Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

Gwnaed 52.3 miliwn o deithiau gan deithwyr ar fysiau lleol yng Nghymru yn 2021-22 (1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2022) o'u cymharu â 25.9 miliwn o deithiau gan deithwyr yn y flwyddyn flaenorol. Teithiwyd yn 2021-22 gyfanswm o 64.2 miliwn o gilometrau cerbyd (Ffigur 2).

Yn 2021-22, gwelwyd gostyngiad o 10.6% yn nifer y gyrwyr oedd wedi’u cyflogi ar fysiau a choetsis i 2,934 o’i chymharu â 2020-21, (Ffigur 5).

Dros yr un cyfnod, gwelwyd cynnydd o 1.1% yn nifer y bysiau a choetsis lleol a oedd yn rhedeg i 2,215 (Ffigur 3).

Ym mis Mawrth 2022, roedd nifer y tacsis trwyddedig wedi gostwng 4.9%, ac roedd cerbydau hurio preifat trwyddedig wedi cynyddu 8.3% o’u cymharu â Mawrth 2021. Roedd cyfanswm o 4,344 o dacsis a 4,974 o gerbydau hurio preifat wedi’u trwyddedu yng Nghymru ym mis Mawrth 2022.

Y diwydiant bysiau lleol yng Nghymru

Caiff gwasanaethau bysiau lleol eu diffinio fel y rhai hynny ble y caiff teithwyr eu cludo ‘gyda thocynnau ar wahân dros bellter byr’ [troednodyn 1]. Mae gwasanaethau bws yn rhan hanfodol o economi a bywyd cymdeithasol Cymru. Roedd Cyfrifiad 2021 yn dangos nad oes gan 19% o’r boblogaeth yng Nghymru gar neu fan, a bod llawer o bobl yn ddibynnol ar wasanaethau bysiau i deithio i’r gwaith, ar gyfer apwyntiadau ysbytai, i ymweld â ffrindiau, i siopa a defnyddio gwasanaethau hamdden. 

Yn ystod 2021-22, gwnaed 52.3 miliwn o deithiau gan deithwyr ar fysiau lleol yng Nghymru, dwbl y lefel a gofnodwyd yn y flwyddyn flaenorol ond 43% yn is nag yn 2019-20 (lefelau cyn covid) gyda’r gwasanaethau’n teithio 82.8 miliwn o gilomedrau cerbyd. Roedd 75.8% o’r cyfanswm a deithiwyd ar lwybrau masnachol (Ffigur 1).

Ffigur 1: Teithiau teithwyr yn ôl gwasanaeth defnyddwyr, Cymru 2021-2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae’r siart  yn dangos bod pob gwasanaeth bysiau yng Nghymru yn 2021-22 wedi teithio cyfanswm o 82.8 miliwn o gilometrau cerbyd; 24% ohonynt gan wasanaethau â chymhorthdal a 76% gan wasanaethau masnachol.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o 'Arolwg Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus' Yr Adran Drafnidiaeth

Cynyddodd y cyfanswm a deithiwyd 27.9% yn 2021-23, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cynyddodd y pellter a deithiwyd ar wasanaethau â chymhorthdal 26.9% yn 2021-22, a chynyddodd y pellter a deithiwyd ar wasanaethau masnachol 31.2%. Mae’r cynnydd o bosibl yn adlewyrchu’r ymateb i’r llacio ar y cyfyngiadau teithio a osodwyd o ganlyniad i bandemig y coronofeirws

Roedd cyfanswm y bellter a deithiwyd cyn pandemig COVID-19 yn 2019-20 19.0% yn is na'r pellter a deithiwyd yn 2009-10, o ganlyniad i’r gostyngiad mawr yn y pellter a deithiwyd ar wasanaethau â chymhorthdal (i lawr 40.0%). Gostyngodd y pellter a deithiwyd ar wasanaethau masnachol 7.8% dros yr un cyfnod.

