Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod nawr yn recriwtio ar gyfer ei ‘Chynllun Pontio' poblogaidd - gyda'r nod o ddenu athrawon Cymraeg eu hiaith i ysgolion uwchradd yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trwy fod yn rhan o'r rhaglen, gall siaradwyr Cymraeg sydd ar hyn o bryd yn dysgu mewn ysgolion y tu allan i Gymru, athrawon ysgolion cynradd, ac athrawon sydd wedi bod allan o'r proffesiwn am bum mlynedd neu ragor dderbyn cefnogaeth i ddod yn athrawon ysgol uwchradd.

 Mae’r Cynllun Pontio, sydd wedi bod yn rhedeg ers 2020, wedi rhoi cyfle i athrawon Cymraeg eu hiaith, yn bennaf o Loegr, gael cefnogaeth i ddychwelyd i Gymru i ddysgu – gan ddod â manteision i'r unigolion a'r sector ehangach.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

"Mae cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn allweddol i gyrraedd ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Mae’r Cynllun Pontio yn gyfle gwych i gefnogi athrawon i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion uwchradd. Mae'n galonogol clywed am lwyddiannau'r cynllun hyd yn hyn a byddwn yn annog unrhyw athro sy'n ystyried symud yn ôl i Gymru, trosglwyddo i'r sector uwchradd, neu ddychwelyd i'r proffesiwn, i wneud cais."

Dau o'r athrawon a gymerodd y cyfle hwn i ddychwelyd i Gymru y llynedd yw Siân Bradley, Pennaeth Bioleg Ysgol Glantaf, a Richard Battrick, athro Celf a Thechnoleg yn Ysgol Llangynwyd.

Dywedodd Siân Bradley, a symudodd yn ôl i Gymru o Lundain drwy’r Cynllun Pontio: 

"Rwyf wedi elwa cymaint o'r cyfle ac mae wedi rhoi'r hyder i mi ddefnyddio iaith nad oeddwn i wedi'i siarad ers amser maith. Rwy'n mwynhau'r her, ac mae pawb wedi bod mor gefnogol a chroesawgar. Mae addysgu'r Cwricwlwm newydd i Gymru hefyd yn gyfle cyffrous, gan ei fod yn rhoi llawer mwy o ryddid i athrawon ddewis beth i'w ddysgu ac i wneud y cysylltiad rhwng y pwnc a'r gymuned leol. Mae'n rhywbeth unigryw a chyffrous iawn."

Dywedodd Richard Battrick, a ddychwelodd i'r gymuned yr oedd wedi tyfu i fyny ynddi: 

"Mae'n wych bod yn ôl mewn cymuned rwy'n ei hadnabod a rhoi yn ôl i'r gymuned a roddodd fy addysg i mi. Ar ôl byw a gweithio yn Lloegr am amser hir, roeddwn ychydig yn bryderus am safon fy Nghymraeg, ond cafodd hynny ei chwalu'n gyflym yn ystod y cyfweliad.  Y cyngor y byddwn i'n ei roi i unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais i fod yn rhan o’r Cynllun Pontio, neu hyd yn oed ymgeisio i weithio'n ôl yng Nghymru, yw bod llawer llai i boeni amdano nag yr ydych chi'n meddwl, ac efallai eich bod chi'n gwybod mwy nag yr oeddech chi'n sylweddoli. Mae'r gefnogaeth gan y Cynllun Pontio, cyd-athrawon, a'r ysgol gyfan yn amhrisiadwy."

Gall unrhyw un sydd â diddordeb ddysgu mwy am y Cynllun Pontio neu ymgeisio wneud hynny yma Cynllun Pontio | (addysgwyr.cymru).