Beth ydyn ni'n ei wneud i annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden corfforol.
Ein cynllun ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol
Mae ein cynllun Dringo'n Uwch yn helpu plant ac oedolion i gymryd rhan mewn chwaraeon, i gerdded ac i wneud mwy o ymarfer corff, ac i gadw'n iach. Erbyn 2025, rydyn ni am i'r rhan fwyaf o bobl wneud digon o ymarfer corff i weld manteision amlwg i'w hiechyd.
Chwaraeon Cymru
Rydyn ni'n ariannu Chwaraeon Cymru i annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol.
Rydyn ni'n dweud wrth Chwaraeon Cymru sut ydyn ni am iddyn nhw wario arian y Loteri Genedlaethol.
Helpu pobl i gadw'n egnïol a phwyso'n iach.
Pwysau Iach: Mae Iechyd Cymru'n disgrifio beth yr ydym am ei wneud i helpu plant ac oedolion i gadw'n ffit ac yn iach eu pwysau.
Yn 2018, gwnaethon ni lansio £5m y Gronfa Iach ac Egnïol. Partneriaeth yw hon rhwng Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Byddwn ni'n ariannu prosiectau o fis Ebrill 2019 tan fis Mawrth 2022 i helpu pobl i fyw bywydau iachach yn eu cymunedau.
Creu Cymru Egnïol yw enw'n cynllun i annog pobl i fod yn fwy egnïol. Mae'n rhan o'n cynllun i gynyddu nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon.
Nofio am ddim
Rydyn ni wedi bod yn ariannu sesiynau nofio am ddim i blant o dan 16 oed ac oedolion dros 60 oed ers 2003. Chwaraeon Cymru sy'n gyfrifol am y cynllun. Ond awdurdodau lleol sy'n darparu'r sesiynau, mewn pyllau nofio a chanolfannau hamdden. Byddwn yn dechrau cynllun newydd cyn hir.
Gwella cyfleusterau chwaraeon
Yn 2015 a 2016, gofynnon ni i awdurdodau lleol wneud cais am fenthyciad di-log o hyd at £1 miliwn i ddarparu cyfleusterau chwaraeon newydd er mwyn treialu'r Cynllun Benthyciadau Cyfalaf Cyfleusterau Chwaraeon. Yr awdurdodau llwyddiannus oedd Caerdydd, Conwy a Wrecsam.
Ym mis Ebrill 2019, ar y cyd â Chwaraeon Cymru, gwnaethon ni lansio Cronfa Lle i Chwaraeon. Cronfa newydd yw hon, gwerth £1 miliwn, i greu a gwella cyfleusterau chwaraeon.