Ffigur 2: Y pellter a deithiwyd ar wasanaethau bysiau lleol yng Nghymru o 2010-11 hyd 2020-21

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Mae’r siart yn dangos data cyfres amser am y pellter a deithiwyd gan bob gwasanaeth bysiau lleol yng Nghymru. Rhwng blynyddoedd ariannol 2020-21 a 2021-22, gwelwyd cynnydd o 27.9% yn y pellter a deithiwyd.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o 'Arolwg Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus' Yr Adran Drafnidiaeth

Cilomedrau cerbyd a theithiau gan deithwyr ar fysiau a choetsis yn ôl blwyddyn ar StatsCymru

Yn gyffredinol, mae’r tueddiad hirdymor yn y pellter a deithir yn adlewyrchu’r duedd o ran nifer y bysiau sy’n rhedeg (Ffigur 3), gyda’r gostyngiad tymor hir yn y pellter a deithir gan fysiau yn parhau, gan adlewyrchu effaith pandemig COVID-19 ym mlynyddoedd ariannol 2019-20 a 2020-21. Yn 2021-22, gwelwyd cynnydd bach o 1.1% yn nifer y bysiau a choetsis.

Roedd 2,215 o fysiau a choetsis yn cael eu gweithredu gan gwmnïau lleol yng Nghymru yn 2020-21, cynnydd o 25 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Ers 2011-12 mae cwymp o 635 (22.3%) wedi bod yn nifer y bysiau a choetsis lleol.

Ffigur 3: Bysiau a choetsis sy’n cael eu gweithredu’n lleol yng Nghymru, 2011-12 hyd 2021-22 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Mae’r siart llinell  yn dangos bod 2,215 o fysiau a choetsis yn cael eu gweithredu’n lleol yng Nghymru yn 2021-22, cynnydd o 25 o gymharu â’r flwyddyn gynt.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o 'Arolwg Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus' Yr Adran Drafnidiaeth

[Nodyn 1] Yn cynnwys yr holl weithredwyr sy’n cynnal gwasanaethau bysiau lleol, gan gynnwys y rhai sydd hefyd yn gwneud gwaith nad yw’n waith lleol (ee. Hurio preifat, contractau ysgolion).

[Nodyn 2] Caiff gweithredwyr nad ydynt ond yn gwneud gwaith nad yw’n waith lleol eu heithrio.

Nifer y cerbydau bysiau a choetsis yn ôl blwyddyn ar StatsCymru

Mae nifer y teithiau unigol wedi dilyn tuedd debyg i’r pellter a deithiwyd ers 2007-08. Roedd nifer y teithiau wedi bod yn gymharol sefydlog o 2014-15 i 2019-20, cyn gostwng yn 2020-21. O'i chymharu â 2020-21, gwelwyd cynnydd o 101.6% yn y teithiau mewn bysiau lleol yn 2020-21, y cynnydd mwyaf ers dechrau cadw cofnodion. Fodd bynnag, mae hyn yn ostyngiad o -42.5% yn nifer y teithiau teithwyr ers 2019-29 (lefelau cyn covid) (Ffigur 4).

Ffigur 4: Teithiau bws lleol yng Nghymru 2001-02 hyd 2021-22

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Mae’r siart llinell yn edrych ar nifer y teithiau mewn bysiau lleol, sydd wedi bod yn gymharol sefydlog rhwng 2014-15 a 2018-19. Yn y flwyddyn ddiweddaraf, mae teithiau mewn bysiau wedi mwy na dyblu o gymharu â 2020-21.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o 'Arolwg Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus' Yr Adran Drafnidiaeth

Cilomedrau cerbyd ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad ac yn ôl blwyddyn ar StatsCymru

Yn 2021-22 roedd gan y diwydiant bysiau lleol yng Nghymru 3,832 o staff, gyda 76.6% (2,934) ohonynt yn yrwyr. Bu gostyngiad o 8.5% yn nifer yr holl staff yn y flwyddyn ddiweddaraf (Ffigur 5), gyda nifer y gyrwyr yn gostwng 10.6%. Dros yr hirdymor, bu gostyngiad bychan yn nifer y gyrwyr a nifer y staff. Ar y cyfan, mae’r tueddiadau o ran nifer y gyrwyr a’r holl staff yn debyg i’r duedd o ran y bysiau sy’n rhedeg.

Ffigur 5: Gyrwyr a gyflogir ar fysiau a choetsis yng Nghymru, 2011-12 hyd 2021-22

Image
The referenced media source is missing and needs to be re-embedded.

