Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Trafnidiaeth

Mae cynlluniau ledled Cymru sy'n annog plant a phobl ifanc i fabwysiadu arferion cerdded iach yn mynd o nerth i nerth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r sefydliad Living Streets wedi darparu traciwr teithio sydd â system wobrwyo i annog plant i ddefnyddio dulliau teithio llesol a chynaliadwy i fynd i'r ysgol.

Rhwng 2023 a 2025 gweithiodd y sefydliad gyda dros 55,800 o ddisgyblion mewn 189 o ysgolion cynradd a 7700 o ddisgyblion mewn 42 o ysgolion uwchradd, gan gofnodi dros 5.4 miliwn o deithiau fel rhan o'r rhaglen Cerdded i'r Ysgol a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Ymddangosodd tair ysgol yng Nghymru yn y Deg Uchaf ar fwrdd arwain ysgolion “Traciwr Teithio WoW” ledled y DU.

Yn sgil poblogrwydd y rhaglen cafodd ei hehangu yn 2025 – 26, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, i leoliadau blynyddoedd cynnar o dan y rhaglen Traed Bach, sydd ar gyfer plant rhwng 2 a 5 oed.

Mae Traed Bach yn cyflwyno manteision cerdded i blant ifanc a'u teuluoedd, gan eu hannog i fabwysiadu arferion cerdded iach trwy bynciau sy'n gysylltiedig â'r Nodau Dysgu Cynnar.

Mae cyllid gwerth dros £400,000 ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn y gyllideb ddrafft i adeiladu ar y llwyddiant hwn a chyflwyno Traed Bach ochr yn ochr â'r rhaglen ehangach mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Mae Ysgol Calon y Dderwen yn y Drenewydd, Powys yn un o'r ysgolion sy'n elwa ar y rhaglen Traed Bach. 

Dywedodd Sarah Rowlands, Rheolwr Derw Bach, cylch chwarae cyn ysgol yn yr ysgol: 

“Rydyn ni wedi annog disgyblion a'u rhieni i gerdded ychydig ymhellach bob dydd. Rydyn ni wedi bod yn cerdded gyda phlant yma a rhoi gwybod i rieni am y manteision.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: 

“Rydyn ni eisiau i bob math o deithio fod yn hygyrch i bawb.  Mae hyn yn cynnwys darparu cyfleoedd i gerdded, olwyno a beicio yn ddiogel.  Mae annog plant a phobl ifanc i fanteisio ar arferion cerdded iach y gallant wedyn barhau â nhw drwy gydol eu hoes yn bwysig. Mae plant ac oedolion yn dweud wrthym faint maen nhw'n gwerthfawrogi'r amser hwn lle maen nhw'n cerdded ac yn sgwrsio gyda'i gilydd. Mae Traed Bach yn fenter wych sy'n caniatáu i blant ddechrau'r arfer o gerdded cyn gynted â phosibl.”

Mae'r cymorth ar gyfer Living Streets yn rhan o becyn o fesurau i annog pobl i geisio gwneud mwy o deithiau trwy gerdded, olwyno a beicio ac i helpu i wneud ffyrdd a strydoedd yn fwy diogel.