Cenhadaeth economaidd: adolygiad sgiliau gwyrdd
Yn argymell sut i wella hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer swyddi gwyrdd yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r nodyn hwn yn rhoi crynodeb o ganfyddiadau'r Adolygiad Sgiliau Gwyrdd, un o bedwar adolygiad tymor byr a gynhaliwyd ar draws Llywodraeth Cymru yn ystod hanner cyntaf 2025 (ochr yn ochr â Deallusrwydd Artiffisial, Technoleg Ynni Gwynt sy'n Arnofio ar y Môr a Chynhyrchiant Busnesau Bach a Chanolig).
Y bwriad yw i bob un o'r pedwar adolygiad gyflwyno adroddiad terfynol i Weinidogion gydag argymhellion sy'n adlewyrchu canfyddiadau cyfres o gyfarfodydd â rhanddeiliaid allweddol yn y sector. Bydd y pedwar adroddiad yn cael eu hystyried ochr yn ochr i lywio dull cyfunol ar gyfer gyflawni yn ystod y misoedd nesaf.
Cyd-destun
Mae cryn dipyn o waith eisoes wedi cael ei wneud i gyflawni ein hymrwymiad i Sgiliau Sero Net. Ar ôl i'r Cynllun Gweithredu Sero Net gael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2023, cwblhawyd ymgynghoriad Sgiliau Sero Net yn 2024 i atgyfnerthu ein dealltwriaeth o'r sefyllfa bresennol o ran sgiliau a'r heriau mewn perthynas â sgiliau ar gyfer pob sector allyriadau yng Nghymru. Roedd yr ymgynghoriad hwn yn llywio Crynodebau Sgiliau'r Sector Allyriadau a fersiwn ddrafft o Fapiau Ffyrdd Sgiliau'r Sector Allyriadau a gyhoeddwyd ym mis Hydref y llynedd.
Rydym wedi parhau i weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i fapio anghenion sectorau allweddol o ran sgiliau, a'n helpu i ddeall cyflymder a maint y newid sydd ei angen i gefnogi economi wyrddach yng Nghymru. Eleni, rydym yn gweithio gyda'r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i gael dealltwriaeth 'ar lawr gwlad' o'r heriau a'r cyfleoedd gwyrdd ledled Cymru.
Rydym eisoes yn gweithio ar draws y Llywodraeth i ddatblygu llwybrau gyrfa sero net clir, o ehangu dysgu STEM mewn ysgolion i adolygu a mireinio fframweithiau cymwysterau sero net mewn addysg drydyddol a chefnogi busnesau yng Nghymru i uwchsgilio eu gweithlu presennol i esblygu tuag at bontio teg.
Rydym hefyd yn gweithio gyda Medr i archwilio cyfleoedd i wneud y system cymwysterau a sgiliau'n fwy hyblyg ac ystwyth i ymateb i'r heriau dynamig sy’n codi wrth gefnogi diwydiannau sero net fel rhan o'r pontio teg hwnnw. Mae hyn yn cynnwys adolygu cynnwys llwybrau a fframweithiau prentisiaeth gyda ffocws ar ddatblygu ac addasu'r prentisiaethau hynny i gefnogi ein nodau sero net a chynaliadwyedd.