Disgrifiad o Ffigur 5: Mae’r siart llinell yn dangos y bu gostyngiad o 10.6% yn nifer y gyrwyr a gyflogwyd yn y flwyddyn ddiweddaraf o gymharu â  2020-21.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata'r Adran Drafnidiaeth

Nifer y staff a gyflogir ar fysiau a choetsis yn ôl blwyddyn ar StatsCymru

Gwasanaethau bysiau lleol: prisiau tocynnau

Mae Ffigur 6 yn dangos sut y mae pris tocynnau bws yng Nghymru wedi newid ers 1995. Mae’r ffigurau a ddefnyddir yn defnyddio’r prisiau cyfredol (y prisiau a dalwyd). Mae prisiau tocynnau bws yng Nghymru wedi cynyddu ar raddfa debyg iawn i rai Prydain Fawr, er bod prisiau yn y blynyddoedd diwethaf wedi cynyddu ychydig bach yn fwy ym Mhrydain Fawr nag yng Nghymru. Mae prisiau tocynnau bws wedi cynyddu’n fwy na chwyddiant (fel y’i mesurir gan CPIH [troednodyn 2]). Gwelir hyn yng ngoleddf fwy serth y cynnydd ym mhrisiau tocynnau o’i chymharu â goleddf lai y llinell doredig ar gyfer CPIH. Ers 1995 mae prisiau tocynnau yng Nghymru wedi cynyddu 174%, ym Mhrydain Fawr wedi cynyddu 188% a CPIH wedi cynyddu 81%. Mwy na 2.3% y gyfradd chwyddiant yn yr un cyfnod. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf Ni wnaeth gweithredwyr bysiau Cymru gyflwyno unrhyw newidiadau mewn prisiau tocynnau i'r Adran Drafnidiaeth. Roedd yna gynnydd o 3.3% ym Mhrydain Fawr.

Ffigur 6: Mynegai prisiau siwrnai ar fysiau lleol ar gyfer Cymru a Phrydain Fawr, 1995 hyd 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Mae’r siart llinell yn dangos bod prisiau tocynnau bysiau wedi aros yr un peth yng Nghymru o gymharu â Phrydain Fawr, lle gwelwyd cynnydd o 3.3%.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o 'Arolwg Prisiau Siwrnai' yr Adran Drafnidiaeth

[Nodyn 1] Mynegai ar 31 Mawrth. Mynegai (2005 = 100).

Mynegeion prisiau tocynnau ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru a Phrydain yn ôl blwyddyn ar StatsCymru

Gwasanaethau bysiau lleol: teithiau

Mae Cymru yn gyfran fechan o’r farchnad bysiau lleol ym Mhrydain Fawr, gyda dim ond 1.7% o gyfanswm y teithiau yn 2021-22. Mae'r gyfran hon yn dangos bod teithio ar fysiau’n llai cyffredin yng Nghymru nag yn nhair gwlad Prydain Fawr gyda’i gilydd, lle roedd Cymru'n cyfrif am 4.8% o’r boblogaeth yn 2021. Yn 2021-22 bu cynnydd yn y teithiau ar fysiau lleol yn holl wledydd Prydain Fawr o’u cymharu â’r flwyddyn flaenorol, gyda’r cynnydd mwyaf yn digwydd yng Nghymru (101.6%). (Ffigur 7).

Mae Ffigur 7 yn dangos y tueddiadau o ran teithio ar fysiau yng ngwledydd Prydain Fawr ers 2001-02. Mae’r duedd yng Nghymru yn debyg yn fras i’r hyn a welwyd yn yr Alban. Mae’r duedd gyffredinol yn Lloegr yn wahanol oherwydd effaith ystumiol Llundain, lle bu cynnydd sylweddol yn y teithiau ar fws hyd at 2008-09. Yn 2021-22, gwelwyd cynnydd yn y teithiau ar fws ym mhob gwlad yn dilyn yr amharu mawr a fu ar deithio yn 2020-21 oherwydd pandemig covid.

