Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pob clwb pêl-droed yng Nghymru yn gallu cael mynediad at un o oddeutu 1,000 o leoedd hyfforddi ymwybyddiaeth iechyd meddwl fel rhan o ymgyrch i gefnogi clybiau yn well fel eu bod nhw’n gallu cefnogi eu timau, eu hyfforddwyr, eu chwaraewyr a'u cymuned ehangach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cwrs e-ddysgu gan Mind Cymru ac UK Coaching yn cael ei gyflwyno i glybiau pêl-droed i ddechrau gyda chefnogaeth FAW.

Er y bydd y ffocws cychwynnol ar ddarparu'r hyfforddiant ymwybyddiaeth hwn er mwyn medru gweithredu'n ddi-oed, mae Chwaraeon Cymru yn datblygu dull ataliol tymor hwy sy'n mynd i'r afael â stigma, ffactorau risg a chreu amgylcheddau sy'n cefnogi iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol i'r sector chwaraeon cyfan.

Bydd y cwrs yn arfogi hyfforddwyr gyda'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i ddeall a chefnogi pobl sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl yn well, gan helpu hefyd i greu amgylchedd cadarnhaol lle gall pawb fwynhau manteision bod yn egnïol a theimlo eu bod yn cael eu hannog i ddychwelyd.

Daw'r cyhoeddiad yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ac yn dilyn cyhoeddi ein strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio a'n strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant fis diwethaf.

Cynhaliwyd digwyddiad lansio yng Nghlwb Pêl-droed y Barri ddydd Iau gyda'r cyn-bêl-droediwr rhyngwladol a llysgennad FAW Neville Southall, y Gweinidog Chwaraeon Jack Sargeant, a'i gynnal gan Ysgrifennydd Clwb Tref y Barri, David Cole.

Mae'n achos personol iawn i Jack Sargeant ac yn un sy’n agos iawn at ei galon.

Daeth Jack yn wleidydd ar ôl camu i fyny i lenwi esgidiau ei dad Carl fel Aelod o'r Senedd (MS) dros Alun a Glannau Dyfrdwy yn dilyn ei hunanladdiad yn 2017.

Yna yn 2022 cymerodd ei ffrind gorau o 20 mlynedd a'i gyd-gefnogwr pêl-droed, Jamie Wynne, ei fywyd ei hun hefyd.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd y Gweinidog:

"Mae'n golygu cymaint i mi allu hybu'r rhaglen hyfforddi hon a sefydlu rhywbeth a fydd wir yn helpu pobl, yn enwedig nawr yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl.

"Dydy hwn ddim yn bwnc hawdd i mi siarad amdano, ond dw i’n gwybod bod helpu pobl i rannu yn bwysig a dyma'r ffordd orau y gallaf gofio fy ffrind, Jamie, a oedd mor angerddol am y daioni y gallai pêl-droed da ar lawr gwlad ei wneud.

"Dw i eisiau gwneud unrhyw beth a phopeth y gallaf i sicrhau y gallwn ni helpu'r rhai sydd angen cymorth yn y ffordd orau bosibl, waeth beth fo'r lleoliad. Mae defnyddio chwaraeon ac yn enwedig pêl-droed yn y modd hwn yn ffordd o gyrraedd pobl ar lawr gwlad sydd ddim yn draddodiadol yn siarad am eu teimladau fel arall. Os yw'n arwain at un sgwrs ystyrlon, bydd yn werth chweil."

Dywedodd Prif Hyfforddwr tîm pêl-droed dynion Cymru, Craig Bellamy, sy'n cefnogi'r gwaith hwn:

"Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cymryd yr amser i godi ein hymwybyddiaeth a'n dealltwriaeth o iechyd meddwl a sut y gallwn gefnogi'r bobl o'n cwmpas. Bydd y cwrs e-ddysgu hwn yn helpu clybiau pêl-droed i ddeall sut y gallan nhw chwarae eu rhan wrth gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth a byddwn yn annog pob clwb yng Nghymru i gymryd rhan a manteisio ar yr hyfforddiant hwn."

Dywedodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:

"Rydyn ni eisiau creu diwylliant lle gall pobl geisio cefnogaeth heb ofni beirniadaeth. Rydym am i bawb gael eu grymuso gyda’r wybodaeth a’r ymwybyddiaeth i adnabod y rhai mewn angen, cynnig cymorth caredig a thosturiol; a'u helpu i gael gafael ar wasanaethau os oes angen.

"Mae ein dwy strategaeth newydd yn nodi ein hymrwymiad i fynd i'r afael â stigma ynghylch iechyd meddwl, hunanladdiad a hunan-niweidio, mynd i'r afael â'r materion sy'n arwain at iechyd meddwl gwael, hunan-niweidio neu feddwl am hunanladdiad a sicrhau bod y cymorth cywir yn hygyrch i bawb.

"Mae gan yr hyfforddiant hwn y potensial i gyrraedd pob clwb pêl-droed yng Nghymru a chael effaith wirioneddol a diriaethol."