Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn pobl ar ganllawiau newydd ar fwyd a maeth mewn cartrefi gofal i bobl hŷn yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, cafodd Bwyd a Maeth mewn Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn - Canllawiau Arferion Gorau ei lansio gan Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i fod yn destun ymgynghoriad. 

Bydd yr ymgynghoriad 12 wythnos yn canolbwyntio ar gynnwys a dyluniad arfaethedig y canllawiau arferion gorau, sydd wedi cael eu llunio ar gyfer pob darparwr gwasanaethau cartref gofal i bobl hŷn a reoleiddir yng Nghymru. Cafodd y canllawiau hyn eu datblygu gyda mewnbwn gan ddarparwyr cartrefi gofal, gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd, rhanddeiliaid ac Arolygiaeth Gofal Cymru.

Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog fanylion yr ymgynghoriad yn ystod ymweliad â Chartref Gofal Sŵn y Môr yn Aberafan, Port Talbot.

Bydd y canllawiau yn ystyried amryw o bynciau i gefnogi cartrefi gofal gan gynnwys safonau bwyd, canllawiau a chynllunio bwydlenni, bwyta ac yfed yn dda ymhlith unigolion â dementia, deiet gwead wedi'i addasu ac asesu a monitro anghenion deietegol trigolion.

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Wrth inni fynd yn hŷn, mae'n bwysig parhau i fwyta deiet cytbwys a maethlon i gadw'n iach ac i gynnal ein llesiant. Mae amrywiol ffactorau yn gallu effeithio ar faint yn union o fwyd a diod y byddwn ni'n eu cymryd wrth inni heneiddio. 

“Bydd y canllawiau hyn yn cefnogi un agwedd i Gymru gyfan at ansawdd y bwyd sy'n cael ei weini mewn cartrefi gofal i bobl hŷn ym mhob cwr o'r wlad. Bydd amrywiaeth o fwydlenni a syniadau ar gyfer ryseitiau i gyd-fynd â'r canllawiau terfynol a fydd o gymorth i ddarparwyr gofal."

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pob lleoliad iechyd a gofal yn darparu amgylcheddau cefnogol a gofalgar lle y gall pobl ddewis a mwynhau bwyd maethlon a fydd yn cyfrannu at eu llesiant cyffredinol. Nod y canllawiau hyn yw cefnogi cartrefi gofal i ddarparu bwyd a diod a fydd yn bodloni'r ystod gyfan o anghenion maethol eu trigolion. Hoffwn i annog pobl i fynegi eu barn drwy'r ymgynghoriad hwn ar fater a allai effeithio arnyn nhw eu hunain neu un o'n hanwyliaid ryw ddiwrnod."

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru, sy'n gyfrifol am arolygu cartrefi gofal i bobl hŷn yng Nghymru, yn cefnogi'r canllawiau.

Byddant yn cael eu rhoi ar brawf yn awr gyda'r sector ehangach gan gynnwys staff cartrefi gofal a theuluoedd, deietegwyr, arolygwyr ac, yn bwysicach oll, trigolion y cartrefi, er mwyn cael eu hadborth.

Bydd yr ymgynghoriad yn parhau tan 11 Hydref 2019.