Ffigur 7: Teithiau ar fysiau lleol yn ôl gwledydd Prydain Fawr, 2001/02 hyd 2021/22 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Mae’r siart llinell yn dangos bod y duedd o ran teithiau bysiau lleol yn debyg yng Nghymru i’r hyn a welwyd yn yr Alban a Lloegr (ac eithrio Llundain). Gwelwyd cynnydd ym mhob gwlad yn ystod y flwyddyn ddiweddaraf.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o 'Arolwg Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus' yr Adran Drafnidiaeth

[Nodyn 1] Roedd toriad yn y gyfres yn 2004-05. Er mwyn creu’r gymhariaeth hon dros gyfnod hwy cafodd y data hŷn eu cysylltu â’r data ar ôl 2004-05 cyn mynegeio ar gronfa ddata 1998-99.

[Nodyn 2] Cafodd y flwyddyn 1998-99 ei dewis fel y flwyddyn sylfaen gan fod teithiau ar fysiau ar y lefel isaf ar gyfer Prydain Fawr gyfan yn y flwyddyn honno.                                                                                      

Mynegai teithiau bws lleol yn ôl gwlad y DU a Llundain a fesul blwyddyn ar StatsCymru

Mae nifer y teithiau fesul person a wneir ledled Prydain wedi bod yn gostwng ers 2008-09. Yng Nghymru, mae nifer y teithiau fesul person lai na hanner y raddfa yn yr Alban a Lloegr (Ffigur 8). Mae’r gyfradd wedi aros yn eithaf sefydlog yng Nghymru ers 2014-15, ond mae’r gyfradd fesul person wedi gostwng yn Lloegr ac yn yr Alban dros yr un cyfnod.

Ffigur 8: Teithiau fesul person ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad, 2001-02 hyd 2021-22 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer y siwrneiau gan deithwyr fesul pen o’r boblogaeth wedi bod yn gostwng ledled Prydain Fawr ers 2008-09. Gwelwyd cynnydd yn nifer y siwrneiau gan deithwyr ym mhob gwlad dros y flwyddyn ddiweddaraf.  

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o 'Arolwg Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus' yr Adran Drafnidiaeth

[Nodyn 1] Mae’r ffigurau ynghylch teithiau yn gysylltiedig â phob taith ar fws, gan gynnwys teithiau gan bobl nad ydynt yn preswylio yn yr ardal. Ffigurau’r boblogaeth (preswylwyr yn unig ym Mehefin).

Canran y newid yn Teithiau gan deithwyr ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad fesul pen o'r boblogaeth yn ôl blwyddyn ar StatsCymru

Gwasanaethau bysiau lleol: pellter a deithiwyd

Mae’r cyfanswm a deithiwyd yng Nghymru mewn bws yn cynrychioli 4.0% o’r holl gilomedrau a deithiwyd mewn bwys ym Mhrydain Fawr yn 2021-22 (Ffigur 9).

Er bod y cyfanswm a deithiwyd yng Nghymru mewn bws wedi cynyddu bron draean o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, yng Nghymru y mae’r cyfanswm a deithiwyd wedi gostwng fwyaf o’i gymharu â lefelau cyn y pandemig/ Hefyd, o’i chymharu â Lloegr a’r Alban, yng Nghymru y gwelwyd yr adferiad lleiaf.

Dros y tymor hir bu gostyngiad yn y pellter a deithiwyd yn y tair gwlad. Ers 2005-06, mae canran y gostyngiad wedi bod fwyaf yng Nghymru (i lawr 35.0%) o’i chymharu ag 19.3% yn Lloegr a 23.1% yn yr Alban (Ffigur 9).

Ffigur 9: Cilometrau cerbyd ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad, 2005-06 hyd 2021-22

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Mae’r siart llinell yn dangos y duedd o ran cyfanswm y pellter a deithiwyd gan wasanaethau bysiau lleol ym Mhrydain Fawr. Yn 2021-22, gwelwyd cynnydd o 27.9% yng Nghymru o gymharu â 2020-21.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o 'Arolwg Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus' yr Adran Drafnidiaeth

Cilomedrau cerbyd ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad ac yn ôl blwyddyn ar StatsCymru

Tacsis trwyddedig a cherbydau hurio preifat yng Nghymru

Mae unigolion yn cael gwneud cais am drwydded tacsi, trwydded cerbyd hurio preifat (CHP) neu drwydded ddeuol. 

