Neidio i'r prif gynnwy

Mae Chris Millward yn Athro Ymarfer mewn Polisi Addysg ym Mhrifysgol Birmingham.

Cyn ymuno â Birmingham yn 2022, bu'n Gyfarwyddwr Mynediad a Chyfranogi Teg ar fwrdd ac ar weithrediaeth y rheoleiddiwr addysg uwch yn Lloegr, y Swyddfa Fyfyrwyr.

Rhwng 2006 a 2017, bu Chris yn gweithio i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr fel Ymgynghorydd Rhanbarthol ac yna fel y Cyfarwyddwr Polisi.  Roedd hefyd yn Bennaeth Rhaglenni Ymchwil ym Mwrdd Ymchwil Celfyddydau a Dyniaethau y DU yn ystod y cyfnod y newidiodd i fod yn Gyngor Ymchwil rhwng 2002 a 2006. 

Yn ogystal â'i rôl yn Birmingham, mae Chris yn Gomisiynydd Ysgoloriaethau Marshall ac yn Ymddiriedolwr i’r Gymdeithas Ymchwil i Addysg Uwch.  Mae hefyd yn cadeirio Bwrdd Cynghori Canolfan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ar gyfer Addysg Uwch Fyd-eang ac yn gwasanaethu ar Fwrdd Cynghori Addysg y British Council.  Cafodd Chris ei fagu yn Stockport ac aeth i ysgol wladol leol cyn astudio ym mhrifysgolion Warwick a Manceinion.