Methodoleg
Cadeiriwyd y grŵp gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol neu aelodau o Is-adran Sgiliau Llywodraeth Cymru, ac mae'r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd dystiolaeth o gyfres o gyfarfodydd â ffocws a ddaeth ag amrediad o randdeiliaid a sectorau'r diwydiant at ei gilydd. Ar draws y cyfarfodydd roedd aelodau'r adolygiad yn cynnwys:
- Wyn Prichard, Y Grŵp Arbenigol Cyfrifon Dysgu Personol Gwyrdd (Diwydiant)
- Nick Tyson, Pennaeth – Coleg Cambria
- Jayne Jones, Pennaeth Datblygu Busnes, Colegau Castell-nedd Port Talbot
- Andrew Eldred, Prif Weithredwr, Cymdeithas y Contractwyr Trydanol
- Scott Young, Pennaeth Sgiliau ar gyfer Ynni Adnewyddadwy – RenewableUK
- Yr Athro Iain Donnison, Pennaeth Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth
- Tom Hoyles, Undeb GMB – Cymru a De-orllewin Lloegr
- Jo Goodchild, Swyddog Arweiniol Cyfryngau Papur Graffigol a TG, Unite the Union
- Helen Swift, Rheolwr Materion Cyhoeddus y DU, Airbus
- Jonathan Morgan, Pennaeth a Phrif Weithredwr, Coleg y Cymoedd
- Tony Leahy, Arweinydd Prosiect – Datblygu Sgiliau, Diwydiant Cymru
- Jordan O'Neil, RWE
- Ceclia Anderson, RWE
- Ed Evans, Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil
- Daryl Williams, Unite the Union
- Matt Dicks, Cyfarwyddwr, Sefydliad Siartredig Tai Cymru
- Sam Rees, Uwch Swyddog Materion Cyhoeddus, Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig
- David Kirby, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus, y Sefydliad Siartredig Adeiladu
- Leigh Hughes, Aelod o'r Bwrdd, Rhagoriaeth Adeiladu yng Nghymru
- Matt Nimmons, Rheolwr Gyfarwyddwr, CEDIA (Cymdeithas Gweithwyr Proffesiynol Cartrefi Clyfar)
- Beena Nana, Pennaeth Sgiliau, Finishes and Interiors Sector
- Matt Kennedy, Uwch Gynghorydd Polisi a Chysylltiadau Llywodraeth (Cymru), Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu
- Julia Stevens, Cyfarwyddwr Ymgysylltu yng Nghymru, Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu
- Stuart Rattray, Pennaeth Sgiliau a Pholisi, Cymdeithas Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu
- Nigel Donohue, Prif Swyddog Gweithredol, yr Awdurdod Sicrwydd Gosod
Daeth rhai themâu clir i'r amlwg yn ystod trafodaethau, ac o'r rhain mae cyfres o argymhellion wedi cael eu grwpio isod. Y themâu hyn oedd:
- Trafod sgiliau gwyrdd ledled Cymru
- Deall y sgiliau gwyrdd sydd eu hangen ar ddiwydiant Cymru yn well
- Cefnogi cymwysterau sgiliau gwyrdd mwy ystwyth ac ymatebol
- Gwella'r ffordd rydym yn gweithio ar draws System Sgiliau Cymru
- Adeiladu Ecosystem Sgiliau Gwyrdd gryfach
Themâu ac argymhellion
Nod yr adolygiad oedd archwilio System Sgiliau Gwyrdd bresennol Cymru ac ystyried cyfleoedd i ddarparu argymhellion penodol a gweithredadwy i lywio cyflawni tymor byr a chanolig.
Trafod Sgiliau Gwyrdd ledled Cymru
Mae diffinio terminoleg unffurf y gallwn ei defnyddio i ddisgrifio sgiliau a chymwysterau gwyrdd yn bwysig iawn. Yn benodol, pwysigrwydd ymgysylltu â chyflogwyr i ddisgrifio sgiliau gwyrdd a llwybrau gyrfa gwyrdd mewn ffordd y bydd y diwydiant, rhanddeiliaid addysg a'r cyhoedd yn ei deall.
Mae angen inni hefyd ystyried sut i roi cyfleoedd helaeth i fyfyrwyr i gael profiad gwaith ac annog rhagor o bobl i ddilyn gyrfaoedd gwyrdd. Mae hyn yn cynnwys parhau i gefnogi ymgorffori cynaliadwyedd a phynciau STEM mewn ysgolion, cryfhau cyngor ar yrfaoedd a sicrhau naratif clir a arweinir gan y diwydiant ar gyfer gwneud cynnydd mewn gyrfa werdd.
Mae angen inni barhau i ddatblygu ein dull o ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan sicrhau ein bod yn defnyddio amrediad o gyfryngau a rhyngweithiadau sy'n ystyried yr anghenion a'r heriau sy'n wynebu busnesau o bob maint, a gweithredu mewn ffordd hyblyg i adlewyrchu'r dirwedd sgiliau – tirwedd sy'n newid yn gyflym.