  • Mae trwydded tacsi yn rhoi’r hawl i’r deiliad godi teithwyr ar y stryd neu o safleoedd tacsi penodol.
  • Mae trwydded cerbyd hurio preifat yn rhoi’r hawl i’r deiliad godi teithwyr sydd wedi archebu trwy weithredwr cerbydau hurio preifat trwyddedig.
  • Mae trwydded ddeuol yn rhoi’r hawl i’r deiliad yrru naill ai dacsi neu gerbyd hurio preifat.

Ym mis Mawrth 2021, roedd 4,344 o dacsis trwyddedig yng Nghymru a 4,974 o CHPau. Dyna ostyngiad o 4.9% yn nifer y tacsis a chynnydd o 8.3% yn nifer y CHPau o’u cymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Rhoddwyd cyfanswm o 10,939 o drwyddedau gyrru tacsis a CHPau, gydag 8,935 (81.7%) o’r rhain yn drwyddedau gyrru tacsis/CHPau deuol. Rhoddwyd 35.8% o’r trwyddedau deuol hyn yng Nghaerdydd ac Abertawe. Roedd 166 (1.5%) o ‘yrwyr trwyddedig tacsis yn unig’. Mae trwyddedau tacsi wedi bod yn sefydlog am gryn amser a CHPau wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf. Roedd cyfanswm y trwyddedau gyru tacsis a CHPau yng Nghymru, ym mis Mawrth 2022, wedi gostwng 4.3% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. (Ffigur 10).

Ffigur 10 : Nifer y trwyddedau gyrru tacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru, Mawrth 2005 i Mawrth 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Mae’r siart llinell yn dangos y duedd o ran nifer y tacsis, cerbydau hurio preifat a thrwyddedau gyrwyr yng Nghymru. Ym mis Mawrth 2022 roedd 4,344 o dacsis trwyddedig a 5,594 o gerbydau hurio preifat. 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o 'Arolwg Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus' yr Adran Drafnidiaeth

[Nodyn 1] Nid yw’r ffigurau yn y siart hon yn Ystadegau Gwladol.

Tacsis trwyddedig a cherbydau hurio preifat yn ôl awdurdod lleol a blwyddyn yr arolwg ar StatsCymru

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Ffynhonnell data

Mae rhan fwyaf yr wybodaeth a gyflwynir yma wedi deillio o’r ffurflenni blynyddol i’r Adran Drafnidiaeth gan sampl o 700 o ddeiliaid trwyddedau cwmnïau Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus (‘yr arolwg Cerbydau Hurio Preifat’). Mae’r ffurflen hon yn rhoi gwybodaeth ar deithiau, milltiroedd gan gerbydau, derbynebau teithwyr a chostau gweithredu. Mae arolygon llai, ar wahân, wedi’u rheoli gan yr Adran Drafnidiaeth yn casglu gwybodaeth am newidiadau mewn prisiau tocynnau, dibynadwyedd y gwasanaeth a nifer y teithwyr bob chwarter gan gwmnïau bysiau newydd, mwy.    

Mae manylion llawn y ffynonellau data a’r dulliau a ddefnyddir i’w cael yn y canllawiau (Yr Adran Drafnidiaeth).

Cwmpas

Mae’r arolwg ond yn cwmpasu y cwmnïau hynny sy’n cynnal gwasanaethau bysiau lleol sydd wedi cofrestru gyda’r Comisiynydd Traffig.

