Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynllun newydd wedi cael ei lansio’n swyddogol yng Nghymru i helpu cefnogwyr i gadw’n heini drwy eu hangerdd dros bêl-droed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cydweithrediad rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Ymddiriedolaeth EFL (English Football League) yw FIT FANS, a gefnogir drwy gyllid o raglen ‘Pwysau Iach: Cymru Iach’ Llywodraeth Cymru.

Bydd cefnogwyr pêl-droed rhwng 35 a 65 oed yn gallu ymuno â’r rhaglen ffordd iach o fyw, 12 wythnos o hyd. Caiff y cynllun, sydd yn rhad ac am ddim, ei gyflwyno i grwpiau o hyd at 30 o bobl sy’n gobeithio colli pwysau, drwy elusennau clybiau pêl-droed Cymru a’u hyfforddwyr cymunedol.

Anogir cyfranogwyr i wneud newidiadau hirdymor i’w hymddygiadau, gan gynnwys ymarfer corff ac arferion bwyta’n iach yn eu bywydau bob dydd. Mae’r cwrs yn cynnwys sesiynau ymarfer, dosbarthiadau gwella arferion bwyta, ac ymarferion cerdded gan gyfrif y camau yn ystod yr wythnos.

Mae’r rhaglen wedi cyflwyno ei dosbarthiadau cyntaf yng Nghymru yn stadiwm Dinas Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe, gyda’r dosbarthiadau cyntaf yn cael eu cyflwyno yn Wrecsam, Aberystwyth a Chaernarfon y mis nesaf. 

Mae tua 1.5 miliwn o oedolion yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew, gyda’r lefelau’n uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae’r rhaglen newydd yn rhan o Pwysau Iach: Cymru Iach, sef strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru.

Wrth siarad yn y digwyddiad lansio yn Stadiwm Dinas Caerdydd, dywedodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:

Sicrhau pwysau iach yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau’r risg o gyflyrau iechyd hirdymor megis diabetes, clefyd y galon a chanserau.

Os ydym am leihau gordewdra, mae angen inni ddefnyddio ffyrdd arloesol o annog rhagor o bobl i fod yn heini a datblygu ffyrdd mwy o iach o fyw. Mae’r rhaglen FIT FANS yn ffordd wych o helpu cefnogwyr pêl-droed i wella eu hiechyd yn eu clybiau lleol.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:

Dyma ffordd wych i gefnogwyr pêl-droed ddod ynghyd i wneud newid cadarnhaol i’w ffordd o fyw a’u hiechyd - mewn undod mae nerth. Fel Llywodraeth, ein nod yw annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden egnïol, a gwneud digon o ymarfer corff i weld manteision iechyd sylweddol. Mae’n braf gweld bydd y dosbarthiadau hyn ar gael mewn llawer o stadia pêl-droed ar draws y wlad - a hoffwn ddymuno pob llwyddiant i’r rheiny sy’n cymryd rhan ar eu taith tuag at ffordd fwy iach o fyw.

Dywedodd Eleri Williams o Gymdeithas Bêl-droed Cymru:

Yma yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru, rydyn ni'n credu bod potensial enfawr i glybiau ar draws Cymru ddod yn ganolfannau lles cymunedol. Rydym wedi ymrwymo i wneud yr hyn a allwn i gefnogi clybiau i ddefnyddio'r potensial hwnnw ac mae rhaglen Fit Fans yn elfen bwysig o hynny. Drwy'r rhaglen, gall cefnogwyr ddod at ei gilydd, mynd yn fwy heini ac yn fwy iach a gwneud ffrindiau newydd, i gyd o fewn amgylchedd y teulu pêl-droed.

Dywedodd Cathy Abraham, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth EFL:

Gyda phêl-droed yn apelio mewn ffordd unigryw a thrwy bŵer bathodynnau’r clybiau, mae FIT FANS yn llwyddo i feithrin cysylltiadau â’r bobl hynny y mae angen help arnynt i wella eu hiechyd ond nad ydynt yn cael eu hysgogi gan y gampfa na’r holl raglenni colli pwysau masnachol gwahanol sydd ar gael. Rydym yn falch o weithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a Llywodraeth Cymru i gyflwyno FIT FANS i gymunedau pêl-droed ar draws y wlad.

Dywedodd Gavin Hawkey, Cyfarwyddwr Sefydliad Cymunedol Caerdydd: 

Mae clybiau pêl-droed wrth galon eu cymunedau. Yng Nghaerdydd rydym yn defnyddio grym y clwb i newid bywydau. Rydym yn falch iawn o gydweithio â phartneriaid i gyflawni'r prosiect arloesol hwn a fydd yn ysbrydoli ffyrdd iachach o fyw a gwella lles yn ein cymunedau.

Mae rhagor o wybodaeth am sut gallwch gymryd rhan ar gael drwy’r clybiau sy’n rhan o’r rhaglen, neu yn FIT FANS.