Neidio i'r prif gynnwy

Gwariodd bobl a oedd yn cerdded ar arfordir Cymru £84.7 miliwn yn 2014, wnaeth gefnogi 1,000 o swyddi, yn ôl adroddiad newydd.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd yr adroddiad* hefyd yn nodi bod 43.4 miliwn o ymweliadau undydd â'r arfordir yn cynnwys cerdded fel gweithgaredd.

Roedd hyn yn amrywio o bobl leol yn mynd am dro ar hyd y traeth i ymwelwyr yn cerdded Llwybr Arfordir Cymru, sy'n 870 milltir o hyd, dros 100 neu fwy o ddiwrnodau.

Roedd arolwg wyneb yn wyneb â 1,483 o grwpiau ar Lwybr Arfordir Cymru yn nodi bod 61 y cant o'r ymatebwyr yn ymweld ar deithiau undydd o gartref. Roedd y 39 y cant arall yn aros oddi cartref am un noson neu fwy.

Gwnaed 59 y cant o'r ymweliadau gan bobl sy'n byw yng Nghymru, gyda 38 y cant yn dod o Loegr a tri y cant o rywle arall.

Y pellter cyfartalog a gerddwyd i un cyfeiriad oedd bron tair milltir.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

"Ni fyddwn ni'n gor-ddweud drwy ddweud bod gan Gymru rhai o arfordiroedd mwyaf syfrdanol y DU.  Mae'n galonogol iawn i glywed bod cymaint o bobl yn manteisio ar y cyfleoedd y mae ein harfordir yn ei ddarparu.

"Drwy wneud y gorau o'r cyfleoedd twristiaeth a hamdden sydd gennym rydym yn rhoi hwb i economi Cymru ac, o ganlyniad, yn helpu pobl i wella eu hiechyd a lles.

“Rwy'n falch iawn mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i agor llwybr arbennig ar hyd ei harfordir cyfan yn 2012.  Mae hyn yn sicr wedi helpu mwy o bobl i fwynhau ein harfordir ac wedi cyfrannu at y ffigurau gwych hyn."

Croesawodd Quentin Grimley, Swyddog Prosiect Mynediad Arfordirol Cyfoeth Naturiol Cymru, yr adroddiad, a dywedodd:

"Mae'n dda gweld cymaint o bobl leol ac ymwelwyr yn archwilio arfordir godidog Cymru.

"Mae arfordir gwych Cymru yn cynnig nifer o opsiynau cerdded. Mae teithiau cerdded egnïol ar hyd creigiau uchel a phentiroedd garw, a theithiau cerdded ysgafn ar hyd traethau tywodlyd neu ar hyd promenadau ein pentrefi glan môr enwog.  

"Yn eu cysylltu mae Llwybr Arfordir Cymru sy'n 870 milltir o hyd ac sy'n mynd o amgylch arfordir y wlad o Gaer i Gas-gwent.  

"Ein hamgylchedd yw ein hased naturiol mwyaf gwerthfawr ac mae arfordir Cymru yn enghraifft o hyn."

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag 16 o awdurdodau lleol arfordirol a dau Barc Cenedlaethol sy'n rheoli ac yn cynnal y llwybr, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn gweithio'n agos gyda Croeso Cymru.