Neidio i'r prif gynnwy

Sut a phryd y cewch roi sylwadau ar ceisiadau cynllunio a alwyd i mewn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae eich awdurdod cynllunio lleol yn gwneud penderfyniadau am geisiadau cynllunio. Mae gan Weinidogion Cymru rym i gyfarwyddo’r awdurdod cynllunio lleol i gyfeirio cais atynt er mwyn iddynt benderfynu arno. Dyma beth a olygir wrth gais a ‘alwyd i mewn’.

Ni chodir ffi ychwanegol pan fydd cais yn cael ei alw i mewn.

Bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn dweud wrthych fod y cais wedi cael ei alw i mewn (hysbysiad cyfeirio).

Dylech ddarllen canllaw gweithdrefnol - Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru. Mae’n rhoi manylion llawn am ofynion a disgwyliadau Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.

Beth sy’n digwydd pan fydd cais wedi cael ei alw i mewn

Pan fydd eich cais yn cael ei alw i mewn, bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn anfon copi o’r cais a’r holl ddogfennau a chynlluniau cysylltiedig at Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru. 

Dogfennau y gallech ddymuno eu darparu o fewn 4 wythnos o’r hysbysiad:

datganiad llawn o’r achos  

Gallwch eu hanfon at Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru drwy’r post neu’r e-bost.

Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru 
Adeiladau’r Goron  
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

PEDW.gwaithachos@gov.wales

Cyn gynted ag y bydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn derbyn y dogfennau hyn (neu pan ddaw’r 4 wythnos i ben), bydd yr amserlen ar gyfer cyflwyno tystiolaeth yn cael ei gosod.

Gwneud sylwadau ar gais cynllunio a alwyd i mewn

Gall unrhyw un wneud sylwadau neu, yn ôl disgresiwn yr Arolygydd a benodwyd, gymryd rhan mewn ymchwiliad ynglŷn â chais cynllunio a alwyd i mewn.

Bydd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yn cael ei nodi yn yr amserlen. Mae’n rhaid i’ch awdurdod cynllunio lleol ddweud wrth unrhyw un sydd wedi gwneud sylwadau ar y cais (‘partïon â buddiant’) ei fod wedi cael ei alw i mewn. Mae’n rhaid iddo wneud hyn o fewn 1 wythnos o’r llythyr cychwynnol gan. 

Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru

Darllenwch y canllaw manwl ar gyflwyno eich cynrychiolaethau.

Ar ôl i’r digwyddiad gael ei gynnal

Bydd yr Arolygydd yn ysgrifennu adroddiad a fydd yn cynnwys ei gasgliadau a’i argymhellion ynglŷn â ph’un a ddylai caniatâd cynllunio gael ei roi (gydag amodau neu hebddynt) neu ei wrthod. Bydd yr adroddiad yn cael ei anfon at Weinidogion Cymru i wneud y penderfyniad, gan ystyried argymhelliad yr Arolygydd. Pan fydd y Gweinidog wedi dod i benderfyniad, caiff ei esbonio yn y llythyr penderfyniad. Fel arfer, bydd y llythyr hwn yn cael ei anfon gan Gyfarwyddiaeth Gynllunio Llywodraeth Cymru.

Os bydd unrhyw un yn ymddwyn yn afresymol

Gallwch wneud cais am ddyfarnu costau os oes unrhyw un sy’n ymwneud â’ch cais cynllunio a alwyd i mewn wedi achosi i chi fynd i gostau trwy ymddwyn yn afresymol, e.e. methu terfynau amser. Gall costau gael eu dyfarnu yn eich erbyn chi hefyd.

Gallwch gwyno am y ffordd y mae’r Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru wedi trin eich cais cynllunio a alwyd i mewn. Nid oes terfyn amser ar gyfer cwyno.

Os ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad Gweinidogion Cymru

Gallwch herio’r penderfyniad yn yr Uchel Lys os ydych chi’n credu bod Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol.

Dylech geisio cyngor gan gyfreithiwr os ydych chi’n ansicr ynglŷn â hyn.