Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am Gadeirydd newydd ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gan Ofal Cymdeithasol Cymru gyfrifoldeb i ddiogelu, hyrwyddo a chynnal diogelwch a llesiant y cyhoedd yng Nghymru. Mae'n rhan annatod o'r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru ac yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru. 

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gyfrifol am hyrwyddo a chynnal:

  • safonau uchel o ran darparu gwasanaethau gofal a chymorth
  • safonau uchel o ran ymddygiad ac ymarfer ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol
  • safonau uchel o ran hyfforddi gweithwyr gofal cymdeithasol
  • hyder y cyhoedd mewn gweithwyr gofal cymdeithasol.
Gwneud cais: Llywodraeth Cymru Penodiadau Cyhoeddus
Prif ddyletswyddau Cadeirydd Gofal Cymdeithasol Cymru yw gwneud penderfyniadau, rhoi arweiniad, cymeradwyo strategaethau, monitro perfformiad a gwneud penderfyniad terfynol am y ffordd orau i ddefnyddio gwariant yng Ngofal Cymdeithasol Cymru.  
Lleygwyr sy'n arwain y Bwrdd sy'n golygu y bydd bob amser mwy o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau, gofalwyr ac aelodau'r cyhoedd ar y Bwrdd na gweithwyr proffesiynol o'r sector gofal.  

Bydd hawl gan y Cadeirydd newydd i dâl o £337 y dydd a chostau teithio a chynhaliaeth yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, am ymrwymiad amser o 8 diwrnod y mis (mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd y Bwrdd, Pwyllgorau a chyfarfodydd rhanddeiliaid).

Byddai disgwyl i'r Cadeirydd newydd ddechrau ar y gwaith ar 1 Awst 2019. 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dymuno recriwtio un Aelod newydd (mae 13 o Aelodau Lleyg ar y bwrdd ar hyn o bryd a'r penodiad hwn fydd y 14eg Aelod).

Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol:

“Mae hwn yn gyfle cyffrous i rywun sydd wedi llwyr ymrwymo i wella'r sectorau gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru ddefnyddio ei sgiliau a'i brofiadau i wneud gwahaniaeth i'r sectorau hynod bwysig hyn. Bydd disgwyl iddynt helpu i feithrin hyder yn y gweithlu, ac arwain a chefnogi gwelliannau mewn gofal cymdeithasol ledled Cymru. 

“Hoffwn i annog pob un sy’n meddwl y gall wneud gwahaniaeth gyflwyno cais am y swyddi pwysig hyn.”