Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw cyhoeddodd Rebecca Evans y bydd asiantaethau Gofal a Thrwsio Cymru yn cael cyllid o bron i £6 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer eu gwaith i gefnogi pobl hŷn sy'n agored i niwed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae asiantaethau Gofal a Thrwsio Cymru yn gweithio ym mhob rhan o Gymru ac yn darparu gwasanaethau i helpu pobl hŷn i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain. Yn ogystal â gwneud mân addasiadau i eiddo, mae'r asiantaethau hefyd yn darparu ymweliadau am ddim â chartrefi er mwyn helpu i gadw preswylwyr yn ddiogel ac yn gynnes, a diogelu eu hiechyd a'u lles. 

Dywedodd Rebecca Evans: 

"Mae addasiadau i gartrefi yn bwysig er mwyn helpu nifer o bobl hŷn a phobl anabl i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol. Yn ogystal â gwella eu bywydau nhw, mae'n lleihau'r pwysau ar wasanaethau rheng flaen. Mae'r gwasanaethau a ddarperir gan asiantaethau Gofal a Thrwsio Cymru yn helpu pobl i fyw yn eu cartrefi'n hirach gyda mwy o hyder ac urddas ac ansawdd bywyd gwell.

"Bydd y cyllid hwn yn galluogi'r asiantaethau i ddarparu cymorth gwerthfawr yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, gan weithio'n agos â phartneriaid yn y sectorau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Thai a gweddill y trydydd sector.

Mae 13 o asiantaethau Gofal a Thrwsio yng Nghymru, ac mae eu cyfrifoldebau'n cwmpasu ardaloedd pob awdurdod lleol. Y llynedd, gwnaeth Gofal a Thrwsio Cymru helpu mwy na 40,000 o bobl hŷn yng Nghymru ac ymgymryd â gwerth mwy na £11.5 miliwn o atgyweiriadau. Gwnaeth hefyd helpu mwy na 22,000 o bobl drwy wneud gwaith yn ymwneud â diogelwch ac atal cwympiadau, a rhyw 17,000 o fân addasiadau.