Neidio i'r prif gynnwy

Pryd y gallwch wneud cais i Weinidogion i gyfarwyddo’r awdurdod i benderfynu ar gais i ddiwygio hawl dramwy erbyn dyddiad penodol.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Os nad yw awdurdod wedi penderfynu ar gais Hawliau Tramwy o fewn 12 mis o’i dderbyn, caiff yr ymgeisydd, o dan Atodlen 14, paragraff 3(2) Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, gyflwyno Cais am Gyfarwyddyd i Weinidogion Cymru. Gallai Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â’r awdurdod, gyfarwyddo bod y cais yn cael ei benderfynu o fewn cyfnod penodol, ond nid oes rhaid iddynt roi cyfarwyddyd o’r fath.

Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â rhoi cyfarwyddyd, caiff yr ymgeisydd wneud cais arall am gyfarwyddyd yn ddiweddarach os na fydd yr awdurdod yn gwneud penderfyniad ar y cais o hyd.

  1. Pan fydd Cais yn cael ei dderbyn gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC), bydd y Cais yn cael ei gydnabod.
  2. Yna, anfonir llythyr at y Cyngor dan sylw, yn gofyn iddo, o fewn 14 diwrnod, roi ei resymau dros beidio â phenderfynu ar y cais yn ystod y cyfnod 12 mis.
  3. Pan fydd yr ymateb gan y Cyngor wedi cael ei dderbyn, bydd y rhesymau dros beidio â phenderfynu yn cael eu gwerthuso a bydd penderfyniad yn cael ei roi i’r ymgeisydd. Anfonir copi o’r llythyr at y Cyngor er gwybodaeth.