Neidio i'r prif gynnwy

Mae cerddoriaeth Gymraeg wedi cael hwb drwy gefnogaeth Llywodraeth Cymru i wasanaeth dosbarthu a hyrwyddo digidol newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cyllid wedi'i roi i PYST Cyfyngedig - gwasanaeth digidol i ddosbarthu a hyrwyddo labeli ac artistiaid yng Nghymru - i helpu gyda thwf y gwasanaeth dosbarthu digidol, rhywbeth y mae angen mawr amdano, a'r gwasanaeth cyntaf o'i fath yng Nghymru, sy'n gallu teilwra gwasanaethau'n benodol ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg.

Bydd y cyllid ariannol hefyd yn caniatáu gwasanaeth pwrpasol fydd yn gallu hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg drwy sianeli priodol a phoblogaidd i gynyddu ymwybyddiaeth a'r nifer sy'n ffrydio.

Hefyd, bydd yr arian yn creu swydd asiant archebu cyntaf erioed i Gymru. Bydd y swydd hon yn llenwi bwlch o gynrychioli artistiaid er mwyn cynyddu nifer y perfformiadau ledled y wlad a thu hwnt. Gobeithio y gall y swydd sbarduno lleoliadau perfformio yng Nghymru ac annog twf yn nifer yr hyrwyddwyr a'r lleoliadau yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas:

"Mae cerddoriaeth Gymraeg yn datblygu'n gyflym ac mae'n bwysig ein bod ni fel Llywodraeth yn ymateb a cheisio meithrin hynny.

"Gyda'r bartneriaeth hon rydym yn cymryd camau i sicrhau bod cerddoriaeth Gymraeg ar gael yn rhwydd ac yn cael ei hyrwyddo'n dda ar bob platfform digidol. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn cynyddu ymwybyddiaeth a phoblogrwydd artistiaid Cymraeg eu hiaith. 

"Mae'r sylfeini ar gyfer diwydiant cerddoriaeth sy'n ffynnu ar gael ac mae'n fraint fawr i allu annog hynny mewn unrhyw ffordd bosibl."

Meddai Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:

"Mae Dydd Miwsig Cymru wedi dangos bod diddordeb mewn a brwdfrydedd am gerddoriaeth Gymraeg yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae cerddoriaeth yn ffordd ddelfrydol o gyflwyno pobl i'r iaith yn gymdeithasol ac i ddangos bod y Gymraeg yn fyw ac yn ffynnu. 

"Rwy’n falch iawn y bydd PYST yn adeiladu ar lwyddiant Dydd Miwsig Cymru ac yn sicrhau bod cerddoriaeth Gymraeg o fewn cyrraedd pawb drwy'r flwyddyn. Bydd ein hymdrechion yma hefyd yn helpu cyflawni’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Meddai cyd-syflaenydd PYST, Alun Llwyd:

"Ein nod yw creu strwythur sy'n adlewyrchu bywiogrwydd ac egni cerddoriaeth Gymraeg a chreu llwybr i ddatblygu twf fel y gall labeli ac artistiaid nid yn unig gael mwy o lwyddiant ond y bydd mwy ohonynt yn y dyfodol.

"Yn dilyn y gwaith cychwynnol sydd wedi'i wneud gan PYST, mae mwy na miliwn wedi ffrydio cerddoriaeth Gymraeg yn 2018 ar ddarparwyr gwasanaethau digidol, sy'n nifer enfawr am iaith leiafrifol - a bydd labeli Cymraeg bellach yn gallu defnyddio'r llwyddiant cychwynnol hwnnw ar lefel genedlaethol.”

Meddai Gruffydd Wyn Owen, sylfaenydd Libertino Records:

"Mae twf PYST fel gwasanaeth cymorth cynhwysfawr ar gyfer labeli ac artistiaid Cymraeg yn golygu bod gweledigaeth am y tro cyntaf un, sy'n edrych allan, er mwyn dod â cherddoriaeth Gymraeg nid yn unig i lwyfan mwy yn y DU ond yn fyd-eang."

Meddai Yws Gwynedd, rheolwr Recordiau Côsh:

"Mae sefydlu PYST fel gwasanaeth dosbarthu a hyrwyddo digidol pwrpasol yng Nghymru yn gam enfawr a hollbwysig ymlaen tuag at wneud cerddoriaeth gyfoes yng Nghymru yn fwy proffesiynol."