Diffiniadau

Gwasanaethau bysiau lleol

Gwasanaethau lleol yw gwasanaethau sy’n aros yn rheolaidd sydd wedi’u cofrestru gyda’r Comisiynydd Traffig. Caiff gwasanaeth lleol ei ddiffinio fel gwasanaeth bws sy’n defnyddio Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus i gludo teithwyr am brisiau ar wahân dros bellter byr. Gall y daith fod o unrhyw hyd, cyn belled â bod modd i deithwyr fynd oddi ar y bysiau o fewn 24.15 cilometr (15 milltir) (wedi’i fesur mewn llinell syth) i ble y cawsant eu codi. Mae’n rhaid i bob teithiwr wneud taliad ar wahân i’r gyrwr, y casglwr tocynnau neu’r asiant er mwyn defnyddio’r gwasanaeth. Mae angen cofrestru gwibdeithiau neu deithiau dim ond os oes angen talu am docynnau ar wahân, a bod y daith gyfan o fewn radiws 24.15 km (15 milltir) i’r pwynt dechrau a’u bod yn rhedeg unwaith neu fwy yr wythnos am o leiaf 6 wythnos ar y tro. Mae’n bosibl i wasanaethau ysgolion a gwaith fod ar fysiau lleol os yw’r defnyddwyr yn talu am docynnau ar wahân, ond nid oes yn rhaid eu cofrestru os yw rhywun ar wahân i’r cwmni bysiau yn gyfrifol am drefnu’r daith, ac nad oes angen hysbysebu y daith ymlaen llaw i’r cyhoedd, a bod pob teithiwr yn teithio i ac o’r un lle, a bod teithwyr yn talu yr un faint waeth pa mor bell y maent yn teithio.

Siwrnai gan deithwyr

Mae cyfanswm y rhai sy’n mynd ar bob cerbyd yn cael eu cyfrif, felly byddai taith sy’n galw am newid o un bws i un arall yn cael eu cyfrif fel dwy daith yn y ffigurau hyn. Nid yw’r ffigurau yn cynnwys plant o dan 5 mlwydd oed.

Cilometrau cerbydau

Pellter (cilomedrau) sydd wedi’u gwneud gan fysiau lleol yn eu gwasanaethau. Mae hyn ond yn cynnwys milltiroedd ‘byw’ (h.y. gwasanaethau) ac nid teithiau ‘marw’ h.y. o’r depo i ddechrau’r taith.

Perthnasedd

Ystadegau yr Adran Drafnidaieth yw’r ffynhonnell fwyaf gynhwysfawr o ddata swyddogol ar y diwydiant bysiau ym Mhrydain Fawr, ac mae’n darparu data sy’n cael eu defnyddio i fonitro tueddiadau, gan ddatblygu polisïau a bod yn atebol am y cymhorthdal sy’n cael ei ddarparuiI’r diwydiant ar lefel uchel.

Cywirdeb

Mae arolwg Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus yn defnyddio techneg briodoli i ddod o hyd i ffigurau allweddol ar gyfer cwmnïau na chafodd eu dewis yn y sampl ar gyfer y flwyddyn honno, neu na wnaeth ymateb. Weithiau gellir gwella’r technegau priodoli ar gyfer blynyddoedd blaenorol gan ddefnyddio data  data sy’n cael ei gofnodi’n uniongyrchol ar gyfer blynyddoedd mwy diweddar. Gall diwygiadau bychain i ddata blaenorol ddigwydd o ganlyniad, er mai prin yw’r newid sylweddol i dueddiadau o ganlyniad i hynny. 

Ar gyfer y prif ddangosyddion (siwrneau gan deithwyr a milltiroedd gan gerbydau) mae’r data a ddarperir gan gwmni yn cynnwys oddeutu, neu mwy na 90% o’r cyfanswm, gyda’r gweddill yn cael ei briodoli. Mae’r gymhariaeth gyda ffynonellau eraill yn awgrymu, yn ei grynswth (Prydain Fawr), bod yr ystadegau yn debygol o ddarparu mesur gweddol gadarn o lefelau a thueddiadau cyffredinol.   

Fodd bynnag, dylid bod yn ofalus gyda’r ffigurau sy’n cynrychioli’r grwpiau llai o gwmnïau ac un newid flwyddyn ar ôl blwyddyn gan bod y rhain yn fwy tebygol o gynnwys camgymeriadau mesur (er enghraifft, ffurflen anghywir gan gwmni, neu newid i ddull cwmni o gynhyrchu’r ffigurau sydd eu hangen) sy’n fwy tebygol o gael eu colli ar lefel genedlaethol. Am y rheswm hwn, dylid bod yn ofalus wrth ddehongli ffigurau ar lefel ranbarthol, ac yn enwedig ar lefel awdurdodau lleol.

