Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella ansawdd aer Cymru gyfan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Lesley Griffiths wedi cyhoeddi canllaw newydd ar gyfer Awdurdodau Lleol heddiw ar reoli ansawdd aer. Mae'r canllaw yn pwysleisio mor bwysig yw cynllunio ar gyfer y tymor hir, integreiddio polisïau all effeithio ar ansawdd aer, cynnwys cymunedau i ddatrys problemau lleol ag ansawdd aer, cydweithio ag eraill a rhwystro problemau rhag gwaethygu neu rhag codi yn y lle cyntaf. 

Cyhoeddir y canllaw newydd yn sgil ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu fframwaith o ardaloedd aer glân fel rhan o ymgynghoriad y DU ar ddatblygu cynllun ansawdd aer newydd i ddelio â nitrogen deuocsid. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Mae lefelau llygredd aer yng Nghymru yn parhau i wella ond rhaid gwneud mwy i sicrhau bod y duedd i wella'n parhau a bod yr ardaloedd mwyaf llygredig yn cydymffurfio â'r safonau. 

"Roedd yr ymatebion i'n hymgynghoriad diweddar ar reoli ansawdd aer lleol yn gefnogol iawn i'n cynigion ar gyfer Cymru. Mae'r canllaw newydd hwn a'n hymrwymiad i ddatblygu fframwaith o ardaloedd aer glân ar gyfer Cymru'n arwydd o'n penderfyniad i sicrhau bod gennym ardaloedd glân er lles cenedlaethau'r dyfodol". 

Yr elusen Global Action Plan sy'n trefnu Diwrnod Aer Glân cyntaf y DU. Bydd yn gyfle i bobl ddysgu mwy am lygredd aer, i rannu gwybodaeth â'u ffrindiau a'u cydweithwyr ac i weithredu i wneud yr aer yn lanach ac yn iachach i bawb. Bydd gweithgareddau'r Diwrnod Aer Glân yn cael eu cynnal yn bennaf yn y dinasoedd a'r rhanbarthau hynny yn y DU y gwyddom eu bod wrthi'n gweithio i greu ardaloedd allyriadau isel neu ardaloedd aer glân. 

Bydd y Diwrnod Aer Glân (dolen allanol) yng Nghymru yn nodi cychwyn rhaglen mawr ei hangen o godi ymwybyddiaeth ac o weithgareddau addysgol yng Nghymru.