Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (dydd Iau 27 Ebrill), bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn gweld sut mae'r Cytundeb Cydweithio yn cefnogi cymunedau ffyniannus mewn cyfres o ymweliadau yn Sir Benfro.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Byddant yn cwrdd â myfyrwyr Ysgol Caer Elen, yn Hwlffordd, i glywed am eu gobeithion a'u huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol. Yna byddant yn mynd ar daith o amgylch hen safle tai'r Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) ar Ystâd Cashfield yn y dref – i weld y tai sydd wedi’u hadfer i'w defnyddio fel cartrefi fforddiadwy i bobl leol.

Bydd yr ymweliad yn dod i ben yng Nghrymych gyda chyfle i weld tai gofal ychwanegol Bro Preseli, sy'n gynllun tai ar gyfer pobl hŷn, a ddatblygwyd gan Caredig Cyf, Cyngor Sir Penfro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Cafodd y Cytundeb Cydweithio tair blynedd ei lofnodi gan Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn Rhagfyr 2021.

Mae'n nodi ystod eang o ymrwymiadau i gefnogi cymunedau ffyniannus a sicrhau bod pobl yn gallu fforddio byw a gweithio yn eu hardaloedd lleol.

Ymhlith y blaenoriaethau mae camau i fynd i'r afael ag ail gartrefi a thai anfforddiadwy, gwaith ymchwil i sefydlu Gwasanaeth Gofal a Chefnogaeth Genedlaethol i Gymru; ehangu'r ystod o gymwysterau galwedigaethol a wnaed yng Nghymru, hyrwyddo'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg mewn mwy o leoedd a mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb.

Dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog:

Rydyn ni eisiau i'n holl gymunedau ledled Cymru fod yn llefydd lle gall plant dyfu i fyny, yn agos at eu hysgol leol; lle gall pobl ifanc a theuluoedd fagu gwreiddiau, yn agos at eu man gwaith; a lle gall pobl dyfu'n hen ar ôl ymddeol.

Rydyn ni am i Gymru fod yn wlad o gymunedau llewyrchus a ffyniannus i bawb - beth bynnag y bo'u hoedran.

Ar draws Sir Benfro, rydyn ni wedi gweld enghreifftiau rhagorol o gynlluniau sy'n cefnogi pobl i fyw yn lleol.

Dywedodd Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru:

O gyflwyno prydau ysgol am ddim cyffredinol i blant ysgolion cynradd, gofal plant am ddim i bob plentyn dwy oed, cryfhau addysg cyfrwng Cymraeg a gweithredu radical i fynd i'r afael â'r argyfwng tai, mae'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn sicrhau newid cadarnhaol mewn cymunedau ledled Cymru.

Edrychaf ymlaen at weld y polisïau hyn yn parhau i ddatblygu wrth i ni gydweithio drwy'r Cytundeb.