Neidio i'r prif gynnwy

Lansio’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Caiff corff newydd, gyda’r gwaith o ysbrydoli arweinwyr addysgol y dyfodol, ei lansio heddiw (dydd Mercher, 16 Mai). Bydd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y system i roi cefnogaeth strategol i’r rhai mewn rolau arweinyddiaeth cyfredol yn ogystal â darparu anogaeth ac ysbrydoliaeth ar gyfer y rhai sy'n dymuno dilyn gyrfa arweinyddiaeth mewn addysg.

Gan adeiladu ar yr arferion da sydd eisoes yn cael eu cyflawni gan arweinwyr ysbrydoledig, profiadol ac effeithiol sy'n gweithio yn system Cymru, ledled y DU ac yn rhyngwladol, bydd y sefydliad newydd yn cael ei harwain gan dîm annibynnol ac yn atebol i Fwrdd sy'n cynnwys pobl ag amrywiaeth o sgiliau a fydd yn cefnogi’r Academi wrth iddo ddatblygu. Bydd grŵp rhanddeiliaid, sy’n gynrychioliadol o'r holl sectorau addysg, ar gael hefyd i ddylanwadu ar waith parhaus yr Academi a sicrhau ei fod yn berthnasol i waith o ddydd i ddydd arweinwyr ysgol.  

Wrth wneud y cyhoeddiad, pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC, bwysigrwydd arweinyddiaeth gref,

"Mae'n hanfodol ein bod yn datblygu arweinwyr gyda’r gallu i ysbrydoli, nid yn unig ein pobl ifanc, ond hefyd eu cydweithwyr er mwyn i ni weithio ar y cyd i godi safonau. 

"Bydd yr Academi yn chwarae rôl hanfodol wrth ddatblygu talent arwain presennol ac yn y dyfodol ar gyfer Cymru a sicrhau y gall ein holl ysgolion ddarparu ein cwricwlwm newydd.

"Mae’r lansiad heddiw yn gam pwysig yn ein cenhadaeth genedlaethol i ddarparu system addysg sydd yn ffynhonnell o falchder cenedlaethol a hyder cyhoeddus."

Mae Bwrdd Cysgodol, dan arweiniad y Cyn Brif Arolygydd Ysgolion Ann Keane, wedi bod ar waith i oruchwylio dechrau’r Academi gan gydlynu gweithdai a digwyddiadau ymgynghori ledled Cymru, i sicrhau bod llais ymarferwyr wedi bod yn ffactor pwysig sy'n dylanwadu ar mewn datblygiad parhaus yr Academi.

Sue Davies sydd newydd ei phenodi fel Cadeirydd yr Academi a soniodd am ei balchder ar achlysur y lansiad,

"Rwy'n credu fod hwn yn gam hynod o bwysig ar gyfer addysg yng Nghymru gan ein bod yn cydnabod y rôl hollbwysig mae arweinwyr yn chwarae wrth gyflawni’r diwygio yn y sector addysgol. Tra’n gwerthfawrogi'r angen i feithrin arweinwyr y dyfodol mae'n hanfodol ein bod yn darparu'r cymorth priodol i'r rhai sy'n darparu rolau arweinyddiaeth ar hyn o bryd, yn yr hyn y gellir ond eu disgrifio fel amseroedd heriol iawn.

"Dyna pam rydym wedi sicrhau bod rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys arweinwyr ysgolion, wedi bod yn gweithio'n agos i ddatblygu’r Academi hon ac y byddant yn parhau i gymryd rhan yn y dyfodol agos wrth i’r rhaglen waith gael ei chyflwyno.” 

I gefnogi’r sefydliad ymhellach ac i ddarparu mewnbwn ymarferol ar gyfer arweinwyr ysgolion sydd eisoes yn weithredol, mae grŵp o 12 swyddog cyswllt, sy’n cynnwys penaethiaid o ledled Cymru, wedi cael ei sefydlu. Gwyn Tudur yw Pennaeth Ysgol Tryfan ym Mangor ac mae’n egluro rôl yr aelodau cyswllt,

"Rydym yn gweld ein rôl fel sicrhau bod yr Academi Genedlaethol yn ymateb i anghenion go iawn y rhai sy'n gweithio yn y system addysgol yng Nghymru ac yn enwedig ymgymryd â chyfrifoldebau arweinyddiaeth neu edrych ar gamu i fyny i arweinyddiaeth. Rydym yn edrych i sicrhau y bydd rhaglenni gwaith ymarferol a pherthnasol iawn i helpu ein cydweithwyr deimlo fel eu bod yn rhan o strwythur cefnogi ehangach, ac y bydd cymorth ar gael  bob amser.

"Fel arweinwyr ysgolion, ar adegau gallwn deimlo'n unig, ac mae sefydlu Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a’i nodau craidd yn cael ei werthfawrogi’n fawr."

I ddechrau datblygu gwaith yr Academi, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet alw i’r rhaglenni cyntaf ddod ymlaen i’w cymeradwyo. Bydd y rhaglenni cychwynnol hyn wedi’u hanelu at Benaethiaid dros dro a’r rhai hynny sy’n newydd i brifathrawiaeth i ddod ymlaen i geisio cymeradwyaeth gan yr Academi.  Bydd cymeradwyaeth yn sicrhau bod y ddarpariaeth sydd ar gael i’n gweithwyr proffesiynol addysg o ansawdd uchel ac yn hygyrch i bawb.