Mae hefyd yn bwysig cydnabod 'sector amgylchedd adeiledig' a'r angen am ragor o sicrwydd ynghylch y cyfeiriad tymor hir yn y maes hwnnw – er mwyn denu buddsoddiadau preifat a'r marchnadoedd ariannol i gefnogi ein huchelgeisiau.
- Argymhelliad 1: Ymgymryd ag ymgyrch Sgiliau Gwyrdd rhagweithiol yr hydref hwn – i gynnwys ymgyrch gyfathrebu a marchnata a chynyddu ein gwaith gyda'r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i gefnogi ymgysylltu â chyflogwyr sgiliau gwyrdd wedi'i dargedu.
- Argymhelliad 2: Gweithio gyda diwydiant i nodi, datblygu a chyhoeddi llwybrau 'Taith i Gymhwysedd' ar gyfer pob un o'r prif broffesiynau Sgiliau Gwyrdd a chydnabod 'sector amgylchedd adeiledig' yng Nghymru erbyn diwedd y flwyddyn.
- Argymhelliad 3: Gweithio gyda chydweithwyr yn maes Addysg a Sgiliau i archwilio cyfleoedd i gryfhau ein naratif Sgiliau Gwyrdd a'n cyngor gyrfa mewn ysgolion, ac i gefnogi piblinell talent Sgiliau Gwyrdd Cymru.
Deall y sgiliau gwyrdd sydd eu hangen ar ddiwydiant Cymru yn well
Mae cryn dipyn o waith gwerthfawr ar fapio sgiliau eisoes wedi cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru a'n partneriaid a'n rhanddeiliaid yn y tymor hwn. Fodd bynnag, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i wella a mireinio ein dulliau o fapio sgiliau, i sicrhau bod gennym system Sgiliau Gwyrdd sy'n cael ei hysgogi gan yr angen presennol ac anghenion y dyfodol – ac sy'n ymateb i'r anghenion hyn.
Mae trafodaethau eisoes wedi dechrau â Medr ynghylch cefnogi rhannu a chyfuno data ar fapio sgiliau'n well, a byddwn yn parhau i archwilio dichonoldeb defnyddio offer digidol a rennir i nodi cyfleoedd, anghenion a bylchau ar draws sectorau ac ar draws rhanbarthau. Yr uchelgais, yn y pen draw, yw sicrhau bod ein gwybodaeth a data am y farchnad Sgiliau Gwyrdd môr gyfredol ag y bo modd, i gefnogi prosesau gwell ar gyfer datblygu polisi a gwneud penderfyniadau.
Ochr yn ochr â hyn, mae'n hynod bwysig bod ein dull o ymdrin â Sgiliau Gwyrdd yn parhau i fod wedi'i gysylltu'n gryf â nodi'r sgiliau a fydd eu hangen yn y dyfodol, er mwyn cefnogi gweithgareddau ac ymyriadau ar draws Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, sicrhau cysylltiad clir rhwng ein cynlluniau Sgiliau Gwyrdd â blaenoriaethau traws-lywodraethol fel cefnogi'r sector amgylchedd adeiledig ac ôl-osod, deallusrwydd artiffisial a sgiliau digidol a thechnoleg ynni gwynt sy'n arnofio ar y môr.
- Argymhelliad 4: Cydweithio â Medr, y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ac ar draws Llywodraeth Cymru i archwilio offer/atebion digidol ar gyfer coladu a symleiddio gweithgareddau mapio sgiliau.
- Argymhelliad 5: Cynnal archwiliad sgiliau ar unwaith ar draws blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a'r Rhaglen Lywodraethu ehangach i nodi lle rydym yn dibynnu ar ddarparu Sgiliau Gwyrdd. Archwilio sut y gellir ymgorffori archwiliad sgiliau tebyg yn y broses o lunio Rhaglen Llywodraethu'r dyfodol.
Cefnogi cymwysterau sgiliau gwyrdd mwy hyblyg ac ymatebol
Roedd yr adolygiad yn cydnabod bod gennym sylfaen Addysg a Sgiliau Trydyddol gref yng Nghymru i adeiladu ein dull ar gyfer Sgiliau Gwyrdd yn y dyfodol. Yr her yw gwneud gwelliannau cadarnhaol, cynyddol i sicrhau bod y system sgiliau yn parhau i fod mor ymatebol ac effeithiol â phosibl.
