Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwerthusiad annibynnol wedi canfod bod rhaglen beilot y Model Ysgolion Rhithwir wedi helpu i fynd i'r afael ag anghenion plant sy'n derbyn gofal a chefnogi eu cynnydd addysgol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nid adeiladau neu ystafelloedd dosbarth gweladwy y mae dysgwyr yn mynd iddynt yw Ysgolion Rhithwir. Yn hytrach, timau arbenigol ydynt sy'n gweithio ochr yn ochr ag ysgol go iawn dysgwr i gefnogi eu haddysg.

Mae'r timau hyn yn cydweithio'n agos â gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr, ac ysgolion i fynd i'r afael â'r rhwystrau unigryw y mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn eu hwynebu yn aml, megis symud i leoliad newydd, trawma neu fylchau yn eu haddysg.

Drwy ddarparu goruchwyliaeth a chefnogaeth bwrpasol, mae Ysgolion Rhithwir yn helpu i sicrhau eiriolaeth addysgol gyson ar ran dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal, lle bynnag y maen nhw'n byw neu ba ysgol y maen nhw'n ei mynychu, gan helpu i wella eu canlyniadau addysgol.

Mae Pennaeth Ysgol Rithwir, neu'r brif rôl gyfatebol, yn chwarae rhan allweddol yn yr Ysgol Rithwir, gan sicrhau bod trefniadau ar waith i wella profiadau a chanlyniadau addysgol plant yn eu hawdurdod lleol, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r sir.

Darparodd Llywodraeth Cymru gyfanswm o £1.24 miliwn i awdurdodau lleol rhwng 2021 a 2024 i gynnal y cynllun peilot, fel rhan o'n hymrwymiad i wella canlyniadau addysgol dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Nododd gwerthusiad annibynnol o gynllun peilot y Model Ysgolion Rhithwir (a gyhoeddwyd ar 17 Rhagfyr) ystod o effeithiau cadarnhaol ar draws awdurdodau lleol a gafodd y cyllid, gan gynnwys integreiddio gwell rhwng timau sy'n cefnogi dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal a darpariaeth fwy ataliol. 

Bydd canfyddiadau'r adolygiad a'r gwersi o'r cynllun peilot yn cael eu defnyddio i lywio'r gwaith i sicrhau bod dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn eu haddysg i ffynnu.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Rithwir Caerdydd, Deborah Williams:

Ers lansio model Penaethiaid Rhithwir yng Nghaerdydd, rydyn ni wedi gweld a phrofi llwyddiant o ran sicrhau bod plant yn derbyn gofal yn eu hysgolion cofrestredig, monitro eu presenoldeb a'u lefelau cyrhaeddiad yn agos, a hyrwyddo hawliau disgyblion fel bod pob person ifanc yn cael yr addysg a'r gefnogaeth y mae ganddyn nhw hawl iddynt. Mae'r dull sydd ar waith wedi cryfhau partneriaethau ar draws addysg, gwasanaethau plant ac iechyd, gan ymgorffori arferion sy'n rhoi ystyriaeth i drawma, a dathlu llwyddiannau ein dysgwyr drwy ymyriadau sydd wedi'u teilwra, o therapi chwarae i weithgareddau pwrpasol.

Rydyn ni'n croesawu'r gwerthusiad annibynnol yn frwd, ac yn enwedig ei argymhelliad i greu rhwydwaith cenedlaethol cyson drwy gyflwyno rôl Pennaeth Rhithwir statudol ym mhob awdurdod lleol. Rydyn ni'n credu y byddai hyn yn darparu'r arweinyddiaeth strategol a'r cysondeb trawsffiniol sydd eu hangen i gynnal effaith y gwaith, sicrhau tegwch, a chyflymu'r cynnydd yr ydyn ni eisoes yn ei weld yn y brifddinas, ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal.

A'r adroddiad terfynol bellach wedi'i gyhoeddi, rydyn ni'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried pob un o'r chwe argymhelliad, a dw i'n eu hannog i ymgorffori'r model ledled Cymru fel bod cydweithio, ymgysylltu a monitro trylwyr yn parhau i roi'r cyfleoedd gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn yn ein gofal.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

Dw i'n ddiolchgar i bawb sydd wedi gweithio i gefnogi dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal drwy Ysgol Rithwir Caerdydd, a gychwynnwyd fel rhan o'n peilot ar gyfer Ysgolion Rhithwir. Dw i wedi gweld drosof fi fy hun sut mae'r gefnogaeth hon yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau dysgwyr, a sut maen nhw wedi cefnogi ysgolion a staff ysgolion i gefnogi pob person ifanc, gan ystyried eu cefndiroedd, eu profiadau a'u hanghenion unigol.

"Gall dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal wynebu amseroedd anodd sy'n effeithio ar eu dysgu. Mae'r adolygiad hwn yn dangos ein bod ni'n gwneud cynnydd go iawn o ran eu helpu, a dw i'n edrych ymlaen at adeiladu ar y gwaith hwn i sicrhau bod pob dysgwr sydd â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i gyflawni eu potensial.