei olygu i gymunedau ledled Cymru."

Aeth y Dirprwy Brif Weinidog, a oedd wedi ymweld â Phontypridd, Ynysgynwraidd a Chwmtyleri cyn annerch y Senedd, ymlaen i ddiolch i'r gwasanaethau brys, Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol ac eraill sydd wedi bod yn gweithio ar yr ymateb i Storm Bert.

"Rwy'n gwybod bod llawer o gymunedau ledled y wlad wedi dod at ei gilydd i weithio ochr yn ochr ag asiantaethau allweddol ac i gefnogi ei gilydd yn yr ymateb ar y cyd," meddai. 

"Mae'r gwaith hwn, dan yr amgylchiadau anoddaf un, i leihau'r effeithiau ar gymunedau ble bynnag y bo modd, o'r pwys mwyaf."

O ganol dydd heddiw, mae awdurdodau lleol wedi adrodd am lifogydd mewnol i gyfanswm o 433 eiddo - 

  • 125 yn RhCT, 
  • 70 ym Merthyr, 
  • 75 ym Mlaenau Gwent, 
  • o leiaf 50 yn Nhrefynwy, 
  • 50 yng Nghaerffili, 
  • 15 yn Nhorfaen, 
  • 6 ym Mhowys, 
  • 6 yn Sir Gaerfyrddin,
  • 3 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 
  • 3 yn Sir y Fflint, 
  • 2 yng Nghaerdydd ac
  • 1 yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Ers 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu bron i £300 miliwn i awdurdodau rheoli risg i'w fuddsoddi mewn rheoli perygl llifogydd.

Eleni, mae wedi cynnal y lefelau uchaf erioed o gyllid ac wedi darparu mwy na £75 miliwn i awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ledled Cymru.

Mae hyn yn cynnwys £9.7 miliwn o gyfalaf a £4.95 miliwn o gyllid refeniw ar gyfer awdurdodau lleol, a £22 miliwn o gyfalaf a refeniw o £24.5 miliwn i Cyfoeth Naturiol Cymru.