Prydlondeb

Data wedi ei gasglu oddi wrth weithredwyr gan yr Adran Drafnidiaeth yn ystod haf 2022 i’w gyhoeddi ym mis Tachwedd 2022.

Hygyrchedd ac eglurder

Cafodd y Bwletin Ystadegol hwn ei gyhoeddi ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar wefan Ystadegau ac Ymchwil gyda adroddiadau StatsCymru.

Cymhariaeth a chydlyniaeth

Mae nifer o’r ystadegau hyn wedi’u casglu ar sail gymharol ar y cyfan gan gwmnïau am sawl blwyddyn. Fodd bynnag, yn dilyn diwygio’r fethodoleg a ddefnyddir i baratoi y ffigurau a gyhoeddwyd, 2004-05 yw y flwyddyn gynharaf i gymharu ffigurau ar union yr un sail.

Cyhoeddiadau cysylltiedig

Mae yr Adran Drafnidiaeth yn cynhyrchu ystadegau ar y sector bysiau lleol ym Mhrydain Fawr. Mae'n cyflwyno gwybodaeth am: deithiau teithwyr, milltiroedd cerbydau, lefelau refeniw, costau a chymorth llywodraeth, fflyd o gerbydau, y staff a gyflogwyd, dangosyddion eraill gan gynnwys prydlondeb.

Mae Trafnidiaeth yr Alban yn cynhyrchu cyhoeddiad blynyddol o’r enw 'Teithio ar fysiau a choetsis' sy’n cyfuno amrywiol ddata am fysiau a coetsus i roi dealltwriaeth fwy cynhwysfawr a chyflawn o dueddiadau ac ymddygiad teithwyr ar draws y dulliau hyn o deithio. Mae’r data sy’n cael ei gyflwyno yn cynnwys data cwmnïau bysiau Adran Drafnidiaeth yr Alban, data tocynnau teithio rhatach ar fysiau Transport Scotland a dadansoddiad pellach o’r wybodaeth am fysiau sy’n cael ei gasglu gan y Arolwg cartrefi'r Alban (SHS).

Mae Adran Seilwaith Gogledd Iwerddon yn cynhyrchu cyhoeddiad blynyddol ystadegol o’r enw 'Ystadegau Trafnidiaeth Gogledd Iwerddon' sy’n cynnwys pennod ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Statws Ystadegau Cenedlaethol

Mae Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn fel Ystadegau Cenedlaethol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac maent yn nodi eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.     

Mae Ystadegau Cenedlaethol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau uchaf o ran ymddiriedaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.   

Dylai pob ystadegyn swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Maent yn derbyn statws Ystadegau Cenedlaethol yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau y DU.  Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau yn bodloni’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus.  Cafodd ddynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Cenedlaethol ei gadarnhau ym mis Chwefror 2013 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer.   

Ers yr adolygiad diwethaf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol, ac wedi gwneud y newidiadau canlynol:

  • Cael gwared ar dablau di-angen o’r bwletin gan eu bod ar gael ar StatsCymru
  • Elfennau gweledol gwell a sylwadau ar y tueddiadau hirdymor ar gyfer pob cerbyd gwasanaethau cyhoeddus 

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio â’r safonau disgwyliedig ar gyfer Ystadegau Cenedlaethol. Os ydym yn poeni ynghylch a yw’r ystadegau hyn yn parhau i fodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon gyda’r Awdurdod yn brydlon.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae a wnelo Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru, sef sicrhau Cymru iachach a mwy cyfartal, ffyniannus, cydnerth a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae'n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol rhaid iddynt (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd gynnig naratif ategol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Troednodiadau

[1] Tocynnau ar wahân yw ble y mae pob teithiwr yn gwneud taliad ar wahân i ddefnyddio’r gwasanaeth.  Er bod teithiau yn cael eu diffinio fel ‘pellter byr’ mae’n bosibl iddynt fod o unrhyw hyd cyffredinol, cyn belled ag y bo modd i deithwyr fynd oddi ar y bws o fewn 15 milltir i ble y cawsant eu codi.

[2] Mynegai prisiau defnyddwyr gan gynnwys costau tai perchen-feddianwyr.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: James Khonje
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 15/2023

Image
Ystadegau Gwladol