Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Cafodd y Rhaglen Ymchwil Fewnol (IRP, Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru) ei chomisiynu ym mis Hydref 2021 gan yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol (LGD, Grŵp Adferiad Covid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru) i gynnal ymchwil sy’n edrych ar dangynrychiolaeth grwpiau â nodweddion gwarchodedig mewn gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol yng Nghymru. Pwrpas comisiynu’r ymchwil hon oedd cyfrannu at ddatblygu rhaglen ar gyfer cynyddu amrywiaeth a chynrychiolaeth mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiwygio etholiadau llywodraeth leol i leihau’r diffyg democrataidd yn ei Rhaglen Lywodraethu (Llywodraeth Cymru, 2021a), yn rhannol drwy fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal cyfranogiad llawn mewn sefyll etholiad a chynrychioli eu cymunedau (Llywodraeth Cymru, 2021b). Mae amrywiaethu ymgeiswyr gwleidyddol yn gofyn am ystyried y gwahanol nodweddion gwarchodedig yn ogystal â statws economaidd-gymdeithasol yn unol â’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol (Llywodraeth Cymru, 2021c).

Darparwyd cyllid ar gyfer ymgeiswyr anabl yn etholiadau’r Senedd yn 2021 ac etholiadau llywodraeth leol 2022 drwy gynllun peilot Cronfa Mynediad i Swydd Etholedig Cymru (A2EOF) (Anabledd Cymru, 2021). Roedd hyn ar gael ar gyfer costau gan gynnwys cymhorthion cynorthwyol, hyfforddiant, teithio, cymorth personol a chymorth cyfathrebu (Llywodraeth Cymru, 2022). Ar hyn o bryd, nid oes gan nodweddion gwarchodedig eraill fynediad at gymorth ariannol tebyg. O’r herwydd, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ehangu’r cynlluniau presennol i greu rhaglen sy’n darparu cymorth i bobl sy’n wynebu rhwystrau wrth fynd i fyd gwleidyddiaeth.

Nodau ac amcanion

Nod yr ymchwil hon oedd creu damcaniaeth newid (ToC) sy’n mapio mewnbynnau, gweithgareddau, allbynnau, canlyniadau, risgiau a thybiaethau o ran ymyriad(au) sy’n gysylltiedig â chael gwared ar rwystrau i swyddi etholedig ar gyfer pobl â nodweddion gwarchodedig (NG). O’r ToC, lluniwyd model rhesymeg y gellir ei ddefnyddio i ddatblygu’r ymyriad yn ogystal â chynllunio prosesau monitro a gwerthuso.

Er mwyn cyflawni’r nod hwn, mae’r ymchwil yn rhoi sylw i’r amcanion canlynol.

Amcanion

Defnyddio’r gwaith a’r llenyddiaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ar y cyd-destun a’r cynnydd o ran cael gwared ar rwystrau i swyddi etholedig ar gyfer pobl sydd â nodweddion gwarchodedig yng Nghymru a, lle bo hynny’n briodol, defnyddio enghreifftiau o’r tu hwnt (y DU ac yn rhyngwladol).

Sefydlu ToC drafft cyntaf ar y cyd â llunwyr polisi a rhanddeiliaid allanol i fesur eu dealltwriaeth o’r prif weithgareddau ac i ddiffinio canlyniadau arfaethedig unrhyw bolisi posibl ar gyfer y dyfodol.

Llunio adroddiad sy’n cynnwys ToC diwygiedig ar ôl ymgynghori â swyddogion polisi, dadansoddiad o’r prif faterion a’r risgiau sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r rhesymeg ymyrryd, cyngor ar ddata sylfaenol ac opsiynau ar gyfer gwerthuso’r polisi arfaethedig yn y dyfodol.

Methodoleg

Roedd y dull methodolegol yn cynnwys adolygu tystiolaeth a ToC. Cynhaliwyd dau adolygiad o dystiolaeth: un ar y rhwystrau i swyddi etholedig fel rhai y mae pobl anabl yn eu profi ac un ar y rhwystrau sy’n wynebu menywod. Cafodd yr adolygiadau eu cwmpasu gyda chyngor arbenigol gan swyddogion polisi a’u defnyddio fel sail i adran cyd-destun y ToC.

Pwrpas y ToC oedd datblygu model rhesymeg sy’n mapio’r broses i gyflawni canlyniadau arfaethedig ymyriad neu bolisi. Er mwyn cael amrywiaeth eang o safbwyntiau wrth ddatblygu damcaniaeth newid, cynhaliwyd tri gweithdy. Roedd y cyntaf gyda swyddogion polisi Llywodraeth Cymru, yr ail gyda rhanddeiliaid o sefydliadau cydraddoldeb a oedd yn cynrychioli buddiannau grwpiau Nodweddion Gwarchodedig, a’r trydydd gyda rhanddeiliaid o sefydliadau llywodraeth leol. Daeth cyfanswm o 24 o gyfranogwyr i’r gweithdai.

Cafodd data’r gweithdai ei godio a’i ddefnyddio wedyn i gynnal dadansoddiad thematig. Ategwyd canfyddiadau’r dadansoddiad o’r data gan dystiolaeth o’r adolygiadau llenyddiaeth. Yna, cafodd y canfyddiadau hyn eu rhannu’n adrannau o’r ToC i ffurfio drafft terfynol y model rhesymeg gyda mewnbwn gan swyddogion polisi. Datblygwyd y rhesymeg dros y ToC gan ddefnyddio llenyddiaeth o’r maes a data ac fe’i cynrychiolir gan adran ‘cyd-destun’ y model rhesymeg.

Prif ganfyddiadau

Cyflwynir y prif ganfyddiadau fel adrannau o’r model rhesymeg. Crynhoir ‘cyd-destun’ y ToC yn gyntaf, er mwyn darparu’r sail resymegol dros ymyrryd â pholisi ym maes mynediad i swydd etholedig. Yna, mae’r nodau terfynol a geisir fel y’u cyflwynwyd gan gyfranogwyr ymchwil yn cael eu disgrifio yn yr adran ‘canlyniadau’, wedi’u dilyn gan ‘allbynnau’, sef y canlyniadau gweladwy sy’n dangos cynnydd tuag at y canlyniadau. Mae’r adran ‘gweithgareddau’ yn crynhoi pa gamau sydd eu hangen i gyflawni’r canlyniadau a ddymunir, ac mae ‘mewnbynnau’ yn dangos pa adnoddau sydd eu hangen i allu cyflawni’r gweithgareddau. Yn olaf, darperir rhagdybiaethau sy’n sail i’r ToC, risgiau i gyflawni’r canlyniadau, a ffynonellau data ar gyfer monitro a gwerthuso.

Y Cyd-destun

Cafwyd tri is-gategori o ddata’r gweithdai a’r adolygiadau tystiolaeth. Mae’r rhain yn rhwystrau i swyddi etholedig ar gyfer ymgeiswyr â nodweddion gwarchodedig (NG), rhwystrau i aelodau etholedig gyda nodweddion gwarchodedig, a rhwystrau i ddarpar ymgeiswyr gyda nodweddion gwarchodedig a’r cyhoedd. Mae pob is-gategori yn adlewyrchu rhwystrau ariannol, diwylliannol, gwleidyddol, cymdeithasol a ffisegol. Mae’r prif rwystrau ar gyfer y tri grŵp wedi’u crynhoi isod.

I ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig sy’n ceisio dod yn aelodau etholedig, gall costau ymgyrchu fod yn sylweddol. Er enghraifft, gall ymgeiswyr anabl wynebu costau ychwanegol sy’n ymwneud â hygyrchedd; mae pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol difreintiedig yn llai tebygol o fod â mynediad at gyllid oherwydd incwm cyfartalog is; ac mae menywod yn fwy tebygol o fod â chyfrifoldebau gofalu, o weithio’n rhan-amser, ac o gymryd seibiant o’u gyrfa i fagu plant. Gan ei bod yn bosibl na fydd costau’r ymgyrchu yn cael eu talu gan bleidiau gwleidyddol, mae ymgeiswyr yn aml yn gyfrifol am dalu eu costau eu hunain sy’n creu rhwystr ariannol rhag sefyll am swydd etholedig. Ar ben hynny, canfu’r ymchwil y gellid ystyried bod cymorth ariannol a ddyrennir i ymgeiswyr â nodweddion penodol yn annerbyniol yn ddiwylliannol neu’n gymdeithasol a’i fod yn creu mwy o anfantais i bobl sydd â nodweddion gwarchodedig.

Adroddwyd hefyd y gall prosesau dethol mewn llywodraeth leol fod â thuedd tuag at bobl heb nodweddion gwarchodedig, sy’n golygu y gall ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig ei chael yn fwy anodd cael cefnogaeth. Er enghraifft, gall aseswyr fod â thybiaethau ynghylch pwy sy’n gweddu i broffil ymgeisydd delfrydol, a gall y rhagfarn hon roi ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni’r tybiaethau hynny dan anfantais. Teimlwyd bod ymgeiswyr sy’n ymuno â llwybrau ‘traddodiadol’ i lywodraeth leol yn cael eu ffafrio a bod pobl sydd â nodweddion gwarchodedig yn fwy tebygol o ddod o lwybrau eraill, heb fod yn rhai traddodiadol. Mae hyn yn rhwystr penodol a brofir gan bobl o leiafrifoedd ethnig, y mae llwybrau arferol i lywodraeth leol, gan gynnwys undebau, rhai proffesiynau a’r byd academaidd, yn llai hygyrch iddynt.

Yn ogystal â’r rhwystrau hyn i swyddi etholedig ar gyfer ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig, mae’r gystadleuaeth am seddi’n cael ei gwaethygu oherwydd bod un person yn dal sedd am amser maith. O ganlyniad, mae llai o gyfleoedd i ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig ddod yn aelodau etholedig, sy’n golygu bod perygl o gynnydd arafach tuag at amrywiaeth mewn llywodraeth leol.

Gall aelodau etholedig gyda Nodweddion Gwarchodedig wynebu rhwystrau sy’n eu hatal rhag gweithio i’w llawn botensial, gan gynnwys aros mewn swydd am y tymor cyfan. Teimlai’r rhai a gymerodd ran yn y gweithdai fod y pecyn taliadau presennol ar gyfer cynghorwyr yng Nghymru yn annigonol, yn enwedig ar gyfer aelodau sydd â chostau ychwanegol yn ymwneud â nodweddion gwarchodedig. Mae tystiolaeth o’r adolygiadau llenyddiaeth yn cefnogi’r syniad hwn. Canfu un astudiaeth fod y rhan fwyaf o gynghorwyr yng Nghymru yn gweithio mwy na’r nifer fwyaf o oriau sy’n ofynnol ganddynt, gyda chyfran fechan yn gweithio bron i ddwbl yr oriau neu fwy (Hibbs, 2022).

Gall diwylliant gweithio mewn llywodraethau lleol yng Nghymru ei gwneud yn anodd i aelodau etholedig gyda nodweddion gwarchodedig gyflawni eu rôl yn effeithiol. Gall arddulliau trafod, patrymau gweithio a dyluniad adeiladau eithrio aelodau ag anableddau, cyfrifoldebau gofalu neu gyflogaeth arall. Gall ffyrdd o weithio hefyd fod yn anfanteisiol. Ers pandemig Covid-19, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd ddeddfwriaethol i alluogi gweithio o bell, ac mae hyn wedi gweithio’n gadarnhaol i bobl sy’n ei chael yn anodd rhoi eu presenoldeb corfforol mewn cyfarfodydd hir. Fodd bynnag, i eraill, efallai nad yw’r newidiadau hyn i arferion gweithio yn ddigon helaeth. Er enghraifft, efallai nad yw rhai aelodau etholedig hŷn yn gyfarwydd â sut i ddefnyddio offer digidol sy’n caniatáu gweithio o bell, sy’n gallu arwain at allgáu digidol yn ogystal â mathau eraill o allgáu sy’n seiliedig ar ddiwylliant gweithio.

Canfu’r ymchwil hon fod diffyg cefnogaeth ar ôl mynd i’r swydd yn rhwystr arall i aelodau etholedig gyda nodweddion gwarchodedig yng Nghymru. Mae’r Gronfa Mynediad i Swydd Etholedig (A2EOF) ar gael i ymgeiswyr anabl sy’n ceisio cael eu hethol i helpu i dalu costau ychwanegol ymgyrchu. Nid yw’r gefnogaeth hon yn cael ei hymestyn y tu hwnt i’r cam ymgyrchu. Nododd y rhai a gymerodd ran yn y gweithdai fod angen i gefnogaeth fel A2EOF gael ei hymestyn i gynorthwyo pawb sydd â nodweddion gwarchodedig yn ystod pob cam o’r ymgyrchu ac yn y swydd etholedig.

Gall agweddau a thybiaethau am lywodraeth leol fod yn rhwystr i ddarpar ymgeiswyr gyda nodweddion gwarchodedig a'r cyhoedd yn gyffredinol. Gallant atal pobl rhag ymgysylltu â llywodraeth leol neu ymchwilio i’r posibilrwydd o ymgeisio am swydd etholedig. Teimlai’r rhai a gymerodd ran yn y gweithdai nad oedd dealltwriaeth dda o rôl llywodraeth leol a’i haelodau etholedig ar lefel y gymdeithas gyfan. Mae nifer yr achosion o gam-drin ac aflonyddu ar aelodau etholedig sydd â nodweddion gwarchodedig yr adroddir amdanynt yn y cyfryngau yn golygu nad yw’r rôl yn apelio at bobl sy’n rhannu nodweddion â’r aelodau hynny. Gall cam-drin aelodau etholedig gyda nodweddion gwarchodedig beri i rai darpar aelodau ofni sefyll am swydd. Er enghraifft, canfuwyd bod ofn trais, cam-drin ac aflonyddu gan y cyhoedd yn rhwystr sylweddol i fenywod sy’n ymgeisio i fod yn gynghorydd (Bazeley et al., 2017). Mae ymchwil arall yn dangos bod croestoriadedd (y cyfuniad o ddwy hunaniaeth gymdeithasol a gwleidyddol neu fwy) yn gallu dwysáu rhwystrau fel y rhain. Roedd un astudiaeth yn dangos bod menywod lesbiaidd a deurywiol yn fwy tebygol o brofi bwlio yn y gweithle na dynion hoyw (Hoel et al., 2021), er bod angen rhagor o ymchwil i ddeall yn llawn y rhwystrau i swydd etholedig sy’n cael eu profi a’u canfod gan bobl sydd â hunaniaethau croestoriadol.

Yn olaf, canfuwyd bod gan bobl â nodweddion gwarchodedig lai o gyfleoedd i ennill y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen i ddod yn ymgeisydd llywodraeth leol neu’n aelod etholedig. Priodolwyd hyn i sbardunau, gan gynnwys diffyg addysg wleidyddol yn y DU a diffyg ymddiriedaeth eang ymysg y cyhoedd yn sefydliadau’r llywodraeth. Mae mynediad cyfyngedig at addysg bellach ac addysg uwch hefyd yn creu rhwystr i yrfaoedd mewn swydd etholedig. Mae llawer o’r proffesiynau sydd fel arfer yn arwain at yrfa mewn gwleidyddiaeth, gan gynnwys y gyfraith, busnes ac addysg, yn gofyn am hyfforddiant ar lefel gradd nad yw’n hygyrch i lawer o bobl sydd â nodweddion gwarchodedig (Perrin a Gillis, 2019).

Canlyniadau

Roedd consensws cyffredinol ymysg cyfranogwyr y gweithdai mai llywodraeth leol sy’n cynrychioli’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu yw’r canlyniad pwysicaf a mwyaf cynhwysfawr. Mae canlyniadau eraill a ddaeth i’r amlwg yn y data yn dangos sut y bydd pobl â nodweddion gwarchodedig, aelodau etholedig, llywodraeth leol a chymdeithas yn gyffredinol yn cyfrannu at gyflawni’r canlyniad cyffredinol hwn.

O ganlyniad i lywodraeth leol gynrychioladol, teimlai’r cyfranogwyr y byddai pobl â nodweddion gwarchodedig yn teimlo’n hyderus mewn aelodau etholedig llywodraeth leol i’w cynrychioli hwy a’u buddiannau. Byddant yn ymwneud â gwleidyddiaeth ac yn gwybod amdani ac yn ymwneud â phrosesau democrataidd. Bydd y gymuned ehangach yn parchu’r sgiliau a’r profiadau a gynigir gan bobl sydd â nodweddion gwarchodedig. O ganlyniad, bydd pobl sydd â nodweddion gwarchodedig yn cael eu gwerthfawrogi ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniadau i wleidyddiaeth a chymdeithas.

Bydd aelodau etholedig ar gael ac yn hygyrch i’r bobl y maent yn eu cynrychioli drwy ymgysylltu â’u cymuned leol. Byddant yn gwybod sut y bydd penderfyniadau’n effeithio ar bobl sydd â nodweddion gwarchodedig a darpar ymgeiswyr. Bydd ymddiriedaeth helaeth mewn aelodau etholedig i gynrychioli eu cymunedau. Bydd llywodraeth leol, fel sefydliad, yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb ac yn yrfa ddeniadol i bobl sydd â nodweddion gwarchodedig. Bydd yn cefnogi aelodau etholedig gyda nodweddion gwarchodedig i ymgymryd â’u dyletswyddau’n llawn heb wynebu anfantais. Bydd cymdeithas yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac, o ganlyniad, bydd yn gydlynol ac yn gynhwysol. Bydd adnoddau’n cael eu dosbarthu’n deg, gan ganiatáu mynediad at gyfleoedd i bobl sydd â nodweddion gwarchodedig. Ni fydd dim goddefgarwch tuag at gam-drin, aflonyddu a gwahaniaethu yn erbyn pobl, ymgeiswyr ac aelodau etholedig gyda nodweddion gwarchodedig.

Allbynnau

Mae’r allbynnau’n cyfeirio at ganlyniadau diriaethol y gellid eu defnyddio i fesur a yw’r canlyniadau wedi’u cyflawni’n effeithiol a sut y gwnaed hynny. Roedd yr allbynnau allweddol a nodwyd gan ymchwilwyr yn nata’r gweithdai yn cynnwys: cronfa amrywiol o ymgeiswyr sy’n cynrychioli’r boblogaeth leol; cynrychiolaeth ddisgrifiadol o bobl sydd â nodweddion gwarchodedig mewn llywodraeth leol; gwasanaethau cyhoeddus sy’n hygyrch i bobl sydd â nodweddion gwarchodedig; a setiau data manwl ar gynghorwyr ac ymgeiswyr yng Nghymru.

Gweithgareddau

Gofynnwyd i’r cyfranogwyr pa gamau yr oedd angen eu cymryd i gyflawni’r canlyniadau. Awgrymwyd llawer o gamau gweithredu ac maent yn rhan fawr o’r model rhesymeg terfynol. Mae’r awgrymiadau’n cynnwys pedwar maes gweithgarwch cyffredinol. Mae darparu cefnogaeth i ymgeiswyr ac aelodau etholedig yn cynnwys camau fel mynd i’r afael â bwlio, cam-drin ac aflonyddu, gweithredu rhwydweithiau cefnogi a galluogi arferion gweithio hyblyg. Mae gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o rôl llywodraeth leol ac aelodau etholedig yn cynnwys rhannu gwybodaeth hygyrch drwy ddigwyddiadau ymgysylltu ac ehangu mynediad at addysg wleidyddol. Mae gwella’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer llunwyr polisïau drwy gasglu data yn golygu casglu data sy’n galluogi dadansoddwyr i ddeall yn llawn beth yw sefyllfa llywodraeth leol ac aelodau etholedig yng Nghymru a hyrwyddo’r defnydd o ddata o ansawdd uchel ar draws sefydliadau llywodraeth leol. Yn olaf, mae asesu rôl llywodraeth leol o ran gwella cynrychiolaeth pobl â nodweddion gwarchodedig yn golygu cynyddu’r cyfleoedd i bobl sydd â nodweddion gwarchodedig sefyll etholiad, er enghraifft drwy roi sylw i unigolion yn aros mewn swydd yn hir iawn ac adolygu prosesau dethol ac ymgyrchu.

Mewnbynnau

Mae’r adnoddau sydd eu hangen i alluogi ymgymryd â’r gweithgareddau a thrwy hynny i gyflawni’r canlyniadau yn enfawr. Roedd y bobl y mae angen iddynt gymryd rhan i ymgymryd â’r gweithgareddau, fel y nodwyd gan y cyfranogwyr, yn cynnwys arbenigwyr ym maes gwleidyddiaeth, ymgysylltu â phobl ifanc, ymgysylltu â’r gymuned, y cyfryngau a chyfathrebu. Byddai angen i swyddogion Llywodraeth Cymru gefnogi llywodraethau lleol ledled Cymru gyda chynlluniau amrywiaeth, ac mae angen swyddogion llywodraeth leol i sicrhau bod egwyddorion democrataidd yn cael eu cynnal drwy gydol prosesau dewis ac ethol.

Bydd angen mewnbwn gan wahanol sefydliadau hefyd: awdurdodau lleol ar gyfer hyrwyddo diwylliant cynhwysol, Llywodraeth Cymru i sbarduno newid cenedlaethol ac arwain drwy esiampl, pleidiau gwleidyddol i weithredu newid ar lefel cymorth unigol a sefydliadau llywodraeth leol i gefnogi awdurdodau lleol, ymgeiswyr ac aelodau etholedig i gyflawni amcanion amrywiaeth. Bydd mudiadau’r trydydd sector a chyrff cydraddoldeb sydd â gwybodaeth arbenigol hefyd yn angenrheidiol i eiriol ar ran pobl sydd â nodweddion gwarchodedig.

Bydd angen i’r adnodd cyllido fod yn ei le i gyflawni unrhyw weithgareddau sy’n rhan o ymyriad i gael gwared ar rwystrau i swyddi etholedig ar gyfer pobl sydd â nodweddion gwarchodedig. Y prif feysydd ar gyfer darparu cyllid fydd: darparu addysg wleidyddol ledled Cymru; cefnogi ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig gyda chostau ymgyrchu ychwanegol; cyflwyno rhaglenni a chynlluniau i gefnogi darpar ymgeiswyr ac aelodau etholedig; digwyddiadau ymgysylltu â chymunedau; a gweinyddu’r polisi.

Rhagdybiaethau

Mae’r ToC yn seiliedig ar gyfres o dybiaethau ynghylch sut y bydd yn gweithio (Trysorlys EM, 2020). Tynnodd yr ymchwilwyr sylw at y tybiaethau a wnaed gan gyfranogwyr ynghylch gwahanol elfennau’r ToC o ddata’r gweithdai.

Ymysg pethau eraill, y prif dybiaethau a nodwyd oedd bod pobl â nodweddion gwarchodedig eisiau ymwneud mwy â llywodraeth leol, bod pobl a sefydliadau yn gallu cefnogi newid sylweddol yn y maes hwn ac yn fodlon gwneud hynny. Bydd pobl â nodweddion gwarchodedig eisiau cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth gyda’r gefnogaeth a’r wybodaeth briodol, bydd cynrychiolaeth ddisgrifiadol yn arwain at gynrychiolaeth sylweddol, ac y bydd cynrychiolaeth sylweddol yn arwain at well llesiant a mwy o gydraddoldeb ar lefel cymdeithas.

Argymhellion

Mae canfyddiadau’r ymchwil yn nodi sut y gellir gwireddu canlyniadau’r ddamcaniaeth newid. Ar sail y canfyddiadau hyn, mae’r ymchwilwyr yn gwneud rhai argymhellion ar gyfer y tîm polisi Democratiaeth Llywodraeth Leol, gan gynnwys:

  • parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy gydol y gwaith o ddatblygu’r polisi
  • ailedrych ar ddamcaniaeth newid ar adegau allweddol drwy gydol y broses o ddatblygu’r polisi
  • cyfeirio at ddamcaniaeth newid wrth bennu gwerthusiad o’r polisi
  • canfod bylchau mewn data a ffynonellau data a all helpu i fesur cynnydd tuag at y canlyniadau; casglu data newydd os oes angen

Manylion cyswllt

Awduron yr Adroddiad: Hannah Smith a Ieuan Davies

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Hannah Smith
Ebost: rhyf.irp@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 66/2022
ISBN digidol 978-1-80364-895-8

Image
GSR logo