Mae hyn yn cynnwys defnyddio dull a arweinir gan y diwydiant i sicrhau bod cymwysterau a fframweithiau sgiliau yn cyd-fynd yn glir â chyflogadwyedd yn y dyfodol.
Un peth sy'n arbennig o bwysig, felly, yw sicrhau ffocws ar ansawdd da, cymwysterau cyffredinol a fframweithiau prentisiaeth sy'n blaenoriaethu hyfforddi gweithwyr proffesiynol medrus. Yn y cyfarfodydd adolygu roedd pob rhanddeiliaid bron yn cytuno y dylid rhoi blaenoriaeth i sgiliau hanfodol a sgiliau sylfaenol ar gyfer bob dysgwr – wedyn gallai cyflogwyr ychwanegu sgiliau penodol i'r sector a'r diwydiant drwy gyflwyno Sgiliau Gwyrdd penodol a chymwysterau micro.
Bydd sicrhau bod gan ddysgwyr sylfaen mor helaeth a chyffredinol â phosibl hefyd yn ein galluogi i fod yn fwy hyblyg wrth addasu ein cymwysterau i anghenion Sgiliau Gwyrdd sy'n dod i'r amlwg, a sicrhau y gallwn symud ein gweithlu yn haws i gefnogi prosiectau a buddsoddiadau gwyrdd yn y dyfodol.
Roedd yr adolygiad yn cydnabod llwyddiant cyfrifon dysgu personol ac yn enwedig cyfrifon dysgu personol gwyrdd, ond tynnodd sylw at yr angen iddynt barhau i esblygu a pharhau i fod yn berthnasol. Mae Medr yn adolygu ac yn mireinio'r ddarpariaeth Sgiliau Sero Net ar draws fframweithiau prentisiaethau a'r ddarpariaeth dysgu rhan-amser, a byddwn yn gweithio'n agos gyda nhw i gwblhau'r gwaith hwn a sicrhau ei fod yn cael ei rannu â rhanddeiliaid mewn ffordd effeithiol a chydlynol.
Mae cydbwysedd y ddarpariaeth ar draws system Sgiliau Gwyrdd Cymru hefyd yn bwysig, gan sicrhau ein bod yn cynyddu cymaint ag y bo modd effeithiolrwydd cymharol fframweithiau prentisiaethau, dysgu rhan-amser a chymorth uwchsgilio wedi'i dargedu gan ddiwydiant fel y Rhaglen Sgiliau Hyblyg.
- Argymhelliad 6: Gweithio gyda'r diwydiant a Medr i barhau i adolygu a mireinio cymwysterau Sgiliau Gwyrdd, gan sicrhau eu bod yn addas i'r diben ac mor hyblyg â phosibl i adlewyrchu anghenion Sgiliau Gwyrdd sy'n dod i'r amlwg. Bydd hyn yn cael ei ategu gan adolygu'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a nodi sgiliau cyffredin a sgiliau a rennir ar draws yr holl sectorau gwyrdd allweddol.
- Argymhelliad 7: Ystyried sut rydym yn cyfathrebu ac yn ail-lansio darpariaeth ran-amser Sgiliau Gwyrdd i gynnal momentwm ar lwyddiant cyfrifon dysgu personol gwyrdd a'u fframio o fewn cymorth dysgu gwyrdd ehangach, i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol mewn byd lle mae'r sgiliau sydd eu hangen yn newid yn gyflym.
Gwella sut rydym yn gweithio ar draws System Sgiliau Cymru
Fel y nodwyd eisoes yn yr adroddiad hwn, mae llwyddiant system sgiliau Cymru yn dibynnu ar weithredu ac integreiddio ei gwahanol elfennau mewn modd effeithiol. Mae'n arbennig o bwysig ein bod yn nodi ac yn lleihau unrhyw wahaniaethau rhwng y llywodraeth, darparwyr hyfforddiant, y byd academaidd a diwydiant. Roedd cydweithio yn thema a oedd yn codi dro ar ôl tro yn y trafodaethau adolygu, a bydd yn rhan hanfodol o'n dull o ddarparu a chynllunio sgiliau gwyrdd yn y dyfodol.
