Nod cynllun gweithredu cynhwysfawr newydd yw gwneud y mwyaf o botensial gwynt ar y môr Cymru a sicrhau manteision economaidd hirdymor.

Daeth grŵp gorchwyl a gorffen, a sefydlwyd yn gynharach eleni, ag arweinwyr o sectorau ledled Cymru at ei gilydd – gan gwmpasu datblygwyr, porthladdoedd, gweithgynhyrchu a sgiliau.
Eu nod oedd nodi'r hyn sydd angen ei wneud mewn partneriaeth ag Ystâd y Goron, y diwydiant a phartneriaid cymdeithasol i sicrhau gwerth economaidd a chymdeithasol parhaol i Gymru.
Mae Cymru wedi bod ar flaen y gad ym maes prosiectau gwynt ar y môr, gan gynnal y datblygiadau gwynt ar y môr sefydlog cyntaf yng Ngogledd Cymru.
Heddiw, mae gan Gymru lif sylweddol o fwy na 15 GW o brosiectau gwynt ar y môr o amgylch ei harfordir, yn nyfroedd Cymru, Lloegr ac Iwerddon.
Mae'r sector yn gyfle sylweddol, ac yn cynnig y posibilrwydd o £4.8 biliwn i fusnesau yng Nghymru a dros 3,000 o swyddi.
Wrth gyhoeddi'r cynllun gweithredu newydd yn ystod yr Wythnos Wynt, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, ei bod am 'yrru'r chwyldro ynni adnewyddadwy ymlaen, gan sicrhau bod Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad':
Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom groesawu'r cyhoeddiad bod gwynt ar y môr yn y Môr Celtaidd yn symud o gamau cynllunio i ddatblygu a chyflawni.
Gyda dau gynigydd llwyddiannus wedi'u cyhoeddi i ddatblygu tri gigawat o ynni glân, ac ymrwymiad clir gan Ystâd y Goron i ddarparu'r 4.5GW llawn, rydym yn gweld dechrau gwerth biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad a miloedd o swyddi.
Mae'r holl dystiolaeth yn dangos pwysigrwydd strategol porthladdoedd lleol i ddatblygwyr prosiectau gwynt ar y môr, ac rwy'n falch iawn bod Llywodraeth y DU wedi cadarnhau hyd at £80 miliwn yn yr Adolygiad Gwariant i roi hwb i'r buddsoddiad yn y porthladd ym Mhort Talbot.
Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i'n porthladdoedd, a bydd yn sbardun ar gyfer adfywio economaidd yn ein cymunedau arfordirol.
Wedi'i gydlynu gan Tim Pick, cyn Hyrwyddwr Gwynt ar y Môr y DU, mae'r grŵp gorchwyl a gorffen bellach wedi nodi argymhellion allweddol, gan gynnwys:
- Sefydlu fforwm erbyn hydref 2025 lle mae datblygwyr prosiectau, y llywodraeth a phartneriaid allweddol eraill yn galluogi gwell cydlynu rhwng rhanddeiliaid, gan helpu i wneud y mwyaf o fanteision lleol o ffermydd gwynt newydd yn y Môr Celtaidd.
- Symleiddio'r broses gynllunio a chaniatâd, lleihau oedi a darparu map ffordd clir o ofynion i ddatblygwyr trwy well cydlynu rhwng partïon i gyflymu amserlenni prosiectau'n sylweddol a lleihau costau.
- Gweithredu cymorth wedi'i dargedu i fusnesau Cymru fynd i mewn i'r gadwyn gyflenwi gwynt ar y môr, gyda ffocws arbennig ar gysylltu busnesau bach a chanolig â chwmnïau mwy i drawsnewid y potensial hwn sydd heb ei ddefnyddio, yn gyfleoedd busnes gwirioneddol, yn enwedig mewn meysydd sy'n gryf ar hyn o bryd, fel rheoli prosiectau a pheirianneg.
- Cydlynu mentrau datblygu sgiliau ar draws sefydliadau addysgol i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau sector-benodol mewn meysydd fel technoleg tyrbinau gwynt a pheirianneg drydanol foltedd uchel fel y gall cymunedau lleol gael mynediad at y swyddi o ansawdd uchel a grëwyd.
- Integreiddio sectorau dur a choncrid Cymru â datblygiad gwynt ar y môr, yn enwedig ar gyfer sylfeini ffermydd gwynt arnofiol ar y môr ac is-strwythurau
Dywedodd Ajai Ahluwalia, Pennaeth Cadwyn Gyflenwi RenewableUK:
Rydym yn falch o weld camau gweithredu clir, ymarferol sy'n ymateb yn uniongyrchol i alwadau'r diwydiant am fwy o sicrwydd, cydweithredu cryfach, a chyflawni brys.
Gwynt ar y môr yw un o gyfleoedd diwydiannol mwyaf y DU - mae ganddo'r potensial i drawsnewid sectorau Cymru, fel dur a gweithgynhyrchu uwch.
Dros y degawd nesaf yn unig, mae gwerth economaidd o £32 biliwn yn y fantol, gan gynnwys cyfle gwerth £4.8 biliwn i fusnesau yng Nghymru a 3,370 o swyddi sy'n talu'n dda.
Er mwyn datgloi'r gwerth hwnnw, mae'n rhaid i ni nawr symud yn gyflym o gynllunio i weithredu - ac mae'r diwydiant yn barod i weithio gyda'r llywodraeth er mwyn gwneud hynny.