Neidio i'r prif gynnwy

Mae Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd yn chwilio am Gadeirydd newydd a hyd at dri Chomisiynydd newydd i ymuno â Bwrdd Comisiwn Dylunio Cymru (DCFW).

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

11 Rhagfyr 2023 yw'r dyddiad cau i ymgeiswyr wneud cais am y rolau a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2024. Mae diddordeb cryf mewn creu lleoedd, dylunio a phensaernïaeth dda, a gwerthfawrogiad o’r elfennau hynny’n hanfodol, yn ogystal â dealltwriaeth o lywodraethu corfforaethol, cyllid a chyfathrebu, yn ogystal â'r rhyngwyneb rhwng pensaernïaeth, peirianneg a dylunio trefol sy'n berthnasol i drafnidiaeth, ynni a mathau eraill o seilwaith. 

Bydd penodiad y Cadeirydd yn para am gyfnod o bedair blynedd i ddechrau. Mae'n bosibl y caiff ei adnewyddu, ar yr amod bod canlyniadau unrhyw adolygiad yn foddhaol, hyd at gyfnod o ddau dymor ar y mwyaf.   

Gayna Jones yw Cadeirydd y Comisiwn ar hyn o bryd, ac mae ei thymor yn dod i ben ar 31 Mawrth 2024. Sefydlwyd Comisiwn Dylunio Cymru yn 2002 gan Lywodraeth Cymru fel corff cyhoeddus sy'n gweithio ledled Cymru i hyrwyddo dylunio da ar gyfer ein lleoedd, ein hadeiladau a'n mannau cyhoeddus. Cylch gwaith y sefydliad sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd yw gweithio gydag awdurdodau cynllunio lleol, buddsoddwyr, datblygwyr a chleientiaid comisiynu i ddal gwerth dylunio o ansawdd uchel; helpu i sicrhau gwell canlyniadau, gwell enillion ar fuddsoddiad a mwy o les cyhoeddus. Mae'r Comisiwn hefyd yn meithrin y dalent a'r sgiliau dylunio sy'n angenrheidiol ar gyfer twf ac arloesedd.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

"Mae angen gweithwyr proffesiynol talentog arnom i ddod â'u sgiliau a'u profiad i Gomisiwn Dylunio Cymru er mwyn helpu i wneud Cymru'n lle gwell, a lleihau ein heffaith ar y blaned.
  
"Diolch i Gayna am ei hamser a'i hymrwymiad fel Cadeirydd dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, diolch am ei chyngor strategol a'r gwahaniaeth y mae wedi'i wneud i greu lleoedd yng Nghymru.  Wrth i'w thymor ddod i ben, rwy'n annog eraill sy'n poeni am ddylunio'r byd ac sy'n credu y dylai dinasoedd, trefi a phentrefi Cymru fod yn lleoedd gwych i fyw, gweithio a chwarae ynddynt, i ystyried y cyfle hwn i arwain cam nesaf taith Comisiwn Dylunio Cymru fel rhan annatod o fywyd Cymru."

Dywedodd Gayna Jones, Cadeirydd Comisiwn Dylunio Cymru:

"Rydym yn hyderus y gallwn ddod o hyd i bobl broffesiynol dalentog ac ysbrydoledig iawn sy'n frwdfrydig dros yr amgylchedd adeiledig, sydd wedi ymrwymo i greu lleoedd da ac sydd â dealltwriaeth o sut mae dylunio yn cyfrannu at ddatgarboneiddio a pherfformiad amgylcheddol uchel.  

"Mae wedi bod yn fraint cael cadeirio'r Comisiwn dros y saith mlynedd ddiwethaf ac arwain tîm mor dalentog ac amlddisgyblaethol sydd yn hyrwyddo safonau uchel o ddylunio a phensaernïaeth. Rwy'n hyderus y bydd y Cadeirydd a'r Comisiynwyr newydd yn dod â safbwyntiau newydd ac  yn helpu i wneud Cymru'n lle gwell."

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio ac i gyflwyno cais, ewch i penodiadau cyhoeddus. Cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus ar penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill.