Neidio i'r prif gynnwy

"Chwarae eich rhan wrth lunio y cymorth i ffermio yng Nghymru yn y dyfodol a manteisio i'r eithaf ar y cymorth sydd ar gael": dyma'r neges gan Lesley Griffiths i ffermwyr Cymru, wrth iddi ymweld â Sioe Laeth Cymru heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Gweinidog yn annog ffermwyr sydd heb gael dweud eu dweud eto ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi'r diwydiant wedi Brexit, fel a amlinellwyd yn Ffermio Cynaliadwy a'n Tir, i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud hynny cyn i'r ymgynghoriad ddod i ben yfory. Hyd yma, mae'r ymgynghoriad wedi denu bron i 2,000 o ymatebion.

Wrth siarad cyn Sioe Laeth Cymru yng Nghaerfyrddin, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:  

Er ein bod wedi llwyddo i osgoi Brexit heb Gytundeb - am nawr - allwn ni ddim bod yn siŵr o'r canlyniad terfynol. Rydym am sicrhau cymaint o eglurder â phosib i ddyfodol ffermio yng Nghymru yn ystod y cyfnod ansicr hwn.

Mae'n iawn felly ein bod yn ymgynghori ac yn datblygu ein cynigion hirdymor ar gyfer cymorth yn y dyfodol. Ni chaiff canlyniadau Brexit lawer o ddylanwad ar nifer o'r cynigion yn yr Ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a'n Tir.

Mae nifer o ffermwyr yn dibynnu ar gymorth y dyfodol, ac rydym yn dibynnu ar ffermwyr i gyflawni nifer o'r canlyniadau yr ydyn ni'n ceisio eu sicrhau. Mae'n rhaid i ffermwyr fod yng nghanol y sgwrs hon.  Hoffwn annog pawb sydd â diddordeb yn nyfodol sector ffermio Cymru i wneud yn siŵr eu bod wedi dweud eu dweud cyn 11pm nos yfory.

Mae'r Gweinidog hefyd yn annog ffermwyr i ystyried gwneud cais am Gynllun Cymorth Cynllun y Taliad Sylfaenol, ffordd o helpu ffermwyr sydd heb ddilysu eu hawliadau BPS erbyn dechrau Rhagfyr.

Er y byddwn yn cadw at y cyfnod talu BPS presennol o 2 Rhagfyr 2019 tan 30 Mehefin 2020, o dan y Cynllun Cymorth BPS, bydd ffermwyr sydd heb dderbyn eu taliad BPS ar ddiwrnod un yn derbyn taliad hyd at 90% o'r hyn a ragwelir yw gwerth eu hawliad BPS.

Agorodd y cyfnod ymgeisio ar gyfer y cynllun cymorth BPS ar 15 Hydref a bydd yn parhau i fod ar agor tan 29 Tachwedd. Caiff unigolion wneud cais drwy ddefnyddio eu cyfrif RPW Arlein.

wi'n benderfynol o roi cymaint â phosib o gymorth i ffermwyr Cymru", meddai'r Gweinidog; "Mae ein Cynllun Cymorth BPS yn anelu at roi rhywfaint o sicrwydd i ffermwyr, gan helpu iddyn nhw reoli eu llif arian yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Eto, dwi'n awgrymu'n gryf i ffermwyr gyflwyno cais cyn 29 Tachwedd.