Data am wasanaethau bysiau, tocynnau bws, amlder bysiau a thacsis ay gyfer Ebrill 2017 i Mawrth 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cerbydau Gwasanaeth cyhoeddus (bysiau a thacsis)
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Mae nifer y teithiau a gafwyd ar wasanaethau bws lleol yng Nghymru, a chyfanswm y pellter a deithiwyd, wedi sefydlogi yn ddiweddar. Roedd hyn yn dilyn gostyngiad hirdymor yn y nifer sy'n defnyddio bysiau.
- Roedd 99.9 miliwn o deithiau ar fysiau lleol yng Nghymru yn 2017-18. Roedd y gwasanaethau hyn yn cynnwys cyfanswm o 99.1 miliwn o gilometrau cerbyd. Roedd gwasanaethau masnachol yn gyfrifol am 77% o'r pellter a deithiwyd a'r gwasanaethau â chymhorthdal yn gyfrifol am 23%.
- Bu i nifer y gyrwyr a'r cerbydau sy'n weithredol gynyddu yn 2017-18, wedi gostyngiad hirdymor.
- Roedd 7.7% o gynnydd yn nifer y gyrwyr i 3,798, a 4.2% o gynnydd yn nifer y cerbydau i 2,458.
- Bu cynnydd ym mhris tocynnau bws yng Nghymru rhwng 2017 a 2018.
- Roedd tocynnau bws yng Nghymru wedi cynyddu 3.6% rhwng 2017 a 2018, yn uwch na chyfradd chwyddiant prisiau defnyddwyr yn y DU dros yr un cyfnod.
- Bu gostyngiad yn nifer y tacsis sydd wedi cofrestru (i lawr 1.5%) ond cynnydd yn nifer y cerbydau hurio preifat sydd wedi cofrestru (cynnydd o 3.5%) yn 2018.
- Yng Nghymru, cafodd 5,007 tacsi a 4,936 o gerbydau hurio preifat eu trwyddedu o fis Mawrth 2018.
Adroddiadau
Cerbydau Gwasanaeth cyhoeddus (bysiau a thacsis), Ebrill 2017 i Mawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 799 KB
PDF
Saesneg yn unig
799 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.