Neidio i'r prif gynnwy

Cerys Furlong yw Prif Weithredwr GroupEd, cwmni meddalwedd sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd sy'n darparu meddalwedd i ysgolion.

Wedi'i gynllunio ar gyfer ysgolion, gan weithwyr addysg proffesiynol a rhieni, mae GroupEd yn gweithio i ddarparu opsiynau meddalwedd i ateb gofynion Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Ymunodd Cerys â GroupEd yn 2022 o Chwarae Teg, lle bu'n Brif Weithredwr rhwng 2017 a 2022. Mae Chwarae Teg yn elusen sy'n ymgyrchu dros gydraddoldeb rhwng y rhywiau a dyma hefyd brif asiantaeth Cymru i fenywod ar gyfer datblygu economaidd.

Mae gan Cerys brofiad o bob rhan o'r sector addysg ar ôl bod yn Gyfarwyddwr Cymru ar y Sefydliad Dysgu a Gwaith a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth Allanol y Brifysgol Agored yng Nghymru, ac fel llywodraethwr ysgol ers 2007.

Yn 2018 penodwyd Cerys i Fwrdd Datblygu Economaidd Dinas-ranbarth Caerdydd, sy'n goruchwylio'r cynigion a gyflwynir i'r ddinas-ranbarth ac yn cynghori'r cyd-Gabinet. Cyn hynny, roedd Cerys yn aelod o Fwrdd Canolfan Gelfyddydau Chapter ac yn Is-gadeirydd Sefydliad Bevan. Penodwyd Cerys yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru i wasanaethu hefyd ar Fwrdd Menywod mewn STEM, y Bwrdd Cryfhau Cydraddoldeb a Hyrwyddo Hawliau Dynol, Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol a Phanel Arweinyddiaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus.

Mae Cerys yn byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr Tom, a dwy ferch ifanc.