Mae'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Medr hefyd yn bwysig iawn i sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu halinio i sicrhau'r gwerth gorau a bod diwydiant, darparwyr a dysgwyr yn cael negeseuon cyson am Sgiliau Gwyrdd.
O fewn Llywodraeth Cymru, rhoddir ffocws penodol ar sicrhau cysylltiad di-dor rhwng Polisi Economaidd, Arloesi, Sgiliau a meysydd eraill sy'n rhyngweithio â system sgiliau Cymru. Bydd hyn yn cryfhau ein naratif Sgiliau Gwyrdd ar draws y llywodraeth, yn ategu cefnogaeth well i ddiwydiannau yn y dyfodol ac yn helpu i dyfu cadwyni cyflenwi Sgiliau Gwyrdd integredig.
- Argymhelliad 8: Gweithio gyda'r diwydiant, Medr a phartneriaid i barhau i gynyddu ymwybyddiaeth o amrywiadau rhanbarthol mewn anghenion sgiliau ac ystyried cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer cydweithio – gan gynnwys archwilio'r potensial ar gyfer canolfannau sgiliau rhanbarthol/modelau cyllido ar y cyd sy'n gweithredu ar draws sectorau ac sy'n cael eu harwain gan y diwydiant.
Adeiladu Ecosystem Sgiliau Gwyrdd gryfach
Tynnodd yr adolygiad sylw at ba mor gryf a chadarnhaol yw diddordeb rhanddeiliaid mewn Sgiliau Gwyrdd yng Nghymru a'u hymrwymiad iddynt, ac ail-gadarnhaodd awydd sylweddol ymhlith cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a phartneriaid academaidd i gael eu cynnwys gan y llywodraeth wrth ystyried cyfleoedd Sgiliau Gwyrdd.
Mae angen inni hefyd sicrhau ein bod yn manteisio ar gyd-destun a strwythurau deddfwriaethol ehangach Cymru wrth ystyried ein dull ar gyfer ymdrin â Sgiliau Gwyrdd yn y dyfodol. Nododd rhanddeiliaid fod Cymru yn elwa ar fframweithiau gwerthfawr fel Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus 2023, y gellid eu defnyddio i lunio ein cynlluniau a chynnwys edefyn gwerth cymdeithasol cryf wrth ystyried sgiliau gwyrdd.
- Argymhelliad 9: Sefydlu Grŵp Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Sgiliau Gwyrdd sy'n cwrdd yn rheolaidd i brofi ein cyfeiriad a'n hymyriadau arfaethedig a hyrwyddo dull a arweinir gan y diwydiant ar gyfer darparu Sgiliau Gwyrdd yng Nghymru.
- Argymhelliad 10: Gweithio ar draws y Llywodraeth i archwilio cyfleoedd i atgyfnerthu ein contractau caffael sy'n gysylltiedig â sgiliau i gynyddu eu gwerth cymdeithasol cymaint ag y bo modd, gan ddysgu o arferion gorau rhyngwladol lle bo hynny'n berthnasol.
Casgliad a'r Camau Nesaf
Hoffai Llywodraeth Cymru ddiolch i'r aelodau am gytuno i gymryd rhan yn yr Adolygiad Tymor Byr hwn o Sgiliau Gwyrdd ac am fod mor barod i rannu eu gwybodaeth, eu harbenigedd a'u brwdfrydedd.
Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried canfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad hwn yn ofalus ac yn ystyried pa gamau sydd eu hangen yn y tymor byr i'r tymor canolig, fel ein bod yn y sefyllfa orau bosibl i sicrhau y gallwn fanteisio ar gyfleoedd i adeiladu Economi wyrddach a chryfach yng Nghymru .
Nodir bod cysylltiadau clir rhwng yr adolygiad hwn a'r adolygiadau tymor byr eraill a gwblhawyd yn ddiweddar ar Gynhyrchiant Busnesau Bach a Chanolig a Deallusrwydd Artiffisial, a bydd ein penderfyniadau mewn perthynas â'r camau y byddwn yn eu gweithredu yn y dyfodol yn cyd-fynd yn agos â'r adolygiadau hynny.
